{"id":354,"date":"2023-04-13T21:47:17","date_gmt":"2023-04-13T20:47:17","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=354"},"modified":"2023-07-18T20:42:44","modified_gmt":"2023-07-18T19:42:44","slug":"cylchdaith-aberdaron","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=354","title":{"rendered":"Cylchdaith Aberdaron"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Aberdaron.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:650px\" aria-label=\"Mewnblaniad Cylchdaith Aberdaron\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Aberdaron.pdf\">Cylchdaith Aberdaron<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Aberdaron.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\">Cylchdaith Aberdaron &#8211; Manylion y daith<\/h2>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-2\">\n<p>Amcan o hyd: 15 km\/9.3 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH172 264.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae holl amrywiaeth Ll\u0177n a\u2019i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi\u2019i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol \u2013 gogledd a de \u2013 y penrhyn; dringfa raddol ar hyd llethrau Mynydd Anelog sy\u2019n cynnig golygfeydd gwych a phanoramig, a dychwelyd drwy gaeau amaethyddol ac ar hyd cwm bychan Afon Daron.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mannau o Ddiddordeb<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Aberdaron <\/strong>&#8211; Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda\u2019i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a\u2019i dai a phontydd llawn cymeriad. Mae\u2019n werth galw ym Mecws Islyn, gyda\u2019i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref, ond i fwynhau\u2019r lluniau a\u2019r mapiau a\u2019r darnau o dreftadaeth sy\u2019n addurno waliau\u2019r caffi. Adeilad hynafol a diddorol yw\u2019r Gegin Fawr, hen dafarn y pererinion. Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol. Er hynny, mae\u2019n dal yn bentref bach. Mae\u2019r ffyrdd yn dal yn gul a throellog ac mae\u2019r ddwy bont gerrig, Pont Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr draw i\u2019r pontydd mae\u2019r ffordd yn lledu ychydig i ffurfio sgw\u00e2r marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon. mae yna nifer o achosion smyglo ar hyd arfordir Ll\u0177n, dyma un enghraifft \u2013 1808 \u2013 Daliwyd lygar yn Aberdaron am smyglo halen.\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/morwrol\/llinellamser.HTML\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">mwy&#8230;.<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"430\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1.jpg\" alt=\"Aberdaron\" class=\"wp-image-1333\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1-300x215.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aberdaron<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Eglwys hywyn Sant<\/strong> &#8211; Galwch heibio Eglwys Aberdaron \u2013\u00a0Eglwys St Hywyn ar lan y m\u00f4r a gwrthglawdd newydd wedi cael ei godi ym 1998 i wrthsefyll yr erydu sydd yn digwydd yn barhaus ac sydd wedi bygwth diogelwch yr eglwys o\u2019r blaen. Eglwys Hywyn Sant yw\u2019r ddolen olaf yng nghadwyn Llwybr y Pererinion oedd ar eu ffordd i Enlli. Yn ogystal \u00e2 bod yn eglwys fyw, yn hanesyddol gyda\u2019i phensaern\u00efaeth arbennig. Peth o adeiladwaith yr adeilad presennol yn mynd yn ol i\u2019r Cl2 gyda\u2019r bwa Normanaidd uwchben y drws.\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1094, roedd Gruffudd ap Cynan, a oedd yng nghanol rhyfel gerila yn erbyn y Normaniaid, yn falch o gael lloches gan y gymuned fynachaidd yn Aberdaron, a dihangodd i Iwerddon yn eu cwch. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1115 gofynnodd Gruffudd ap Rhys Tewdwr (Tywysog Deheubarth) am loches yn eglwys Aberdaron rhag yr un Gruffudd ap Cynan (ei dad-yng nghyfraith), tywysog Gwynedd., a rhoddwyd noddfa iddo. Ar ei wely angau ym 1137 gadawodd Gruffudd ap Cynan arian yn ei ewyllys i Enlli<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"486\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/hywyn.jpg\" alt=\"Eglwys St. Hywyn Aberdaron\" class=\"wp-image-1410\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/hywyn.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/hywyn-300x243.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/hywyn-99x80.jpg 99w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys St. Hywyn Aberdaron<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>mae hon hefyd yn ganolfan treftadaeth gydag arddangosfeydd diddorol yn olrhain hanes y pererinion a\u2019r cysylltiad gydag Ynys Enlli. Bu\u2019r bardd R. S. Thomas yn ficer yma (1967- 78) ac mae arddangosfa yn dathlu\u2019i gyfraniad yma. <\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Porth Y Swnt <\/strong>&#8211; Yn y maes parcio, gwelir Porth y Swnt . Canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hon, sy\u2019n cynnig profiad o natur a threftadaeth yr ardal. <\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Porth Meudwy<\/strong> (SH 16302550) &#8211; Hafan gysgodol yn wynebu\u2019r de yw Porth Meudwy a dyma\u2019r man traddodiadol i ddal cwch am Enlli. Ar ben hynny, mae\u2019n harbwr prysur i bysgotwyr a chimychwyr y glannau hyn sy\u2019n codi\u2019r cynnyrch lleol y mae galw mawr amdano.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cildraeth yn agosach at yr ynys nag at Aberdaron, ac mae mwy o gysgod rhag y prifwynt, sy\u2019n sicrhau bod modd i gychod gychwyn ar eu taith yn fwy diogel. Mae s\u00f4n bod tri phererindod i Ynys Enlli gyfystyr ag un pererindod i Rufain. Aethai rhai yno i farw. Yn \u00f4l y chwedl, mae 20,000 o seintiau (Cristnogion cynnar) wedi\u2019u claddu ar yr ynys.<\/p>\n\n\n\n<p>Glaniodd saith morwr ym Mhorth Meudwy ym mis Hydref 1917, wedi iddynt oroesi ymosodiad ar eu llong ager gan long danfor Almaenig yr wythnos flaenorol. Cyraeddasant y lan ym mad achub y stemar, yn wan gan newyn. Cawsant fwyd poeth gan drigolion lleol, ac fe sychwyd eu dillad. Aethant yn eu blaen ar fws i Bwllheli, cyn anelu am Lerpwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd, aethai\u2019r amaethwr a\u2019r pysgotwr John Evans ag ymwelwyr ar deithiau i Ynys Enlli yn ei gwch. Ym mis Mehefin 1955 roedd wrthi\u2019n tynnu ei gwch i fyny\u2019r llithrfa hon pan fu i\u2019w dractor droi ar ei hochr, gan ei ladd yn y fan a\u2019r lle.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enw Cymraeg arall am \u2018feudwy\u2019, a ddefnyddid gan feirdd ganrifoedd yn \u00f4l, sef \u2018ermid\u2019, gair sy\u2019n deillio o eremite mewn Saesneg Canol. Enwyd ffermydd gerllaw yn Bodermid Uchaf a Bodermid Isaf. Cofnodir yr enw fel Bodermitt yn yr 16eg ganrif, ac mae\u2019n debyg ei fod yn dynodi aelwyd (Bod-) meudwy. O Borth Meudwy gallwch weld Ynys Gwylan-fawr ac Ynys Gwylan-fach.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Ynys Enlli <\/strong>&#8211; O lwybr Anelog byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a\u2019r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy\u2019n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a\u2019u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i\u2019r ynys drwy gysylltu \u00e2 Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o\u2019r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar \u00f4l. Mae\u2019r traddodiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 sefydliadau mynachaidd Enlli wedi\u2019u dogfennu\u2019n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi\u2019i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy\u2019n rhoi adroddiad cynnar o\u2019r traddodiad bod myrdd o saint wedi\u2019u claddu yno; 20,000 yn \u00f4l adroddiadau diweddarach. <\/p>\n\n\n\n<p>Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen \u00e2 llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy\u2019i gilydd, ag arysgrif yn coff\u00e1u \u2018Esyllt\u2019, neu enw tebyg, ar un o\u2019r ochrau byr; a charreg \u00e2 si\u00e2p croes arni yn dyddio o\u2019r un cyfnod fwy neu lai.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"280\" height=\"434\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-842\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg 280w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-194x300.jpg 194w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-52x80.jpg 52w\" sizes=\"(max-width: 280px) 100vw, 280px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mwy&#8230;.. <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/CREFYDDOL.HTML\">Cenhadwyr y 6ed Ganrif<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ym 1012 (s.a. 1011) mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog \u00e2 darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a\u2019r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a\u2019r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a\u2019r drefn Rufeinig i\u2019r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono\u2019n dal i sefyll.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Porthor<\/strong> &#8211; Traeth braf gyda\u2019i faes parcio ei hun (SH 167300)(eiddo\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yw Porthor. Enwog am ei longddrylliadau a\u2019i draddodiad smyglo!<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"324\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-860\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-300x162.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-148x80.jpg 148w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Efallai mai\u2019r mwyaf anghyffredin o\u2019r holl draethau hyfryd o amgylch yr ardal yw&nbsp;Porthor, sydd ychydig i\u2019r gogledd o Aberdaron. Mae\u2019r tywod gwyn yn chwibanu pan fydd rhywun yn cerdded arno. Mae cyfyngiadau ar g\u0175n ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Porthor, Ll\u0177n - Whistling Sands, Ll\u0177n, Gwynedd.\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/sW5ccjPD3K0?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7<a href=\"#7\" title=\" \"> <\/a><\/mark> <strong>Ynysoedd Gwylan <\/strong>&#8211; Allan yn y bae mae Ynysoedd Gwylan (Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach) ac ar olau arbennig, gellir gweld i lawr ar hyd Fae Ceredigion hyd at sir Benfro. Mae adar mudol yn galw heibio trwyn y pentir yn eu gwahanol dymhorau ac mae morloi i\u2019w gweld yma\u2019n gyson. Sonnir hefyd yn y gerdd \u2018Pe bawn i yn artist\u2019 am Ynysoedd Gwylan. Mae dwy ohonynt, y Fwyaf a\u2019r Lleiaf, yn gorwedd yn urddasol yn y bae. Dynodwyd y rhain yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar sail eu harbenigrwydd fel mannau nythu i\u2019r palod yn ogystal \u00e2\u2019r bilidowcar, y llurs a\u2019r gwylog. Ar yr ynys leiaf ceir Plas Deryn a Llyw yr Ynys Fach, sef y trwyn agosaf i Enlli. Mae cilfachau Ogof Hwyaid yn wynebu Aberdaron a Heuwal yr Ynys yn fan cysgodol. Ar yr Ynys Fwyaf ceir Trwyn yr Ynys Fawr. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf arferid mynd \u00e2 defaid Cadlan i\u2019r ynysoedd ar ddechrau\u2019r haf a\u2019u gadael yno i bori.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"415\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ynysoedd-Gwylanod-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-790\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ynysoedd-Gwylanod-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ynysoedd-Gwylanod-1-300x208.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ynysoedd-Gwylanod-1-116x80.jpg 116w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark> <strong>Anelog<\/strong> &#8211; Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Ar y cerrig sydd wedi\u2019u treulio gan ddwr gwelir arysgrifiadau, yn Lladin, i goff\u00e1u Senacus, offeiriad a gladdwyd gyda thyrfa o\u2019i frodyr (cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. Mae\u2019r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau\u2019r chweched ganrif OC. Yn eglwys Aberdaron bellach y mae cerrig coffa arysgrifedig Senacus a Veracius o\u2019r bumed neu\u2019r chweched ganrif, a ganfuwyd yn wreiddiol yn Anelog.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"264\" height=\"304\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/anelog.gif\" alt=\"\" class=\"wp-image-837\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Bodwrda <\/strong>&#8211; Saif\u00a0Bodwrda\u00a0(SH 188272) mewn llecyn cysgodol yng nghanol y coed, ryw 2km dwyrain o Aberdaron. Yr oedd y plasty yn enwog fel cartref teulu\u2019r Gwyniaid. Bu rhai o\u2019r teulu yn bwysig yng ngwleidyddiaeth cyfnod Cromwell ac yr oedd Griffith Gwyn ymhlith y fintai a aeth i Baris yn amser yr Adferiad i hebrwng Siarl 1 i Lundain. Bu aelwyd Bodwrda yn noddi beirdd am genedlaethau.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"326\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/7.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-838\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/7.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/7-300x222.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/7-108x80.jpg 108w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mater i\u2019r dychymyg yw penderfynu beth oedd ffynhonell cyfoeth y teulu distadl ac anadnabyddus yma i beri i un fod yn siryf ym 1584, a thua deugain mlynedd yn ddiweddarach iddynt ail adeiladu Bodwrda mewn briciau (defnydd adeiladu prin a drud mewn lle mor anghysbell ar y pryd)<a href=\"http:\/\/www.crwydro.co.uk\/aberdaron\/?page_id=72\"> Mwy&#8230;Hanes y T\u0177<\/a>. Ni ellir ond awgrymu eu bod hwythau, fel eu cymheiriaid, Teulu Bodfel, yn byw yn agos i\u2019r mor.&nbsp;   <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/TUDUR.HTML#bodwrdda\">Mwy&#8230; Achau Ll\u0177n<\/a>  a hanes manwl <a href=\"https:\/\/discoveringoldwelshhouses.co.uk\/library\/Hhistory\/cae%20036_HH_7_Bodwrdda.pdf\">y teulu a&#8217;r t\u0177<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 10 <\/mark> <strong>Mynydd Yr Ystum \/ Castell Odo<\/strong> &#8211; Bryn bychan a gysylltir ag Odo Gawr lle dywedir iddo gael ei gladdu dan garnedd o gerrig. Mae Castell Odo ar ei gopa lle ceir olion caer o Oes yr Efydd, ar \u00f4l 1800 C.C. Ar ei odre gogleddol mae Ffynnon Odo a cheir Capel Odo yn yr ardal. Ar y copa hefyd mae maen enfawr a elwir yn Garreg Samson. Dywedir i hon gael thaflu yma o Uwchmynydd gan Samson a\u2019r tyllau ynddi yw olion ei fysedd. O dan hon mae cawg o aur. Arddangosir creiriau crochenwaith a gloddiwyd yma yn 1958-9 yn Amgueddfa Bangor. Yn \u00f4l un gred difethwyd y gaer gan y Rhufeiniaid yn 78 O.C.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"376\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1.jpg\" alt=\"Carreg Samson Castell Odo\" class=\"wp-image-1408\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1-300x188.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Maen-Samson-1-128x80.jpg 128w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Carreg Samson Castell Odo<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Meillionydd &#8211;<\/strong> Tua 2km i\u2019r dwyrain o gastell odo mae yna fryngaer bridd arall o tua\u2019r un cyfnod. Y mae hwn wedi bod yn destun cloddio blynyddol gan brifysgol Bangor.-&nbsp; <a href=\"http:\/\/meillionydd.bangor.ac.uk\/index.php.cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">http:\/\/meillionydd.bangor.ac.uk\/index.php.cy<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p>Dywedi\u2019r bod hwn \u2018mond di cael ei \u2018darganfod\u2019 yn ddiweddar o luniau o\u2019r awyr. Er hyn, mi oedd yna s\u00f4n amdani yn 1880 yn y Llyfr \u2013 Archaeolegia Lleynensis gan y Parch Daniel.<\/p>\n\n\n\n<p> <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"800\" height=\"212\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/lleynensis.jpg\" alt=\"tud. 28 Arch. Lleynensis\" class=\"wp-image-1661\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/lleynensis.jpg 800w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/lleynensis-300x80.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/lleynensis-768x204.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">tud. 28 Arch. Lleynensis<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark><strong> Dinas Mawr a Dinas Bach<\/strong> &#8211; Mae\u2019r enwau\u2019n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn \u00f4l. Bellach mae\u2019n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu\u2019r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty\u2019n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau\u2019r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"902\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-788\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-200x300.jpg 200w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-53x80.jpg 53w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p> <mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\">12 <\/mark> <strong>Plas Carmel <\/strong>&#8211; Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio\u2019r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o\u2019r capel, t\u0177, siop a\u2019r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y \u2018capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Ll\u0177n\u2019 a welodd Cynan.&nbsp;  <a href=\"https:\/\/www.plascarmel.cymru\/\">Plas Carmel<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel.jpg\" alt=\"Siop Plas Carmel\" class=\"wp-image-1427\" width=\"592\" height=\"393\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-768x510.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Siop-plas-Carmel-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 592px) 100vw, 592px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Siop Plas Carmel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Gellir cyrraedd y llwybr ar hyd ben rallt i Borth Meudwy o ben pella&#8217;r maes parcio &#8211; y pen agosaf at y traeth. <\/li>\n\n\n\n<li>O Borth Meudwy, dilynwch y nant fechan ar hyd ffordd drol i fyny&#8217;r dyffryn at fferm Cwrt. <\/li>\n\n\n\n<li>Oddi yno ewch ar draws y caeau, drwy ran o Uwchmynydd ac yna dringo llethrau Mynydd Anelog.<\/li>\n\n\n\n<li> Yr ochr draw i&#8217;r mynydd, trowch i&#8217;r dde gan gerdded ar hyd ben rallt, tua Mynydd Carreg ac ymlaen wedyn nes cyrraedd Traeth Porthor. <\/li>\n\n\n\n<li>Troi am y tir yma, gan gerdded drwy&#8217;r maes parcio, troi i&#8217;r dde a dilyn y ffordd am ychydig cyn troi i&#8217;r chwith ar hyd ffordd drol. <\/li>\n\n\n\n<li>Pan ddowch at ffordd wledig arall, troi i&#8217;r dde am Cyll y Felin, ar draws croesffordd ac yna i&#8217;r chwith gan ddychwelyd i&#8217;r pentref drwy gefn gwlad braf ac ar hyd dyffryn cul yr afon at hen felin Aberdaron.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith Aberdaron &#8211; Manylion y daith Amcan o hyd: 15 km\/9.3 milltir.Amcan o\u2019r amser: 5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH172 264. Disgrifiad Mae holl amrywiaeth Ll\u0177n a\u2019i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi\u2019i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol \u2013 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/354"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=354"}],"version-history":[{"count":42,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/354\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1900,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/354\/revisions\/1900"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=354"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}