{"id":425,"date":"2023-04-14T13:20:55","date_gmt":"2023-04-14T12:20:55","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=425"},"modified":"2023-07-13T21:25:57","modified_gmt":"2023-07-13T20:25:57","slug":"cylchdaith-llanystumdwy","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=425","title":{"rendered":"Cylchdaith Llanystumdwy"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llanystumdwy-Circular-Route.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Llanystumdwy \"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llanystumdwy-Circular-Route.pdf\">Map Cylchdaith Llanystumdwy <\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llanystumdwy-Circular-Route.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Manylion y daith<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 5 km\/3 milltir.<br>Amcan o&#8217;r amser: 1.5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes parcio Llanystumdwy, SH476 384.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Amgueddfa Lloyd George<\/strong> &#8211; Mae Amgueddfa Lloyd George yng nghanol Llanystumdwy. Y pentref hwn a\u2019i ddiwylliant rhyddfrydol, anghydffurfiol Cymraeg a roddodd wreiddiau a \u00a0hunaniaeth i\u2019r arweinydd a fu\u2019n un o wleidyddion dylanwadol y Rhyfel Byd Cyntaf a Gwrthryfel Iwerddon. Mae\u2019r amgueddfa yn cofnodi\u2019i yrfa a rhan ohoni yw\u2019r t\u0177 teras Highgate, cartref a gweithdy ei ewythr, Richard Lloyd, a\u2019r man lle cafodd y darpar brifweinidog ei fagu.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Neuadd y Pentref<\/strong> &#8211; Gerllaw mae Neuadd y Pentref. Codwyd y neuadd yn 1912 drwy rodd gan Lloyd George, sef yr arian a enillodd mewn achos enllib. Bu\u2019r seremoni agoriadol yn un ddramatig gan i aelodau o fudiad y Suffragettes fanteisio ar y cyfle i hyrwyddo eu brwydr dros bleidlais i ferched.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Afon Dwyfor<\/strong> &#8211; Mae aber yr afon Dwyfor yn lle da i gadw llygad ar fyd natur. Daw adar mudol, tymhorol yma, bydd ambell eog yn neidio yn yr afon ddiwedd yr haf ac efallai y cewch gip ar ddyfrgi yma.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Afon Dwyfor\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/8ol-eg9uQ8U?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>T\u0177 Newydd<\/strong> &#8211; Canolfan Ysgrifennu sydd wedi\u2019i lleoli yn Nh\u0177 Newydd erbyn hyn. Codwyd y t\u0177 newydd hwn ar safle yr hen d\u0177 gan Lloyd George ac mae\u2019n enghraifft nodedig o waith y pensaer Clough Williams-Ellis (sylfaenydd Portmeirion). Yn 1990, trosglwyddwyd yr eiddo ar gyfer ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cyrsiau preswyl llenyddol a chreadigol.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Bedd Lloyd George<\/strong> &#8211; Mae gwaith cerrig crefftus o gwmpas Bedd Lloyd George uwch afon Dwyfor. Cafodd y cyn-brifweinidog, Arglwydd Dwyfor erbyn hynny, ei ddymuniad o gael ei gladdu ar y safle hwn uwch afon Dwyfor ym mro ei febyd. Cynlluniwyd y gofeb gan Clough Williams-Ellis ac mae\u2019n cynnwys telyneg ac englyn gan feirdd lleol.<\/p>\n\n\n\n<iframe src=\"https:\/\/www.google.com\/maps\/embed?pb=!4v1682415563134!6m8!1m7!1sCAoSLEFGMVFpcE9MbmpUY0lfTzg5SWZCOVdMSnRRVnpKRi1HZmdRdDNtdGE4NWFV!2m2!1d52.92290669!2d-4.26903494!3f177.7681494384435!4f14.358167783485072!5f0.7820865974627469\" width=\"600\" height=\"450\" style=\"border:0;\" allowfullscreen=\"\" loading=\"lazy\" referrerpolicy=\"no-referrer-when-downgrade\"><\/iframe>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Llanystumdwy<\/strong> &#8211; Mae Llanystumdwy hefyd yn enwog fel cartref Wil Sam. Dramodydd, sgwennwr a chwmn\u00efwr difyr a ffraeth oedd Wil Sam (W. S. Jones). Mae\u2019i lun ar wal Tafarn y Plu a chynhelir g\u0175yl flynyddol yma i gofio am ei gyfraniad. Cafodd ei eni (yn 1920) a\u2019i fagu\u2019n Nhy\u2019n Llan ger y bont a\u2019r eglwys, a bu\u2019n cadw garej y Crown gerllaw. Gyda\u2019i frawd, Elis Gwyn, ffurfiodd Theatr y Gegin yng Nghricieth ac mae\u2019r rhan fwyaf o Gymry yn ei gofio o hyd fel \u2018tad\u2019 Ifas y Tryc.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>CYFARWYDDIADAU<\/p>\n\n\n\n<ul>\n<li>O\u2019r maes parcio, trowch i\u2019r dde ac ewch ar hyd prif stryd y pentref heibio Tafarn y Plu.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyn cyrraedd y bont, trowch i\u2019r chwith heibio talcen t\u0177 teras Britannia, a dilynwch y llwybr y tu \u00f4l i\u2019r t\u0177.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar \u00f4l gadael gerddi\u2019r pentref byddwch yn croesi\u2019r briffordd A497 ac yn mynd ar hyd ffordd fferm Abercin. Heibio\u2019r ffermdy a throi i\u2019r chwith, yna drwy\u2019r caeau ac ar draws y rheilffordd at afon Dwyfor a\u2019r arfordir.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r llwybr yn dilyn yr afon tua\u2019r aber cyn troi yn \u00f4l drwy dir amaethyddol a dychwelyd i\u2019r pentref.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi croesi\u2019r briffordd A497 am yr eildro, mae dringfa fer i fyny cae llechweddog at D\u0177 Newydd a\u2019i bensaern\u00efaeth ddiddorol.<\/li>\n\n\n\n<li>Yna i lawr yr allt a dilyn cwrs yr afon drachefn yn \u00f4l i brif stryd Llanystumdwy. Troi i\u2019r chwith ac yn \u00f4l i\u2019r maes parcio\/lle bws.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Manylion y daith Amcan o hyd: 5 km\/3 milltir.Amcan o&#8217;r amser: 1.5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.Man cychwyn\/gorffen: Maes parcio Llanystumdwy, SH476 384. Disgrifiad 1 Amgueddfa Lloyd George &#8211; Mae Amgueddfa Lloyd George yng nghanol Llanystumdwy. Y pentref hwn a\u2019i ddiwylliant rhyddfrydol, anghydffurfiol Cymraeg a roddodd wreiddiau a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":-1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/425"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=425"}],"version-history":[{"count":15,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/425\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1822,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/425\/revisions\/1822"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=425"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}