{"id":460,"date":"2023-04-14T16:14:31","date_gmt":"2023-04-14T15:14:31","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=460"},"modified":"2023-04-26T14:02:58","modified_gmt":"2023-04-26T13:02:58","slug":"cylchdaith-rhiw","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=460","title":{"rendered":"Cylchdaith Rhiw"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Rhiw-Circular-Route.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:640px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Rhiw \"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Rhiw-Circular-Route.pdf\">Map Cylchdaith Rhiw <\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Rhiw-Circular-Route.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Manylion y daith<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 4.3 km\/2.7 milltir.<br>Amcan o&#8217;r amser: 2 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Rhiw <\/strong>&#8211; Un o&#8217;r pentrefi uchaf yn Ll\u0177n a&#8217;r golygfeydd o Fae Ceredigion a&#8217;r arfordir o Griccieth gyda&#8217;r glannau i lawr mor bell ag Aberystwyth yn destun edmygedd ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd. Y pentref ei hun ar wasgar o&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/Nebo.html\">gapel Nebo<\/a>&nbsp;yr Annibynwyr i&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/eglwys%20rhiw.html\">Eglwys St Aelrhiw<\/a>&nbsp;filltir i&#8217;r gorllewin. Yr eglwys heb wasanaethau erbyn hyn a&#8217;r plwyf wedi ei uno a phlwyf LLanfaelrhys i&#8217;r de rhwng y Rhiw ag Aberdaron.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/11.html\">olion hen fywyd<\/a>&nbsp;ar ochr y Rhiw o gwmpas y&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/gwineu.html\">Castell<\/a>, a thai a m\u00e2n dyddynnod eraill. Cafwyd hyd i olion mynwent gynnar ar dir Coch-y-moel, ac y mae enwau llawer o&#8217;r ffermydd a&#8217;r tai yn awgrymu sefydliad cynnar.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o&#8217;r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. ol cloddio pump o dyllau i godi&#8217;r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark><strong> Plas Yn Rhiw <\/strong>&#8211; Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i&#8217;r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i&#8217;r 17eg ganrif y mae&#8217;r adeilad presennol, fe&#8217;i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y t\u0177 i lawr trwy&#8217;r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae&#8217;n debyg mai&#8217;r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu&#8217;r t\u0177 yn 1820.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegwyd adain y gegin i&#8217;r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr yst\u00e2d yn nwylo&#8217;r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe&#8217;i gadawyd yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy \u00e2&#8217;u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu&#8217;r ardd, ac ymdrechu\u2019n ddiflino i ddiogelu&#8217;r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu\u2019n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf b\u0175er niwclear yn Edern.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r plasdy ei hun a&#8217;i nodweddion pensaern\u00efol diddorol, mae&#8217;r ardd organig yn nodedig gan fod yma lecyn cysgodol a chasgliadau o blanhigion prin. <a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/cy\/visit\/wales\/plas-yn-rhiw\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark><strong> Rhuol <\/strong>&#8211; Tro arall y gellir ei wneud yw dilyn y llwybr i&#8217;r chwith o ben uchaf y maes parcio hwn. Mae&#8217;r ffordd drol yn dirwyn i lawr y llethr at hen bentref morwrol Rhuol . yng nghesail gogledd-orllewinol Porth Neigwl. Tafarn oedd yr adeilad ger y lanfa pan oedd y porthladd bychan ar ei anterth ac mae hanesion am smyglo mawr yn cael eu cysylltu \u00e2&#8217;r hafan ddiarffordd hon.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhuol.jpg\" alt=\"Tafarn Rhuol\" class=\"wp-image-1166\" width=\"673\" height=\"430\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhuol.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhuol-300x192.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhuol-125x80.jpg 125w\" sizes=\"(max-width: 673px) 100vw, 673px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tafarn T\u0177&#8217;n Borth Rhuol<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark><strong> Eglwys Aelrhiw <\/strong>&#8211; Eglwys hynafol yw Eglwys y Rhiw mewn mynwent llawn cymeriad.  C18 ar sylfaen cynharach. Adgyweirwyd 1860-61. Cist pren o 1715. Sant o&#8217;r\u00a06g\u00a0a gysylltir gyda phentref\u00a0y Rhiw\u00a0yw\u00a0Aelrhiw, ond mae&#8217;n fwy na phosib nad oedd person o&#8217;r enw yma&#8217;n bodoli, ac mai camsillafiad ydyw. Yn \u00f4l Rice Rees, yn\u00a0<em>Bonedd y Saint<\/em>\u00a0(tt.306, 332) cysegrwyd Eglwys y Rhiw yn wreiddiol i&#8217;r &#8216;Ddelw Fyw&#8217;, ac mae&#8217;n bosib mai talfyriad llafar o&#8217;r enw yma yw enw&#8217;r sant. <a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/Hanes\/CREFYDDOL.HTML#church\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"448\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-rhiw.jpg\" alt=\"Eglwys Aelrhiw Rhiw\" class=\"wp-image-1154\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-rhiw.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-rhiw-300x224.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-rhiw-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Aelrhiw Rhiw<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Ffynnon Aelrhiw<\/strong> (SH23392848) &#8211; Mae hen ffynnon Aelrhiw Sant gerllaw. Gwelir y ffynnon hon yng nghaeau Tyddyn Aeliw i gyfeiriad y de o Eglwys St Aelrhiw. Gellir mynd ati trwy gi\u00e2t i gae sydd ger y blwch postio a gyferbyn \u00e2 gi\u00e2t yr eglwys. Yna dilyn y wal ar y chwith i ben draw\u2019r cae a gwelir y ffynnon ar y chwith yn y cae nesaf. Mae wal o\u2019i chwmpas a gwnaed tipyn o waith adfer arni yn ddiweddar. Mae\u2019n ffynnon feddyginiaethol i wella anhwylderau\u2019r croen, un a elwid yn \u2013 \u2018Man Aeliw\u2019 a\u2019r llall, manwynnau (clwyf lymffatig, scrofula) a effeithiai yn arw ar blant ifanc ers talwm. Erbyn hyn mae&nbsp;Ffynnon Aelrhiw&nbsp;wedi ei glanhau. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"640\" height=\"480\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aelrhiw-ffynnon.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1153\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aelrhiw-ffynnon.jpg 640w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aelrhiw-ffynnon-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aelrhiw-ffynnon-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ffynnon Aelrhiw<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><br><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Llanfaelrhys <\/strong>-Ychydig yn nes am Aberdaron mae eglwys ddiddorol Llanfaelrhys. Sant arall a ddaeth o Lydaw yn y canrifoedd cynnar oedd Maelrhys, cefnder i Cadfan a Hywyn. Yma yn Llanfaelrhys y ceir yr unig eglwys yng Nghymru a sancteiddiwyd iddo. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a\u2019r Rhiw ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe\u2019u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i\u2019r llall disgynnodd barn Duw arnynt a\u2019u troi\u2019n ddwy golofn ithfaen.<\/p>\n\n\n\n<p> <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w.jpg\" alt=\"Eglwys Llanfaelrhys\" class=\"wp-image-1157\" width=\"600\" height=\"642\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w-280x300.jpg 280w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w-75x80.jpg 75w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llanfaelrhys<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Porth Ysgo <\/strong>&#8211; Mae yna llwybr i lawr Nant y Gadwen sy&#8217;n arwain at draeth Porth Ysgo . Gwaith&nbsp; <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/mineral.html\">manganis<\/a>&nbsp; yn ffynnu yn ystod dau ryfel y ganrif ond yn rhy ddrud i&#8217;w weithio adeg heddwch. Cludiwyd y cerrig manganis mewn llongau o&#8217;r lanfa oedd wedi ei hadeiladu ym&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/7.html\">Mhorth Ysgo<\/a>&nbsp;ag inclen o&#8217;r gwaith yn eu cario i&#8217;r llongau. Trafnidiaeth ffyrdd a loriau oedd yn symud y cynnyrch yn ystod yr ail Ryfel byd. Roed y gwaith wedi bod yn boblogaidd yn niwedd y Cl9 a dechrau&#8217;r C20, ac y mae olion &#8216;y barics&#8217; yn aros ar ochor ddwyreiniol y pentref.Ar ddechrau&#8217;r 20fed ganrif, roedd 90% o fangan\u00ees gwledydd Prydain yn arfer cael ei fwyngloddio yn yr ardal hon. Mae olion &#8216;weiar-r\u00f4p&#8217; oedd yn cario&#8217;r mwyn i&#8217;r lanfa islaw yn y Nant (SH210 265). Chwalwyd y lanfa mewn storm yn 1910-11.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"450\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo1.jpg\" alt=\"Porth Ysgo\" class=\"wp-image-862\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo1-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo1-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Ysgo gyda Maen Gwenonwy yn y Bae, Ynysoedd gwylan ac Enlli<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark><strong> Felin Uchaf<\/strong> &#8211; Rhwng y Rhiw a Rhoshirwaun mae Canolfan Felin Uchaf. Canolfan eco arbrofol yw honno sy&#8217;n croesawu ymwelwyr i gerdded y llwybrau natur a gweld yr adeiladau treftadaeth. Defnyddir dulliau traddodiadol i godi waliau clai a thyweirch, fframiau derw a thouau gwellt a brwyn. Gwnaed y gwaith gan wirfoddolwyr o bedwar ban y byd a chynhelir nosweithiau o chwedleua a cherddoriaeth yma. (www.felinuchaf.org) (SH205 288)<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark><strong> Olion cyn-hanes<\/strong> &#8211;  Mae nifer o olion cyn-hanes o fewn cyrraedd y tro hwn &#8211; gwelir cromlech, meini hirion, carneddau a ffatri fwyeill Neolithig ar lethrau Mynydd Rhiw.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Chwarel Bwyelli<\/strong> <strong>mynydd Rhiw<\/strong> (SH 234299) &#8211; Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o&#8217;r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. \u00f4l cloddio pump o dyllau i godi&#8217;r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd crib Mynydd Rhiw ym mhen draw gorllewin Ll\u0177n yn ffynhonnell bwysig o si\u00e2l ymdoddedig yn y cyfnod Neolithig. Gellir gweld olion cyfres o byllau chwarel wedi\u2019u llenwi hyd heddiw \u2013 dyma weddillion ffos mwyngloddio brig sengl a gredir iddi fesur 90 medr o hyd. Yma, defnyddiwyd carreg wedi\u2019i mwyngloddio i gynhyrchu bwyelli a chaiff y safle ei adnabod fel \u2018ffatri\u2019 fwyelli neu ganolfan gynhyrchu Neolithig. Canfuwyd bwyell o\u2019r safle hwn yn ystod gwaith cloddio diweddar yn Llwydiarth Esgob yn Ynys M\u00f4n.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Carneddi mynydd Rhiw<\/strong> -Ddau gan medr i\u2019r de o brif safle\u2019r chwarel, ceir pedair carnedd gladdu o Oes yr Efydd sydd wedi\u2019u lleoli ar hyd crib amlwg. Roedd pumed carnedd yn bodoli ar un adeg ar gopa Mynydd Rhiw, ond yn anffodus, nid oes modd ei gweld heddiw. Yn ystod gwaith cloddio yn y 1950au, canfuwyd wrn o Oes yr Efydd a ddefnyddiwyd i ddal llwch yn dilyn amlosgiad ym mhentrefan cyfagos Y Rhiw. Nid yw\u2019r carneddi eu hunain erioed wedi cael eu cloddio. Mae\u2019r ddau safle uchod wedi\u2019u dynodi yn Henebion Rhestredig.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"351\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cair1rhiw.jpg\" alt=\"Carnedd - Rhiw\" class=\"wp-image-1168\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cair1rhiw.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cair1rhiw-300x176.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cair1rhiw-137x80.jpg 137w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Carnedd &#8211; Rhiw<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Cromlech Tan y Muriau<\/strong> (SH 238288) &#8211; Cromlech ag iddi gryn arbenigrwydd a chyfeiriad ati yng nghyfrol Frances Lynch \u2018Gwynedd\u2019 (Cadw) Codwyd y gromlech yn y 4edd neu\u2019n gynnar yn y 3edd fileniwm Cyn Crist ac yn enghraifft o ddatblygiad ym mhensaerniaeth cromlechi\u2019r cyfnod yna.. Mae ganddi benllech enfawr yn ei phen gorllewinol a cheir yna mewn gwirionedd ddwy gromlech. Credir y bu yna unwaith dair siambr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i lleoli ar lethrau dwyreiniol&nbsp;Mynydd Rhiw&nbsp;ym Mhen Ll\u0177n, ymgorfforir dwy siambr gladdu yn y beddrod hudol hwn.&nbsp;Credir i\u2019r beddrod gael ei adeiladu\u2019n wreiddiol oddeutu 3500 CC yn steil cromlech borth oedd yn gyffredin i\u2019r ardal ac fe\u2019i orchuddiwyd yn wreiddiol \u00e2 charnedd fawr ryw 35 metr (120 troedfedd) o hyd. Mae\u2019r porth hwn, wedi\u2019i gapio gan slaben enfawr, yn dal i oroesi heddiw. Cafodd y beddrod ei addasu rhywbryd yn oddeutu 3000 CC i ymgorffori siambr gladdu hir yn steil ardal Hafren-Cotswold.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mwyafrif o\u2019r math hwn o henebion i\u2019w canfod yn yr ardal rhwng Rhydychen a Bryste, er bod dosbarthiadau hefyd yn bodoli yn Wiltshire a de Cymru.&nbsp;Y cwestiwn mawr i archaeolegwyr a haneswyr yw p\u2019un a yw hyn yn cynrychioli dylifiad o bobl newydd i\u2019r rhan hon o Wynedd yntau ai dim ond cyflwyniad o ddulliau newydd o adeiladu beddrodau ydyw? Mae\u2019n awgrymu bod rhwydweithiau cyfathrebu eang wedi bodoli rhwng gwahanol gymunedau Prydain Neolithig.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar un adeg, roedd trydydd siambr gladdu yn bodoli ar ran isaf y garnedd, ond nid yw hon yn weladwy erbyn heddiw.&nbsp;Saif y beddrod ar dir t\u0177 Tan y Muriau, ryw 400 metr i\u2019r dwyrain o eglwys Sant Aelrhiw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"577\" height=\"380\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2.jpg\" alt=\"Cromlech Tan y Muriau\" class=\"wp-image-1158\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2.jpg 577w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2-300x198.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/rhiw_c2-121x80.jpg 121w\" sizes=\"(max-width: 577px) 100vw, 577px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cromlech Tan y Muriau<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Gwnaeth archaeolegwyr raglen ddyfal o waith yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf gan ganfod hen dai crynion a llawer o \u00f4lbywyd cynnar yma.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Maen Hir (Lladron Maelrhys) <\/strong>(SH22612767) neu Maen Hir Tan Y Foel&nbsp;\u2013 Gwelir hwn yn y clawdd ar ochr chwith y ffordd drol sy\u2019n arwain o Dan y Foel, Rhiw tuag at Greigiau Gwinau. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a\u2019r Rhiw ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd.  Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe\u2019u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i\u2019r llall disgynnodd barn Duw arnynt a\u2019u troi\u2019n ddwy golofn ithfaen.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"402\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys.jpg\" alt=\"Maen Hir Llanfaelrhys\" class=\"wp-image-1159\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys-300x201.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Maen Hir Llanfaelrhys <a href=\"https:\/\/archwilio.org.uk\/her\/chi3\/report\/page.php?watprn=GAT1218&amp;dbname=gat&amp;tbname=core&amp;sessid=CHI39uruzli&amp;queryid=Q943924001682463817\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Greigiau Gwinau. (SH 226276)<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Wrth adael y maes parcio Plas yn Rhiw (www.nationaltrust.org.uk\/plas-yn-rhiw), ewch ifyny&#8217;r ffordd ddi-ddosbarth am ychydig i gyfeiriad pentref y Rhiw. <\/li>\n\n\n\n<li>Trowch i&#8217;r chwith oddi ar y ffordd i ddilyn trywydd Llwybr yr Arfordir ar ffurf bwa drwy gaeau bychain gan fwynhau golygfeydd dramatig o Borth Neigwl tua&#8217;r dwyrain. Rydych yn cyrraedd yn \u00f4l at y ffordd ym mhen isaf y pentref. <\/li>\n\n\n\n<li>Trowch i&#8217;r dde gan ddilyn y ffordd darmac am ychydig cyn troi i&#8217;r chwith ar lwybr arall yn nes ymlaen a disgyn yn raddol i lawr y llechwedd y tu \u00f4l i Blas yn Rhiw. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae llwybr yn mynd \u00e2 chi wedyn drwy&#8217;r coed ac yn \u00f4l i fyny at y maes parcio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Manylion y daith Amcan o hyd: 4.3 km\/2.7 milltir.Amcan o&#8217;r amser: 2 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283. Disgrifiad Rhiw &#8211; Un o&#8217;r pentrefi uchaf yn Ll\u0177n a&#8217;r golygfeydd o Fae Ceredigion a&#8217;r arfordir o Griccieth gyda&#8217;r glannau i lawr mor [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/460"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=460"}],"version-history":[{"count":12,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/460\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1206,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/460\/revisions\/1206"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=460"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}