{"id":61,"date":"2017-03-21T23:48:40","date_gmt":"2017-03-21T23:48:40","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=61"},"modified":"2023-04-26T17:47:22","modified_gmt":"2023-04-26T16:47:22","slug":"tudweiliog-porth-ysgaden","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=61","title":{"rendered":"Cylchdaith Tudweiliog (Porth Ysgaden)"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Porth-Ysgaden.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Porth Ysgaden\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Porth-Ysgaden.pdf\">Map Cylchdaith Porth Ysgaden<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Porth-Ysgaden.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-77033b96-175c-4091-be1d-608ef3948502\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 4.7 km\/3 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 2 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Cychwyn ym maes parcio\u2019r \u2018Lion\u2019 (SH 236367)<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pethau i weld ar y daith <\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1  <\/mark><strong> Tudweiliog<\/strong> &#8211; <strong>Y<\/strong>\u00a0mae Pentref Tudweiliog yn sefyll a&#8217;r fryn bach, sydd wedi ei amgylgylchynu a thir porri isel, ar arfordir Gogleddol Ll\u0177n. Mae wedi ei leoli ar y B4417 rhwng Edern a Llangwnnadl, wrth ochr afon Amwlch, a tua 1km oddi wrth yr arfordir a thraeth Porth Tywyn. Dywedir mai Tudwal oedd y sant gwreiddiol y plwyf ac mai ef a roddodd ei enw i\u2019r pentref. Eglurir enw\u2019r pentref hefyd gyda stori am ddyn a\u2019i geffyl yn nofio o Iwerddon i L\u0177n, ac er mwyn annog y ceffyl i nofio\u2019n gyflymach mae\u2019n galw arno \u201cTy\u2019d Weiliog! Ty\u2019d Weiliog\u201d!\u2019 Eglurhad arall yw bod modd ers talwm groesi ar gefn ceffyl i Iwerddon ar drai. Wrth ddychwelyd i Dudweiliog ar gefn ei geffyl o\u2019r enw Gweiliog, clywodd y person gloch yr eglwys yn galw\u2019r plwyfolion. Ceisiodd ruthro\u2019i geffyl a gweiddi \u2018Tyrd Weiliog\u2019! Awgrymir hefyd fod yr enw\u2019n gysylltiedig \u00e2 Sant Tudwal.  <\/p>\n\n\n\n<p>Doedd dwylo teuluoedd y bonedd ddim yn l\u00e2n o smyglo na mor-ladrata chwaith. Bu Huw Gruffudd (? \u2013 1603), mab sgweiar Cefnamwlch yn gapten ar Pendragon, llong a ddefnyddiai i gludo arfau a chario ysbail. C\u00e2i gymorth gan William Jones Castellmarch a ddaeth yn brif farnwr Iwerddon. Roedd gan deulu Cefnamwlch long fechan a ddadlwythai ar Ynysoedd Enlli a Thudwal ac yn \u00f4l traddodiad roedd twnnel yn rhedeg o ardd Cefnamwlch i fferm Gwyndy. Roedd twnnel arall yn ymestyn o Dyddyn Isaf, Tudweiliog i greigiau\u2019r m\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/compages\/tudweiliog\/tudweiliog.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy o Hanes&#8230;.<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"486\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudweiliog1.jpg\" alt=\"Tudweiliog\" class=\"wp-image-1186\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudweiliog1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudweiliog1-300x243.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tudweiliog1-99x80.jpg 99w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tudweiliog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Eglwys Tudweiliog<\/strong>&#8211; Nawddsant yr eglwys yw Cwyfan. Ef hefyd sefydlodd eglwysi yn Llangwyfan, Dinbych ac ar Ynys Cwyfan ym M\u00f4n. Cynlluniwyd yr eglwys bresennol gan Syr Gilbert Scott a\u2019i hadeiladu yn 1849 o garreg leol. Mae\u2019n rhaid bod eglwys Cwyfan Sant wedi bod yn ganolbwynt i\u2019r gymuned hon erioed. Ym 1564 rhoddwyd tir yn Nhudweiliog i John ap Gruffydd ap David ap Madog o Fadryn &#8211; tir a oedd yn arfer bod yn rhan o ddaliadau Enlli &#8211; i\u2019w ddal mewn ffi fferm gan John Wyn ap Hugh o Fodfel. Mae enwau\u2019r cydrannau\u2019n ddiddorol: tenement o\u2019r enw Hengwrt neu, yn lle hynny, y Cae Mawr, a oedd yn cynnwys Dryll Cerrig Llwydion; yr Hirdir Mawr; Erw\u2019r Eglwys; Llain yr Abad; y Talarau Hiron a Llain dan y cae mawr. Mae\u2019r caeau\u2019n cyfeirio at diroedd \u00e2r meysydd agored; at yr eglwys; at abad, a allai fod yn gyfeiriad at gymuned glas flaenorol a \u2018Hengwrt\u2019 anhysbys. Ailadeiladwyd eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog, yn gyfan gwbl ym 1849 gan y pensaer George Gilbert Scott.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/tudweiliog\/4.jpg\" alt=\"\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/gallery\/tudweiliog\/10.jpg\" alt=\"\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Fe&#8217;i adeiladwyd ar safle lle bu adeilad canol oesol (sonwyd amdano yn 1254 ac yn ddiweddarach fel un o capeli Abaty Enlli. Symudwyd y bedyddfaen C14 or eglwys wreiddiol a gellir ei weld heddiw yng ngardd Cefnamlwch, yn ogystal a cherrig addurniadol or eglwys sydd mewn wal yn ymyl porthdy y plas. Mae yna arysgrifen ar gloch yr eglwys &#8216;Tydwielog \/ 1734 made in Dublin.&#8217; Mae cerrig coffa yn y fynwent- Francis Jones of Llangoed 1680, a Jane Trygarn 1683.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Tywyn<\/strong> &#8211; Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau &#8211; y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Traeth Tywyn<\/strong> &#8211; (SH 23103755) Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma\u2019r Ebol \u2013 mae \u00f4l carn ebol i\u2019w weld arni. Pan fyddai \u00f4l y carn wedi\u2019i orchuddio \u00e2 thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau\u2019r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o\u2019r ardal luchio\u2019r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau\u2019n codi yn eu gwerth! <\/p>\n\n\n\n<p>Daw Cerrig Delysg i\u2019r golwg ar drai ac arni wymon o\u2019r enw \u2018delysg\u2019 \u2013 gwymon bwytadwy. (Lladin \u2013 Fucus palmatus.)<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Porth Sglaig<\/strong> &#8211;  Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i\u2019r m\u00f4r Gwelir olion melin o\u2019r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y m\u00f4r mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog.  Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill.  Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety\u2019r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Porth Cychod<\/strong> (SH 22073754) &#8211; Fel yr awgryma\u2019r enw ym Mhorth Cychod cadwai pysgotwyr Tudweiliog a Phenllech eu cychod. Cysylltir y fan hyn a digwyddiad arbennig iawn. Un bore ym mis Mawrth 1933, cychwynnodd dau lanc ifanc allan mewn cwch i osod cewyll, ond collasant eu rhwyfau. Fe\u2019u cariwyd allan i\u2019r m\u00f4r gan y gwynt a\u2019r llanw a\u2019r diwedd fu iddynt gael eu golchi i\u2019r lan yn Kilkeel yng ngogledd Iwerddon. Gallwch ddychmygu\u2019r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a\u2019r llawenydd pan gafwyd y neges fod yr hogiau\u2019n<br>ddiogel.<br>Tybed beth fyddai eu tynged pe bai\u2019r gwynt wedi chwythu ychydig mwy i\u2019r gorllewin a\u2019u gyrru heibio gogledd Iwerddon. Ar yr allt gwelir adeilad a fu unwaith yn fan i deulu Cefnamwlch gysgodi pan ddeuent i fwynhau\u2019r haul ac awel y m\u00f4r yn ystod yr haf. Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol ydi fod y tri brawd Tir Dyrys, Rhoshirawun a foddodd dri mis yn ddiweddarach ym Mhorth Widlin (Porth Fesyg) yn gefndryd i un o\u2019r bechgyn.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"280\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod.jpg\" alt=\"Porth Cychod\" class=\"wp-image-1195\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod-300x140.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod-171x80.jpg 171w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Cychod<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Porth Ysgaden <\/strong>&#8211; Un o\u2019r porthladdoedd bychain a fu\u2019n brysur yn gwasanaethu ardal wledig Pen Ll\u0177n, ardal brin ei thrafnidiaeth ar dir. Deuai llongau bychain yma rhyw hanner dwsin o weithiau bob blwyddyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn \u00f4l David Thomas.<br>Yn y ganrif flaenorol deuent o Lerpwl a Chaer yn bennaf gan fewnforio nwyddau megis llestri, haearn, lledr, pyg, tar, baco, snisin, te, coffi, gwin, siwgr, orennau ac ati. Deuid \u00e2 s\u00f4p wast yn falast o Iwerddon i\u2019w chwalu ar y caeau fel gwrtaith i\u2019r tir, ynghyd \u00e2 chanhwyllau gw\u00ear, lliain, a chasgenni gweigion i\u2019r penwaig.<br><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Porth Ysgaden a Porth Cychod\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/aaDs8csshNs?start=7&#038;feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Un tro, ym mis Awst 1759, daeth pum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth Ysgaden. Deuid \u00e2 glo yma wrth gwrs ac mae\u2019r ierdydd i\u2019w gweld heddiw. Pan ddiflannodd y dreth ar y glo yn 1813 cynyddodd y mewnforio. Deuai llongau\u2019n gyson o\u2019r meysydd glo a pharhaodd y \u2018Maggie Purvis\u2019 a\u2019r \u2018Tryfan\u2019 i gludo glo hyd ddechrau\u2019r Ail Ryfel Byd i Borthdinllaen a Phorth Ysgaden.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewnforid hefyd galch a chodwyd odyn i\u2019w losgi. Arferai gwragedd yr ardal ymgynnull i wau a chadw\u2019n gynnes wrth d\u00e2n yr odyn. Ar ddechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynnyrch fferm a allforid &#8211; nwyddau megis menyn a chaws.<\/p>\n\n\n\n<p>Arferai\u2019r murddun a welir ar ben yr allt fod yn gartref i saer cychod a\u2019i deulu. Ar dywydd garw arferai\u2019r fam grogi cannwyll yn y ffenestr i rybuddio llongau fod creigiau ysgithrog islaw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden.jpg\" alt=\"Porth Ysgaden\" class=\"wp-image-1192\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Ysgaden<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Cychwyn ym maes parcio\u2019r \u2018Lion\u2019 (SH 236367) ac i\u2019r ffordd fawr (B4417)<\/li>\n\n\n\n<li>Dal i\u2019r chwith i ganol y pentref ac ymlaen nes dod at l\u00f4n drol sy\u2019n arwain i\u2019r chwith i Faes Carafanau Tyn Llan.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn y ffordd honno ac wrth fynedfa\u2019r maes carafanau a dilyn arwydd llwybr cyhoeddus (Llwybr Arfordir Ll\u0177n) i\u2019r dde.<\/li>\n\n\n\n<li>Wrth ddod allan ger fferm Tywyn (SH 232374) ar Ffordd yr Arfordir mynd am lwybr sy\u2019n arwain at Draeth Tywyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Cerdded tua\u2019r de-orllewin ar hyd Llwybr Arfordir Ll\u0177n ar hyd ben yr allt ac i Borth Ysgaden (SH 219374) (lle mae murddyn ar ben yr allt). Mynd heibio\u2019r odyn galch ac i\u2019r chwith, gan adael yr arfordir a dilyn l\u00f4n drol i Ffordd yr Arfordir.<\/li>\n\n\n\n<li>Troi i\u2019r chwith heibio fferm Porth Ysgaden (SH 225370).<\/li>\n\n\n\n<li>Ar y dde gwelir llwybr yn arwain trwy\u2019r caeau i gyfeiriad Tudweiliog.<\/li>\n\n\n\n<li>Heibio T\u0177 Hir (SH 231366), dal i\u2019r chwith wrth y Felin ac i fyny heibio Ysgol Tudweiliog.<\/li>\n\n\n\n<li>Dychwelyd i faes parcio\u2019r \u2018Lion\u2019.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 4.7 km\/3 milltir.Amcan o\u2019r amser: 2 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Cychwyn ym maes parcio\u2019r \u2018Lion\u2019 (SH 236367) Pethau i weld ar y daith 1 Tudweiliog &#8211; Y\u00a0mae Pentref Tudweiliog yn sefyll a&#8217;r fryn bach, sydd wedi ei amgylgylchynu a thir [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/61"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=61"}],"version-history":[{"count":18,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/61\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1218,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/61\/revisions\/1218"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=61"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}