{"id":56,"date":"2017-03-21T22:24:41","date_gmt":"2017-03-21T22:24:41","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=56"},"modified":"2023-04-26T12:35:50","modified_gmt":"2023-04-26T11:35:50","slug":"penarfynydd","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=56","title":{"rendered":"Cylchdaith Penarfynydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Penarfynydd.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Penarfynydd\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-3fcaa7ae-ee66-406a-a4af-ca5ebaee04e8\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Penarfynydd.pdf\">Map Cylchdaith Penarfynydd<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Penarfynydd.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-3fcaa7ae-ee66-406a-a4af-ca5ebaee04e8\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Manylion y daith<br><\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 8.1 km\/5 milltir.<br>Amcan o&#8217;r amser: 2.5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Cychwyn o ganol pentref Rhiw (SH 226277)<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">PETHAU I WELD AR Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Rhiw&nbsp;<\/strong>\u2013 Un o\u2019r pentrefi uchaf yn Ll\u0177n a\u2019r golygfeydd o Fae Ceredigion a\u2019r arfordir o Griccieth gyda\u2019r glannau i lawr mor bell ag Aberystwyth yn destun edmygedd ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd. Y pentref ei hun ar wasgar o&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/Nebo.html\">gapel Nebo<\/a>&nbsp;yr Annibynwyr i&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/eglwys%20rhiw.html\">Eglwys St Aelrhiw<\/a>&nbsp;filltir i\u2019r gorllewin. Yr eglwys heb wasanaethau erbyn hyn a\u2019r plwyf wedi ei uno a phlwyf LLanfaelrhys i\u2019r de rhwng y Rhiw ag Aberdaron.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/11.html\">olion hen fywyd<\/a>&nbsp;ar ochr y Rhiw o gwmpas y&nbsp;Castell, a thai a m\u00e2n dyddynnod eraill. Cafwyd hyd i olion mynwent gynnar ar dir Coch-y-moel, ac y mae enwau llawer o\u2019r ffermydd a\u2019r tai yn awgrymu sefydliad cynnar.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o\u2019r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. ol cloddio pump o dyllau i godi\u2019r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark><strong> Creigiau Gwinau<\/strong>\u00a0(SH 228274)\u2013 Caer o Oes yr Haearn (tua 600 C.C.) mewn safle drawiadol iawn uwchben Porth Neigwl a golygfeydd o Eryri, Meirionnydd a Phen Ll\u0177n. Mae\u2019r fryngaer hon ar grib Mynydd y Graig. Ychydig o olion sydd i\u2019w gweld \u2013 rhai cytiau crwn y unig. Llwyddon nhw i godi caer trwy ddefnyddio\u2019r tirwedd naturiol \u2013 y graig yn rhagfuriau a\u2019r allt serth tua\u2019r deddwyrain yn amddiffynfeydd effeithiol iawn.  Mae&#8217;r amddiffynfa yma yn defnyddio y crib serth naturiol fel mur ar hyd yr ochr ogleddol. Y mae&#8217;r tir yn gostwng yn fwy graddol ar yr ochr ddeheuol o&#8217;r amddiffynfa hyd nes y ceir ochr serth i lawr i&#8217;r m\u00f4r. Bryngaer hirgrws sydd yma a&#8217;i maint yn 400 troedfedd o hyd wrth 188 troedfedd o led.  <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/rhiw\/gwineu.html#1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"402\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/o-gwineu.jpg\" alt=\"O Creigiau Gwineu\" class=\"wp-image-1185\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/o-gwineu.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/o-gwineu-300x201.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/o-gwineu-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">O Creigiau Gwineu<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> Eglwys Llanfaelrhys<\/strong>&nbsp;\u2013  Sant arall a ddaeth o Lydaw yn y canrifoedd cynnar oedd Maelrhys, cefnder i Cadfan a Hywyn. Yma yn Llanfaelrhys y ceir yr unig eglwys yng Nghymru a sancteiddiwyd iddo. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a\u2019r Rhiw ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe\u2019u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i\u2019r llall disgynnodd barn Duw arnynt a\u2019u troi\u2019n ddwy golofn ithfaen.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"642\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w.jpg\" alt=\"Eglwys Llanfaelrhys\" class=\"wp-image-1157\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w-280x300.jpg 280w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys1-w-75x80.jpg 75w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llanfaelrhys<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Maen Hir Tan Y Foel <\/strong>(SH 226276)- Gwelir hwn yn y clawdd ar ochr chwith y ffordd drol sy\u2019n arwain o Dan y Foel, Rhiw tuag at Greigiau Gwinau. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a\u2019r Rhiw ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe\u2019u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i\u2019r llall disgynnodd barn Duw arnynt a\u2019u troi\u2019n ddwy golofn ithfaen. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"402\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys.jpg\" alt=\"Maen Hir Llanfaelrhys\" class=\"wp-image-1159\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys-300x201.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/maelrhys-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Maen Hir Llanfaelrhys<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Penarfynydd<\/strong> &#8211; Dyma\u2019r darn o dir sy\u2019n ymestyn i\u2019r m\u00f4r gan wahanu bae Porth Ysgo a Phorth Neigwl. Mae\u2019r trwyn ei hun a elwir yn Drwyn Talfarach yn eiddo i\u2019r Ymddiriedlolaeth Genedlaethol ac ohono ceir golygfeydd arbennig i gyfeiriad Ynys Enlli. Yn y panorama hwn yn ogystal ag Enlli gwelir Ynysoedd Gwylanod, Carreg Cybi ar flaen Trwyn y Penrhyn, Porth Cadlan gyda\u2019i orynys Maen Gwenonwy a Phorth Ysgo, Porth Alwm a Phorth Llywenan.<br>Mae gwaith carffosiaeth rhwng Penarfynydd a Mynydd y Graig ac wrth ddal i\u2019r de-ddwyrain o hwnnw gellir dilyn Llwybr Arfordir Ll\u0177n uwchben Porth Neigwl ac yn \u00f4l i\u2019r Rhiw neu ddilyn y ffordd gul heibio Carreg Lefain, eto yn \u00f4l i\u2019r Rhiw.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Porth Ysgo<\/strong> \u2013 Porth Ysgo sy\u2019n dilyn gyda\u2019i olion diwydiannol, dieithr i L\u0177n. Bu cryn fri yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan allforid y mangan\u00ees a gloddid o\u2019r gelltydd cyfagos. Mae s\u00f4n fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio yma ganrifoedd ynghynt, gan ddefnyddio\u2019r mwyn i lifo dillad. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ailddechreuwyd cloddio ym Mynydd y Rhiw ac i lawr Nant y Gadwen i gyfeiriad Porth Ysgo.<br>C\u00e2i\u2019r mango o\u2019r Rhiw ei gario mewn troliau at ffrwd lle byddai\u2019r gwragedd yn ei olchi. Yna eid ag ef mewn ceir llusg i Borth Neigwl i\u2019w lwytho ar longau. Pan sylweddolwyd fod galw am y mango, rhedwyd weiar-r\u00f4p i lawr i lanfa a godwyd wrth ymyl y Graig Ddu, o dan y Garth ym Mhorth Neigwl. Yn ystod gaeaf 1910-11 dinistriwyd y lanfa ac ni atgyweiriwyd hi wedyn. Codwyd glanfa ym Mhorth Ysgo hefyd a rhedwyd rheilffordd i lawr ati o Fynydd y Rhiw. Yn nechrau\u2019r ganrif roedd ardal y Rhiw yn cynhyrchu 90% o fangan\u00ees gwledydd Prydain, gan gyflogi hyd at ddau gant o weithwyr. Bu unwaith fwriad i ymestyn y rheilffordd o Bwllheli i\u2019r Rhiw, ond ni pharhaodd y bri. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2.jpg\" alt=\"'Winch' Nant Gadlan, Porth Ysgo\" class=\"wp-image-861\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">&#8216;Winch&#8217; Nant Gadlan, Porth Ysgo<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ailagorwyd y mwynfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i\u2019w cau\u2019n derfynol ym mis Rhagfyr 1945. Ym Mhorth Ysgo mae craig yn dwyn yr enw Carreg y Ring oherwydd fod arni hithau, fel aml un arall, ddolen i glymu llongau wrthi. Mae Pistyll y Gaseg yn rhaeadru i lawr o ben yr allt i draeth caregog tawel. Ceir Pwll y Gaseg yma hefyd yn yr un rhan o\u2019r traeth. Ym mhen dwyreiniol Porth Ysgo ceir Porth Alwm &#8211; Porth Alm ar lafar &#8211; ac i\u2019r lle hwn y rhed Nant y Gadwen. Gwelir trwyn bychan ar y map yn gwahanu Porth Alm oddi wrth Borth Ysgo. Dyma\u2019r Trwyn Coch. Yng nghwr dwyreiniol Porth Ysgo ceir Carreg Oswald.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">CYFARWYDDIADAU<\/h2>\n\n\n\n<p>Cychwyn o ganol pentref Rhiw (SH 226277). Parcio mewn man cyfleus.<\/p>\n\n\n\n<ul>\n<li>Dilyn y ffordd gul i\u2019r de-orllewin (gyda thalcen Y Groesffordd ac yn ymyl Tan y Foel troi i\u2019r chwith i fyny l\u00f4n drol. (Maen hir yn y clawdd ar y chwith)<\/li>\n\n\n\n<li>Gyferbyn \u00e2 \u2018Therfyn Uchaf\u2019 mynd dros gamfa a dal i\u2019r chwith at gamfa arall yn wal y mynydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mynd dros y gamfa a cheir dewis Dringo\u2019r llethr efo\u2019r wal i fyny at gamfa bren ac odre\u2019r creigiau. Dyma Greigiau Gwinau (SH 228274). Mae\u2019r llwybr yn mynd i\u2019r de orllewin ar dir yr Ymdd. Gen. ar Fynydd y Graig.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn y man gwelwch dyddynnod ar y dde a chraig o\u2019ch blaen. Cyn cyrraedd y graig rhaid dal i\u2019r dde ac yn fuan byddwch yn dod at waith carffosiaeth (SH 223 267) neu Cerdded i\u2019r chwith ar hyd Llwybr Arfordir Ll\u0177n tua\u2019r gogledd-ddwyrain ac ymlaen o gwmpas Mynydd y Graig.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi cyrraedd i\u2019w gwr deheuol deuwch at waith carffosiaeth (SH 223267)<\/li>\n\n\n\n<li>Dringo eto\u2019n raddol ar dir yr Ymdd. Gen. (Penarfynydd) i gopa Mynydd Penarfynydd (SH 220265) a drosodd i gyfeiriad Trwyn Talfarch (SH 216259) lle ceir golygfeydd arbennig eto.<\/li>\n\n\n\n<li>Troi yn \u00f4l i gyfeiriad y copa ond dilyn llwybr i\u2019r chwith a disgyn yn raddol at fferm Penarfynydd (SH 219266). (Gellir cwtogi\u2019r daith yma trwy ddilyn l\u00f4n fferm Penarfynydd yn \u00f4l, heibio T\u0177 Croes Mawr, i bentref Rhiw.)<\/li>\n\n\n\n<li>O Benarfynydd dilyn llwybr ar draws cae i\u2019r gorllewin a dod allan ar ffordd Rhiw \u2013 Llanfaelrhys (SH 215268)<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn y ffordd i\u2019r gorllewin heibio Llawenan a dal i\u2019r chwith i lawr dyffryn bychan sy\u2019n arwain i Borth Ysgo (SH 207264)<\/li>\n\n\n\n<li>Dal i\u2019r dde uwchben Porth Ysgo a pharhau ymlaen ar y llwybr hwnnw nes dod allan yn fferm Ysgo.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn y ffordd i\u2019r de (dwyrain) a heibio Eglwys Llanfaelrhys nes dod yn \u00f4l at geg y llwybr sy\u2019n arwain i lawr i Borth Ysgo.<\/li>\n\n\n\n<li>Ar y chwith yno mae llwybr yn mynd dros gamfa i\u2019r cae.<\/li>\n\n\n\n<li>Mynd o gamfa i gamfa ar draws y caeau nes dod allan i ffordd fawr (Rhiw i Lanfaelrhys (SH 216270)<\/li>\n\n\n\n<li>Cerdded i\u2019r chwith ar y ffordd honno nes gweld arwydd llwybr cyhoeddus ar y dde gyferbyn \u00e2 Bryndol (SH 217272).<\/li>\n\n\n\n<li>Cerdded i\u2019r dwyrain, heibio murddyn ac allan yn ei ben draw ger Bryn Golau (SH 224275).<br>Mynd heibio Bryn Golau a Thanyfoel ac allan i\u2019r groesffordd yn Rhiw lle cychwynnodd y daith.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Manylion y daith Amcan o hyd: 8.1 km\/5 milltir.Amcan o&#8217;r amser: 2.5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Cychwyn o ganol pentref Rhiw (SH 226277) PETHAU I WELD AR Y DAITH Rhiw&nbsp;\u2013 Un o\u2019r pentrefi uchaf yn Ll\u0177n a\u2019r golygfeydd o Fae Ceredigion a\u2019r arfordir o Griccieth gyda\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/56"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=56"}],"version-history":[{"count":12,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/56\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1190,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/56\/revisions\/1190"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=56"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}