{"id":1462,"date":"2023-05-02T14:40:36","date_gmt":"2023-05-02T13:40:36","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=1462"},"modified":"2023-05-16T12:23:31","modified_gmt":"2023-05-16T11:23:31","slug":"cylchdaith-rhoshirwaun","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=1462","title":{"rendered":"Cylchdaith Rhoshirwaun"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith_Rhoshirwaun.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith_Rhoshirwaun\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-0992dd6b-2859-44d4-9d28-5d086f8a44ae\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith_Rhoshirwaun.pdf\">Map Cylchdaith_Rhoshirwaun<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith_Rhoshirwaun.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-0992dd6b-2859-44d4-9d28-5d086f8a44ae\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\">Cylchdaith Rhoshirwaun &#8211; Manylion y daith<\/h2>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-2\">\n<p>Amcan o hyd: 11.5 km\/7.1 milltir.<br>Amcan o&#8217;r amser: 4 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Neuadd y Rhos (SH 19305 29210)<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae holl amrywiaeth Ll\u0177n a&#8217;i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi&#8217;i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol &#8211; gogledd a de &#8211; y penrhyn; dringfa raddol ar hyd llethrau Mynydd Anelog sy&#8217;n cynnig golygfeydd gwych a phanoramig, a dychwelyd drwy gaeau amaethyddol ac ar hyd cwm bychan Afon Daron.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mannau o Ddiddordeb<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Rhoshirwaun <\/strong>(SH 19494 29162) &#8211; Pentref bychan yng\u00a0nghymuned\u00a0Aberdaron,\u00a0Gwynedd,\u00a0Cymru, yw\u00a0Rhoshirwaun. Fe&#8217;i lleolir ym mhen\u00a0Ll\u0177n\u00a0ar ffordd y B4413 tua 3 milltir i&#8217;r gogledd-ddwyrain o\u00a0Aberdaron\u00a0a thua 9 milltir i&#8217;r de-orllewin o\u00a0Nefyn. Mae i&#8217;r enw &#8216;Rhoshirwaen&#8217;  disgrifiad dwbwl. Y mae Rhos a Gwaun yn gyfystyr ac yn paru&#8217;n naturiol a&#8217;i gilydd. Rhoddwyd palis o ansoddair rhwng y ddau enw cyfystyr a&#8217;i wneud yn &#8216;Rhoshirwaun&#8217;. Y mae&#8217;r ansoddair yn briodol iawn gan hired y rhostir hwn. Mae&#8217;r rhos yn ymestyn o Bengopa, ar gwr plwyf Bryncroes i odre&#8217;r Ystum ym mhlwyf Aberdaron, gwell na milltir o hyd. Saif dau fwthyn dan yr unto ar y chwith wedi gadael Pengopa o&#8217;r enw Lonliffig, &#8220;diffyg ffordd&#8221;. Dyna awgryn fod tir comin yn cychwyn yno, gan nad oedd ffordd. Yna ar gwr pentra Rhoshirwaen y mae ffarm o&#8217;r enw Llidiardau a dyna awgrym eto o gaead ar y tir comin o&#8217;r pen arall, yn gadael rhos hir o Lonliffig i Llidiardau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y rhosdir hirgul hwn y codwyd pentra Rhoshirwaun ym Mhenrhyn Ll\u0177n, ar dir comin, neu fel y d&#8217;wedai Tom Nefyn, &#8216;Tir neb&#8217;. Ar wahan i hawl pori ar y tir comin, yr oedd hefyd hen hawl i godi t\u0177 dan amodau arbennig &#8211; &#8216;tai-unos&#8217;, fel y gelwid. Dyma arhosfa olaf y Gots Fawr y Tocia ar ei ffordd o dref Pwllheli i Aberdaron.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwy filltir i&#8217;r dwyrain cyfyd&nbsp;Mynydd Rhiw. Sefydlwyd Capel Saron yn y pentref gan y&nbsp;Methodistiaid Calfinaidd; fe drowyd yn d\u0177 yn 2000.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"421\" height=\"272\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/1.jpg\" alt=\"Rhoshirwaun\" class=\"wp-image-1482\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/1.jpg 421w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/1-300x194.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/1-124x80.jpg 124w\" sizes=\"(max-width: 421px) 100vw, 421px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Pentre Rhoshirwaun<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Eisteddfod y Rhos<\/strong> &#8211; Yr oedd yn yr ardal hon draddodiad hir o eisteddfota ac o farddoni. Sefydlodd gweinidog y Bedyddwyr, un o&#8217;r enw Mr. John, Gymdeithas Lenyddol lwyddiannus yma. Fe haerid fod pawb ar un amser yn medru cynganeddu yn y Rhos. Nid rhyfedd i&#8217;r &#8216;steddfod ddod yn sefydliad o bw\u0177s yn yr ardal hon. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"297\" height=\"472\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/y-rhos-1909.jpg\" alt=\"Eisteddfod y Rhos 1909\" class=\"wp-image-1468\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/y-rhos-1909.jpg 297w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/y-rhos-1909-189x300.jpg 189w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/y-rhos-1909-50x80.jpg 50w\" sizes=\"(max-width: 297px) 100vw, 297px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cadair Eisteddfod y Rhos 1909 Llun: Iestyn Tyne, <a href=\"http:\/\/www.cadeiriau.cymru\/cadeiriau-rhoshirwaun.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Casglu&#8217;r Cadeiriau<\/a><\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Eisteddfod Hyd y Ganwyll <\/strong>&#8211; Cychwynnodd yr Eisteddfod yn Sgubor Tynlon wrth olau cannwyll, a&#8217;r  gannwyll a benderfynai hyd yr eisteddfod. Cryddion a chrefftwyr lleol eraill oedd ei phrif gynheiliaid. Byddai&#8217;r&nbsp;beirdd gwlad&nbsp;hyn yn cwrdd yn sgubor Tynlon gyda&#8217;r nos.&nbsp;Byddai cannwyll yn cael ei goleuo ar ddechrau&#8217;r cwrdd a&#8217;r drefn oedd mai tra parh\u00e2i&#8217;r gannwyll honno i losgi y parh\u00e2i&#8217;r eisteddfod; o ganlyniad byddai&#8217;r cyfarfod yn hwy ar noson dawel nag ar noson wyntog gan fod drafftiau&#8217;r ysgubor yn peri i w\u00ear y gannwyll redeg ac iddi losgi&#8217;n gynt. Dyna eisteddfod enwog &#8216;Hyd y Gannwyll&#8217;. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"509\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd2.jpg\" alt=\"Seromoni goleuo'r gannwyll\" class=\"wp-image-1474\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd2.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd2-300x170.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd2-768x434.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd2-141x80.jpg 141w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Seromoni goleuo&#8217;r gannwyll ar ddechrau cyfarfod o Glwb Hyd y Ganwyll. Evan Griffith Hughes, Y Fachwen yn goleuo&#8217;r gannwyll; Robert Griffith, Trefgraig Bach a John Evans, Y Bryn.<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Buan iawn yr aeth y Sgubor yn rhy gyfyng a&#8217;r gannwyll yn rhy fyr. Yna symudwyd i Ysgol Llidiardau. Agorwyd yr ysgol yma yn 1880 ac erbyn rwan, mae&#8217;r ysgol wedi cau gan Cyngor sir Gwynedd. Cafodd &#8216;steddfod y Rhos lety yn hon. Hawliodd y &#8216;steddfod ddiwrnod-iddi ei hun &#8211; &#8216;Yr Ynyd&#8217; &#8211; a dyna fu ei henw wedyn. Cofnodwyd y cerddi buddugol &#8211; yn&nbsp;englynion, penillion a rhigymau &#8211; mewn llyfrau a gedwid yn Nh\u0177&#8217;n y Pwll, Rhoshirwaun, gyda chroeso i bawb a&#8217;i fynno eu darllen. Ar ddiwedd y 1950au roedd y llyfrau hynny ar gael o hyd yn \u00f4l Gruffudd Parry,&nbsp;<em>Crwydro Ll\u0177n ac Eifionydd<\/em>&nbsp;(1960).<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"477\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd1.jpg\" alt=\"Clwb Hyd y Ganwyll\" class=\"wp-image-1473\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd1.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd1-300x159.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd1-768x407.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/hyd1-151x80.jpg 151w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyfarfod o Glwb Hyd y Ganwyll &#8211; Llewelyn Jones, Efail Bach yn darlithio. John Morris, Prifathro ysgol Deunant; Harri Jones, Cae Rh\u00f4s: William Jones, Gladstone; John Parry Hughes, Fferm Pencaerau; Wil Williams, Brynchwiliog; Tom Gladstone, Ifan Pritchard, Gilfach; Gwilym Hughes, Prifathro Ysgol Bryncroes; a Gruffydd Parry, Pencraig Fawr, Sarn.<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark><strong> Neuadd y Rhos <\/strong>(SH 19305 29210) &#8211; Dros y blynyddoedd, bu&#8217;r syniad am Neuadd Bentref yn cnoi mewn sawl Pwyllgor &#8216;Steddfod yn y Rhos. Rhaid cofio mai&#8217;r Eisteddfod ydi mam y neuadd yma. Yr oedd yma hen bwyllgor Eisteddfod yn mynd yn ol i 1883. &#8216;Doedd dim byd o bwys yn digwydd yn Rhoshirwaun heb i bwyllgor y &#8216;Steddfod gytuno a hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gair &#8216;sefydlog&#8217; yn air pwysig yn Rhoshirwaun. Pasiwyd mewn pwyllgor ar 10 Ionawr, 1920, i roi cyfran o elw&#8217;r eisteddfod y flwyddyn honno i ffurfio cronfa i gael pabell sefydlog. Dyna&#8217;r awgrym a&#8217;r cam cyntaf at Neuadd y Rhos. Ar 21 Chwefror, 1920, agorwyd &#8216;Cyfrif y Babell&#8217; gyda \u00a335.0.0. Erbyn Ebrill y flwyddyn honno, yr oedd holl aelodau&#8217;r eisteddfod yn aelodau o bwyllgor y Babell. Mae&#8217;r pymtheg punt ar ugain yn brawf o lwyddiant eithriadol yr eisteddfod.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/3.jpg\" alt=\"Neuadd Rhoshirwaun\" class=\"wp-image-1481\" width=\"578\" height=\"401\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/3.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/3-300x208.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/3-115x80.jpg 115w\" sizes=\"(max-width: 578px) 100vw, 578px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Neuadd Rhoshirwaun<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Llwyddiant a&#8217;i gyrrodd yn gynnar yn 1921 i chwilio am lecyn addas i godi&#8217;r babell. Chwarter erw o Ros y Fachwen fu&#8217;r cynig cyntaf, ond ni lwyddwyd . Yr un fu&#8217;r hanes yn yr Hendra hefyd. Yr oedd Griffiths y Gilfach yn gofyn \u00a3 15 am glwt o dir yno, neu ddarn o Ros Tyddyn Bychan. Yr oedd gwr Penybryn yn gofyn \u00a320 am le ym Mharc y Brenin. Daeth cynnig arall gan yr Ysgrifennydd, John Hughes, Fron Olau &#8211; chwarter erw am saith  a chweugain, neu swllt y flwyddyn, nes y deuai pethau&#8217;n well ar y pwyllgor. Ar 30 Ebrill, 1921, derbyniwyd cynnig John Hughes i godi&#8217;r babell ar gwr gwinllan Fron Olau. &#8216;Does dim cofnod o dalu&#8217;r \u00a37. 10 . 0, na&#8217;r swllt y flwyddyn. Yn \u00f4l ei ferch, M.J. Roberts, y peth pwysicaf gan ei thad oedd nad oedd &#8216;Whist Drive&#8217; i&#8217;w chynnal mewn neuadd ar dir y Fron Olau. Yno yng nghwr y coed y codwyd Neuadd y Rhos. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"456\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/agor-rhos.jpg\" alt=\"Diwrnod agor Neuadd Rhoshirwaun 28-2-1922\" class=\"wp-image-1478\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/agor-rhos.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/agor-rhos-300x152.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/agor-rhos-768x389.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/agor-rhos-158x80.jpg 158w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Diwrnod agor Neuadd Rhoshirwaun 28-2-1922<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Ysgol Llidiardau<\/strong> (SH 19100 29231) &#8211; Agorwyd yr ysgol yma yn 1880 ac erbyn rwan, mae&#8217;r ysgol wedi cau gan Cyngor sir Gwynedd.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"802\" height=\"549\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Ffred-14-2-08.jpg\" alt=\"Ysgol Llidiardau 14-2-08\" class=\"wp-image-1483\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Ffred-14-2-08.jpg 802w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Ffred-14-2-08-300x205.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Ffred-14-2-08-768x526.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Ffred-14-2-08-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 802px) 100vw, 802px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ysgol Llidiardau 14-2-08 ffred Ffrancis yn cyrraedd ar \u00f4l cerdded o de Cymru<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Mynydd Yr Ystum \/ Castell Odo<\/strong> (SH 18678 28436) &#8211; Bryn bychan a gysylltir ag Odo Gawr lle dywedir iddo gael ei gladdu dan garnedd o gerrig. Mae Castell Odo ar ei gopa lle ceir olion caer o Oes yr Efydd, ar \u00f4l 1800 C.C. Ar ei odre gogleddol mae Ffynnon Odo a cheir Capel Odo yn yr ardal. Ar y copa hefyd mae maen enfawr a elwir yn Garreg Samson. Dywedir i hon gael thaflu yma o Uwchmynydd gan Samson a\u2019r tyllau ynddi yw olion ei fysedd. O dan hon mae cawg o aur. Arddangosir creiriau crochenwaith a gloddiwyd yma yn 1958-9 yn Amgueddfa Bangor. Yn \u00f4l un gred difethwyd y gaer gan y Rhufeiniaid yn 78 O.C.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"376\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1.jpg\" alt=\"Carreg Samson Castell Odo\" class=\"wp-image-1408\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1-300x188.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1-128x80.jpg 128w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Carreg Samson Castell Odo<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Tylwydd Teg Rhoshirwaun<\/strong> &#8211; Cyfeirir uchod at un o hen chwedlau&#8217;r cylch, ac yr oedd straeon tylwyth teg yn perthyn i&#8217;r cylch hwn. Ond un yn unig sydd yn ddilys yn y rhan hon o&#8217;r wlad. Syr John Rhys sydd yn ei chofnodi yn y Cymmrodor. Dywaid ef iddo gael gafael ar yr un stori yn union yn y gongl orllewinol o&#8217;r Iwerddon, ond does dim hunman arall.  Ymddengys mai t\u0177 un drws oedd Deunant ac y byddid yn arfer gwagio&#8217;r bwced i&#8217;r domen yn yr iard o flaen y t\u0177 bob gyda&#8217;r nos. Un noson ymddangosodd dyn bach, a gofyn, &#8221; Beth wyt ti&#8217;n feddwl wyt ti&#8217;n ei wneud?&#8221; &#8220;Gwagio&#8217; &#8216;r bwced fel arfer,&#8221; atebodd y dyn, &#8220;a fy nhome n i ydyw&#8221;. &#8220;nei di sefyll ar fy nhroed i ?&#8221; gofynnai&#8217;r bychan. A chyn gynted ag y gwnaeth fe welodd res o dai yno. &#8220;Wyddwn i ddim amdanynt; nid wyf wedi eu gweld erioed o&#8217;r blaen,&#8221;  meddai &#8216;r dyn. &#8220;Yn y ty yna yr wyf i yn byw, ac yn gorfod glanhau ar dy \u00f4l di bob nos,&#8221; meddai &#8216;r bychan eto, &#8220;Wel, ni wyddwn fy mod yn achosi&#8217;r fath drafferth iti &#8211; wnaiff o ddim digwydd eto,&#8221; oedd yr ateb. &#8220;Na wnaiff, ond i ti gau y drws ffrynt, a thorri drws newydd yn y cefn, ac ni chaiff yr un anifail yma ddolur byr byth eto,&#8221; ebe&#8217;r dyn bach. A seliwyd y fargen!  Roedd Syr John Rhys yn methu deall pam fod y ddwy stori yr un fath, ac mewn dau le cyffelyb yn ymyl y m\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Plas Carmel <\/strong>(SH 16252 28385) &#8211; Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio\u2019r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o\u2019r capel, t\u0177, siop a\u2019r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y \u2018capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Ll\u0177n\u2019 a welodd Cynan.  <a href=\"https:\/\/www.plascarmel.cymru\/\">Plas Carmel<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Siop Plas<\/strong> &#8211;<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel.jpg\" alt=\"Siop Plas Carmel\" class=\"wp-image-1427\" width=\"592\" height=\"393\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-768x510.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 592px) 100vw, 592px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Siop Plas Carmel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Capel Carmel<\/strong> (SH 16252 28385) &#8211; Dywedir bod Capel y Bedyddwyr yn dyddio o c1810 neu 1818 ond heb ei nodi ar Fap Degwm 1844. Eithriadol o fach gyda&#8217;r golau mewnol gwreiddiol. Y mae y Capel a&#8217;r Plas, y t\u0177 capel [q.v.], yn un rhes, a&#8217;r ddwy ran o&#8217;r un maint yn fras, gyda&#8217;r Nenfwd estyllog, c1915.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"598\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Carmel.jpg\" alt=\"Capel Carmel\" class=\"wp-image-1437\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Carmel.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Carmel-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Carmel-768x510.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Carmel-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Capel Carmel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Capel Anelog<\/strong> -SH 1560 2743 &#8211; Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Crybwyllir safle&#8217;r cerrig hyn yn nodiadau llawysgrifen Lewis Morris, hynafiaethydd o&#8217;r 18fed ganrif (BM Add. MSS 14907, ffol. 184) cyhoeddwyd gan Owen (Owen\/1896). Dywed Morris: `Yn adfeilion Capel Angelog, plwyf Aberdaron, yn Lleyn&#8230; Geilw rhai ef yn Gapel-y-Verach neu &#8211; Capel Berach&#8230; <\/p>\n\n\n\n<p>Wedyn, mewn adroddiad 1858 &#8211; Dywed Mr Wynne (Cefn Amwlch) iddynt gael eu dwyn o fferm fechan ar ei stad, o&#8217;r enw Gors, rhwng Cefn Amwlch ac Aberdaron, a&#8217;u bod yn sefyll yn yr hyn a dybir oedd yn fynwent i hen eglwys, ac y mae olion safle yr eglwys dal yno. Tua phymtheg mlynedd yn ol yr oedd y tenant yn myned i ddwyn y fan i amaethu, ac wedi hyny symudwyd y meini, er diogelwch, i&#8217;w gorphwysfa presenol. Y mae Mr. Wynne yn tybio nad yw yr eglwys hon, o bosibl, yn un o gadwyn o adeiladau cyffelyb a godwyd ar hyd yr hen lwybr i Enlli o Fangor, trwy Gaernarfon, Clynnog, Llanaelhaearn, &amp;c. Ymddengys fod sail dda i&#8217;r dybiaeth hon, oblegid gall fod y meini yn benaf wedi eu codi a&#8217;u harysgrifio yno, neu efallai eu bod wedi eu dwyn yno o Enlli ei hun ar ol diddymiad y fynachlog.  Mae&#8217;n debyg bod llinell y ffordd ar gyfer pererinion i Ynys y Seintiau yn mynd trwy Nefyn a Thudweiliog, trwy Langwnnadl a Bodferin i Eglwys Fair, ym mhen draw&#8217;r penrhyn.<\/p>\n\n\n\n<p id=\"tw-target-text\">Dywedodd Cyrnol Wynne Finch (Ebrill 2, 1899), &#8230;`ryw ddeng mlynedd yn \u00f4l fe es i draw (y fferm a elwir yn &#8220;Gors&#8221;) ac edrych yn ofalus am unrhyw gerrig o&#8217;r fath, a holodd y tenant. ond ni wyddai am ddim ac ni welais feini tebyg. Pan ddygwyd y cerrig hyn yma gyntaf, yr wyf yn eu cofio yn dda, a chofiaf hefyd glywed fod meini eraill yn y fan a&#8217;r lle gydag arysgrifau arnynt, ond fod y lleill i gyd naill ai wedi eu torri neu malu gymaint fel mai y ddau hyn oedd yr unig feini o werth. dwyn i ffwrdd.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y cerrig sydd wedi\u2019u treulio gan ddwr gwelir arysgrifiadau, yn Lladin, i goff\u00e1u Senacus, SENACUS\/PBR\/HIC\/IACIT\/CVMMVLTITV\/FRATRVM sy\u2019n nodi bod Senacus, yr offeiriad yn gorwedd yno \u2018gyda llu o frodyr\u2019.(cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. VERACIUS\/PBR\/HIC\/IACIT yn coff\u00e1u offeiriad o\u2019r enw Veracius, ond gall fod yn sant Gwyddelig \u00e2\u2019i enw\u2019n gyfystyr \u00e2\u2019r enw Berach. Mae\u2019r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau\u2019r chweched ganrif OC. Symudwyd y cerrig i Gefnamwlch ger Tudweiliog rywbryd cyn 1859, tua 1844. Yn eglwys Aberdaron bellach y mae cerrig coffa arysgrifedig Senacus a Veracius.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"264\" height=\"304\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/anelog.gif\" alt=\"\" class=\"wp-image-837\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Caiff Senacus yn Gymraeg ei ddehongli fel Hunog ac yn ddiddorol mae fferm o\u2019r enw Bryn Hunog (SH 20103090) yn Rhoshirwaun.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Chwarel Iasbis Carreg<\/strong> (SH 16102905) \u2013 Ym 1901 darganfuwyd gwythiennau o faen iasbis hyd at 37 metr (40 llath) o led ar waelod Mynydd Carreg. Mae maen iasbis hefyd yn dod i\u2019r brig ar y clogwyni m\u00f4r gerllaw. Yn \u00f4l y s\u00f4n yn 1904 y cafodd y chwarel ei hagor. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am y chwarelydda yma ond mae\u2019r olion yn amlwg ar yr arfordir rhwng Porthor (SH16682996) a Phorth Orion (SH15602880). Ar odre Mynydd Carreg (SH 16102905), ger Porthorion bu cryn gloddio yn gynnar 20fedG. Craig fetamorffig yw maen iasbis a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Neoproteros\u00f6ig Cyn-Gambriaidd, rhwng 1,000 miliwn a 541 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"405\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg.jpg\" alt=\"Chwarel Iasbis, Carreg\" class=\"wp-image-1337\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg-300x203.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Chwarel Iasbis, Carreg<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd Iasbis yn fwyn gwerthfawr a\u2019r pryd hynny roedd darn dwy fodfedd giwb ohono\u2019n werth \u00a360. C\u00e2i ei ddefnyddio i ychwanegu at wychder adeiladau dinasoedd mawrion, megis Cadeirlan Westminster a Phalas St James yn Llundain. Cafodd Iasbis ei gloddio ar Fynydd Carreg, ger Porthorion ac yn Llanllawen, Uwchmynydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhyw 1km oddi yno mae Pont Nant y Widdan ac wrth fynd \u00e2 darn anferth o iasbis drosti dymchwelodd y bont. Ai llun o\u2019r llwyth hwnnw gafodd ei dynnu wedi iddo gyrraedd Pwllheli ar wagan yn cael ei thynnu gan dracsion. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1000\" height=\"750\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis.jpg\" alt=\"Iasbis ar y Maes Pwllheli\" class=\"wp-image-1489\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis.jpg 1000w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-768x576.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tracsion gwaith Iasbis Carreg Plas, Aberdaron wedi cyrraedd Y Maes Pwllheli gyda maen iasbis i&#8217;w anfon i ffwrdd a tren. Thomas Jones &#8216;Ship&#8217; Aberdaron oedd y gyrrwr (tad Thomas Glyn).<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark><strong> Dinas Mawr a Dinas Bach<\/strong> &#8211; Mae\u2019r enwau\u2019n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn \u00f4l. Bellach mae\u2019n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu\u2019r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty\u2019n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau\u2019r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"902\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-788\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-200x300.jpg 200w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-53x80.jpg 53w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Porthor<\/strong> &#8211; Traeth braf gyda&#8217;i faes parcio ei hun (SH 167300)(eiddo&#8217;r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yw Porthor. Enwog am ei longddrylliadau a&#8217;i draddodiad smyglo! <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"324\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-860\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-300x162.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-148x80.jpg 148w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Efallai mai&#8217;r mwyaf anghyffredin o&#8217;r holl draethau hyfryd o amgylch yr ardal yw&nbsp;Porthor, sydd ychydig i&#8217;r gogledd o Aberdaron. Mae&#8217;r tywod gwyn yn chwibanu pan fydd rhywun yn cerdded arno. Mae cyfyngiadau ar g\u0175n ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Porthor, Ll\u0177n - Whistling Sands, Ll\u0177n, Gwynedd.\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/sW5ccjPD3K0?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 10 <\/mark> <strong>Cau Tiroedd <\/strong>&#8211; Y\u00a0Cau cyntaf yn Sir Gaernarfon dan ddeddf 1802 oedd tir comin eang y goron yn Rhoshirwaun yn cynnwys tua dwy neu dair mil o aceri mewn tri phlwyf yn eithaf gorllewin Ll\u0177n, lle&#8217;r oedd ugeiniau o bysgotwyr yn ystod y blynyddoedd wedi cael eu gadael i sgwatio. Pan basiwyd fod eu daliadau a&#8217;u tai i gael eu gwerthu dros eu pennau, yn enwedig os yr oedd wedi ei sefydlu yn ystod yr ugain mlynedd cynt, yna dangoswyd bwriad i wrthsefyll a defnyddio grym, yn arbennig pan sylwedolwyd eu bod yn mynd i golli&#8217;r mawnogydd oedd yn ffynhonell tanwydd rhad iddynt. Rhoddodd mintai o filwyr yr anfonwyd amdanynt o Loegr derfyn ar eu gwrthwynebiad, ond ni lwyddwyd i roi&#8217;r mesur mewn grym hyd 1814.<\/p>\n\n\n\n<p>Dychrynwyd bonnedd y sir gan y gwrthwynebiad yn Rhoshirwaun ac mewn cyfarfod yng Nghaernarfon yn 1808 pasiwyn i gymryd pob mesur angenrheidiol i orfodi&#8217;r Deddfau Cau Tir, ac i gosbi unrhyw rai a&#8217;u gwrthwynebai. Daeth rhan arall o bedair mil o aceri, yn cynnwys Garn Fadrun a Mynydd Mynytho o dan fygythiad o dan ddeddf 1808, lle, unwaith eto yr oedd y bythynwyr yn colli eu hawliau torri tywyrch yn danwydd. Rhagwelai adroddiadau ar y pryd ddiboblogi eang a chyfeirid yn bendrist at &#8216;y digalondid cyffredinol yn lledu trwy L\u0177n&#8217;. <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/AMAETH.HTML#rhos\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark> <strong>Gweirglodd Gorlan Hen<\/strong> &#8211; Mae digonedd o gaeau yn Ll\u0177n nad ydyn nhw\u2019n cael eu defnyddio ar gyfer amaeth, y gellir eu hadfer fel gweirgloddiau wrth gyflwyno rheolaeth briodol. Enghraifft o hyn yw Gorlan Hen, ger Pengroeslon. Bwthyn 300 oed yw Gorlan Hen ac yn rhan o\u2019r tyddyn mae gweirglodd 5-acer. Cynhaliwyd y weirglodd yma dan reolaeth Alan Hilton o&#8217;r chwechdegau tan eithaf diweddar. Oedd Alan yn gymeriad diddorol, a chafwyd llawer o rywogaethau o&#8217;r weirglodd yma ei nodi ar wefan <a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/bio\/index.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">bioamrywiaeth Ll\u0177n.<\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-5\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow\"><div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/bio\/melyn\/Rhinanthus%20minor.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"375\" height=\"500\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m.jpg\" alt=\"Cribell Melyn\" class=\"wp-image-1695\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m.jpg 375w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 375px) 100vw, 375px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cribell Felen<\/figcaption><\/figure><\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow\"><div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"375\" height=\"500\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-1.jpg\" alt=\"Tregerian Brych\" class=\"wp-image-1696\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-1.jpg 375w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-1-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/m-1-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 375px) 100vw, 375px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tegeirian Brych<\/figcaption><\/figure><\/div><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n debyg mai dyma un o\u2019r ychydig o weirgloddiau hynafol sydd ar \u00f4l yn Ll\u0177n ac mae\u2019n darparu<br>arddangosfa hyfryd o flodau drwy gydol yr haf, yn enwedig y llygad llo mawr, cribell felen,<br>tegeirian brych, y feddyges las, suran y c\u0175n, corfeillionen wen, a\u2019r bengaled. Mae sefyll yng<br>nghanol y weirglodd hon ar ddiwrnod o haf gyda suo\u2019r holl bryfed o\u2019ch cwmpas yn brofiad<br>rhyfeddol!<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 12 <\/mark> <strong>Glampio Coed a Crasu coed<\/strong> &#8211; Dyma leoliad perffaith yng nghanol cefn gwlad am ddihangfa perffaith yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi awydd penwythnos i ffwrdd neu wythnos i ymweld a mannau newydd, mae&#8217;n leoliad yn ddelfrydol i gyplau, ffrindiau neu deulu sydd yn chwilio am amser i ymlacio mewn caban moethus a chlyd. Hefyd, mae <a href=\"https:\/\/cy.glampiocoed.com\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Crasu Coed<\/a> yn gwneud Pitsa ardderchog ar y safle yma.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Cychwyn o faes pacio&#8217;r neuadd (SH 19305 29210), ac wedyn cerdded i&#8217;r gorllewin tuagat ysgol  Llidiardau.<\/li>\n\n\n\n<li>Trowch i&#8217;r chwith a cherdded wrth gadw mynydd Ystum ar y chwith.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhewch ar hyd y lon am tua 2km, ar draws y groesffordd wrth Gyll y Felin.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedyn parhewch am tua 2km arall nes dowch chi at siop yn Blas Carmel.cewch fwyd a phanad yma.<\/li>\n\n\n\n<li>Dros ffordd i&#8217;r siop mae llwybr tua&#8217;r m\u00f4r a llwybr yr arfordir. ewch i&#8217;r de ar hyd llwybr yr arfordir at Borthor.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedyn ewch yn \u00f4l i mewn i&#8217;r tir a throi i&#8217;r chwith at Fethlem.<\/li>\n\n\n\n<li>O Fethlem, ewch trwy Rydlios.<\/li>\n\n\n\n<li>wedyn trowch i&#8217;r de yn y troiad nesaf (Capel Mul), ac yn \u00f4l at ysgol llidiardau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith Rhoshirwaun &#8211; Manylion y daith Amcan o hyd: 11.5 km\/7.1 milltir.Amcan o&#8217;r amser: 4 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Neuadd y Rhos (SH 19305 29210) Disgrifiad Mae holl amrywiaeth Ll\u0177n a&#8217;i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi&#8217;i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1462"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1462"}],"version-history":[{"count":27,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1462\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1713,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/1462\/revisions\/1713"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1462"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}