{"id":659,"date":"2023-04-17T23:28:48","date_gmt":"2023-04-17T22:28:48","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=659"},"modified":"2023-07-28T00:54:39","modified_gmt":"2023-07-27T23:54:39","slug":"llwybr-nefyn-i-llangwnnadl","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=659","title":{"rendered":"Llwybr Nefyn &#8211; Llangwnnadl"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Nefyn-Llangwnnadl.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:650px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Nefyn - Llangwnnadl\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-006a03b4-0df2-4d24-bad9-e165140119ce\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Nefyn-Llangwnnadl.pdf\">Map Nefyn &#8211; Llangwnnadl<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Nefyn-Llangwnnadl.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-006a03b4-0df2-4d24-bad9-e165140119ce\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<p>Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- <a href=\"#nefyn\" title=\"\">Nefyn &#8211; Llangwnnadl<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-cyan-bluish-gray-color has-text-color\"><strong>LLWYBR  NEFYN \u2013 LLANGWNNADL MANYLION Y DAITH<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o\u2019r hyd: 19.2km\/ 12 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 6 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Penllech (SH 205346) \/ Nefyn (SH307405)<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Nefyn<\/strong> &#8211; Saif y dref ar dir eithaf gwastad, tua 100 troedfedd uwch lefel y m\u00f4r a \u00a0chwarter milltir, yn fras, i\u2019r tir o\u2019r clogwyni clai sy\u2019n edrych dros y bae cysgodol a ffurfia harbwr naturiol Porth Nefyn. Mae\u2019r adeiladu wedi ymestyn ar hyd yr arfordir erbyn heddiw ond pery\u2019r rhan fwyaf o\u2019r ardal yn borfa iseldirol o hyd ag eithrio\u2019r de ddwyrain, lle saif\u00a0<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/gallery\/boduan\/4.html\"><strong>Garn Boduan<\/strong><\/a>\u00a0a\u2019r mynyddoedd cyfagos yn gefn cadarn iddi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Tywysogion Gwynedd<\/strong>&nbsp;\u2013 Tardda\u2019r fwrdeistref o\u2019r hon a gyfrifir yn un o faenordai mwyaf tywysogion Gwynedd yn hwyr yn y 12fed ganrif &nbsp;neu\u2019n gynnar yn y 13eg. Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol yn 1306-7. Adlewyrchir pwysigrywdd y faenor, yn y gorffennol, yn enwau\u2019r strydoedd&nbsp; megis, Stryd y Plas, Bryn Mynach. Nefyn oedd canolfan yr hen gwmwd Dinllaen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Edward 1<\/strong>&nbsp;\u2013 Cafodd Nefyn ymweliad gan Edward I yn 1284, a chynhaliwyd \u2018Bwrdd Crwn\u2019 neu dwrnamaint yno i ddathlu ei goncwest dros Wynedd. Casgliad o gaeau yn ymestyn oddi tan Yst\u00e2d Tai Iorwerth tua&nbsp;&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/gallery\/nefyn\/7.html\">Capel Seion<\/a>&nbsp;(tua 300 mtr o\u2019r gogledd \u2013 de wrth 80, gyda llethr serth ar y Gorllewin (SH30774027) yw Cae Iorwerth. Derbynir yn lleol mai yno y cynhaliwyd y twrnamaint. Yn y Tithe Award Schedule 1838-42 ffurfia\u2019r caeau yma ran o ardal fwy o\u2019r enw Cae Thomas lle roedd rhafflan a allai fod yn achos lefelu artiffisial. Yn 1833 rhoddwyd i\u2019w leoliad tybiedig glawdd cylchog ger l\u00f4n Edern, ond nid oes unrhyw awgrym o\u2019i fodolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Siarter Frenhinol&nbsp;<\/strong>\u2013 Derbyniodd Nefyn siarter frenhinol yn 1355 gan y Tywysog Du, a bu\u2019n ganolfan bwysicaf Ll\u0177n gyda\u2019i masnach bysgod a phwysigrwydd mawr ei chysylltiadau morol. Daethai\u2019r llyngesau o gychod bach \u00e2 chymaint o benwaig i Nefyn ar un cyfnod nes y bu\u2019n rhaid eu taflu ar y tir fel gwrtaith; a dim rhyfedd felly i\u2019r penwaig ddod yn rhan o arfbais Nefyn. Gwerthid y pysgod mewn trioedd \u201cmwrw\u201d, a dyna pam mai tri pennog sydd ar yr arfbais. Cyfeiria trigolion Pen Ll\u0177n at bobl Nefyn fel Penwaig hyd heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Eglwys Santes Fair&nbsp;<\/strong>\u2013 Si\u00e2p llong sydd i\u2019r ceiliog gwynt sy\u2019n eistedd ar ben&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/gallery\/nefyn\/2.html\"><strong>Eglwys y Santes Fair<\/strong><\/a>&nbsp;(bellach yn&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/Hanes\/MORWROL.HTML#museum\"><strong>amgueddfa forwrol<\/strong><\/a>), gan ddangos eto bwysigrwydd y m\u00f4r mewn cyfnod diweddarach, fel y gwna llawer o enwau\u2019r tai a\u2019r lleoedd. Y m\u00f4r oedd y ffordd rwyddaf o gludo pethau i L\u0177n a\u2019u cludo oddi yma hyd nes y daeth y rheilffordd i Bwllheli ac y gwellodd cyflwr y ffyrdd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y T\u0175r&nbsp;<\/strong>\u2013 Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol o 1306-7. Ond yr unig adeilad sydd wedi goroesi o\u2019r cyfnod cyn y 18fed ganrif yw mwnt difrodedig \u2018Y T\u0175r\u2019. Ni ddengys cynllun y dref unrhyw arwydd o gysondeb o ran patrwm a gysylltir gyda bwrdeistrefi Edwardaidd fel Conwy neu Gaernarfon, a does dim prawf iddi gael ei hatgyfnerthu chwaith. Y mae\u2019r T\u0175r ( ar ben mwnt) a pharhaodd ei sylfaen yn solad tan yn eithaf diweddar. Ceir mynediad i\u2019w ben drwy esgyn grisiau allanol. Nid oes sicrwydd yngl\u0177n ag oedran yr adeilad, ond mae\u2019n debyg iddo gael ei adeiladu yn sgil y bysgodfa benwaig a ffynnai yn gynnar yn y 19eg ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yn y dref sawl t\u0177 bychan nodweddiadol o\u2019r 18fed ganrif ond ni ellir dyddio\u2019r un ohonynt, \u00e2 sicrwydd, i gyfnod cyn 1750. &nbsp;Mae\u2019r Mwnt &nbsp;ar ochr ogledd-orllewinol y dref. Yma mae gweddillion dadfeiliedig tomen grwm oedd yn wreiddiol tua 10 troedfedd o uchder a 40 troedfedd ar draws. Mae\u2019r ochr ogleddol wedi ei therasu a\u2019i rhagfurio gyda wal fodern ac adeiladau\u2019n gorgyffwrdd ar yr ochr ddeheuol, sydd wedi ei thorri ymaith yn rhannol. Y t\u0175r sy\u2019n coroni\u2019r copa. Ni pharodd dim a allai ddangos fod beili wedi bod yno erioed.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cau Tiroedd<\/strong>&nbsp;\u2013 Mae plwyf Nefyn yn cydffinio gyda\u2019r hen fwrdeistref a ddaeth i ben yn 1882 a\u2019i hanes yn debyg i hanes bwrdeistref Pwllheli. Cyflwynwyd corfforaeth Nefyn a Phwllheli i rinweddau y&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/Hanes\/AMAETH.HTML#nefyn\"><strong>deddfau cau tiroedd<\/strong><\/a>&nbsp;gan Mr. Richard Ellis. Pa mor anghyfarwydd bynnag ag yr oedd Ellis \u00e2\u2019r gyfraith, gwnaeth iawn am hynny drwy ei ddawn gynhenid o herio corfforaeth fwy di-ddeall nag yntau. Ei dad, neu Ellis ei hun a ddarbwyllodd stiwardiaid \u2018Nevin\u2019 i ymddihatru eu hunain oddi wrth eu hawliau i dri neu bedwar can acer o dir cyhoeddus (tir a ddefnyddid gan amlaf gan y trigolion ar gyfer eu defaid ) dan yr argraff eu bod yn cytuno i indentur prentisiaeth. Ym Mhwllheli derbyniodd y gorfforaeth ychydig o latheni sgw\u00e2r o graig foel yn gyfnewid am dir oedd yn werth tua \u00a3500 y flwyddyn. Dywedodd Ellis wrth Gomisiynwyr y Corfforaethau Trefol, yn gyntaf na wrthwynebodd sywddogion y fwrdeistref, ac yn ail fod eu gwrthwynebiad yn anghymwys ac wedi ei gwrthod.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"590\" height=\"994\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/inc2.jpg\" alt=\"Nevin Inclosure\" class=\"wp-image-951\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/inc2.jpg 590w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/inc2-178x300.jpg 178w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/inc2-47x80.jpg 47w\" sizes=\"(max-width: 590px) 100vw, 590px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Nevin Inclosure<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Carreg Arysgrifiedig T\u0177n-y-cae<\/strong>&nbsp;\u2013 Carreg \u00e2 chroes, T\u0177n-y-cae. Defnyddir y garreg fel lintel i feudy erbyn hyn, ond cyn tua 1860 safai ar godiad bychan, lle canfyddwyd esgyrn, ar ffin blwyfol mewn cae o\u2019r enw Cae Pen-y-maen. Roedd y groes yn wynebu\u2019r m\u00f4r. Darn o graig igneaidd yw hi, \u00e2\u2019i hwyneb arysgrifedig yn 140cm o hyd wrth 36cm o led. Ond mae rhan o\u2019r ymyl wedi ei naddu. Croes o\u2019r 7ed ganrif ydi hi, mae\u2019n debyg, gyda breichiau yn ymestyn wedi ei hendorri arni. Mae ei huchder yn 44cm a\u2019i thrwch gwreiddiol yn 23cm.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"250\" height=\"776\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tyncae.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1523\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tyncae.jpg 250w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tyncae-97x300.jpg 97w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tyncae-26x80.jpg 26w\" sizes=\"(max-width: 250px) 100vw, 250px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Cytiau a sustemau caeau<\/strong>&nbsp;\u2013 Dengys y caeau modern rhwng Cerniogell (SH 32453993, 32 S.W) a Cerniog Fawr (SH 32704030) olion terasu dros ardal 600 llath yn y de orllewin, rhwng y cyfuchlinau 500 troedfedd a 600 troedfedd, gogledd ddwyrain wrth 200 llath. Yn eu canol (SH32624018) y mae ardal anesmwyth a allai fod yn safle gr\u0175p o gytiau amgaeedig. Gwelir mwy o derasu tua\u2019r gogledd ddwyrain, ym mhlwyf Pistyll.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwll William<\/strong> &#8211; Mae Pwll William hanner ffordd rhwng penrhyn Nefyn a Morfa Nefyn. Lon Penrallt yw\u2019r ffordd sy&#8217;n rhedeg gyda&#8217;r arfordir. Yma ym Mhwll William neu Penrallt arferai plant a chyn gapteiniaid llongau ddwad i chwarae a hwylio cychod model ac adrodd a gwrando ar y straeon am y gwledydd pell a\u2019r dyddiau a fu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfeiriad at Bwll Penrallt a Mynydd Nefyd yng ngeiriau enwog Y Sgwner Tri Mast,&nbsp;un o ganeuon m\u00f4r J Glyn Davies. <a href=\"http:\/\/llyn.tv\/45\/\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"648\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt.jpg\" alt=\"Pwll William\" class=\"wp-image-1134\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt-278x300.jpg 278w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt-74x80.jpg 74w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Pwll William<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Morfa Nefyn <\/strong>&#8211; <strong>Smyglwyr T\u0177 Newydd<\/strong>\u00a0\u2013 Roedd Porthdinllaen yng nghanol y busnes smyglo yn yr 17eg a\u2019r 18fed ganrif. Un o smyglwr enwocaf dechrau\u2019r 19eg ganrif oedd Boaz Pritchard o Gaernarfon a\u2019i ddiod feddwol \u2018Brandi Boaz\u2019. Ar un adeg, meddiannodd yr awdurdodau\u2019r brandi a\u2019i storio yn atig T\u0177 Newydd, y tollty, ar draeth Bwlch Bridin, Morfa Nefyn.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"291\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bwlch.jpg\" alt=\"Bwlch Bridin\" class=\"wp-image-914\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bwlch.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bwlch-300x198.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bwlch-121x80.jpg 121w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bwlch Bridin<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Nid oedd hwn yn achos ar ei ben ei hun o smyglo, yn wir roedd yna f\u00f4r-ladron a \u2018privateers\u2019 yn gweithredu ar hyd yr arfordir. Dyma rai enghreifftiau o smyglo yr adroddwyd amdanynt ym mhorth Dinllaen \u2013&nbsp;<strong>1763&nbsp;<\/strong>\u2013 Smyglwyd rym i Borthdinllaen oddi ar \u201ccutter\u201d.&nbsp;(Cwch bach un Hwylbren),&nbsp;<strong>1785<\/strong>&nbsp;\u2013 Aeth llong smyglo ar y creigiau ym Mhorthdinllaen a chafodd ei dal gan swyddogion y tollau.&nbsp;<strong>1786<\/strong>&nbsp;\u2013 Daliwyd cwch ym Mhorthdinllaen ar \u00f4l iddo fod mewn cysylltiad \u00e2 lugger smyglo. Hwyliwyd cwch arall o Borthdinllaen i angorfa ddiogel oddi ar Enlli.&nbsp;<strong>1791<\/strong>&nbsp;\u2013 Gwelwyd llong smyglo ynghyd \u00e2 \u2018privateer\u2019 Ffrengig oddi ar Borthdinllaen.&nbsp;<strong>1791<\/strong>&nbsp;\u2013 Dwynwyd llong y dynion tollau o Borthdinllaen gan long smyglo. a.y.y.b.&nbsp;&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/morwrol\/llinellamser.HTML#top\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mwy\u2026.Llinell amser morwrol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwaith Brics&nbsp;\u2013<\/strong>&nbsp;Ym 1868, sefydlwyd gwaith brics enwog ym Morfa Nefyn gan y Capten David Hughes, Siop Groesffordd a John Roberts, Cefn Edern. Roedd ganddo simnai uchel a glanfa ar y traeth. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben ym 1906 ac erbyn hyn mae\u2019r safle\u2019n faes parcio i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thai.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"301\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/gwaith-brics.jpg\" alt=\"Gwaith Brics Bwlch Bridin\" class=\"wp-image-915\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/gwaith-brics.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/gwaith-brics-300x205.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/gwaith-brics-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Gwaith Brics Bwlch Bridin<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"389\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bridin2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1002\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bridin2.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bridin2-300x195.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bridin2-123x80.jpg 123w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Pen Cim a Warws Dora<\/strong>&nbsp;\u2013 Mae Warws Dora ym Mhen Cim, y pentir bychan sy\u2019n gwahanu bae Morfa Nefyn a bae Porthdinllaen. Roedd hwn yn un o\u2019r prif warysau i storio nwyddau oedd wedi eu mewnforio a\u2019u dadlwytho. Daeth llongau arfordirol, sloops bach a sgwneri yma gyda phob math o nwyddau o Lerpwl ac ymhellach, i bentrefi a ffermydd Ll\u0177n.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"313\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dora.jpg\" alt=\"Warws Dora, Pen Cim\" class=\"wp-image-910\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dora.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dora-300x213.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dora-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Warws Dora, Pen Cim<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Daeth grawn a bwydydd, tecstilau a llestri i mewn i\u2019w dosbarthu i\u2019r degau o siopau bach a oedd yn britho\u2019r penrhyn. O droad y ganrif hyd y rhyfel byd cyntaf, roedd agerlongau o\u2019r Barmouth Steamship Co. yn galw yma, un oedd y \u2018Telephone\u2019 ac yna\u2019n ddiweddarach y \u2018Dora\u2019.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"800\" height=\"489\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ss_dora.jpg\" alt=\"S.S. Dora\" class=\"wp-image-929\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ss_dora.jpg 800w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ss_dora-300x183.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ss_dora-768x469.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ss_dora-131x80.jpg 131w\" sizes=\"(max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">S.S. Dora<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Whitehall Porthdinllaen<\/strong>&nbsp;\u2013 Ar ddechrau\u2019r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Ll\u0177n o Feirionnydd a\u2019r Traeth Mawr i Borthdinllaen, er mwyn sefydlu porthladd, fel cystadleuaeth i Gaergybi, neu fel dewis arall yn lle Caergybi, a chludo teithwyr dros F\u00f4r Iwerddon i Ddulyn. Y bwriad oedd adeiladu porthladd newydd a phier. Y dyn y tu \u00f4l i\u2019r fenter&nbsp; oedd William Madocks, a gafodd Ddeddf Seneddol ym 1806 i ddechrau datblygu\u2019r porthladd ym Mhorthdinllaen; ac yn 1807 i amg\u00e1u a draenio\u2019r Traeth Mawr, adeiladu ffordd dros y morglawdd, neu\u2019r cob, a chreu harbwr ym Mhorthmadog maes o law, wedi\u2019i enwi ar ei \u00f4l.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"330\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/whitehall.jpg\" alt=\"Whitehall, Porthdinllaen\" class=\"wp-image-907\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/whitehall.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/whitehall-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/whitehall-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Whitehall, Porthdinllaen<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers y 18fed ganrif o leiaf, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a\u2019r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y draethlin yn y 19eg ganrif, sef T\u0177 Coch, Tan yr Allt a\u2019r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Porthdinllaen<\/strong> &#8211; Enw hen gwmwd yn Ll\u0177n yw Dinllaen. Mae porthladd a bae Porth Dinllaen yn un o lecynnau harddaf Cymru. Bu\u2019n harbwr diogel i longau yn yr hen ddyddiau a chafodd ei ystyried fel lleoliad ar gyfer prif borthladd i Iwerddon yn nechrau\u2019r 19eg ganrif, cyn codi pontydd Menai. Mae nifer o bysgotwyr yn gwneud bywoliaeth yn y borth o hyd. Credir fod yr enw Ll\u0177n [Lleyn] yn tarddu o enw un o\u2019r llwythau Celtaidd o gwmpas Leinster yn Iwerddon a sefydlodd ar lannau gogleddol Ll\u0177n mewn aneddiadau megis Castell Odo, a chaerau pentiroedd \u00a0arforol megis Porth Iago a Phorth Dinllaen. A dyna ni ystyr yr enw Porthdinllaen: Porth caer y dynion o Leinster: gyda\u00a0\u00a0<em>din<\/em>\u00a0yn hen enw Brythoneg am amddiffynfa ( fel Caere<em>din<\/em>\u00a0yn yr Alban).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Caer Bentir Dinllaen<\/strong>&nbsp;(SH 275416) -Yn ystod y cyfnod cynhanes,&nbsp; amddiffynnid pentir Porth Dinllaen gan ddau glawdd pridd a oedd yn croesi yn y rhan gulaf bron o\u2019r pentir, tua hanner ffordd ar ei hyd, ac mewn man lle\u2019r oedd y tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tuag at y rhan o\u2019r culdir sy\u2019n nes at y m\u00f4r. Roedd yr amddiffynfa ar y pentir yn cynnwys cyfuniad o ragfuriau wedi eu codi gan ddyn ac amddiffynfeydd naturiol y m\u00f4r a\u2019i elltydd. Mae olion y mur amddiffynnol i\u2019w &nbsp;weld yn glir ar ochor chwith y l\u00f4n sydd yn rhedeg i lawr i\u2019r borth o wastatir y penrhyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod wythnosau olaf Hydref a dechrau Tachwedd 2011 aethpwyd ati i gynnal prosiect archeolegol cymunedol yn Ninas Dinllaen, caer bentirol o Oes yr Haearn ar arfordir gogleddol Penrhyn Ll\u0177n. Bellach mae\u2019r safle yn ffurfio rhan o glwb golff Nefyn a\u2019r cyffiniau ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ll\u0177n. Mae\u2019r pentir ble mae\u2019r safle yn cael ei erydu ac ers rhai blynyddoedd mae hyn wedi dechrau difrodi\u2019r archeoleg.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"315\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dinllaen.jpg\" alt=\"Cloddio caer bentir arforol Dinllaen\" class=\"wp-image-926\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dinllaen.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dinllaen-300x215.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/dinllaen-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cloddio caer bentir arforol Dinllaen<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae dwy ffos a thri clawdd wedi eu lleoli ar y tamaid culaf o\u2019r pentir sy\u2019n amg\u00e1u ardal o bedair acer ar ddeg trwy gyfuniad o glogwyni serth a chreigiog. Y mae\u2019r ardal hon wedi ei gorchuddio mewn mannau gan haenau trwchus o luwchfeydd rhewlifol, sef y deunydd a adawyd, ar \u00f4l wrth i\u2019r rhewlifau ddadmer. Archwiliwyd y ffosydd a\u2019r cloddiau allanol trwy gloddio ond nid y clawdd mewnol; cafodd pedair ffos eu cloddio i gyd, un ar draws pob nodwedd. Cafwyd llith o wybodaeth am ddatblygiad cronolegol yr amddiffynfeydd. Mae nifer o gyfnodau adeiladu wedi cael eu nodi ac maent yn berthnasol i gyfnodau pan fu ail-dyllu ar y ffosydd neu atgyfnerthu\u2019r waliau.&nbsp;&nbsp;<a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/nefyn\/?page_id=135\">Mwy\u2026<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Porth Dinllaen ai Gychod<\/strong>&nbsp;\u2013 Mae Porthdillaen yn un o\u2019r porthladdoedd mwyaf cysgodol a diogel rhag unrhyw beth ar wah\u00e2n i wynt y gogledd-ddwyrain. Masnachu arfordirol oedd y prif ddiwydiant ym Mhorthdinllaen am ganrifoedd. Roedd mordeithiau pell yn cludo penwaig a moch wedi eu halltu i Iwerddon, Caer a Lerpwl. Cyflwynwyd st\u00eam yn yr 1830au a\u2019r 40au ond llongau hwyliau a ddefnyddid fwyaf am y rhan helaethaf o weddill y ganrif. Roedd rhwng 700 a 900 o longau\u2019n dod i\u2019r bae bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"387\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen1.jpg\" alt=\"Cychod Porthdinllaen\" class=\"wp-image-928\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen1-300x194.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen1-124x80.jpg 124w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cychod Porthdinllaen<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers o leiaf y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a\u2019r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y traeth yn y 19eg ganrif, sef T\u0177 Coch, Tan yr Allt a\u2019r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks. Ar ddechrau\u2019r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Ll\u0177n, o Feirionnydd a\u2019r Traeth Mawr i Borthdinllaen, gyda\u2019r bwriad o sefydlu porthladd yno i gludo teithwyr dros F\u00f4r Iwerddon i Ddulyn. Ond aflwyddiannus fu\u2019r cais a Phorthladd Caergybi a enillodd y dydd.<\/p>\n\n\n\n<p><br><strong>Cwrs Golf \u2013<\/strong>&nbsp;Mae\u2019r cwrs golff ar benrhyn Porth Dinllaen . Cafodd Clwb Golff Nefyn a\u2019r Cyffiniau ei sefydlu yn 1907 fel cwrs naw twll ac yna yn 1912 fe\u2019i ehangwyd i gwrs 18 twll.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"337\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/oldclubhouse.jpg\" alt=\"Hen Clwb Golff Nefyn\" class=\"wp-image-911\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/oldclubhouse.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/oldclubhouse-300x230.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/oldclubhouse-104x80.jpg 104w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Hen Clwb Golff Nefyn<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Comisiynwyd dau o ddylunwyr gorau\u2019r byd Golff J. H Taylor a James Braid yn 1933 i ychwanegu naw twll arall ac i ailwampio\u2019r cwrs a fodolai\u2019n barod. Mae\u2019r modd y gosodwyd y cwrs &nbsp;yn hynod o anarferol, erbyn heddiw, gan mai dim ond 26 twll sydd bellach yn cael eu chwarae.&nbsp; Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddianwyd y cwrs fel tir amaethyddol.&nbsp;Collwyd y t\u0177 clwb gwreiddiol yn 1911.&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.nefyn-golf-club.co.uk\/cy\/\">Mwy\u2026<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bad Achub \u2013&nbsp;<\/strong>Ym Mhorth Dinllaen y sefydlwyd y Bad Achub cyntaf yng Nghymru ac agorwyd adeilad newydd i gartrefu\u2019r gwasanaeth yno. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd bron i fil o longau\u2019n galw heibio\u2019r bae yn flynyddol, amryw ohonynt yn cysgodi rhag stormydd M\u00f4r Iwerddon. Roedd hi\u2019n anochel y byddai&nbsp; damweiniau a llongddrylliadau yn digwydd yn gyson yno a chodwyd cwt i gwch achub yno yn 1864. Ailadeiladwyd y cwt cwch a\u2019r llithrfa ym 1888. Ym 1925 aethpwyd ati i ymestyn y llithrfa a\u2019r t\u0177 cwch ar gyfer bad achub newydd efo injan. Mae\u2019r llithrfa yn un o\u2019r rhai hiraf sy\u2019n cael ei defnyddio.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"300\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-903\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-300x205.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth wedi achub 400 o fywydau ers hynny. Y cwch presennol, y \u2018John D Spicer\u2019, yw\u2019r 12fed i wasanaethu yma. Costiodd \u00a32.7 miliwn. Cwch \u2018 Tamar Class\u2019 sydd yn Mhorthdinllaen heddiw. Cafodd Tamar Porthdinllaen ei ariannu gan gymynrodd hael y diweddar Mr John Dominic Spicer o Swydd Rhydychen a fu farw ar y 7fed o Hydref 2010. Ar gais yr ysgutorion enwyd bad achub yn RNLB John D Spicer. Angorwyd y bad achub, dros dro, tra roedd y gwaith o godi cwt newydd, ar y safle ym Morfa Nefyn, yn mynd rhagddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y Tamar y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn ychwanegu at ei gallu i achub bywydau. O\u2019i gymharu \u00e2 bad o\u2019r dosbarth Tyne mae\u2019r Tamar yn fwy- 16 metr yn hytrach nac 14- ac mae\u2019r amser ymateb yn gynt gyda chyflymder o 25 yn hytrach na 17 not.<\/p>\n\n\n\n<p>Costiodd y cwt newydd i\u2019r bad achub \u00a38.2 miliwn.&nbsp;&nbsp;<a href=\"https:\/\/rnli.org\/donateorbecomeamember\/Pages\/default.aspx\">Mwy\u2026<\/a><br>Mae pentref Porth Dinllaen bellach yn eiddo i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fuddsoddodd yn helaeth yn harddwch y llecyn rai blynyddoedd yn \u00f4l trwy dynnu\u2019r gwifrau trydan i lawr a\u2019u lleoli o dan y ddaear.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen-2.jpg\" alt=\"Bad Achyb Porthdinllaen\" class=\"wp-image-898\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen-2.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen-2-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthdinllaen-2-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cwt Newydd Bad Achub Porthdinllaen<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>T\u0177 Coch&nbsp;<\/strong>\u2013 Atyniad poblogaidd ar y traeth yw tafarn y T\u0177 Coch. Adeiladwyd y T\u0177 Coch allan brics coch a defnyddiwyd fel balast i longau oedd yn hwylio o\u2019r iseldiroedd yn 1823. Roedd y dafarn hon ymhlith y &nbsp;dair flaenaf pan bleidleiswyd am \u2018Dafarn Draeth Orau\u2019r Byd\u2019 ym mhapur newydd y Guardian yn 2014. Yma yn y T\u0177 Coch y bu Mrs Jones yn cadw ysgol forwrol tua 1880. Hi oedd yr unig wraig harbwr feistr yn Ynysoedd Prydain yn y 1920au, a bu fyw i fod yn 98 oed.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"200\" height=\"294\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/jane_jones.jpg\" alt=\"Jane Jones T\u0177 Coch\" class=\"wp-image-927\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/jane_jones.jpg 200w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/jane_jones-54x80.jpg 54w\" sizes=\"(max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Jane Jones T\u0177 Coch<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Am bum mlynedd gyntaf ei oes bu\u2019n ficerdy ficer Edern. Ym 1828 codwyd ficerdy drws nesaf i\u2019r eglwys ac yn y diwedd daeth T\u0177 Coch i ben fel yr ail ficerdy wrth i\u2019r ficer y Parch. John Parry Jones Parry symud allan yn gyfan gwbl gan adael ei wraig cadw t\u0177, Catherine Ellis i agor yr adeilad fel Tafarn ym 1842 i\u2019w gyflenwi. lluniaeth i\u2019r gweithlu adeiladu llongau oedd yn gweithio ar y traeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd T\u0177 Coch yn cystadlu, yn sicr gyda\u2019r Whitehall Inn ac yn \u00f4l y s\u00f4n ar un adeg, cyfanswm o bedair tafarn arall ar y traeth rhwng bwlch Bridin a porthdinllaen.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark>  <strong>Abergeirch<\/strong> &#8211; O Aber Geirch (SH 26704045), y rhedai\u2019r wifren deliff\u00f4n a gysylltai Iwerddon \u00e2 gwledydd Prydain. Roedd yn wifren drwchus, tua 75mm o drwch yn gorwedd ar wely\u2019r m\u00f4r. C\u00e2i ei gwarchod gan filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a\u2019i defnyddio am flynyddoedd lawer wedyn nes y cafodd ei disodli gan ddulliau cyfathrebu gwell. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"301\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abergeirch.jpg\" alt=\"Cwt Telegraff Abergeirch\" class=\"wp-image-923\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abergeirch.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abergeirch-300x205.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/abergeirch-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cwt Telegraff Abergeirch<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"261\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cable.jpg\" alt=\"Cable telegraff i Iwerddon\" class=\"wp-image-922\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cable.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cable-300x178.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cable-135x80.jpg 135w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Darn o \u2018teleraph Cable\u2019 Abergeirch i Iwerddon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p id=\"cyprian\">Mae afon Geirch o Gors Geirch yn llifo trwy Nant y Gledrydd a phentref Edern, ac i\u2019r m\u00f4r yn Abergeirch.<br>Un o hoff lecynnau J. Glyn Davies oedd Aber Geirch:<br>\u2018At bwll y cefnro\u2019n Abergeirch,<br>rhu\u2019r m\u00f4r ar glybod,<br>a\u2019r tonnau\u2019n hyrddio i mewn fel meirch,<br>\u2013 mil mwy i ddyfod.<br>Ond tawel iawn oedd bwthyn Sian<br>cyn mynd yn furddun<br>Hen Sian a\u2019i hieir, cath, barcud, br\u00e2n,<br>holl deulu\u2019r llecyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cors Geirch<\/strong>&nbsp;(SH308 382)\u2013 Gorwedd Cors Geirch i\u2019r de-ddwyrain o Edern. Mae\u2019r afon Geirch yn llifo drwy gors sy\u2019n gynefin pwysig i rywogaethau prin o flodau a llystyfiant. Mae\u2019n Warchodfa Natur ond gellir cael mynediad iddi wrth droi am Geidio oddi ar ffordd A497 Pwllheli\/Nefyn.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong> Cwmistir &#8211; Cyprian 1881<\/strong> &#8211; 0 dan dir Hirdre Fawr mae Porth a Chreigiau Rhosgor (Rhosogor ar fapiau) a ddaeth i enwogrwydd gyda thrychineb y &#8220;Cyprian&#8221;, llongddrylliad ag iddi&#8217;r hanes mwyaf gafaelgar o&#8217;r cyfan i gyd,&#8217; Roedd agerlong y &#8220;Cyprian&#8221; ar daith o Lerpwl i Genoa gyda Ilwyth o gargo cymysg ym mis Hydref 1881.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"230\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cyprian.jpg\" alt=\"Y Cyprian\" class=\"wp-image-1132\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cyprian.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cyprian-300x157.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cyprian-153x80.jpg 153w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y Cyprian<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Chwythodd gwynt gorllewinol hi oddi ar ei chwrs a gwelwyd hi gan bobl Nefyn a&#8217;r Morfa yn nesu at y lan. Gyrrwyd y llong fel tegan brau o&#8217;i chwrs ar greigiau LI\u0177n, Mor ddiymadferth a phetai Y gwynt a&#8217;r tonnau&#8217;n un. Dyna&#8217;r sefyllfa a wynebai griw bad achub Porthdinllaen pan benderfynwyd bod y storm yn rhy ffyrnig i hyd yn oed y gwyr dewr hynny fynd allan. Cafwyd cwyn yn erbyn y bad achub am nad aethant allan a chynhaliwyd ymholiad. Yr hyn a drodd y ddadl o blaid y bad achub oedd i ddeg o gapteiniaid lleol dystio fod y tywydd yn rhy arw i&#8217;w lansio.<br>Yn Rhosgor y daeth y &#8220;Cyprian&#8221; ar y creigiau a rhaid oedd i&#8217;r criw wneud eu gorau i ddianc i ddiogelwch. Pan oedd y Capten Strachaan, fel yr olaf i adael y llong, am fentro oddi ar ei bwrdd, canfod wnaeth y Cabden fod ganddo &#8220;stowaway&#8221;<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"400\" height=\"688\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/capt-j.-a.-strachan-2.jpg\" alt=\"Cpt. Strachan\" class=\"wp-image-1133\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/capt-j.-a.-strachan-2.jpg 400w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/capt-j.-a.-strachan-2-174x300.jpg 174w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/capt-j.-a.-strachan-2-47x80.jpg 47w\" sizes=\"(max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cpt. Strachan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Daeth y bachgen i&#8217;r lan yn ddiogel. Boddodd y Capten ac aed ag ef a chryff morwyr eraill i&#8217;r CefnamwIch Arms yn Edern ar gyfer eu hadnabod, a rhoddwyd heddwas yno i&#8217;w gwarchod rhag gwyr y wasg. Yn \u00f4l y &#8220;DailyPost&#8221; daeth dau gorff i&#8217;r lan ym Mryn Ogo Lwyd ac un arall ger Bryn Gwydd.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/Hanes\/edern\/cyprian2.jpg\" alt=\"\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Gosodwyd&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/Hanes\/edern\/bedd2.jpg\">carreg<\/a>&nbsp;ym mynwent&nbsp;<a href=\"http:\/\/gwynedd.biz\/1\/gallery\/edern\/egedern.html\">Edern<\/a>&nbsp;&#8220;er cof am 19 o forwyr foddodd trwy ddrylliad yr agerlong &#8216;Cyprian&#8217; ar Benrhyn Cwmistir, 14 Hydref 1881 gan y Cyngor Plwyf yn 1942. Aed A&#8217;r capten i&#8217;w gladdu i Lerpwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Anrhegwyd y trigolion lleol hynny am eu hymdrechion glew yn ceisio achub aelodau criw y &#8220;Cyprian&#8221; ar greigiau Rhosgor. Cyflwynwyd sofren iddynt hefyd gan sgweiar Nanhoron mewn parti a roddodd iddynt. Gwelais gwdyn bychan a wnaed gartref i gadw&#8217;r sofren, a medal a thystysgrif gyflwynwyd i David Jones o Forfa Nefyn. Dywed Carol Hughes, mewn cyflwyniad i draethawd yn &#8220;Cymru a&#8217;r M\u00f4r&#8221; (cyfrol 4), mai ei daid ef, Seth Hughes o Benbryn Glas, Nefyn a achubodd y bachgen ac iddo yntau dderbyn yr un gwobrwyon yn union.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn erthygl ar Capten William Roberts, Yr Ochor, Llanengan ym &#8220;Meistri&#8217;r Moroedd&#8221; cyfeirir at ei anturiaethau ac fel y suddodd ei long ger yr Azores. Cludwyd ef a&#8217;i griw i Lerpwl ar fwrdd yr &#8220;Highland Watch&#8221;, a deallodd nad oedd prif swyddog y llong honno yn neb llai na &#8220;stow-away&#8221; y &#8220;Cyprian&#8221;! Pan laniodd roedd yn amser Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, ac ymwelodd A hi y diwrnod y dyfarnwyd y Gadair Ddu i Hedd Wyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth hanes antur y &#8220;Cyprian&#8221; i glustiau gwraig o Henley onThames a rhoddodd,\u00a3800 i Gymdeithas y Bad Achub. Canlyniad hyn fu prynu bad achub ai leoli yn Nhrefor a chyfeirio ato, fel Bad Achub Llanaelhaearn. Galwyd ef yn &#8220;Cyprian&#8221;, ond dim ond unwaith y lansiwyd ef.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark>  <strong>Tywyn<\/strong>\u00a0\u2013 Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau \u2013 y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Traeth Tywyn<\/strong>&nbsp;\u2013 (SH 23103755) Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma\u2019r Ebol \u2013 mae \u00f4l carn ebol i\u2019w weld arni. Pan fyddai \u00f4l y carn wedi\u2019i orchuddio \u00e2 thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau\u2019r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o\u2019r ardal luchio\u2019r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau\u2019n codi yn eu gwerth!<\/p>\n\n\n\n<p>Daw Cerrig Delysg i\u2019r golwg ar drai ac arni wymon o\u2019r enw \u2018delysg\u2019 \u2013 gwymon bwytadwy. (Lladin \u2013 Fucus palmatus.)<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Porth Sglaig<\/strong>&nbsp;\u2013 Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i\u2019r m\u00f4r Gwelir olion melin o\u2019r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y m\u00f4r mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog. Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill. Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety\u2019r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Porth Cychod<\/strong>&nbsp;(SH 22073754) \u2013 Fel yr awgryma\u2019r enw ym Mhorth Cychod cadwai pysgotwyr Tudweiliog a Phenllech eu cychod. Cysylltir y fan hyn a digwyddiad arbennig iawn. Un bore ym mis Mawrth 1933, cychwynnodd dau lanc ifanc allan mewn cwch i osod cewyll, ond collasant eu rhwyfau. Fe\u2019u cariwyd allan i\u2019r m\u00f4r gan y gwynt a\u2019r llanw a\u2019r diwedd fu iddynt gael eu golchi i\u2019r lan yn Kilkeel yng ngogledd Iwerddon. Gallwch ddychmygu\u2019r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a\u2019r llawenydd pan gafwyd y neges fod yr hogiau\u2019n<br>ddiogel.<br>Tybed beth fyddai eu tynged pe bai\u2019r gwynt wedi chwythu ychydig mwy i\u2019r gorllewin a\u2019u gyrru heibio gogledd Iwerddon. Ar yr allt gwelir adeilad a fu unwaith yn fan i deulu Cefnamwlch gysgodi pan ddeuent i fwynhau\u2019r haul ac awel y m\u00f4r yn ystod yr haf. Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol ydi fod y tri brawd Tir Dyrys, Rhoshirawun a foddodd dri mis yn ddiweddarach ym Mhorth Widlin (Porth Fesyg) yn gefndryd i un o\u2019r bechgyn.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"280\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod.jpg\" alt=\"Porth Cychod\" class=\"wp-image-1195\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod-300x140.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-cychod-171x80.jpg 171w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Cychod<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Porth Ysgaden<\/strong> &#8211; Un o\u2019r porthladdoedd bychain a fu\u2019n brysur yn gwasanaethu ardal wledig Pen Ll\u0177n, ardal brin ei thrafnidiaeth ar dir. Deuai llongau bychain yma rhyw hanner dwsin o weithiau bob blwyddyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn \u00f4l David Thomas.<br>Yn y ganrif flaenorol deuent o Lerpwl a Chaer yn bennaf gan fewnforio nwyddau megis llestri, haearn, lledr, pyg, tar, baco, snisin, te, coffi, gwin, siwgr, orennau ac ati. Deuid \u00e2 s\u00f4p wast yn falast o Iwerddon i\u2019w chwalu ar y caeau fel gwrtaith i\u2019r tir, ynghyd \u00e2 chanhwyllau gw\u00ear, lliain, a chasgenni gweigion i\u2019r penwaig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Porth Ysgaden a Porth Cychod\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/aaDs8csshNs?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Un tro, ym mis Awst 1759, daeth pum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth Ysgaden. Deuid \u00e2 glo yma wrth gwrs ac mae\u2019r ierdydd i\u2019w gweld heddiw. Pan ddiflannodd y dreth ar y glo yn 1813 cynyddodd y mewnforio. Deuai llongau\u2019n gyson o\u2019r meysydd glo a pharhaodd y \u2018Maggie Purvis\u2019 a\u2019r \u2018Tryfan\u2019 i gludo glo hyd ddechrau\u2019r Ail Ryfel Byd i Borthdinllaen a Phorth Ysgaden.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewnforid hefyd galch a chodwyd odyn i\u2019w losgi. Arferai gwragedd yr ardal ymgynnull i wau a chadw\u2019n gynnes wrth d\u00e2n yr odyn. Ar ddechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynnyrch fferm a allforid \u2013 nwyddau megis menyn a chaws.<\/p>\n\n\n\n<p>Arferai\u2019r murddun a welir ar ben yr allt fod yn gartref i saer cychod a\u2019i deulu. Ar dywydd garw arferai\u2019r fam grogi cannwyll yn y ffenestr i rybuddio llongau fod creigiau ysgithrog islaw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden.jpg\" alt=\"Porth Ysgaden\" class=\"wp-image-1192\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porth-ysgaden-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Ysgaden<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Porth Gwylan<\/strong>&nbsp;\u2013 Traeth cysgodol yn wynebu\u2019r gorllewin. Ar yr allt mae man a elwir yn Ogof Gigfran. Gwelir nyth cigfran yn y creigiau.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark>  <strong>Porth Ychain<\/strong>\u00a0\u2013 Mae hanes i dair ar ddeg o fuchod T\u0177 Mawr Penllech fynd dros yr allt yn Ogof Fari, stori sy\u2019n gwneud i rywun feddwl mai hyn roddodd fod i\u2019r enw Porth Ychain. Hanes difyr arall yw\u2019r un am y llong a gariai lwyth o rum a ddaeth i\u2019r lan rhyw dro, gyda dim ond wats yn tician mewn caban a mochyn byw ar ei bwrdd. Beth achosodd hynny tybed?<br>Dywedir bod y llyfr log wedi ei gwblhau yn daclus am y diwrnod cynt. Ceir stori gyffelyb gan Ioan Mai Evans yn narlith Clwb y Bont 1990 pan gyfeiria at long yn dod i\u2019r lan \u00e2 mochyn du arni a brynwyd wedyn gan hwsmon Cefnamwlch.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Traeth Penllech<\/strong> (SH 205346) &#8211; Cyfarwyddiadau: Naill ai dilynwch y ffordd isaf gul ar hyd yr arfordir o Langwnnadl i Dudweiliog trwy hen blwyf Penllech a pharcio yn y maes parcio (ger Pont yr Afon Fawr)\u00a0 ger Bryn Geinach yna cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus i\u2019r traeth Neu, wrth gwrs, gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Borth Colmon tua\u2019r dwyrain.<br>Mae\u2019n draeth eang tywodlyd sy\u2019n ymestyn o Benrhyn Melyn yn y pen gogleddol i gyrion Porth Colmon. Mae ynddo gilfachau creigiog yn dwyn enwau fel Porth Sion Dafydd, Pont Bridd a Th\u0177 Nain. Yng Nghreigiau Duon Berth Aur mae Ogof Huw Sion Fychan, ogof gron rhyw lathen o\u2019r tywod. Pwy oedd Huw Sion Fychan a pham fod twll ebill yn ei llawr? Dirgelion na chawn fyth ateb iddynt, mae\u2019n bur debyg. Ym mhen gogleddol y traeth cyn cyrraedd Fach Penrhyn (Fach Peryn) mae ogof arall o\u2019r enw\u2019r Popdy Du y credir i Hywel Harries fod wedi pregethu ohoni i gynulleidfa ar y traeth pan ar un o\u2019i deithiau cynharaf i L\u0177n.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"800\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof.jpg\" alt=\"Ogof Huw Sion Dafydd\" class=\"wp-image-1502\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"> Ogof Huw Sion Fychan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>I\u2019r de o aber yr Afon Fawr (neu Afon LLeuddad yn wreiddiol, yn \u00f4l rhai) mae Penrhyn Blawd lle chwythir tywod y traeth yn&nbsp; f\u00e2n fel blawd hyd ei odrau a\u2019i lethrau ar adegau. &nbsp;Ychydig i fyny\u2019r afon o dan y rhaeadr mae\u2019r &nbsp;Pwll Gerwin a\u2019r &nbsp;Pwll Diwaelod. Er ei fod yn draeth diogel i nofio ynddo boddodd&nbsp;<strong>J Bodvan Annwyl&nbsp;<\/strong>(Bodfan), y geiriadurwr yma ar 23 Gorffennaf 1949. Roedd yn byw yn yr ardal ac yn arfer nofio\u2019n ddyddiol. Yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o\u2019r rhain. Fe\u2019i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar \u00f4l ymneilltuo o\u2019r swydd honno, ymsefydlodd yn&nbsp;Nant, Llangwnnadl lle cododd d\u0177 newydd a\u2019i alw\u2019n Bryn Bodfan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Penllech\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/BmIePqqN-hg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 10 <\/mark> Porth Colmon &#8211; Un o\u2019r porthladdoedd mwyaf dymunol\u00a0yn Ll\u0177n, gyda ffordd gar yn arwain i lawr\u00a0ato oddi wrth Gapel Penygraig. Mae Porth Colmon yn enghraifft nodedig o byrth arfordirol traddodiadol gogledd Ll\u0177n. Cafnwyd glanfa yno i longau\u2019n hwylio gyda\u2019r glannau drwy chwythu\u2019r creigiau ar y traeth llechog. Galwai stemars yno yn ddiweddarach gan gludo nwyddau a theithwyr yn \u00f4l ac ymlaen i Gaernarfon a Lerpwl. Gallwch ganfod dolennau haearn ar gyfer rhwymo\u2019r hen longau yng nghreigiau\u2019r lanfa o hyd ac mae olion iard l\u00f6 ac odyn yn y borth.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1.jpg\" alt=\"Porth Colmon\" class=\"wp-image-1089\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Colmon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ar fwrdd treftadaeth ger gi\u00e2t y llwybr, mae disgrifiad da o\u2019r winsh arbennig a adeiladwyd yno ar gyfer dadlwytho llongau. Yn y pumdegau bu bron i ni golli\u2019r Borth&nbsp;am byth. Ond diolch i frwydro ystyfnig y brodorion lleol,&nbsp;gorchfygwyd y Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag&nbsp;cael mynd &nbsp;i lawr i\u2019r Borth&nbsp;<a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=135\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mwy\u2026<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon.jpg\" alt=\"Porth Colmon\" class=\"wp-image-1193\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Colmon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Daliwyd pedwar yma un tro am brynu halen a hwnnw&nbsp;wedi ei smyglo. Fe\u2019u herlidiwyd ac am na allent dalu&nbsp;dirwyon o gannoedd o bunnoedd fe\u2019u lluchiwyd i&nbsp;garchar Caernarfon. Gwnaed ap\u00eal ar iddynt gael eu&nbsp;rhyddhau gan fod eu teuluoedd yn hynod o dlawd. Gwrthodwyd yr ap\u00eal ac felly apeliwyd eto ymhen&nbsp;blwyddyn. Aeth Swyddog Tollty Caernarfon i\u2019w gweld&nbsp;ond dim ond tri oedd yno bellach. Roedd un ohonynt,&nbsp;William Williams, wedi teneuo gymaint nes iddo allu&nbsp;dianc rhwng bariau\u2019r ffenestri. Llwyddodd i gyrraedd ei&nbsp;gartref, Cae\u2019r Efail yn ardal Hebron, a chuddiodd ei fam&nbsp;ef yn y fuddai. Pan aeth y perygl heibio hwyliodd i&nbsp;Lerpwl, gan wisgo dillad merch, ac ymfudodd i&nbsp;ddiogelwch America.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mewnforid glo, calch a llwch esgyrn&nbsp;i Borth Golmon \u2013 mae odyn gerllaw \u2013 a rhaid felly oedd&nbsp;cael peilot i ddod \u00e2\u2019r llongau i mewn yn ddiogel. Wil&nbsp;Llainfatw wn\u00e2i\u2019r gwaith hwnnw.    <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/\">Mwy&#8230;.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark> <strong>Porth T\u0177 Mawr \/ Y Stuart &#8211; 1901<\/strong> &#8211; Ym Mhorth T\u0177 Mawr, yr aeth y &#8220;Stuart&#8221; i helbulon; mae&#8217;r hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu &#8220;Almanac&#8221;. Yr hyn sy&#8217;n tynnu&#8217;r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai wisgi oedd cyfran go dda o&#8217;r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw newydd i&#8217;r fan, sef Porth Wisgi. Mae&#8217;n debyg y bu cryn ysbeilio yma, a&#8217;r pictiwr a gawn yw fod pawb, o&#8217;r byd a&#8217;r betws, am y gorau unai yn casglu&#8217;r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"402\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3.jpg\" alt=\"Y stuart -Porth T\u0177 Mawr\" class=\"wp-image-1090\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3-300x201.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Y stuart -Porth T\u0177 Mawr<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LI\u0177n. Gosodwyd y testun &#8220;Ysgrif fer ar gychwyniad, a drylliad y llong &#8216;Stuart&#8217; ar greigiau Porth Ty Mawr, Ll\u0177n&#8221; yng Nghymldeithas Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia&#8217;r buddugol, J. 0. Roberts, T\u0177 Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa a dyfynnaf ef heb ddiweddaru&#8217;r orgraff,<br>Yr oedd &#8220;staen&#8221; y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig or neulltu yr oedd &#8220;cask&#8221;, ac wedi taro ei dalcen i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- &#8220;wisgi&#8221; &#8220;angen yw mam dyfais&#8221;- medd hen air, &#8211; wele un yn tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or &#8220;glass&#8221; gore allan un arall gyda&#8217;i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso y gwaith o&#8217;i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd bychain dros y creigiau i lawr tua&#8217;r m\u00f4r, a&#8217;i llwybr mor laned a&#8217;r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla, pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid i ddinistr bythol guda hylif y &#8220;cask&#8221;, yn hytrach na manteisio ar ddiod Duw, &#8211; dwr. 0 ynfydrwydd &#8211; a pha hyd?<\/p>\n\n\n\n<p>Bu&#8217;r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir ddaeth yn fuddugol.<br><\/p>\n\n\n\n<p>Ceir peth o hanes y &#8220;Stuart&#8221; yn &#8220;BIas Hir Hel&#8221; a hefyd fe&#8217;i crybwyllir yn &#8220;Pigau&#8217;r S\u00ear&#8221;. Yn \u00f4l darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, \u00e2&#8217;r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr. Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i&#8217;r cyfan ac yn gofnodwr manwl.<br>Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith 1901 gyda chriw o 19 a&#8217;i swyddogion ifanc. Mae&#8217;n rhaid mai diffyg profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y &#8220;ddamwain&#8221; gan nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw m\u00e2n yn \u00f4l y s\u00f4n, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio eilwaith ar \u00f4l iddi ddod i&#8217;r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau cododd gwynt o&#8217;r m\u00f4r a thorri ei mastiau a&#8217;r rheini yn eu tro yn disgyn ar y llong a&#8217;i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru&#8217;r cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae&#8217;r llestri i&#8217;w gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi yn dal heb eu hagor.<br>Mae un o diwbiau&#8217;r &#8220;Stuart&#8221; i&#8217;w weld yn glir yn y creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i&#8217;r golwg ar dreiau mawr.<br>Un o&#8217;r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth y &#8220;Stuart&#8221; iddynt oedd i&#8217;w chel fynd ar draws llong arall oedd yn gorwedd o dan y dwr. <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/llangwnnadl\/wreck.html\">Y &#8220;Sorrento&#8221; Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>diolch i Elfed Gruffydd am dyffyniadau o &#8216;Ar hyd ben &#8216;rallt&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Wedi gadael cyffiniau Nefyn, fe ewch o amgylch tre fach Morfa Nefyn cyn anelu at un o drysorau\u2019r daith sef penrhyn creigiog Porth Dinllaen. Yma cewch edmygu\u2019r golygfeydd i\u2019r dwyrain a\u2019r gorllewin ar hyd arfordir gogleddol Penrhyn Ll\u0177n. O olion y gaer, fe welwch fod trigolion yr Oes Haearn wedi manteisio ar y llecyn hynod hwn. Edrychwch allan am forloi chwilfrydig yn dod at y lan i sbecian ar unrhyw brysurdeb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r llwybr wedyn yn ymdroelli\u2019n hamddenol ar hyd yr arfordir. Dyma wlad y \u2018porthydd\u2019 gyda phob un ohonynt gyda\u2019i naws unigryw ei hun. Diolch i galedwch y graig, a bobwyd gan lafa chwilboeth, mae\u2019r ardal hon wedi galluogi trigolion Ll\u0177n i ddibynnu ar gyfuniad o gynnyrch m\u00f4r a thir i\u2019w cynnal. Fel cilfachau bach tywodlyd mae\u2019r \u2018porthydd\u2019 megis Porth Ysgaden a Phorth Colmon yn ddelfrydol i lansio a<br>glanio cychod ac er mai crancod a chimychiaid yw\u2019r prif ysbail heddiw ar un amser dibynnai rhan helaeth y boblogaeth ar lanio penwaig.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"53\" height=\"52\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/m1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-680\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cylchdeithiau eraill ar y map yma<\/strong>&#8211;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=74\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">A-Nefyn<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=398\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">B- Edern<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=61\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">C-Tudweiliog<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=76\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">D-Llangwnnadl<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=825\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">E_Garn_Boduan<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=27\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Llinynnol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-2\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"66\" height=\"66\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1972\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma \u2013&nbsp;<a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/MAP-3-Trefor-Aberdaron.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Trefor -Aberdaron<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p id=\"nefyn\">Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Nefyn  \u2013 Porth Colmon<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"3\/13 Nefyn\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/zpXjpFguuQw?list=PLSMGurEXmP8oZNK1Y6Ru2MQZ2XxDULuec\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Nefyn &#8211; Morfa Nefyn<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"4\/13 Nefyn to Porth Colmon\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/t0FuhVLVS5o?list=PLSMGurEXmP8oZNK1Y6Ru2MQZ2XxDULuec\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Morfa Nefyn &#8211; Porth Colmon<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Nefyn &#8211; Llangwnnadl LLWYBR NEFYN \u2013 LLANGWNNADL MANYLION Y DAITH Amcan o\u2019r hyd: 19.2km\/ 12 milltir.Amcan o\u2019r amser: 6 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Penllech (SH 205346) \/ Nefyn (SH307405) 1 Nefyn &#8211; Saif y dref [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":27,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/659"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=659"}],"version-history":[{"count":36,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/659\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1993,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/659\/revisions\/1993"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/27"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=659"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}