{"id":728,"date":"2023-04-19T13:11:00","date_gmt":"2023-04-19T12:11:00","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=728"},"modified":"2023-04-29T20:31:25","modified_gmt":"2023-04-29T19:31:25","slug":"cylchdaith-llandygwnning","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=728","title":{"rendered":"Cylchdaith Llandygwnning"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llandygwnning.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Llandygwnning\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-3fcaa7ae-ee66-406a-a4af-ca5ebaee04e8\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llandygwnning.pdf\">Map Cylchdaith Llandygwnning<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llandygwnning.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-3fcaa7ae-ee66-406a-a4af-ca5ebaee04e8\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cylchdaith Llandygnning &#8211; MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 3,6 km\/2.25 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 1.5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Ganol Botwnnog, SH260 310.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">PETHAU I WELD AR Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark><strong> Afon Soch<\/strong>\u00a0\u2013 Mae\u2019r afon Soch yn tarddu ar lethrau Mynydd Cefnamwlch ac yn llifo trwy Sarn Mellteyrn, Botwnnog ac ymlaen trwy Forfa Neigwl ac i\u2019w haber yn Abersoch. Dywedire yr arferai unwaith lifo i\u2019r m\u00f4r yn Mhorth Neigwl. Credir fod ei henw, fel amryw o fannau yn Ll\u0177n yn Wyddelig, y dair \u2018socc\u2019 am \u2018hwch. Sylwer fod amryw o enwau afonydd yn dwyn enwau anifeiliaid sy\u2019n tyrchu. Gw\u00eal \u2018Dictionary of the Place-names of Wales\u2019 Owen a Morgan.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"700\" height=\"525\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/afon-soch.jpg\" alt=\"Afon Soch o Pont y Gof\" class=\"wp-image-1447\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/afon-soch.jpg 700w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/afon-soch-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/afon-soch-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Afon Soch o Pont y Gof<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> Botwnnog<\/strong>&nbsp;\u2013  Mae\u2019n debyg mai cyfeirio mae\u2019r enw Botwnnog at bot (cartref neu eglwys) Tywynnog (nawddsant gwreiddiol y plwyf) <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"598\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-botwnnog.jpg\" alt=\"Eglwys Twnnog Botwnnog\" class=\"wp-image-1453\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-botwnnog.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-botwnnog-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-botwnnog-768x510.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/eglwys-botwnnog-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Tywynnog Botwnnog<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Ysgol Botwnnog<\/strong> &#8211; Go brin fod unrhyw ysgol sy&#8217;n ennyn mwy o anwyldeb gan ei chyn- ddisgyblion nag Ysgol Botwnnog &#8211; &#8216;Hen Ysgol Hogia LI\u0177n&#8217; Sefydlwyd yr ysgol yn dilyn marwolaeth yr Esgob Henry Rowlands, Mellteyrn yn 1616. Yn nh\u0177 Gwyn ger yr eglwys yr agorwyd yr ysgol gyntaf a gosodwyd plac arno yn ddiweddar i gofio hynny. Bu amryw o fygythiadau i&#8217;w chau ond gwrthsafodd yn llwyddiannus bob tro. Yn 1848 y codwyd y rhan hynaf o&#8217;r adeilad presennol.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"800\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgol-botwnnog.jpg\" alt=\"Ysgol Botwnnog\" class=\"wp-image-1448\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgol-botwnnog.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgol-botwnnog-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgol-botwnnog-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ysgol Botwnnog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae cofeb i&#8217;r Esgob Rowlands ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Botwnnog. Dywedir maei Gwynnog a sefydlodd yr eglwys gyntaf yn yr ardal hon ac i&#8217;r enw datblygu&#8217;n raddolwedyn yn Bod-ty-wnnog ac yna&#8217;n Botwnnog.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"373\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bottwnog.jpg\" alt=\"Hen 'Post office' Botwnnog\" class=\"wp-image-1440\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bottwnog.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bottwnog-300x187.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bottwnog-129x80.jpg 129w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Hen &#8216;Post office&#8217; Botwnnog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Bodnithoedd &#8211; Dyma gartref Owain LI\u0177n (1786-1867), bardd o waed yr uchelwyr. <\/p>\n\n\n\n<p>Trygarn lle ganed Moses Griffith (1747-1819), yr arlunydd a deithiodd y wlad gyda- Thomas Pennant i baratoi darluniau ar gyfer ei lyfrau.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/commons.wikimedia.org\/wiki\/File:Clynnog_by_Moses_Griffith_1782.jpg#\/media\/File:Clynnog_by_Moses_Griffith_1782.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/upload.wikimedia.org\/wikipedia\/commons\/thumb\/8\/83\/Clynnog_by_Moses_Griffith_1782.jpg\/1200px-Clynnog_by_Moses_Griffith_1782.jpg\" alt=\"Clynnog by Moses Griffith 1782.jpg\"><\/a><br>Gan Thomas Pennant &#8211; Llyfrgell Genedlaethol, Public Domain, <a href=\"https:\/\/commons.wikimedia.org\/w\/index.php?curid=46334554\">Linc<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Capel Rhyd Bach <\/strong>&#8211; Rhoddwyd tir i adeiladu\u2019r capel cyntaf gan Lewis Williams, Gwag y Noe, Llangian tua 1783. Ef hefyd roddod dir ar gyfer Capel Newydd, Nanhoron. Adeilad bychan o bridd gyda tho gwellt arno ydoedd. Codwyd un gwell gyda llofft ym mhob talcen iddo ym 1813, ac ym 1847 agorwyd capel newydd eto. Ond ym 1877-8 codwyd capel newydd yn y Nant a chodwyd un ar yr un cynllun yn Rhyd-bach ymhen deng mlynedd. Dathlodd ei ganmlwyddiant ym 1989.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"621\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhyd-Bach.jpg\" alt=\"Capel Rhyd Bach\" class=\"wp-image-1454\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhyd-Bach.jpg 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhyd-Bach-300x207.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhyd-Bach-768x530.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Rhyd-Bach-116x80.jpg 116w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Capel Rhyd Bach<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Eglwys Llandygwnning<\/strong> &#8211; Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin a Cynwyl (Penrhos) \u00e2 thywysog Celtaidd o\u2019r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei th\u0175r unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i d\u0175r eglwys Botwnnog. Ar ochr y t\u0175r ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn &#8216;roedd un Griffith Mathias yn flaenor yng nghapel Rhyd-bach tra ar yr un pryd yn glochydd Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i\u2019r dwyrain o\u2019r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-1024x681.jpg\" alt=\"Eglwys Llandygwnning\" class=\"wp-image-1426\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-1024x681.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-768x511.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning-120x80.jpg 120w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llandygwnning.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llandygwnning<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark><strong> Faerdref <\/strong>-Enw sy\u2019n dyddio\u2019n \u00f4l i\u2019r blynyddoedd cynnar ac yn ein hatgoffa o\u2019r cyfnod pan oedd i Neigwl statws uchel yng nghwmwd Dinllaen.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark><strong> Neigwl <\/strong>&#8211; Rhannwyd Ll\u0177n yn dri chwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i\u2019r gogledd, yn ymestyn o\u2019r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o\u2019r hen gaer arfordirol &#8211; Dinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan &#8216;roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna &#8216;roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o\u2019r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd \u00e2 Nigel de Lohareyn, cyfaill i\u2019r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i\u2019w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi iddi statws bwrdeistref.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg\" alt=\"Porth Neigwl\" class=\"wp-image-1374\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-1024x681.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-768x511.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w-120x80.jpg 120w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/neigwl6-w.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Neigwl<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">CYFARWYDDIADAU<\/h2>\n\n\n\n<p>Cychwyn gyferbyn \u00e2 Swyddfa\u2019r Post, Botwnnog (SH 260 310) a cherdded i lawr y llwybr tua\u2019r de i gyfeiriad Tregrwyn.<\/p>\n\n\n\n<ul>\n<li>Dod allan i\u2019r ffordd (Botwnnog i Rhiw), troi i\u2019r chwith a thros Bont Rhyd Goch sy\u2019n croesi afon Soch .<\/li>\n\n\n\n<li>Gyferbyn \u00e2 Chapel Rhyd-bach (SH 261308) mae gi\u00e2t ar ben clawdd. Mynd trwy honno a chroesi\u2019r cae at bompren. Mynd dros honno a chroesi dau gae arall nesa dod i gyffiniau fferm Trewen.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi mynd dros gamfa i\u2019r chwith o iard y fferm mae angen cerdded i\u2019r dde ar hyd ffordd drol.<\/li>\n\n\n\n<li>Dal i\u2019r chwith a thros gamfa a phompren (SH 261303) ac ymlaen tua\u2019r de lle ceir camfa arall.<\/li>\n\n\n\n<li>Mynd dros y gamfa ac i\u2019r chwith (Gwelir camfa ar y dde \u2013 anwybyddu) ac i lawr y cae a thros bompren.<\/li>\n\n\n\n<li>Daw\u2019r llwybr allan gyferbyn ag Eglwys Llandygwnning (SH 266300). Troi i\u2019r chwith ar y ffordd ac ymlaen at gyffordd gyda ffordd Pwllheli &#8211; Aberdaron (B4413).<\/li>\n\n\n\n<li>Troi i\u2019r chwith a dilyn y briffordd heibior Feddygfa a Chapel Rhyd-bach ac yn \u00f4l i bentref Botwnnog.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cylchdaith Llandygnning &#8211; MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 3,6 km\/2.25 milltir.Amcan o\u2019r amser: 1.5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Ganol Botwnnog, SH260 310. PETHAU I WELD AR Y DAITH 1 Afon Soch\u00a0\u2013 Mae\u2019r afon Soch yn tarddu ar lethrau Mynydd Cefnamwlch ac yn llifo trwy Sarn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/728"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=728"}],"version-history":[{"count":14,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/728\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1456,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/728\/revisions\/1456"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=728"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}