{"id":361,"date":"2023-04-13T22:29:41","date_gmt":"2023-04-13T21:29:41","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=361"},"modified":"2023-07-05T08:54:47","modified_gmt":"2023-07-05T07:54:47","slug":"cylchdaith-botwnnog","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=361","title":{"rendered":"Cylchdaith Botwnnog"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Botwnnog-Circular-Walk_0.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:640px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Botwnnog \"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Botwnnog-Circular-Walk_0.pdf\">Map Cylchdaith Botwnnog <\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Botwnnog-Circular-Walk_0.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cylchdaith Botwnnog &#8211; Manylion y daith<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o\u2019r hyd: 15km\/9.3 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 6 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Congl Meinciau, Botwnnog, SH262 312.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark><strong> Eglwys Llandygwnning <\/strong>\u00a0\u2013 Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin (yn ogystal \u00e2 Chynwyl\u00a0 Sant, Penrhos) ag arweinydd Brythonig o\u2019r 4edd ganrif o\u2019r Hen Ogledd o\u2019r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei th\u0175r unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i d\u0175r eglwys Botwnnog ac mae pulpud dwbwl ynddi. Ar ochr y t\u0175r ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn, \u2018roedd Griffith Mathias tra\u2019n flaenor yng nghapel Rhyd-bach hefyd yn glochydd yn Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i\u2019r dwyrain o\u2019r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-1024x681.jpg\" alt=\"Eglwys Llandygwnning\" class=\"wp-image-1426\" width=\"643\" height=\"427\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-1024x681.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-768x511.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-120x80.jpg 120w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 643px) 100vw, 643px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llandygwnning<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark><strong> Eglwys Llangian <\/strong>(SH 29555 28950) &#8211; (SH 29555 28950) \u2013 Eglwys hynafol a thlws yw Eglwys Llang\u00efan . Mae wedi ei lleoli ar lan afon, o dan elltydd serth tua\u2019r gogledd a\u2019r dwyrain. Mae\u2019r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o\u2019r 13eg ganrif ond gallai fod yn h\u0177n. Mae rhan helaeth o\u2019r waliau gogleddol a deheuol, yn y pen gorllewinol, \u00e2\u2019u drysau cae\u00ebdig, yn perthyn i\u2019r cyfnod hwn. Mae\u2019n bosibl fod y gwaith maen o arddull gwahanol yn y pen dwyreiniol yn dyddio o\u2019r 15fed ganrif. Mae yno faen coffa o\u2019r 5ed neu\u2019r 6ed ganrif yn y fynwent, a thu mewn i\u2019r eglwys gwelir nifer o feini coffa i filwyr a chlerigwyr teulu uchelwrol Edwards Plas Nanhoron. Mae gan yr eglwys gysylltiadau \u00e2 theulu Nanhoron a chofeb arbennig i\u2019r Capt Timothy Edwards a gollodd ei fywyd ar y m\u00f4r yn 1780. Ei weddw, Catherine Edwards roddodd dir i\u2019r Annibynnwyr cynnar yn LL\u0177n godi Capel Newydd, Nanhoron.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"452\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-959\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1-300x226.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangian-1-106x80.jpg 106w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llangian<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd y fynwent wreiddiol bron yn grwn, a\u2019i therfyn yn dilyn y nant ar ei hochr dde-orllewinol. Mae olion y cylch i\u2019w weld o hyd yn y clawdd isel ychydig fetrau i\u2019r dwyrain o\u2019r eglwys.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Maen Coffa <\/strong>(SH 29564 28941)-Maen coffa o\u2019r 5ed neu\u2019r 6ed ganrif&nbsp;yn y fynwent a\u2019r arysgrif Lladin arno, MELI MEDICI FILI MARTINI IACIT -YMA Y GORWEDD MELITUS Y MEDDYG FAB MARTINUS. Ceir arysgrif Ladin ar y garreg i goff\u00e1u Melus y meddyg, fab Martinus (yma y gorwedd). Mae\u2019r gair Cymraeg cyfoes \u2018meddyg\u2019 yn tarddu o\u2019r gair Lladin \u2018medicus\u2019. Mae ffurf yr arysgrif yn nhraddodiad Cristnogaeth Rufeinig Orllewinol ddiweddar, ond mae dylanwadau eraill i\u2019w gweld hefyd. Mae\u2019r arysgrif yn darllen ar i lawr ar wyneb y garreg, yn hytrach nag ar draws; dull a fenthycwyd o arysgrifau ogam Iwerddon. Ac mae\u2019r dull o fynegi perthynas, Melus fab Martinus, yn nes at y meddylfryd Gorllewinol Brythonig a Gwyddelig nag at yr enghreifftiau cyfandirol.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"450\" height=\"600\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2.jpg\" alt=\"Maen Melitus\" class=\"wp-image-960\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2.jpg 450w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/medici2-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Maen Melitus<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae rhoi gwybodaeth am swydd ar garreg goffa o\u2019r cyfnod hwn yn anghyffredin iawn. Mae\u2019n rhoi gwybodaeth am drefniant cymdeithasol y cyfnod a hon yw\u2019r unig garreg yn ngwledydd Prydain y gwyddom amdani sy\u2019n cyfeirio at \u2018feddyg\u2019. Mae\u2019r garreg hon ym mynwent Eglwys Llangian ar ochr ddeheuol yr adeilad. Mae\u2019r pentref tlws yma wedi ennill gwobr y pentref taclusaf yng Nghymru fwy nag unwaith yn ystod pum a chwe degau\u2019r ganrif ddiwaethaf. <\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark><strong> Ben-Y-Gaer <\/strong>&#8211; Mae llwybr amlwg yn mynd o Bont Newydd, rhwng Llang\u00efan a Llanengan, i fyny\u2019r allt i Ben-y-gaer. Hen fryngaer Geltaidd yw hon ac mae\u2019n werth dringo ati dim ond i edmygu\u2019r golygfeydd. Mae dwy fryngaer o\u2019r Oes Haearn yn edrych dros wastadedd Neigwl o\u2019r tir uwch uwchben troad afon Soch, y naill ger Llangian a\u2019r llall ar esgair 60m uwchlaw\u2019r seilnod ordnans i\u2019r de o Lanengan. Mae\u2019r ardal yng nghyffiniau\u2019r ddwy fryngaer wedi dioddef o ganlyniad i gloddio\u2019r graig gyfagos. Haearn oedd y mwyn ym Mhen y Gaer (Creigir Uchaf) er mai dim ond ychydig o waith a wnaethpwyd yno a hynny yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark><strong> Eglwys Llanengan <\/strong>&#8211; Mae Eglwys Llanengan (SH 295570) yn un o eglwysi harddaf Cymru. Mae carreg goffa ynddi i Einion, brenin Ll\u0177n a nawddsant y plwyf a sylfaenydd yr abaty ar Enlli. Mae traddodiad fod cysylltiad rhwng y sefydliad mynachaidd canoloesol \u00e2\u2019r abaty yn Enlli. Hynny ydy, yma roedd y pererinion yn coff\u00e1u Engan (Einion), brenin Ll\u0177n a roddodd Ynys Enlli i Cadfan i sefydlfu encilfa ac abaty arni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Einion brenin Ll\u0177n<\/strong> sefydlodd Eglwys yn Llanengan. Roedd yn fangre bwysig ar Lwybr y Pererinion o\u2019r dwyrain a\u2019r de. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at \u2018Lanekiant\u2019 a s\u00f4n am \u2018Llaneign\u2019 yn 1291 (Llanengan mae\u2019n debyg). Roedd Einion yn frenin dylanwadol iawn. Canodd Hywel Rheinallt gywydd mawl iddo yn y 15fed ganrif; ac roedd delw wedi\u2019i goreuro ohono\u2019n gwisgo coron yn yr eglwys lle cafodd ei gladdu.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-style-plain\">\n<p>CYWYDD EINION FRENIN &#8211; Hywel ab Dafydd ab Ieuan ab Rhys (1460)<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"769\" height=\"1024\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin-769x1024.jpg\" alt=\"Cywydd Einion Frenin\" class=\"wp-image-1466\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin-769x1024.jpg 769w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin-768x1022.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin-60x80.jpg 60w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cywydd-Einion-Frenin.jpg 900w\" sizes=\"(max-width: 769px) 100vw, 769px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cywydd Einion Frenin &#8211; Hywel ab Dafydd ab Ieuan ab Rhys (1460)<\/figcaption><\/figure><\/div><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r eglwys yn eang a hardd. Rhan orllewinol y mur gogleddol ydi\u2019r rhan hynaf (o\u2019r canoloesoedd) a gweddill muriau\u2019r corff a\u2019r ystlys wedi\u2019u codi ar gyfnodau gwahanol yn y 16eg ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adeilad presennol yn dyddio\u2019n ol i\u2019r bymthegfed ganrif ond yr oedd yma eglwys cyn hynny. Dywedir fod clychau\u2019r eglwys hon a\u2019r sgr\u00een dderw Ganol Oesol hynod o hardd wedi dod yno o abaty Enlli pan gafodd hwnnw ei ddifrodi. Bu pererinion yn mynd yno oddeutu 1460. Ychwanegwyd at yr Eglwys yn 1520 a cafodd y t\u0175r castellog ei godi yn 1534.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"450\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan.jpg\" alt=\"Eglwys Llanengan\" class=\"wp-image-957\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llanengan-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llanengan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Cyff Engan <\/strong>&#8211;  Yn yr eglwys mae Cyff Engan \u2013 cist o foncyff coeden i dderbyn offrwm gan bererinion a phlwyfolion. Mae tri clo ar y gist ac allwedd i\u2019r person a\u2019r warden. Yn ymyl y fynwent, yng ngardd Tan y Fynwent mae Ffynnon Engan, ac mae gris o gerrig yn mynd i lawr at y d\u0175r a g\u00e2i ei ddefnyddio i fedyddio. C\u00e2i gwyrthiau eu cyflawni yma a byddent yn gadael offrwm yng Nghyff Engan.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynnon Engan <\/strong>(SH 29312707) <strong>&#8211;<\/strong> Mae ffynnon sanctaidd o\u2019r enw Ffynnon Engan wedi ei lleoli 100m i\u2019r gogledd-orllewin o\u2019r eglwys, yng ngardd Tan y Fynwent. Mae\u2019n debyg ei bod yn ffynnon ag iddi rinweddau iachau yn y Canol Oesoedd. Mae pentref Llanengan wedi ei leoli 2km i\u2019r De Ddwyrain o Abersoch. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"513\" height=\"302\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1039\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan.jpg 513w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan-300x177.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Engan-136x80.jpg 136w\" sizes=\"(max-width: 513px) 100vw, 513px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ffynnon Engan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ar Fynydd Cilan mae carreg ar ei gwastad \u00e2 phant ynddi \u2013 Maen March Engan. Dyma \u00f4l carn march y brenin Engan. C\u00e2i\u2019r d\u0175r o \u00f4l y carn (y pant) ei ddefnyddio i wella afiechydon. Mae Ogo\u2019 Engan yn yr ardal ac enwau megis Cae Engan a Th\u0177 Engan yn Ll\u0177n yn ogystal ag ardal Brynengan yn Eifionydd yn awgrymu fod cysylltiad, o bosibl, rhyngddynt \u00e2 brenin dylanwadol Ll\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark><strong> Simnai Llanengan <\/strong>(SH 29486 26731)- Mae\u2019r llwybr yn mynd heibio hen simnai gwaith mwyn ar gyrion y pentref, Simnai Llanengan . Tynfa wynt i waith plwm Tanrallt oedd hon ers talwm. Yr oedd gweithfeydd plwm plwyf Llanengan yn bwysig o gyfnodau cynnar. Roedd rhywfaint o gloddio i chwilio am fwynau o amgylch Pen y Dinas yn yr 1830au ond ni fu llawer o gynnydd yno. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod rhan olaf y ganrif ail-agorodd gweithfeydd plwm Penrhyn Du ym Marchros a sefydlwyd gweithfeydd newydd; rhai\u2019n fawr a rhai\u2019n fach iawn. Agorwyd gwaith Port Nigel (Porth Neigwl ar y bryn yn Llanengan, ar safle Castell yr hen fryngaer, o Oes yr Haearn, Mae adfeilion rhai o adeiladau\u2019r gweithfeydd plwm i\u2019w gweld o hyd yn Nhan yr Allt. Adeiladwyd pwerdy a gosodwyd simnai uchel a thrawiadol ar ben y bryn. Mae\u2019r simnai, a adnewyddwyd yn y 1990au, yn dirnod lleol. Cr\u00ebwyd llawer iawn o swyddi, a buont eu gweithio hyd ddiwedd y l9eg ganrif.. Ym mhlwyfi Llanengan a Llangian, yng nghanol y 19eg ganrif, dim ond tri unigolyn oedd yn gweithio fel mwyngloddwyr plwm. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 208 o weithwyr plwm ym mhlwyf Llanengan a 31 o fwyngloddwyr plwm yn Llangian.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewnfudodd nifer o Gernywiaid i\u2019r gweithfeydd ac mae &nbsp;hynny wedi gadael dylanwad ar rai cyfenwau dieithr yn yr ardal. Daeth gwragedd a phlant gyda\u2019u gw\u0177r. Roedd yn anorfod y byddai angen gwasanaethau newydd a thai newydd. Adeiladwyd rhesi o fythynnod gweithwyr. Yn Bay View Terrace, ar ochr ogleddol yr afon Soch, mwyngloddwyr oedd yn byw yn naw o\u2019r deg t\u0177. O\u2019r holl deuluoedd mwyngloddio a oedd yn byw yn Bay View Terrace, dim ond un mwyngloddiwr oedd wedi cael ei eni\u2019n lleol. Roedd y gweddill yn dod o Gernyw, Dinas Mawddwy, Minera, Dolgellau a Swydd Amwythig.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark><strong> Porth Neigwl <\/strong>&#8211; Mae prif gerrynt cefnfor yr Iwerydd yn taro traeth Porth Neigwl, sy\u2019n wynebu\u2019r de-orllewin. Aeth llawer o longau i drafferthion mewn stormydd wrth geisio lloches yma trwy gael eu caethiwo rhwng dau bentir a\u2019u hangorion yn methu eu dal yn y bae tywodlyd. Caent eu hyrddio o flaen y gwynt nes eu bod yn deilchion ar y traeth. Mae\u2019r un tonnau mawr heddiw yn rhoi pleser i syrffiwyr ond maent hefyd yn gyfrifol am erydu\u2019r twynni tywod bob gaeaf. <\/p>\n\n\n\n<p>Canfuwyd hen gafn bragu 3,500 o flynyddoedd oed yn yr allt f\u00f4r ger ffermdy Nant yn 2009 (gweler canolfan ymwelwyr Cwrw Ll\u0177n;\u00a0 <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=74\" title=\"\">Cylchdaith Nefyn<\/a>). <\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr ardal hon yr oedd maenol NEIGWL yn y Canol Oesoedd a llys tywysog cwmwd Cymydmaen. Rhannwyd Ll\u0177n yn dri cwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i\u2019r gogledd, yn ymestyn o\u2019r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o\u2019r hen gaer arfordirol \u2013 Dinllaen ger Porthdinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan \u2018roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna \u2018roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o\u2019r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd \u00e2 Nigel de Lohareyn, cyfaill i\u2019r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i\u2019w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi i\u2019r dref statws bwrdeistref.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg\" alt=\"Porth Neigwl\" class=\"wp-image-1374\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-768x511.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-120x80.jpg 120w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Neigwl<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark><strong> Mynydd Cilan <\/strong>&#8211; Yng nghornel dde-ddwyreiniol Porth Neigwl, cyfyd yr allt at Fynydd Cilan . Hen dir comin yw hwn, sy\u2019n cynnig tro crwn i\u2019w gerdded uwch clogwyni\u2019r m\u00f4r. Yn nechrau\u2019r 19eg ganrif, caewyd rhan helaeth o Drwyn Cilan drwy ddeddf seneddol. Gellir gweld canlyniad yr amgaeadau seneddol ar yr hen dir comin o hyd yn y caeau mawr a\u2019r terfynau unionlin. Y dystiolaeth weladwy gynharaf o gymunedau dynol, fodd bynnag, yw dwy feddrod siambr o\u2019r cyfnod Neolithig tua 3000-4000 C.C. yn Nhrwyn Llech y Dd\u00f4l a safle arall yn Cim, Penrhyn Du. Mae yna hefyd olion Castell Einion, ffynnon Cilan a hen dai unnos y tir comin yn ychwanegu at ap\u00eal yr ardal.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"447\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol.jpg\" alt=\"Cromlech Trwyn Llech y Dd\u00f4l\" class=\"wp-image-984\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol-300x224.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llech-y-Ddol-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cromlech Trwyn Llech y Dd\u00f4l (SH 30023 23534)<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark><strong> Garn Fadryn <\/strong>&#8211; Yng nghefn Botwnnog, byddwch yn sylwi ar gopa Garn Fadryn i\u2019r gogledd-ddwyrain. Dyma\u2019r prif fynydd yng nghanolbarth Ll\u0177n, yn 371m (1217 tr.) o uchder a\u2019r golygfeydd o\u2019i gopa o L\u0177n gyfan yn ysblennydd. Y term daearegol am fynydd fel hyn yw monadnock, sef mynydd yn sefyll fel ynys ar lwyfandir.Mae nifer o olion cytiau crynion o Oes yr Haearn ar ei lechweddau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed aligncenter is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Garn Fadryn\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/HEdffU466r4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Garn Fadryn<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adeiladau crynion a elwir yn Gytiau Gwyddelod yn amlwg a cheir olion o\u2019r muriau amddiffynnol. Mae yma olion hefyd o gastell o\u2019r 12ed ganrif a godwyd gan Owain Gwynedd. Mae\u2019r wal, lle mae wedi goroesi, yn fertigol, ac mae awgrym bod iddi drwch dwbl mewn rhai mannau. Wal o gerrig sychion ydy hi. Ar \u00f4l croesi\u2019r Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd ac ymlaen i L\u0177n ym 1188, gwelodd Gerallt Gymro gastell cerrig o\u2019r enw Karnmadrun a oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar ac a oedd yn eiddo i feibion Owain Gwynedd. Mae\u2019n bosibl mai\u2019r cadarnle waliau cerrig sychion ar y copa oedd hwnnw. <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=734\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\"> Mwy&#8230; Gweler Cylchdaith Garn Fadryn<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>O ganol pentref Botwnnog, ger yr hen Swyddfa Bost, croeswch y ffordd a dilyn llwybr drwy&#8217;r cae at ffordd wledig sy&#8217;n eich arwain tua&#8217;r chwith i gyfeiriad y groesffordd. <\/li>\n\n\n\n<li>Oddi yno, cerdded ar lwybr drwy gaeau neu cyrraedd ffordd drol a throi i&#8217;r chwith am eglwys Llandygwnning. Ymlaen ar l\u00f4n wledig heibio Saithbont a Neigwl Ganol a throi i&#8217;r chwith i&#8217;r llwybr sy&#8217;n eich arwain i Lang\u00efan. <\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn ffordd wledig oddi yno i Lanengan, a llwybr drwy&#8217;r caeau wedyn cyn belled \u00e2 fferm Nant ym mhen mwyaf deheuol Porth Neigwl. Oddi yno, mae tro braf ar dywod y bae at y fynedfa drwy&#8217;r twyni i&#8217;r maes parcio. <\/li>\n\n\n\n<li>I&#8217;r dde ar y l\u00f4n darmac wledig i gyfeiriad Llanengan ac yna i&#8217;r chwith, gan ddilyn Llwybr yr Arfordir drwy dir gwastad, amaethyddol i ffordd ym mhen arall Porth Neigwl, rhwng ffermydd Saith Bont a Th\u0177 Mawr. <\/li>\n\n\n\n<li>Yna, dilyn y llwybr sy&#8217;n dirwyn yn \u00f4l drwy gaeau amaethyddol, heibio ffermydd Rhosneigwl a Neigwl Uchaf at lwybr rhan gyntaf y daith sy&#8217;n mynd \u00e2 chi&#8217;n \u00f4l i bentref Botwnnog.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith Botwnnog &#8211; Manylion y daith Amcan o\u2019r hyd: 15km\/9.3 milltir.Amcan o\u2019r amser: 6 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Congl Meinciau, Botwnnog, SH262 312. Disgrifiad 1 Eglwys Llandygwnning \u00a0\u2013 Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin (yn ogystal \u00e2 Chynwyl\u00a0 Sant, Penrhos) ag arweinydd Brythonig o\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":7,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/361"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=361"}],"version-history":[{"count":25,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/361\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1776,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/361\/revisions\/1776"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=361"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}