{"id":530,"date":"2023-04-16T00:12:37","date_gmt":"2023-04-15T23:12:37","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=530"},"modified":"2023-07-18T20:29:36","modified_gmt":"2023-07-18T19:29:36","slug":"cylchdaith-y-parwyd","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=530","title":{"rendered":"Cylchdaith Y Parwyd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Y-Parwyd.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Y Parwyd\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Y-Parwyd.pdf\">Map Cylchdaith Y Parwyd<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Y-Parwyd.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cylchdaith y Parwyd &#8211; MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 7.4 km\/4.6 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 2.5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Porth Meudwy, SH162 253.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pethau i weld ar y daith <\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark><strong> Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel <\/strong>&#8211; Dyma\u2019r \u2018mynyddoedd\u2019 yn mhen eithaf Ll\u0177n gydag Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynnon Fair<\/strong> (SH 13982519)- Mae\u2019r ffynnon yn enwog oherwydd iddi gael ei defnyddio gan y pererinion yn \u00a0Oes y Seintiau; ac yn hynod am fod d\u0175r croyw ynddi er fod yn m\u00f4r yn golchi drosti ar lanw. Yno byddai\u2019r seintiau yn craffu am olion carnau ceffyl Mair ac olion ei bysedd yn y creigiau cyn yfed o\u2019i d\u0175r sanctaidd a dringo\u2019n \u00f4l i fyny Grisiau Mair. Mewn llythyr, a anfonodd Ieuan Ll\u0177n at Dafydd Ddu Eryri yn 1796 wrth \u00a0s\u00f4n am Ffynnon Fair, Uwchmynydd crybwyllodd fod \u00f4l carn ceffyl yn y graig.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"737\" height=\"800\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Fair.jpg\" alt=\"Ffynnon Fair\" class=\"wp-image-876\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Fair.jpg 737w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Fair-276x300.jpg 276w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Ffynnon-Fair-74x80.jpg 74w\" sizes=\"(max-width: 737px) 100vw, 737px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Enlli o Ffynnon Fair<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Capel Fair <\/strong>(SH 13922534) &#8211; Ar y gwastad lle mae\u2019r llwybr yn cychwyn i lawr i\u2019r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Yno c\u00e2i cyrff y meirw eu cadw wrth ddisgwyl am dywydd ffafriol i groesi i Enlli i\u2019w claddu. Ceir y cofnod cynharaf o Gapel Mair 1748 ar fap gan Lewis Morris yn 1748.<br><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"347\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Fair.jpg\" alt=\"Olion Capel Fair\" class=\"wp-image-1036\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Fair.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Fair-300x174.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Capel-Fair-138x80.jpg 138w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Olion Capel Fair<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae ffordd goncrid a godwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae\u2019r gerdd olaf a ysgrifennodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o\u2019r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma\u2019r fan orau i weld Enlli.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"390\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg\" alt=\"Enlli o Mynydd Mawr\" class=\"wp-image-874\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-300x195.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-123x80.jpg 123w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Enlli o Mynydd Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Y Parwyd <\/strong>&#8211; Dyma ran o\u2019r arfordir gyda\u2019r gelltydd serthaf yn Ll\u0177n. Rydym yn fwy cyfarwydd \u00e2\u2019r enw parwyd yn ei ffurf luosog, parwydydd, ond a ddefnyddir yn gyffredin yma ac ar Drwyn Cilan i ddisgrifio craig serth iawn. Yn 1794 priodwyd dau o\u2019r ardal ac aethant i fyw i D\u0177\u2019n L\u00f4n, Uwchmynydd, gerllaw\u2019r Parwyd. Ymhen rhai blynyddoedd blinwyd hwy gan ddrychiolaeth, ond pan ddarllenid darn o\u2019r Ysgrythur byddai\u2019r ddrychiolaeth yn cilio i gyfeiriad y Parwyd ac yno y byddai\u2019n hofran cyn diflannu. Canlyniad hyn fu i\u2019r p\u00e2r ifanc ymadael a mynd i fyw i Rhwng Ddwyborth, plwyf Bodferin. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr ardal, yn 1801, gollyngwyd peilot o long ar greigiau Grepach. Roedd yn feddw iawn ond rhywsut llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn a mynd i gysgodi mewn corlan ddefaid. Yn y bore bach, a hynny cyn sobri, ceisiodd anelu am ei gartref ond aeth i\u2019r cyfeiriad anghywir a diflannodd dros y dibyn ac i\u2019r m\u00f4r. Dywed Myrddin Fardd mai\u2019r enw addas ar y fan hon yn ei amser ef oedd Pared Gallt Uffern \u201cam ei bod megys yn erchwyn i\u2019r cyfyngfor tonog ac enbydus y sy rhyngddi ag Ynys Enlli\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark><strong> Porth Meudwy<\/strong> (SH 16302550) &#8211;  Dyma un o borthladdoedd bach enwocaf Ll\u0177n a hynny yn bennaf am mai oddi yma yr aiff y cychod i Ynys Enlli. Cyfeirir ato yn 1524 fel Porth Muduy. Ond roedd yn fan prysur iawn cyn hynny gan mai oddi yma y cychwynnai\u2019r pererinion ar eu taith ar draws y Swnt i Enlli. Gerllaw mae ffermydd yn dwyn yr enw Bodermid. Yr un elfen sydd yn hwn \u00e2\u2019r ffurf Saesneg hermit, meudwy yn Gymraeg. Ymwelodd Thomas Pennant \u00e2 Phorth Meudwy yn nechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg a disgrifiodd y fan fel \u201clle cyfleus iawn i bysgotwyr, a noddfa ddiogel rhag stormydd\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark><strong> Swnt Enlli<\/strong> &#8211;  Yr hen enw ar y Swnt yw Ffrydiau Caswennan. Mae trai a llanw\u2019r culfor hwn rhwng Ynys Enlli a\u2019r Tir Mawr yn dywyllodrus iawn a dim ond y mwyaf profiadol fydd yn mentro ar ei draws. Gwelir craig ar ochr y Tir Mawr i\u2019r Swnt a elwir yn Faen Du.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"776\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/swnt.jpg\" alt=\"Swnt Enlli o'r awyr  uwchben Mynydd y Gwyddel\" class=\"wp-image-880\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/swnt.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/swnt-232x300.jpg 232w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/swnt-62x80.jpg 62w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Swnt Enlli o&#8217;r awyr  uwchben Mynydd y Gwyddel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark><strong> Nant yr Hen Lyn Uchaf<\/strong> &#8211; Chwarel sets oedd hon ym Mhorth y Pistyll ar Drwyn Dwmi. Er y bu cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill, fel codi tai a chapel i\u2019r gweithwyr, ni chafwyd llwyddiant. Mae muriau cadarn adeilad y cychwynnwyd ei godi mewn perthynas \u00e2\u2019r gwaith i\u2019w gweld heddiw ar ochr y ffordd rhwng Bodermid a Phen y Cil. Adeiladwyd glanfa yn y m\u00f4r hefyd ond nis defnyddiwyd. Cafwyd damwain angheuol yno yn y tridegau (1930) pan laddwyd Robert Evans, Dynfra, Aberdaron.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Ynys Enlli<\/strong> &#8211; <\/p>\n\n\n\n<p>Un o ynysoedd enwocaf Cymru yn arbennig felly am y credir fod 20,000 o saint wedi\u2019u claddu yno. Roedd yn ynys sanctaidd o\u2019r cychwyn cyntaf un, a chredid fod tair pererindod i Enlli yn gyfystyr ac un i Rufain. Yn y 6ed ganrif O.C.. sefydlodd Cadfan, mynach o Lydaw, yr abaty a bu\u2019r ynys yn gyrchfan pererinion byth ers hynny.<br>Bellach mae\u2019n eiddo i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, gellir treulio cyfnod yno a threfnir teithiau diwrnod o\u2019r Tir Mawr. Mae\u2019n gyrchfan i adarwyr gan ei fod yn denu adar prin iawn ar eu teithiau ymfudol.<\/p>\n\n\n\n<p>O lwybr Y Parwyd byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a\u2019r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy\u2019n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a\u2019u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i\u2019r ynys drwy gysylltu \u00e2 Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o\u2019r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar \u00f4l. Mae\u2019r traddodiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 sefydliadau mynachaidd Enlli wedi\u2019u dogfennu\u2019n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi\u2019i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy\u2019n rhoi adroddiad cynnar o\u2019r traddodiad bod myrdd o saint wedi\u2019u claddu yno; 20,000 yn \u00f4l adroddiadau diweddarach.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen \u00e2 llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy\u2019i gilydd, ag arysgrif yn coff\u00e1u \u2018Esyllt\u2019, neu enw tebyg, ar un o\u2019r ochrau byr; a charreg \u00e2 si\u00e2p croes arni yn dyddio o\u2019r un cyfnod fwy neu lai.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"280\" height=\"434\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-842\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2.jpg 280w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-194x300.jpg 194w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/2-52x80.jpg 52w\" sizes=\"(max-width: 280px) 100vw, 280px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mwy\u2026..&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/CREFYDDOL.HTML\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Cenhadwyr y 6ed Ganrif<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ym 1012  mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog \u00e2 darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a\u2019r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a\u2019r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a\u2019r drefn Rufeinig i\u2019r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono\u2019n dal i sefyll.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Parcio yn maes parcio\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol uwchben Porth Meudwy (SH 162 253). (O ffordd Aberdaron i Uwchmynydd dylid dilyn y ffordd sy\u2019n arwain i gyfeiriad maes carafanau Tir Glyn). Neu gellir cerdded i Borth Meudwy ar hyLlwybr Arfordir Ll\u0177n o Aberdaron.<\/p>\n\n\n\n<ul>\n<li>Cerdded i lawr y llwybr i Borth Meudwy o\u2019r maes parcio<\/li>\n\n\n\n<li>Dringo\u2019r allt tua\u2019r de ar Lwybr Arfordir Ll\u0177n a dilyn hwnnw nes bron a chyrraedd Craig Cwlwm (creigiau ar ben yr allt)<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn Llwybr Arfordir Ll\u0177n i ffwrdd oddi wrth y m\u00f4r, croesi caeau a dod allan i\u2019r ffordd fawr. (dwy fferm Bodermid gerllaw)<\/li>\n\n\n\n<li>Troi i\u2019r chwith ac ymlaen heibio i adeilad cerrig di-do (Gwaith Trwyn Dwmi) yn y cae dros y ffordd. (SH 158251)<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i ben draw\u2019r ffordd a thrwy giat ger M\u00f4r Awelon (SH 158248)<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau eto ymlaen at gamfa. (SH 154 246) ger Grepach. Yma gellir dewis mynd dros y gamfa a cherdded i Ben y Cil (SH 157240) (Ymdd. Gen.) lle ceir golygfeydd o Swnt Enlli a Bae Ceredigion a\u2018r Parwyd &#8211; ar y dde &#8211; gyda\u2019i elltydd serth iawn. Yna dychwelyd at y gamfa.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r llwybr yn dilyn yr arfordir trwy fynd trwy giat a cherdded i dir yr Ymdd. Gen. &#8211; Mynydd Bychestyn.(SH 151244) Parhau ar y llwybr, heibio corlan, nes dod at gychwyn ffordd dar yn arwain i lawr i\u2019r dde. (SH 149248) (I\u2019r chwith gwelir dau dyddyn ac Ynys Enlli tu hwnt iddynt)<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn y ffordd dar nes dod i arwydd Llwybr Arfordir Ll\u0177n yn arwain i\u2019r chwith.<\/li>\n\n\n\n<li>Ym mhen draw\u2019r llwybr (ger t\u0177 Mawr) (SH 144 256) byddwch yn ymuno a ffordd dar Uwchmynydd i Fynydd Mawr. Dilyn y ffordd honno i\u2019r dde i gyfeiriad Uwchmynydd ac ymlaen nes cyrraedd Pen Bryn Bach (bwyty) (SH 150 258). Yno mae llwybr i\u2019r gorllewin sy\u2019n arwain i lon dar arall.<\/li>\n\n\n\n<li>Dal i\u2019r dde ar y ffordd honno am ychydig ac i lwybr ar y chwith sy\u2019n mynd ar ben clawdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Daw\u2019r llwybr pen clawdd allan ger Tir Glyn. (SH 157257)<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn y ffordd da i\u2019r chwith nes dychwelyd at y maes parcio. (Ychydig ymlaen ar y chwith mae fferm Cwrt.)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith y Parwyd &#8211; MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 7.4 km\/4.6 milltir.Amcan o\u2019r amser: 2.5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Porth Meudwy, SH162 253. Pethau i weld ar y daith 1 Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel &#8211; Dyma\u2019r \u2018mynyddoedd\u2019 yn mhen eithaf Ll\u0177n gydag [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/530"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=530"}],"version-history":[{"count":15,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/530\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1898,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/530\/revisions\/1898"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=530"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}