{"id":240,"date":"2023-04-12T16:36:33","date_gmt":"2023-04-12T15:36:33","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=240"},"modified":"2023-04-13T20:30:58","modified_gmt":"2023-04-13T19:30:58","slug":"taith-mynydd-yr-ystum","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=240","title":{"rendered":"Taith Beic Mynydd Yr Ystum"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Mynydd-Yr-Ystum.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:760px\" aria-label=\"Mewnblaniad Taith Mynydd Yr Ystum\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Mynydd-Yr-Ystum.pdf\">Taith Mynydd Yr Ystum<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Mynydd-Yr-Ystum.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Sant Hywyn mae dwy garreg fedd o&#8217;r G6 ac yn Y Gegin Fawr, sy&#8217;n gaffi poblogaidd, y gorffwysai&#8217;r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt storm us. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Ll\u0177n. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau o Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl &#8211; cyrchfan arall i&#8217;r seintiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar hyd arfordir gogledd Ll\u0177n mae nifer o draethau tywod; Porthor a&#8217;i dywod sy&#8217;n chwibannu, a Thraeth Penllech, yn ogystal a man borthladdoedd creigiog, cysgodol. Ar y gorwel mae Ynys M\u00f4n, ac ar hirnos glir o haf daw Mynyddoedd Wiclo i&#8217;r golwg, ond fod hynny&#8217;n arwydd fod y tywydd ar droi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r daith gyfan yn eithaf gwastad arwahan i&#8217;r ddwy allt o bobtu Aberdaron, ac o Sarn Mellteyrn i lethrau Mynydd y Rhiw. Yno cewch olygfeydd rhyfeddol o Borth Neigwl a phatrwm caeau a ffermydd Ll\u0177n, yr Eifl ac Eryri, a mynyddoedd Meirionnydd dros Fae Ceredigion. Wrth deithio i lawr o Rhiw tuag at Aberdaron ceir golygfeydd yr un mor ysblennydd o Ynysoedd Gwylanod ym Mae Aberdaron, Ynys Enlli a phen draw Ll\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>\u2022 Mae&#8217;r daith yn dechrau ger toiledau cyhoeddus yn Aberdaron. Troi i&#8217;r chwith wrth gyrraedd y ffordd, croesi&#8217;r bont yna troi i&#8217;r chwith ac i fyny&#8217;r allt. Cymeryd y troad cyntaf i&#8217;r dde a theithio yn syth ymlaen ar draws y groesffordd nesa.<br>\u2022 Aros ar y ffordd nes cyrraedd Methlem yna troi i&#8217;r chwith. Ar y pedwerydd troad, troi i&#8217;r dde a throi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Llangwnnadl. Troi i&#8217;r chwith ar y gyffordd cyn cyrraedd Llangwnnadl, teithio&#8217;n syth ymlaen ar draws y gyffordd nesa a pharhau ar y ffordd nes cyrraedd ffordd B4417.<br>\u2022 Troi i&#8217;r dde, a throi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Sarn Mellteyrn, i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa ac i lawr yr allt yn ofalus. Pan fydd y ffordd yn gwyro i&#8217;r chwith mae angen troi i&#8217;r dde gyda gofal arbennig. Dilyn y ffordd i fyny allt serth ar draws un groesffordd a throi i&#8217;r dde ar y gyffordd nesa.<br>\u2022 Ymlaen ar hyd Mynydd Rhiw gan gymeryd gofal arbennig wrth fynd lawr yr allt. Troi i&#8217;r dde ac yna troi i&#8217;r chwith a dilyn y ffordd nes cyrraedd Blawdty. Troi i&#8217;r dde a dilyn y ffordd yn 61 i Aberdaron gan droi i&#8217;r chwith i&#8217;r man cychwyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=2\">Yn \u00f4l i dudalen Beicio<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Disgrifiad Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Sant Hywyn mae dwy garreg fedd o&#8217;r G6 ac yn Y Gegin Fawr, sy&#8217;n gaffi poblogaidd, y gorffwysai&#8217;r pererinion cyn mentro [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":2,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/240"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=240"}],"version-history":[{"count":8,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/240\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":342,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/240\/revisions\/342"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/2"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=240"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}