{"id":272,"date":"2023-04-13T00:01:59","date_gmt":"2023-04-12T23:01:59","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=272"},"modified":"2023-04-13T20:31:16","modified_gmt":"2023-04-13T19:31:16","slug":"taith-garn-fadryn","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=272","title":{"rendered":"Taith Beic Garn Fadryn"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Garn-Fadryn.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:650px\" aria-label=\"Mewnblaniad Taith Garn Fadryn\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Garn-Fadryn.pdf\">Taith Garn Fadryn<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Taith-Garn-Fadryn.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o&#8217;ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho cewch  fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae&#8217;r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.<\/p>\n\n\n\n<p>0 Fynytho mae&#8217;r ffordd yn gymharol wastad a chewch gyfle i fwynhau golygfeydd rhyfeddol o&#8217;r ffordd sy&#8217;n arwain trwy Lanfihangel Bachellaeth &#8211; &#8220;y lle tawela&#8217; &#8216;ngwlad Ll\u0177n&#8221;. O&#8217;r chwith i&#8217;r dde mae Garn Boduan, Yr Eifl, Eryri gyda&#8217;r Wyddfa a&#8217;i dau gopa, Bae Pwllheli ac ymlaen at Borthmadog.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r wlad yn fwy coediog wrth odre Garn Fadryn yng nghanol Ll\u0177n ond buan y dowch i olwg y m\u00f4r ar yr arfordir gogleddol gydag Ynys M\u00f4n ar y gorwel. Wedi gadael Tudweiliog cewch gyfle i ymweld a thraeth tywod Porth Tywyn neu borthladd creigiog Porth Ysgaden.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n werth galw i weld Coeten Arthur, y gromlech wrth droed Mynydd Cefnamwlch cyn parhau ar y daith i Sarn Mellteyrn.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth ddilyn yr Afon Soch gwelwch dair o eglwysi hynafol Ll\u0177n, sef Llandygwning a&#8217;i thwr anarferol, Llangian gyda&#8217;i maen hynafol yn y fynwent, a Llanengan a fu&#8217;n gyrchfan pererinion yn y canol oesoedd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r daith yn cychwyn o&#8217;r maes parcio ar y system unffordd yn Abersoch.<\/p>\n\n\n\n<p>Troi i&#8217;r dde wrth adael y maes parcio a throi i&#8217;r dde ar y gyffordd nesa gan gymeryd gofal arbennig o drafnidiaeth yn teithio o&#8217;r chwith.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Troi i&#8217;r chwith tuag at Bwllheli a chymeryd y tro nesa i&#8217;r chwith tuag at Mynytho. Wedi tua 2 filltir, troi i&#8217;r dde gan ddilyn arwydd Mynytho. Cymeryd y tro nesa i&#8217;r chwith ac i fyny&#8217;r allt. Gwyro i&#8217;r dde ar y gyffordd a chroesi&#8217;r B44I3 a chymeryd y tro cyntaf i&#8217;r chwith (safle picnic ar y chwith gyda golygfeydd godidog).<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Teithio&#8217;n syth ymlaen a throi i&#8217;r dde ym mhendraw y ffordd, dilyn y ffordd tuag at Rhydyclafdy gan ofalu arafu&#8217;n raddol ar yr allt serth. Troi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa ac ymlaen i Rhydyclafdy. Wedi cyrraedd y pentref (man addas i orffwyso ar y chwith) troi i&#8217;r chwith ac ymhen tua milltir troi i&#8217;r dde tuag at Dinas.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Wrth gyrraedd Dinas troi i&#8217;r dde ger y capel, teithio ymlaen ac ar draws y groesffordd nesa. Mae dau dro garw ar yr hyd nesa cyn cyrraedd Tudweiliog. Troi i&#8217;r dde ar y gyffordd yng nghanol y pentref a throi i&#8217;r chwith tuag at Ian y m\u00f4r wrth adael y pentref. Teithio ar hyd ffordd glan y m\u00f4r a gwyro i&#8217;r chwith wedi cyrraedd Porth Ysgaden.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Troi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa yna troi i&#8217;r dde ar y B4417. Troi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Sarn Mellteyrn i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa ac i lawr yr allt yn ofalus. Pan fydd y ffordd yn gwyro i&#8217;r chwith mae angen troi i&#8217;r dde gyda gofal arbennig. Dilyn y ffordd i fyny&#8217;r allt serth a chymeryd y tro nesa i&#8217;r chwith. Troi i&#8217;r chwith ar y gyffordd nesa a dilyn y ffordd ymlaen tuag at Botwnnog.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Gwyro i&#8217;r dde ar y gyffordd gyda&#8217;r B44I3, croesi&#8217;r bont a throi yn syth i&#8217;r dde. Teithio ymlaen heibio eglwys hynafol Llandygwning a throi i&#8217;r chwith ger Seithbont. Troi i&#8217;r dde tuag at Llangian ac yna cymeryd y tro cyntaf i&#8217;r dde tuag at Porth Neigwl. Dilyn y ffordd ymlaen tuag at Rhydolion ac yna troi i&#8217;r dde. Dilyn y ffordd a fe gyrhaeddwch ganol pentref Llanengan.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2022 Rhaid dilyn y ffordd yma ymlaen tuag at Abersoch ac wrth deithio i lawr yr allt fe welwch y man cychwyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=2\">Yn \u00f4l i dudalen Beicio<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Disgrifiad Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o&#8217;ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae&#8217;r Ynysoedd Tudwal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":2,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/272"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=272"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/272\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":343,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/272\/revisions\/343"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/2"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=272"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}