{"id":1342,"date":"2023-04-27T23:08:22","date_gmt":"2023-04-27T22:08:22","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=1342"},"modified":"2023-04-28T11:17:50","modified_gmt":"2023-04-28T10:17:50","slug":"plas-yn-rhiw-llanbedrog","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=1342","title":{"rendered":"Plas yn Rhiw -Llanbedrog"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Plas-yn-Rhiw-Llanbedrog-1.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:650px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Plas yn Rhiw - Llanbedrog\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Plas-yn-Rhiw-Llanbedrog-1.pdf\">Map Plas yn Rhiw &#8211; Llanbedrog<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Plas-yn-Rhiw-Llanbedrog-1.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 28.3 km\/17.6 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 6 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">PETHAU I WELD AR Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> Plas yn Rhiw &#8211; Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i\u2019r 17eg ganrif y mae\u2019r adeilad presennol, fe\u2019i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y t\u0177 i lawr trwy\u2019r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae\u2019n debyg mai\u2019r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu\u2019r t\u0177 yn 1820.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegwyd adain y gegin i\u2019r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr yst\u00e2d yn nwylo\u2019r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe\u2019i gadawyd yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy \u00e2\u2019u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu\u2019r ardd, ac ymdrechu\u2019n ddiflino i ddiogelu\u2019r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu\u2019n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf b\u0175er niwclear yn Edern.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cromlech Tan-y-Muriau<\/strong> &#8211; <\/p>\n\n\n\n<p>(SH 238288) \u2013 Cromlech ag iddi gryn arbenigrwydd a chyfeiriad ati yng nghyfrol Frances Lynch \u2018Gwynedd\u2019 (Cadw) Codwyd y gromlech yn y 4edd neu\u2019n gynnar yn y 3edd fileniwm Cyn Crist ac yn enghraifft o ddatblygiad ym mhensaerniaeth cromlechi\u2019r cyfnod yna.. Mae ganddi benllech enfawr yn ei phen gorllewinol a cheir yna mewn gwirionedd ddwy gromlech. Credir y bu yna unwaith dair siambr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i lleoli ar lethrau dwyreiniol&nbsp;Mynydd Rhiw&nbsp;ym Mhen Ll\u0177n, ymgorfforir dwy siambr gladdu yn y beddrod hudol hwn.&nbsp;Credir i\u2019r beddrod gael ei adeiladu\u2019n wreiddiol oddeutu 3500 CC yn steil cromlech borth oedd yn gyffredin i\u2019r ardal ac fe\u2019i orchuddiwyd yn wreiddiol \u00e2 charnedd fawr ryw 35 metr (120 troedfedd) o hyd. Mae\u2019r porth hwn, wedi\u2019i gapio gan slaben enfawr, yn dal i oroesi heddiw. Cafodd y beddrod ei addasu rhywbryd yn oddeutu 3000 CC i ymgorffori siambr gladdu hir yn steil ardal Hafren-Cotswold.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mwyafrif o\u2019r math hwn o henebion i\u2019w canfod yn yr ardal rhwng Rhydychen a Bryste, er bod dosbarthiadau hefyd yn bodoli yn Wiltshire a de Cymru.&nbsp;Y cwestiwn mawr i archaeolegwyr a haneswyr yw p\u2019un a yw hyn yn cynrychioli dylifiad o bobl newydd i\u2019r rhan hon o Wynedd yntau ai dim ond cyflwyniad o ddulliau newydd o adeiladu beddrodau ydyw? Mae\u2019n awgrymu bod rhwydweithiau cyfathrebu eang wedi bodoli rhwng gwahanol gymunedau Prydain Neolithig.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar un adeg, roedd trydydd siambr gladdu yn bodoli ar ran isaf y garnedd, ond nid yw hon yn weladwy erbyn heddiw.&nbsp;Saif y beddrod ar dir t\u0177 Tan y Muriau, ryw 400 metr i\u2019r dwyrain o eglwys Sant Aelrhiw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"577\" height=\"380\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2.jpg\" alt=\"Cromlech Tan y Muriau\" class=\"wp-image-1158\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2.jpg 577w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2-300x198.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2-121x80.jpg 121w\" sizes=\"(max-width: 577px) 100vw, 577px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cromlech Tan y Muriau<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Gwnaeth archaeolegwyr raglen ddyfal o waith yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf gan ganfod hen dai crynion a llawer o \u00f4lbywyd cynnar yma.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark>  <strong>Rhuol\u00a0<\/strong>\u2013 Tro arall y gellir ei wneud yw dilyn y llwybr i\u2019r chwith o ben uchaf y maes parcio hwn. Mae\u2019r ffordd drol yn dirwyn i lawr y llethr at hen bentref morwrol Rhuol . yng nghesail gogledd-orllewinol Porth Neigwl. Tafarn oedd yr adeilad ger y lanfa pan oedd y porthladd bychan ar ei anterth ac mae hanesion am smyglo mawr yn cael eu cysylltu \u00e2\u2019r hafan ddiarffordd hon.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"383\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1344\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/image.png 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/image-300x192.png 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/image-125x80.png 125w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tafarn T\u0177\u2019n Borth Rhuol<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong><mark><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark><\/mark>&nbsp;Llandygwnning<\/strong>&nbsp;\u2013 Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin a Cynwyl (Penrhos) \u00e2 thywysog Celtaidd o\u2019r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei th\u0175r unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i d\u0175r eglwys Botwnnog. Ar ochr y t\u0175r ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn \u2018roedd un Griffith Mathias yn flaenor yng nghapel Rhyd-bach tra ar yr un pryd yn glochydd Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i\u2019r dwyrain o\u2019r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4<\/mark><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color\"> <\/mark> <strong>Llangian<\/strong> &#8211;  <strong>Eglwys Llangian<\/strong> (SH 29555 28950)- Eglwys hynafol a thlws yw Eglwys Llang\u00efan . Mae wedi ei lleoli ar lan afon, ar odre llethrau serth tua\u2019r gogledd a\u2019r dwyrain. Mae\u2019r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o\u2019r 13eg ganrif ond gallai fod yn hyn. Mae rhan helaeth o\u2019r waliau gogleddol a deheuol, yn y pen gorllewinol, \u00e2\u2019u drysau cae\u00ebdig, yn perthyn i\u2019r cyfnod hwn. Mae\u2019n bosibl bod y gwaith maen o arddull gwahanol yn y pen dwyreiniol yn dyddio o\u2019r 15fed ganrif. Mae yno faen coffa o\u2019r 5ed neu\u2019r 6ed ganrif yn y fynwent, a thu mewn i\u2019r eglwys gwelir nifer o feini coffa i filwyr a chlerigwyr teulu uchelwrol Edwards Plas Nanhoron. Cysylltiadau\u2019r eglwys gyda theulu Nanhoron a chofeb arbennig i\u2019r Capt Timothy Edwards a gollodd ei fywyd ar y m\u00f4r yn 1780. Ei weddw, Catherine Edwards yn adbanyddus am iddi roi tir i godi\u2019r Capel Newydd i\u2019r Piwritaniaid cynnar.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"452\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-959\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1-300x226.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1-106x80.jpg 106w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llangian<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd y fynwent wreiddiol bron yn grwn, a\u2019i therfyn yn dilyn y nant ar ei hochr dde-orllewinol. Mae olion y cylch i\u2019w weld o hyd yn y clawdd isel ychydig fetrau i\u2019r dwyrain o\u2019r eglwys.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Maen Coffa <\/strong>(SH 29564 28941) &#8211; Maen coffa o\u2019r 5ed neu\u2019r 6ed ganrif&nbsp;yn y fynwent a\u2019r arysgrif Lladin arno, MELI MEDICI FILI MARTINI IACIT -YMA Y GORWEDD MELITUS Y MEDDYG FAB MARTINUS. Ceir arysgrif Ladin ar y garreg i goff\u00e1u Melus y meddyg, fab Martinus (yma y gorwedd). Mae\u2019r gair Cymraeg cyfoes \u2018meddyg\u2019 yn tarddu o\u2019r gair Lladin \u2018medicus\u2019. Mae ffurf yr arysgrif yn nhraddodiad Cristnogaeth Rufeinig Orllewinol ddiweddar, ond mae dylanwadau eraill i\u2019w gweld hefyd. Mae\u2019r arysgrif yn darllen ar i lawr ar wyneb y garreg, yn hytrach nag ar draws \u2013 dull a fenthycwyd o arysgrifau ogam Iwerddon, ac mae\u2019r dull o fynegi perthynas, Melus fab Martinus, yn nes at y meddylfryd Gorllewinol Prydeinig a Gwyddelig nag at yr enghreifftiau cyfandirol.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"450\" height=\"600\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2.jpg\" alt=\"Maen Melitus\" class=\"wp-image-960\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2.jpg 450w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Maen Melitus<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae rhoi gwybodaeth am swydd ar garreg goffa o\u2019r cyfnod hwn yn anghyffredin iawn. Mae\u2019n rhoi gwybodaeth am drefniant cymdeithasol y cyfnod a hon yw\u2019r unig garreg yn ngwledydd Prydain y gwyddom amdani sy\u2019n cyfeirio at \u2018feddyg\u2019. Mae\u2019r garreg hon ym mynwent Eglwys Llangian ar ochr ddeheuol yr adeilad. Mae\u2019r pentref tlws yma wedi ennill gwobr y pentref taclusaf yng Nghymru fwy nag unwaith yn ystod pum a chwe degau\u2019r ganrif ddwaetha.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ben-Y-Gaer&nbsp;<\/strong>\u2013 Mae llwybr amlwg yn mynd o Bont Newydd, rhwng Llang\u00efan a Llanengan i fyny\u2019r llechwedd i Ben-y-gaer . Hen fryngaer Geltaidd yw hon ac mae\u2019n werth dringo ati er mwyn edmygu\u2019r golygfeydd yn unig. Mae dwy fryngaer o\u2019r Oes Haearn yn edrych dros wastadedd Neigwl o\u2019r tir uwch uwchben troad afon Soch, y naill ger Llangian a\u2019r llall ar esgair 60m uwchlaw\u2019r seilnod ordnans i\u2019r de o Lanengan. Mae\u2019r ardal yng nghyffiniau\u2019r ddwy fryngaer wedi dioddef o ganlyniad i gloddio\u2019r graig gyfagos. Haearn oedd y mwyn ym Mhen y Gaer (Creigir Uchaf) ac ychydig o waith a wnaethpwyd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark>  <strong>Llanengan<\/strong> &#8211; <strong>Eglwys Llanengan\u00a0<\/strong>\u2013 Mae Eglwys Llanengan (SH 295570) yn un o eglwysi harddaf Cymru. Mae carreg goffa ynddi i Einion, brenin Ll\u0177n a nawddsant y plwyf a sylfaenydd yr abaty ar Enlli. Traddodiad fod cysylltiad rhwng y sefydliad mynachaidd canoloesol a\u2019r abaty yn Enlli, h.y. yma oedd y pererinion yn coff\u00e1u Engan (Einion), brenin Ll\u0177n a roddodd Ynys Enlli i Cadfan i sefydlfu encilfa a abaty arni.<\/p>\n\n\n\n<p>Einion brenin Ll\u0177n sefydlodd Eglwys yn Llanengan. Roedd yn fangre bwysig ar Lwybr y Pererinion o\u2019r dwyrain a\u2019r de. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at \u2018Lanekiant\u2019 a s\u00f4n am \u2018Llaneign\u2019 yn 1291 \u2013 Llanengan mae\u2019n debyg. Roedd Einion yn frenin dylanwadol iawn. Canodd Hywel Rheinallt gywydd mawl iddo yn y 15fedG. ac roedd delw wedi\u2019i goreuro ohono\u2019n gwisgo coron yn yr eglwys lle cafodd ei gladdu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r eglwys yn eang a hardd. Rhan gorllewinol y mur gogleddol ydi\u2019r rhan hynaf \u2013 o\u2019r canoloesoedd, a gweddill muriau\u2019r corff a\u2019r ystlys wedi\u2019u codi ar gyfnodau gwahanol yn y 16edG.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adeilad presennol yn dyddio\u2019n ol i\u2019r bymthegfed ganrif ond yr oedd yma eglwys cyn hynny. Dywedir bod clychau\u2019r eglwys hon a\u2019r sgr\u00een dderw Ganol Oesol hynod o hardd wedi dod yno o abaty Enlli pan gafodd hwnnw ei ddifrodi. Buodd pererinion yn mynd yno o ddeutu 1460. Ychwanegwyd at yr Eglwys yn 1520 a Cafodd y t\u0175r castellog ei godi yn 1534<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"450\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan.jpg\" alt=\"Eglwys Llanengan\" class=\"wp-image-957\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llanengan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Cyff Engan&nbsp;<\/strong>\u2013 Yn yr eglwys mae Cyff Engan \u2013 cist o foncyff coeden i dderbyn offrwm gan bererinion a phlwyfolion. Mae tri chlo ar y gist ac allwedd i\u2019r person a\u2019r warden. Yn ymyl y fynwent, yng ngardd Tan y Fynwent mae Ffynnon Engan, ac mae gris o gerrig yn mynd i lawr at y d\u0175r a g\u00e2i ei ddefnyddio i fedyddio. C\u00e2i gwyrthiau eu cyflawni yma a byddent yn gadael offrwm yng Nghyff Engan.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynnon Engan&nbsp;<\/strong>(SH 29312707)&nbsp;<strong>\u2013<\/strong>&nbsp;Mae ffynnon sanctaidd o\u2019r enw Ffynnon Engan wedi ei lleoli 100m i\u2019r gogledd-orllewin o\u2019r eglwys, yng ngardd Tan y Fynwent. O bosibl yn ffynnon ag iddi rinweddau iachau yn y Canol Oesoedd. Mae pentref Llanengan wedi ei leoli 2km i\u2019r De Ddwyrain o Abersoch.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"513\" height=\"302\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1039\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan.jpg 513w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan-300x177.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan-136x80.jpg 136w\" sizes=\"(max-width: 513px) 100vw, 513px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ffynnon Engan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ar Fynydd Cilan mae carreg ar ei gwastad \u00e2 phant ynddi \u2013 Maen March Engan. Dyma \u00f4l \u00f4 carn march y brenin Engan. C\u00e2i\u2019r d\u0175r o\u2019r carn (pant) ei ddefnyddio i wella afiechydon. Mae Ogo\u2019 Engan yn yr ardal ac enwau megis Cae Engan, T\u0177 Engan yn Ll\u0177n ac ardal Brynengan yn Eifionydd sy\u2019n codi\u2019r cwestiwn oes cysylltiad rhyngddynt \u00e2 brenin dylanwadol Ll\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Simnai Llanengan&nbsp;<\/strong>(SH 29486 26731)\u2013 Mae\u2019r llwybr yn mynd heibio hen simnai gwaith mwyn ar gyrion y pentref \u2013 Simnai Llanengan . Tynfa wynt i waith plwm Tanrallt oedd hon ers talwm. Yr oedd gweithfeydd plwm plwyf Llanengan yn bwysig o gyfnodau cynnar. Roedd rhywfaint o gloddio i chwilio am fwynau o amgylch Pen y Dinas yn y 1830au ond ni fu llawer o gynnydd yno.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod rhan olaf y ganrif ail-agorodd gweithfeydd plwm Penrhyn Du ym Marchros a sefydlwyd gweithfeydd newydd; rhai\u2019n fawr a rhai\u2019n fach iawn. Agorwyd gwaith Port Nigel (Porth Neigwl) yn Llanengan, ar y bryn lle safai\u2019r hen gaer o\u2019r Oes Haearn, yn Castell. Mae adfeilion rhai o adeiladau\u2019r gweithfeydd plwm i\u2019w gweld o hyd yn Nhan yr Allt. Adeiladwyd pwerdy a gosodwyd simnai uchel a thrawiadol ar ben y bryn ac i lawr i ganol y bryn. Mae\u2019r simnai, a adnewyddwyd yn y 1990au, yn dirnod lleol. Cr\u00ebwyd llawer iawn o swyddi, a buont yn dal i gael eu gweithio hyd ddiwedd y Cl9. Ym mhlwyfi Llanengan a Llangian, yng nghanol y 19eg ganrif, dim ond tri unigolyn oedd yn gweithio fel mwyngloddwyr plwm. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 208 o weithwyr plwm ym mhlwyf Llanengan a 31 o fwyngloddwyr plwm yn Llangian.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewnfudodd nifer o Gernywiaid i\u2019r gweithfeydd a hynny wedi gadael dylanwad ar rai cyfenwau dieithr yn yr ardal. Daeth gwragedd a phlant gyda\u2019u gwyr. Roedd yn anorfod y byddai angen gwasanaethau newydd a thai newydd. Adeiladwyd rhesi o fythynnod gweithwyr. Yn Bay View Terrace, ar ochr ogleddol afon Soch, roedd naw o\u2019r deg ty\u2019n cael eu dal gan fwyngloddwyr. O\u2019r holl deuluoedd mwyngloddio a oedd yn byw yn Bay View Terrace, dim ond un mwyngloddiwr oedd wedi cael ei eni\u2019n lleol. Roedd y gweddill yn dod o Gernyw, Dinas Mawddwy, Minera, Dolgellau a Swydd Amwythig.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Neigwl \/<\/strong> <strong>Porth Neigwl <\/strong>\u2013 Rhannwyd Ll\u0177n yn dri chwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i\u2019r gogledd, yn ymestyn o\u2019r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o\u2019r hen gaer arfordirol \u2013 Dinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan \u2018roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna \u2018roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o\u2019r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd \u00e2 Nigel de Lohareyn, cyfaill i\u2019r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i\u2019w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi iddi statws bwrdeistref.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg\" alt=\"Porth Neigwl\" class=\"wp-image-1374\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-768x511.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-120x80.jpg 120w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Neigwl<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Porth Neigwl&nbsp;<\/strong>\u2013 Mae prif geryntoedd cefnfor Iwerydd yn taro traeth Porth Neigwl , sy\u2019n wynebu\u2019r de-orllewin. Aeth llawer o longau i drafferthion mewn stormydd wrth geisio lloches yma ond yna\u2019n cael eu cloi rhwng dau bentir a\u2019u hangorion yn methu eu dal yn y bae tywodlyd. Caent eu hyrddio o flaen y gwynt nes eu bod yn deilchion ar y traeth. Mae\u2019r un tonnau mawr yn rhoi pleser yma heddiw, ond maent hefyd yn gyfrifol am erydu\u2019r twynni tywod bob gaeaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Canfuwyd hen gafn bragu 3,500 o flynyddoedd oed yn allt y m\u00f4r ger ffermdy Nant yn<br>2009 (gweler canolfan ymwelwyr Cwrw Ll\u0177n;&nbsp;<a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=74\">Cylchdaith Nefyn<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Cilan<\/strong> &#8211; <strong>Mynydd Cilan\u00a0<\/strong>\u2013 Yng nghornel dde-ddwyreiniol Porth Neigwl, cwyd yr allt at Fynydd Cilan . Hen dir comin yw hwnnw, sy\u2019n cynnig tro crwn i\u2019w gerdded uwch clogwyni\u2019r m\u00f4r. Yn nechrau\u2019r 19eg ganrif, caewyd rhan helaeth o Drwyn Cilan drwy ddeddf seneddol. Gellir adnabod yr amgaeadau seneddol a\u2019r hen dir comin o hyd drwy\u2019r caeau mawr a\u2019r terfynau unionlin. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cromlech Trwyn Llech y Ddol <\/strong>(SH 30023 23534)- dystiolaeth weladwy o gymunedau dynol, fodd bynnag, yw dwy feddrod siambr o\u2019r cyfnod Neolithig, tua 3000-4000 CC, yn Nhrwyn Llech y Dd\u00f4l a safle un arall yn Cim, Penrhyn Du. Mae yna hefyd olion Castell Einion, ffynnon Cilan a hen dai unnos y tir comin yn ychwanegu at ap\u00eal yr ardal.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"447\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol.jpg\" alt=\"Cromlech Trwyn Llech y Dd\u00f4l\" class=\"wp-image-984\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol-300x224.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cromlech Trwyn Llech y Dd\u00f4l<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Porth Ceiriad<\/strong> &#8211; Gaer Pared Mawr (SH 30361 24683)-<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed aligncenter is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Porth Ceiriad\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/CC7o8BA7ZX0?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Ceiriad 360\u00b0<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark><strong> Ynysoedd sant Tudwal <\/strong>&#8211; Mae dwy ynys \u2013 Ynysoedd Tudwal \u2013 i\u2019w gweld yn glir ar y daith. Sant yn oes yr Eglwys Geltaidd oedd Tudwal, ac roedd ganddo ei gell ar yr ynysoedd. Mae goleudy ar yr ynys fwyaf orllewinol ac mae llwybrau Ynysoedd Tudwal yn angorfa ddiogel i longau ar dywydd stormus. Mae rhai olion sefydliadau mynachaidd wedi ei cofrestru a chafwyd rhai darnau o lestri Rhufeinig mewn cloddiad ddechrau&#8217;r ganrif ddiwethaf.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"397\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudwals.jpg\" alt=\"Ynysoedd Tudwal\" class=\"wp-image-1057\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudwals.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudwals-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudwals-121x80.jpg 121w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ynysoedd Tudwal<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"369\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abersoch1.jpg\" alt=\"Cychod Hwylio Abersoch\" class=\"wp-image-1380\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abersoch1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abersoch1-300x185.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abersoch1-130x80.jpg 130w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cychod Hwylio Abersoch<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Penrhyn Ddu<\/strong> &#8211; <\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 10 <\/mark> <strong>Abersoch<\/strong> &#8211; Mae\u2019r afon Soch yn tarddu ar lethrau Mynydd Cefnamwlch ac yn llifo trwy<br>Sarn Mellteyrn, Botwnnog ac ymlaen trwy Forfa Neigwl ac i\u2019w haber yn Abersoch. Dywedire yr arferai unwaith lifo i\u2019r m\u00f4r yn Mhorth Neigwl. Credir fod ei henw, fel amryw o fannau yn Ll\u0177n yn Wyddelig, y dair \u2018socc\u2019 am \u2018hwch. Sylwer fod amryw o enwau afonydd yn dwyn enwau anifeiliaid sy\u2019n tyrchu. Gw\u00eal \u2018Dictionary of the Place-names of Wales\u2019 Owen a Morgan.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Abersoch, pentref glan m\u00f4r, saith milltir o Bwllheli, wedi datblygu yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Arbennig o boblogaidd yn ystod misoedd yr haf ac o ganlyniad yn ddrud o ran gwerth eiddo, lletyau, gwestai cyfleusterau ayb. Dewis o westai moethus, meysydd carafanau a gwersylla, siopau syrfio arbenigol a holl anghenion cychod a phlesera m\u00f4r. Datblygiad masnachol ac uchel-ael arbennig yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. Yn un o Seisnigrwydd cyfoethog Eingl-Americanaidd yn ystod y tymor gwyliau ac enghraifft o&#8217; r trawsnewid all ddigwydd pan fo&#8217;r diwydiant twristiaeth yn llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pentref Abersoch ar lan m\u00f4r Ceredigion ar yr A499, a&#8217;r traethau -Porth Fawr, Porth Bach, Porth Caeriad yn draethau tywod diogel yn wynebu&#8217;r de. Mae aber yr Afon Soch yn harbwr naturiol gyda digon o ddwr i nofio cychod hwylio bychan ar ben llanw a digon o safleoedd diogel ar gyfer cychod mwy yng ngheg y bae.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pen Bennar yn torri rhwng ceg yr afon a&#8217;r harbwr a&#8217;r traeth yn y Borth Fawr, tua milltir o hyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Am y pentref ei hun, mae&#8217;r gymdeithas Gymreig gysefin yn adfywio yn ystod y gaeaf a nifer o weithgareddau diwylliannol &#8211; cyngherddau, ddramau, darlithoedd WEA ayb. yn cael eu cynnal.Bu&#8217;r Neuadd yn bwysig yn hanes datblygiad diwylliannol y pentref. Cyflwynwyd y Neuadd i&#8217;r pentref yn nechrau&#8217;r ganrif ddiwethaf trwy garedigrwydd Syr William a&#8217;r Fonesig Winterbottom er cof am eu mab Harold. Fe&#8217;i gweinyddir gan bwyllgor lleol gwirfoddol a chyfleusterau chwaraeon dan do -biliards, badminton, tennis bwrdd ayb ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Oedd yr Ysgol Gynradd mewn adeilad coed yn nesaf i&#8217;r Neuadd, ond wedi ei chau gan Gyngor Gwynedd yn 2022. Ysgol Sarn Bach ar y ffordd i Fwlchtocyn a Chilan, tua 3km o&#8217;r pentref yw&#8217;r ysgol gynradd o hyd &#8211; prawf arall mai diweddar yw&#8217;r twf a&#8217;r datblygiad yn Abersoch.<\/p>\n\n\n\n<p>Pentref Llanengan a&#8217;r eglwys hynafol yw hen ganolfan y plwyf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Castellmarch<\/strong> &#8211;  Mae\u2019r t\u0177 presennol yn dyddio\u2019n \u00f4l i 1629 pan gafodd ei adeiladu ar gyfer Syr William Jones, Prif Ustus Mainc y Brenin yn Iwerddon ac AS Sir Gaernarfon, tua diwedd ei oes. Roedd y safle, fodd bynnag, yn un hynafol ac fe&#8217;i crybwyllir yn chwedlau Trystan ac Esyllt o&#8217;r Mabinogi. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/llangian\/?page_id=94\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Castellmarch-300x220-1.jpg\" alt=\"Castellmarch\" class=\"wp-image-1399\" width=\"540\" height=\"396\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Castellmarch-300x220-1.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Castellmarch-300x220-1-109x80.jpg 109w\" sizes=\"(max-width: 540px) 100vw, 540px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Castellmarch MWY&#8230;<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Yn ystod y Rhyfel Cartrefol roedd ei fab Griffith Jones yn cefnogi ochr y Senedd ac roedd Castellmarch yn fan bregethu gynnar i&#8217;r Piwritaniaid. Ym mis Mawrth 1649 herwgipiwyd Griffith Jones gan breifatwyr y Brenhinwyr a oedd yn gweithredu o Wexford, Iwerddon, a&#8217;i ddal fel gwystl am fywyd prif frenhinwr Sir Gaernarfon, y Cyrnol Syr John Owen, Clenennau. Ar ddiwedd y rhyfel newidiodd ochr ac arweiniodd helfa wrach yn erbyn ei gyn-gynghreirwyr seneddol. <a href=\"https:\/\/bywgraffiadur.cymru\/article\/c3-JONE-WIL-1566\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Hanes <\/a><a href=\"http:\/\/JONES, Syr, WILLIAM (1566-1640), barnwr\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">JONES, Syr, WILLIAM (1566-1640), barnwr<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Chwedl y Brenin March<\/strong> &#8211; Ni wyddai unrhyw un am glustiau march y Brenin, heblaw am ei eilliwr, ac roedd hwnnw wedi tynnu llw i beidio \u00e2 dweud wrth unrhyw un! Ar \u00f4l peth amser, roedd y gyfrinach yn pwyso ar yr eilliwr, ac mi aeth i sibrwd ei gyfrinach i&#8217;r tir llaith ger afon. Fe dyfodd cyrs (reeds) yn y man hwnnw, ac ymhen amser daeth pibyddion y Brenin Maelgwn Gwynedd heibio ar eu ffordd i gastell y Brenin March.<\/p>\n\n\n\n<p>Torrodd un o&#8217;r pibwyr gorsen i wneud p\u00eeb newydd Wrth chwarae&#8217;r noson honno yng nghlyw y Brenin March, y cyfan a glywid oedd &#8216;mae clustiau march gan farch y meirchion&#8217;. A dyna ddatgeli cyfrinach y Brenin i bawb! Felly byddwch yn ofalus beth ry&#8217; chi&#8217;n sibrwd i&#8217;r ddaear!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Clustiau March - Al Lewis Band (geiriau \/ lyrics)\" width=\"1200\" height=\"900\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/o8tuABZuvmo?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p> <mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\">11 <\/mark> <strong>Mynytho<\/strong> &#8211; <\/p>\n\n\n\n<p><strong>L<\/strong>leolir Mynytho tua 3km ir gorllewin o Lanbedrog ar hyd y B4413. Mae yna un o neuaddau Coffa mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Cafodd ei hanfarwoli gan y\u00a0gofeb\u00a0ar un o&#8217;r muriau;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>Adeiladwyd gan dlodi,-nid cerrig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>Ond cariad yw&#8217;r meini;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>Cydernes yw&#8217;r coed arni,<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>Cyd-ddyheu a&#8217;i cododd hi.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote\">\n<blockquote class=\"wp-block-quote\">\n<blockquote class=\"wp-block-quote\">\n<blockquote class=\"wp-block-quote\">\n<p class=\"has-text-align-right\">R.WilliamsParry.<\/p>\n<\/blockquote>\n<\/blockquote>\n<\/blockquote>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p> <mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\">12 <\/mark> <strong>Llanbedrog<\/strong> &#8211; Llanbedrog yw un o ganolfannau pwysicaf Ll\u0177n, y wlad baradwysaidd honno y tu draw i fynyddoedd Eryri. Mae&#8217;n enwog am ei thraeth cysgodol yng nghesail y pentir uchel creigiog \u00e2&#8217;i wisg o rug a phinwydd ar ei ymyl.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chael ei gydnabod yn un o draethau mwyaf cysgodol gogledd Cymru, mae&#8217;n ddigon posibl fod y ffordd tuag ato wedi ei ddarllunio&#8217;n amlach nag unrhyw fan arall yn Ll\u0177n oherwydd ei harddwch neilltuol. Prynwyd y traeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2000.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y traeth yn denu ymwelwyr yn eu miloedd bob blwyddyn, ond mae gan y plwyf ei hun lawer o gyfleusterau eraill i&#8217;w cynnig hefyd. Ymhlith y rhain y mae pysgota ar y m\u00f4r ac ar yr afon, hwylio a merlota. Fe geir digonedd o ddewis i&#8217;r rhai hynny sy&#8217;n mwynhau cerdded, ond nid oes dwywaith mae&#8217;r olygfa fwyaf trawiadol yw honno a geir o ben Mynydd Tir y Cwmwd gerllaw&#8217;r pentref.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir un o&#8217;r golygfeydd gorau o Fae Ceredigion o Tremfan Hall a fu unwaith yn gartref i John Gwenogfryn Evans, yr ysgolhaig enwog.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid s\u00f4n hefyd am hinsawdd yr ardal. Mae penrhyn Ll\u0177n yn debyg i ynys, a&#8217;r m\u00f4r yn golchi ei lannau ar dair ochr, ac mae hefyd ar ymyl llif cynnes y Gwlff. Mae lleoliad cysgodol Llanbedrog yn rhoi iddi&#8217;r gorau o ddau fyd. Mae cefn gwlad Ll\u0177n yn ardal sy&#8217;n llawn hanes a chysylltiadau \u00e2 hen chwedlau, a&#8217;r Gymraeg yma&#8217;n brif iaith. Mae i Ll\u0177n ei chymeriad arbennig ei hun a phrin y ceir unman yn ynysoedd Prydain \u00e2 golygfeydd mor brydferth.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"355\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llanbedrog.jpg\" alt=\"Llanbedrog\" class=\"wp-image-1387\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llanbedrog.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llanbedrog-300x178.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llanbedrog-135x80.jpg 135w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Llanbedrog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Eglwys St. Pedrog Llanbedrog<\/strong> (SH29562895) &#8211; Byddai\u2019r pererinion ar eu taith o\u2019r dwyrain a\u2019r de i Ynys Enlli yn siwr o alw yn yr eglwys i weld Picell Pedrog cyn mynd ymlaen i gyfeiriad Llanengan. Ar eu ffordd byddai modd ymweld \u00e2 Ffynnon Bedrog neu Ffynnon Fyw ym Mynytho. Dwy eglwys sefydlodd Pedrog yng Nghymru, un yn Llanbedrog a\u2019r llall yn St Petrox, de Penfro. Un o\u2019r creiriau arferai fod yn yr eglwys oedd ei waywffon. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at \u2018Lanredauc\u2019.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"806\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanbedrog3.jpg\" alt=\"Eglwys St Pedrog Llanbedrog\" class=\"wp-image-1027\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanbedrog3.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanbedrog3-223x300.jpg 223w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanbedrog3-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys St Pedrog Llanbedrog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae corff yr eglwys wedi\u2019i chodi yn y 13yddG. a\u2019r gangell yn dyddio o\u2019r 16edG. \u2013 yr un cyfnod \u00e2\u2019r sgrin sy\u2019n eu gwahanu. Cafodd hon ei chuddio ar y traeth yn ystod y Rhyfel Cartref pan ddefnyddiai Sieffre Parry a\u2019i filwyr yr eglwys fel stabl i geffylau\u2019r Seneddwyr. Mae darnau gwydr o\u2019r ffenestri gafodd eu torri bryd hynny wedi eu casglu i ailgreu ffenestr liwgar yng ngorllewin yr eglwys.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1827 cafodd yr adeilad ei atgyweirio drwy ailgodi\u2019r waliau, bu atgyweirio helaeth yn 1865 ac adeiladwyd y t\u0175r a\u2019i ail-doi yn 1895. Mae\u2019r dyddiadau hyn ar y talcen yn y t\u0175r. Bu cysylltiad clos rhwng Teulu Jones Parry, Madrun, (Glyn y Weddw\u2019n ddiweddarach) \u00e2\u2019r eglwys. Cyflwynon nhw roddion i\u2019r eglwys a chaiff y cwpan cymun ei ddefnyddio heddiw. Mae cerrig beddau aelodau\u2019r teulu yn y fynwent.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynnon Pedrog<\/strong> &#8211;  Roedd Ffynnon Bedrog (SH 3250032190) bellter o eglwys y plwyf. Gan fod yr ardal wedi gordyfu ac yn wlyb nid yw ei hunion leoliad yn hysbys. Roedd yn ffynnon feddyginiaethol bwysig wedi\u2019i hadeiladu \u00e2 cherrig ac yng nghanol y 19yddG. byddai\u2019n denu cleifion yn dioddef o bob math o anhwylderau. Wrth ei chlirio cawsant lestr yn llawn o binnau \u2013 tystiolaeth y c\u00e2i pinnau eu hoffrymu wrth gesio ennill gwellhad. Gallai\u2019r ffynnon ddatrys lladrad. Rhaid fyddai tystio ffydd ynddi, penlinio, rhoi bara brown yn y d\u0175r a sibrwd enwau\u2019r lladron. Pan g\u00e2i ei enwi byddai\u2019r bara\u2019n suddo.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mynydd Tir-y-cwmwd <\/strong>&#8211; Rhostir arfordirol gyda&#8217;i lwyni eithin, grug a llus yw Mynydd Tir-y-cwmwd Mae wedi&#8217;i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae\u2019n ymestyn allan i\u2019r m\u00f4r fel pentir crwn, moel, trawiadol ac yn codi i 132m uwchlaw\u2019r Seilnod Ordnans ger y glannau. Ym 1808 pasiwyd Deddf Amgaead ar gyfer Tir Comin Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd. Caewyd 122 hectar o Fynydd Tir-y-cwmwd (302 acer). Mae olion hen gromlech yma a hefyd gweddillion tri gwaith ithfaen i lawr ar lan y m\u00f4r. Bu&#8217;r rhain yn gweithio rhwng 1850-1949 yn cynhyrchu cerrig palmantu (sets) a cherrig m\u00e2n (metlin), gan allforio ar lanfeydd pwrpasol. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"344\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwmwd.jpg\" alt=\"'Silos chippings' Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog\" class=\"wp-image-1056\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwmwd.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwmwd-300x172.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwmwd-140x80.jpg 140w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">&#8216;Silos metlin&#8217; Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd ar Fynydd Tir-y-cwmwd ers i\u2019r chwareli gau ym 1949, ar wah\u00e2n i ddatblygiad anorfod maes carafanau a chabanau gwyliau ar ochr ddeheuol gwddf y pentir, a mwy o garafanau tua\u2019r gogledd. Mae&#8217;n ithfaen felynach na gweddill chwareli&#8217;r ardal ac mae enghreifftiau ohoni i&#8217;w gweld ar rai o strydoedd hynaf Pwllheli (Stryd Penlan).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Plas Glyn y Weddw<\/strong> &#8211; Plasty hardd, gothig a gosgeiddig yw Plas Glyn y Weddw a dyma&#8217;r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu yn 1857 i gartrefu casgliad celf gweddw stad Madryn. Mae bellach yn adeilad cadwraeth Gradd II* gyda&#8217;i risiau Iacobeaidd a&#8217;i drawstiau coed a&#8217;i ffenest liw ysblennydd. Fe&#8217;i prynwyd gan y dyn busnes Solomon Andrews yn 1896 a&#8217;i ddatblygu fel oriel gyhoeddus, gan adeiladu tramffordd rhyngddo \u00e2 thref Pwllheli. Mae hen dram wedi&#8217;i adfer i&#8217;w weld yn y gerddi ac mae amffitheatr awyr agored erbyn hyn yng nghysgod y winllan. Ymddiriedolaeth sy&#8217;n rhedeg yr oriel ers 1996.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image size-large is-style-default\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><a href=\"https:\/\/t.co\/JY6k6TNOls\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pgyw.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1006\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cymerwch daith rithwir o&#8217;r Plas<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Y Winllan<\/strong> &#8211; Datblygwyd y goedwig \u2013 a elwir yn &#8216;Winllan&#8217; &#8211; ar lethr cysgodol uwch ben yr Oriel yn nyddiau Solomon Andrews. Aeth yn wyllt yn hanner olaf yr 20fed ganrif, gyda llwyni rhododendron a llawryf yn ymledu a thagu&#8217;r llwybrau. Adferwyd y Winllan yn 2008 ac ailagorwyd Llwybrau Madryn a Solomon drwy&#8217;r coed.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Dyn Haearn <\/strong>&#8211; Mae&#8217;r &#8216;Ddelw&#8217; ar ben llwybr y Winllan a llwybr y traeth ac mae&#8217;n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a phobl leol. Penddelw llong osodwyd yno yn wreiddiol gan deulu Solomon Andrews. Llosgwyd honno gan fandaliaid ac yna comisiynwyd un haearn gan artist lleol yn y 1970au. Pydrodd honno gydag amser a chodwyd y Ddelw bresennol yn 2002.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn fuan wedi mynd trwy bentref bach y Rhiw ewch o amgylch godrau Mynydd Rhiw cyn cyrraedd siambr gladdu o\u2019r Oes Gerrig. O hyn ymlaen rydych mewn gwlad bur wahanol gan fod creigiau\u2019r arfordir yn llawer meddalach yma. O ganlyniad daw traethau eang yr arfor-dir deheuol i\u2019r amlwg lle mae\u2019r m\u00f4r wedi cael rhwydd hynt i naddu\u2019r graig a&#8217;r clai a chreu tywod m\u00e2n. Porth Neigwl yw\u2019r cyntaf a\u2019r mwyaf o\u2019r rhain gyda\u2019r golygfeydd ar ei hyd o\u2019r gorllewin ymysg y rhai mwyaf cofiadwy o\u2019r daith i gyd.<br>Cofiwch aros yn Llangian gan fod un arall o eglwysi hynafol yr ardal yma gyda philer o ithfaen wedi\u2019i hysgythru mewn Lladin fel carreg fedd i feddyg yn y fynwent. Mae\u2019r llwybr wedyn yn ymlwybro trwy Llanengan ac ymlaen at Borth Ceiriad ar benrhyn Mynydd Cilan. Mae\u2019r ardal hon hefyd yn hafan i fywyd gwyllt heddiw gyda gwenyn, sboncyn y gwair, chwilod a phili-palaod amrywiol ymysg y creaduriaid bychain sy\u2019n cartrefu yma ynghyd ag adar y m\u00f4r sy&#8217;n nythu ar y clogwyni.<br>Wrth adael ardal Cilan daw ynysoedd St Tudwal i\u2019r golwg, dyma arwydd eich bod yn agos\u00e1u at fwrlwm pentref Abersoch sydd yn boblogaidd gydag ymwelwyr.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"53\" height=\"52\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/m1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-680\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cylchdeithiau eraill ar y map yma<\/strong>&#8211;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=460\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">A-Rhiw<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=728\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">B- Llandegwning<\/a> , <a href=\"\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=530\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">C-Llanbedrog<\/a> ,  <\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=27\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Llinynnol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 28.3 km\/17.6 milltir.Amcan o\u2019r amser: 6 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283. PETHAU I WELD AR Y DAITH 1 Plas yn Rhiw &#8211; Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":27,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1342"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1342"}],"version-history":[{"count":17,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1342\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1405,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1342\/revisions\/1405"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/27"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1342"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}