{"id":520,"date":"2023-04-15T17:16:43","date_gmt":"2023-04-15T16:16:43","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=520"},"modified":"2023-07-18T20:14:25","modified_gmt":"2023-07-18T19:14:25","slug":"cylchdaith-anelog","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=520","title":{"rendered":"Cylchdaith Anelog"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith_Anelog-.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith_Anelog\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith_Anelog-.pdf\">Map Cylchdaith_Anelog<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith_Anelog-.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cylchdaith Anelog &#8211; MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 4 km\/2.4 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 2 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH164268.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pethau i weld ar y daith <\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Gors, Anelog<\/strong> &#8211; Dyma safle Capel Anelog, o bosibl lleoliad cyntaf Cristnogaeth yn Ll\u0177n. Nid oes olion ar \u00f4l heddiw, ond mae\u2019r safle wedi ei nodi fel SH 15602743. Roedd y pererinion cynharaf wedi darganfod llecyn arbennig i encilio iddo ar lethrau mynydd Anelog a sefydlwyd cl\u00e0s yno ganddynt. Dyma, mae\u2019n debyg, leoliad Capel Anelog, un o gapeli coll cynnar Ll\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfuwyd dwy garreg fedd yn dyddio o\u2019r 5ed neu\u2019r 6ed ganrif O.C. ar y safle; un yn coffau Senacus, yr offeiriad a chriw o frodyr, a\u2019r llall yn coffau Veracius. Efallai fod amryw o\u2019r pererinion (brodyr), bregus a fethodd a chwblhau\u2019r daith i Enlli yn eu plith. O gyfeiriad mynydd Anelog llifa afon Saint i Aberdaron. Byddai cyfle i yfed o dd\u0175r meddyginiaethol Ffynnon Saint.<\/p>\n\n\n\n<p>Am flynyddoedd lawer cadwyd y ddwy garreg ym Mhlas Cefnamwlch, Tudweiliog ond maent bellach yn cael eu &nbsp;harddangos yn Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"264\" height=\"304\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/anelog.gif\" alt=\"\" class=\"wp-image-837\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Mynydd Anelog<\/strong> &#8211; Ceir golygfa anhygoel o Ben Ll\u0177n, Eryri a Meirionnydd o fynydd Anelog. Mae\u2019r llethrau serth yn rhedeg yn syth i lawr i\u2019r m\u00f4r a\u2019r pysgotwyr o\u2019u cychod wedi enwi\u2019r cilfachau a\u2019r creigiau sydd yma, lleoedd fel Trwyn Du, Porth Ddofn a Thrwyn Llwyd. Er hyn, gelwir un lle yn Gwely Daniel, lle yr arferai Daniel Pwllwgwr, bysgota. Dywedir bod lladron defaid wedi defnyddio\u2019r ogof, Ogof Llety Si\u00f4n.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"433\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/uwchmynydd-1.jpg\" alt=\"Anelog o Mynydd Mawr\" class=\"wp-image-877\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/uwchmynydd-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/uwchmynydd-1-300x217.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/uwchmynydd-1-111x80.jpg 111w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Mynydd Anelog, Garn Madryn a&#8217;r Wyddfa o Mynydd Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel <\/strong>&#8211;  Dyma\u2019r \u2018mynyddoedd\u2019 yn mhen eithaf Ll\u0177n gyda Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair, yn enwog o Oes y Seintiau, ac yn hynod am fod dwr croyw ynddi er fod yn m\u00f4r yn golchi drosti ar lanw.  Ar y gwastad lle mae\u2019r llwybr yn cychwyn i lawr i\u2019r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Ceir y cofnod cynharaf ohono dyddiedig 1748 ar fap gan Lewis Morris.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffordd goncrit a godwyd amser yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae\u2019r gerdd olaf gyfansoddodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o\u2019r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma\u2019r fan gorau i weld Enlli.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"390\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg\" alt=\"Enlli o Mynydd Mawr\" class=\"wp-image-874\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-300x195.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-123x80.jpg 123w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Enlli o Mynydd Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark><strong> Pwlldefaid<\/strong> &#8211; Arferiad ymlith rhai ffermwyr cyfoethog yn Ll\u0177n fyddai prynu siop ym Mhwllheli i\u2019r ail fab tra byddai\u2019r mab hynaf yn aros gartref i ffermio. Mae siop ym Mhwllheli heddiw o\u2019r enw Pwlldefaid. Un o feibion fferm Pwlldefaid, Uwchmynydd oedd perchennog y siop ar un cyfnod a fo hefyd a sefydlodd y cwmni catalog J. D. Williams ym Manceinion.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Ynys Enlli<\/strong> &#8211; O lwybr Anelog byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a\u2019r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy\u2019n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a\u2019u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i\u2019r ynys drwy gysylltu \u00e2 Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o\u2019r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar \u00f4l. Mae\u2019r traddodiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 sefydliadau mynachaidd Enlli wedi\u2019u dogfennu\u2019n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi\u2019i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy\u2019n rhoi adroddiad cynnar o\u2019r traddodiad bod myrdd o saint wedi\u2019u claddu yno; 20,000 yn \u00f4l adroddiadau diweddarach.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen \u00e2 llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy\u2019i gilydd, ag arysgrif yn coff\u00e1u \u2018Esyllt\u2019, neu enw tebyg, ar un o\u2019r ochrau byr; a charreg \u00e2 si\u00e2p croes arni yn dyddio o\u2019r un cyfnod fwy neu lai.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"280\" height=\"434\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-842\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg 280w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-194x300.jpg 194w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-52x80.jpg 52w\" sizes=\"(max-width: 280px) 100vw, 280px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mwy\u2026..&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/CREFYDDOL.HTML\">Cenhadwyr y 6ed Ganrif<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ym 1012 (s.a. 1011) mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog \u00e2 darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a\u2019r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a\u2019r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a\u2019r drefn Rufeinig i\u2019r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono\u2019n dal i sefyll.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark><strong> Dinas Fawr a Dinas Fach<\/strong> &#8211; Mae\u2019r enwau\u2019n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn \u00f4l. Bellach mae\u2019n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu\u2019r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty\u2019n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau\u2019r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"902\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-788\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-200x300.jpg 200w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-53x80.jpg 53w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Parciwch y car ger Capel Uwchmynydd (SH 1255263). Cychwyn i lawr yr allt a dilyn y l\u00f4n gul ar y dde i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Trwy\u2019r gi\u00e2t gyda\u2019r arwydd yn dynodi \u2018Talcen Foel\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Gwyrwch i&#8217;r dde, heibio blaen Talcen Foel a thrwy&#8217;ddo y porth&#8217;r gi\u00e2t sy&#8217;n arwain i&#8217;r mynydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilynwch y llwybr i&#8217;r chwith i fyny i gopa Mynydd Anelog. (SH 151272) (Gallwch osgoi&#8217;r copa a pharhau ar hyd y llwybr sy&#8217;n ymylu ar y mynydd)<\/li>\n\n\n\n<li>Cerddwch dros y mynydd ac i lawr yr allt i gyfeiriad y gogledd<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd Mount Pleasant (SH 151274) yn dod i&#8217;r golwg. Y llwybr yn parhau heibio&#8217;r bwthyn ar yr ochr sy&#8217;n wynebu&#8217;r m\u00f4r.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhewch i gyfeiriad y gogledd. **<\/li>\n\n\n\n<li>\u2022 Gwnewch weddus yn raddol. Byddwch yn gweld dyffryn bach ar eich dde (i&#8217;r gorllewin). Dilynwch y llwybr i&#8217;r dde, heibio fferm Anelog<\/li>\n\n\n\n<li>Dilynwch yr arwyddion a bydd y llwybr yn arwain at L\u00f4n Anelog. (SH 155 273)<\/li>\n\n\n\n<li>Trowch i\u2019r dde a dilynwch y ffordd, heibio\u2019r Gors nes cyrraedd Ty\u2019n Anelog. (SH 157271)<\/li>\n\n\n\n<li>Dilynwch y llwybr i&#8217;r dde a pharhau heibio Pwlldefaid. (SH 157266)<\/li>\n\n\n\n<li>Daw&#8217;r llwybr allan ger Capel Uwchmynydd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>  <\/p>\n\n\n\n<p>** Gallwch barhau ar hyd llwybr yr arfordir i gyfeiriad Porth Orion (SH 156287), Mynydd Carreg (SH 163291) a Phorthor (SH 165298).<br>O&#8217;r mannau hyn mae llwybrau troed sy&#8217;n cysylltu \u00e2 ffordd yr arfordir (Aberdaron &#8211; Tudweiliog) Ger Capel Carmel \/ Plas Ffordd (SH 155 283)<br>troi i\u2019r dde i L\u00f4n Anelog a pharhau i fyny i Ty\u2019n Anelog (SH 162 273) lle mae\u2019r llwybr yn mynd ymlaen heibio Pwlldefaid ac i Capel Uwchmynydd.<br><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith Anelog &#8211; MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 4 km\/2.4 milltir.Amcan o\u2019r amser: 2 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH164268. Pethau i weld ar y daith 1 Gors, Anelog &#8211; Dyma safle Capel Anelog, o bosibl lleoliad cyntaf Cristnogaeth yn Ll\u0177n. Nid oes [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/520"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=520"}],"version-history":[{"count":15,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/520\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1894,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/520\/revisions\/1894"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=520"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}