{"id":74,"date":"2019-10-13T14:54:20","date_gmt":"2019-10-13T13:54:20","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=74"},"modified":"2023-07-24T09:19:11","modified_gmt":"2023-07-24T08:19:11","slug":"cylchdaith-nefyn","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=74","title":{"rendered":"Cylchdaith Nefyn"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Nefyn.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Cylchdaith Nefyn\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-f260c08b-8f5d-4f9a-97bf-2dc82d7cd677\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Nefyn.pdf\">Map Cylchdaith Nefyn<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Cylchdaith-Nefyn.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-f260c08b-8f5d-4f9a-97bf-2dc82d7cd677\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Manylion y daith<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 6.4km\/4 milltir.<br>Amcan o&#8217;r amser: 2 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes parcio traeth Nefyn, SH302 407.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">DISGRIFIAD<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark> <strong>Nefyn<\/strong> &#8211;  Mae hen dref Nefyn wedi bod yn dref o statws ers Oes y Tywysogion Cymreig. Llys y Tywysogion Cymreig yn Nefyn oedd canolfan weinyddol cwmwd Dinllaen. Ni wyddom am leoliad y llys ond mae yno Stryd y Plas a gwyddom ei fod yn adeilad deulawr. Yma arhosodd Edward y Cyntaf a\u2019i osgordd pan ymwelodd \u00e2 Ll\u0177n yn 1284 a bu\u2019n rhaid cynyddu maint y poptai ar ei gyfer ef a\u2019i osgordd. Er i Nefyn dderbyn siarter frenhinol gan goron Lloegr yn 1355, yn wahanol i Gonwy a Chaernarfon, ni fu ymgais yma i danseilio\u2019r boblogaeth Gymreig a chreu coloni o fewnfudwyr breintiedig. Bu\u2019n dref farchnad ac yn borthladd prysur am ganrifoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Datblygodd y diwydiant pysgota yn Nefyn yn ystod yr 17eg ganrif ac erbyn 1748 roedd glanfa yma i ddod \u00e2\u2019r pysgod i\u2019r lan i\u2019w trin. Penwaig oedd y brif helfa a byddent yn cael eu halltu, eu cochi, neu eu gwerthu\u2019n ffres o\u2019r m\u00f4r. Daethant yn enwog ledled y wlad a\u2019r enw arnynt oedd \u201cb\u00eeff Nefyn\u201d.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/fishermen-copy.jpg\" alt=\"Pysgotwyr Nefyn\" class=\"wp-image-1613\" width=\"580\" height=\"397\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/fishermen-copy.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/fishermen-copy-300x206.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/fishermen-copy-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 580px) 100vw, 580px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Pysgotwyr Nefyn<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae tri phennog ar arfbais tre Nefyn. Pedwar dyn fyddai ym mhob cwch a ch\u00e2i\u2019r helfa ei rhannu rhyngddynt a pherchennog y cwch. Rhwng misoedd Medi ac Ionawr oedd y tymor pysgota. Aeth y penwaig yn ddifrifol o brin yn yr 1830au ond daeth tro ar fyd wedyn pan oedd cymaint o bysgod dros ben nes iddynt gael eu defnyddio fel gwrtaith ar gaeau cyfagos. Rhoddwyd y gorau i bysgota ar raddfa fasnachol yn yr 1920au.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark> <strong>Amgueddfa Morwrol Nefyn<\/strong> &#8211; Mae Amgueddfa Forwrol Ll\u0177n wedi\u2019i lleoli yn hen eglwys y dref. Dethlir treftadaeth y rhan hon o arfordir Gwynedd drwy\u2019r casgliadau diddorol a gafodd lety yn Eglwys y Santes Fair, sydd \u00e2\u2019i sylfeini\u2019n dyddio\u2019n \u00f4l i\u2019r chweched ganrif ac a oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig ar Lwybr y Pererinion. Adnewyddwyd adeiladau\u2019r amgueddfa yn sylweddol yn 2014. Yn y fynwent, sy\u2019n amgylchynu\u2019r eglwys, mae beddi llawer o forwyr a chapteiniaid Nefyn a\u2019r ardal leol. (<a href=\"http:\/\/www.amgueddfa-forwrol-llyn.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">www.amgueddfa-forwrol-llyn.co.uk<\/a>)<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark> <strong>Cae Iorwerth \/ Pysgodyn<\/strong> (ar twrneimant) &#8211; Si\u00e2p hirgul y cae sy\u2019n gyfrifol am roi\u2019r enw Cae Pysgodyn arno. Yr enw swyddogol arno yw \u2018Cae Iorwerth\u2019 yn dilyn ymweliad Edward y Cyntaf \u00a0\u00e2 Nefyn. Cynhaliodd hwnnw dwrnament yno yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros y Cymry yn dilyn llofruddio Llewelyn ap Gruffudd yn 1282.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y daith, yng ngeiriau Brut y Tywysogion, fersiwn llawysgrif Peniarth 20, \u2013&nbsp;<mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201c<em>y peris gwneythur torneymant en nevyn en llyn\u201d.<\/em><\/mark>&nbsp;Yn foel ac ymataliol fel yna y cofnododd rhyw fynach o Gymro\u2019r sbloet, eithr yng nghroniclau mynaich o Saeson y mae\u2019r hanes yn llawnach o sbel. Dyna gronicl William Rishanger, mynach yn abaty St. Albans, cronicl sy\u2019n deillio o oes Edward Frenin ei hun:&nbsp;<em><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201cHoc anno militia Anglicana, et multi nobiles transmarini, circa festum Beati Petri ad Vincula, apud Neuyn in Snoudonia in choreis et hastiludiis Rotundam Tabulam celebrarunt. \u201c<\/mark><\/em>&nbsp;Y flwyddyn hon [1284], oddeutu G\u0175yl y Gwynfydedig Bedr mewn Cadwynau (sef, Awst y cyntaf), dathlodd milwyr y Saeson, a llawer o foneddigion o dros y m\u00f4r, Ford Gron, yn Nefyn yn Eryri, gyda dawnsfeydd ac ymrysonfeydd gwaywffyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Traddodiad Ffrengig oedd i\u2019r twrnamaint, a hwnnw\u2019n llawn rhialtwch a chwaraeon milwrol. Erbyn ail hanner y 13eg ganrif roedd y milwyr a\u2019u ceffylau yn gwisgo gwisg o ddur. Ond roedd traddodiadau poblogaidd Arthuraidd y Ford Gron yn y dathlu. Ymgais gan Edward y Cyntaf oedd hyn i uniaethu ei hun \u00e2\u2019r Cymry.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac yn annales Dunstable, yn nodweddiadol ddigon, sonnir am gostau\u2019r dathlu: <em><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201cubi fecerat dominus rex apparatum maximum et expensas \u2026 \u201c<\/mark><\/em> yno [sef yn Nefyn] gwnaeth yr arglwydd frenin baratoadau helaeth a chostus . . .<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegir manylyn diddorol am anhap a ddigwyddodd yn ystod y dathliadau yn annales priordy Caerwrangon: <mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201c<em>Torniamento apud KaernaIVen existente, multi nobiles cum in quodam solario tripudiarent impudice, corruente domo miserabili ter corruerunt. \u201c<\/em><\/mark> Mewn twrnamaint a fu yng Nghaernarfon cwympodd y t\u0177 lle\u2019r oedd llawer o foneddigion yn dawnsio\u2019n ysgyfala mewn goruwch-ystafell, a syrthiasant i\u2019r llawr yn druenus. (Plas, Stryd y Plas mae\u2019n debyg).<\/p>\n\n\n\n<p>Pwysleisir pwysigrwydd rhwysgfawr y dyrfa a gyrchodd i Nefyn ym mlwyddiadur neu annales mynachlog Waverley:&nbsp;<em><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201citem convenerunt comites, baranes, milites de regno Angliae, ac etiam multi proceres transmarini \u2026 \u201c<\/mark><\/em>&nbsp;Yr un pryd ymgasglodd dilynwyr a barwniaid a milwyr brenin y Saeson, a hefyd lawer iawn o w\u0177r bonheddig o dros y m\u00f4r \u2026<\/p>\n\n\n\n<p>a thanlinellir amcan y cyfan i gyd :&nbsp;<em><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-cyan-bluish-gray-color\">\u201cin signum triumphi contra Wallensium proterviam expediti.\u201d<\/mark><\/em>&nbsp;sef arwydd buddugoliaeth a goruchafiaeth lwyr dros y Cymry.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed Yr Athro Bedwyr Lewis Jones \u2013 \u201cBellach ymryson rhwng unigolion a hynny yng ng\u0175ydd cynulleidfa ydoedd, yn lle ymryson rhwng dwy blaid yn diweddu\u2019n ysgarmes afreolus wyllt. Byddai, boneddigesau bid si\u0175r, ymhlith yr edrychwyr; ac roedd i wledda a dawnsio le amwg iawn. Achlysur cymdeithasol ydoedd,&nbsp; Ascot y drydedd ganrif ar ddeg. Sbloit liwgar fel hyn a gynhaliwyd yn Nefyn yn 1284.\u201d (&nbsp;Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon).<\/p>\n\n\n\n<p>Y gred yn lleol ydi mai ar dir Botacho Ddu roedd y twrneimant ond rhaid cofio bod Cae Iorwerth yng nghyffiniau Nefyn a Chae Ymryson (Mapiau Degwm 1839) yng nghanol plwyf Ceidio. Mae\u2019n bur debyg mai yng nghyffiniau\u2019r plas roedd y lleoliad, o dan y Fron wrth odre Garn Boduan.<\/p>\n\n\n\n<p> <strong>Rheilfordd Nefyn<\/strong> &#8211;  Yr Herald Gymraeg Ion 21 1919 &#8211; &#8220;Galwodd Mr. W.R.Davies o Nefyn, fantais, a fuasai rheilffordd i ddatblygu&#8217;r lle fel cyrchfan ymwelwyr, a dywedodd fod yno tua pedair mil o ymwelwyr yn Nefyn ac Abersoch yn yr haf&#8230;.&#8221; <a href=\"https:\/\/papuraunewydd.llyfrgell.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"922\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-1024x922.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1906\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-1024x922.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-300x270.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-768x691.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-1536x1383.jpg 1536w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-2048x1843.jpg 2048w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/rheilffordd-89x80.jpg 89w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cynllun G.W.R. 1924 &#8211; terminus- Cae Pysgodyn!<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark> <strong>Porth Nefyn<\/strong> &#8211; Mae Porth Nefyn yn cadw blas o ddylanwad y m\u00f4r ar yr ardal hon. Mae\u2019n gilfach ddiddorol a fu\u2019n brysur o ran y diwydiant pysgota penwaig ac adeiladu llongau ar un cyfnod. Tri phennog yw arfbais Nefyn a dyna brif gynnyrch y dref. Byddai\u2019r pysgotwyr yn hwylio mor bell ag arfordir Iwerddon i rwydo penwaig. Erbyn 1910 roedd 40 o gychod pysgota 18 troedfedd o hyd yma, gyda chriw o bedwar pysgotwr ym mhob un.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynnyrch fferm oedd y prif allforion ar hyd y blynyddoedd er y bu prysurdeb pan oedd gwaith brics Morfa Nefyn yn ei fri rhwng 1868 a 1906 a glanfa ym Mwlch Bridyn (SH 28224084) wedi\u2019i godi ar gyfer y llongau. <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=398\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Gweler Cylchdaith Edern 9 a 10<\/a> a chwarel ithfaen \u2018sets\u2019 y Gwylwyr \/Wern <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=583\" title=\"\">Gweler Llwybr  Clynnog Fawr &#8211; Nefyn. 10<\/a> <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"790\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/a-coastal-view-porth-y-nant-.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1921\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/a-coastal-view-porth-y-nant-.jpg 1024w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/a-coastal-view-porth-y-nant--300x231.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/a-coastal-view-porth-y-nant--768x593.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/a-coastal-view-porth-y-nant--104x80.jpg 104w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">&#8216; A coastal View&#8217; &#8211; Christopher Williams 1912<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Yn y 17eg ganrif mae cofnod bod menyn mewn tybiau, caws wrth y canpwys, gwl\u00e2n, crwyn, penwaig a phenfras wedi\u2019u hallforio oddi yma. Cafodd penwaig gwynion a chochion eu hallforio ar ddwy long, \u2018Mathew\u2019 a \u2018Mary\u2019, i Gaer yn 1620; ac yn 1685 aeth 50 casgen o benwaig gwynion, 18 casgen o benwaig cochion a 2\u00bd casgen o benfras i Gaer ar y \u2018Richard and Jane\u2019. Rhwng Nefyn a Phorthdinllaen cafodd cannoedd o gasgenni o benwaig eu cario. Ddechrau\u2019r 19eg ganrif &nbsp;roedden nhw\u2019n allforio gwrtaith oddi yma, rhedyn a lludw, a 25 llwyth o haidd yn 1844 i Gaernarfon.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd llongau Porthdinllaen a Nefyn yn cario o Fangor i Ddulun yng nghanol y 17eg ganrif. Cymaint oedd y galw am lechi nes daeth cynllun i agor rheilffordd i\u2019w cario o Gaernarfon i Borthdinllaen ar gyfer eu hallforio. Un rheswm oedd fod costau harbwr Caernarfon mor uchel a byddai\u2019n rhaid talu peilotiaid i dywys y llongau dros y bar. Ond ni ddaeth hyn i fodolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd llawer o dai mawreddog Nefyn gan gapteiniaid llongau. Roedd honno yn alwedigaeth nodedig ar hyd y glannau hyn tan ddiwedd oes y llongau hwyliau. Ar un adeg roedd cynifer \u00e2 deg ar hugain o gapteiniaid llong yn byw yma.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llongau Nefyn<\/strong>&#8211; <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/44\/belford.jpg\" alt=\"\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y llong &#8220;Belford&#8221;<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Y llong \u201cBELFORD\u201d 1,900 tunnell; &nbsp;Cwmni R. Thomas: Nefyn \u2013 Cricieth \u2013 Lerpwl. &nbsp;Cafodd ei suddo gan long danfor Almaenaidd 300 milltir o arfordir Iwerddon yn Chwefror 1917.&nbsp; Ar \u00f4l i\u2019r criw fynd i\u2019r cychod dywedodd capten y llong danfor y buasai\u2019n ei thynnu\u2019n nes i dir ond ar \u00f4l cael tipyn o gyflymdra aeth i lawr o dan y d\u0175r a thynnu\u2019r cychod ar ei \u00f4l ond torodd yr rhaff. Capten Davies Craig-Y-M\u00f4r , Nefyn, oedd meistr y \u201cBELFORD\u201d ar y pryd.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/44\/6946263_b3a734fb_o.jpg\" alt=\"\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y Sgwner &#8220;EBENEZER PARRY&#8221;<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Y Sgwner \u201cEBENEZER PARRY\u201d 182 tunnell, Meistr H. Parry, Nefyn. Y perchennog oedd Henry Parry, Stryd y Ffynnon, Nefyn.&nbsp; Adeiladwyd yn 1877 yn Nefyn gan Griffith Owen. Gwerthwyd i Fowey yn 1912, ac fe\u2019i collwyd hi yn Havre yn 1917. Ar \u00f4l ei gwerthu, newidiwyd ei henw i \u201cELLEN LLOYD\u201d a wedyn \u201cROBERT MARGUERITE\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"386\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cerrig-mawr.jpg\" alt=\"cerrig-mawr\" class=\"wp-image-1138\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cerrig-mawr.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cerrig-mawr-300x193.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cerrig-mawr-124x80.jpg 124w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Adeiladu Cychod wrth cerrig-mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Robert Thomas (1814-1869), Derwen, Y Fron, Nefyn oedd saer llongau mwyaf y dref. Mae ei d\u0177, Y Fron, i\u2019w weld wrth deithio i fyny i Fynydd Nefyn. Yn \u00f4l ei fab, Capten Robert Thomas, roedd ganddo dros gant o seiri ar ei lyfrau. Ymhlith yr 13 o longau a adeiladodd yn Nefyn roedd y \u201cLINUS\u201d yn 1857, rigiwr sgw\u00e2r ac yn \u00f4l pob s\u00f4n roedd yn un o\u2019r llongau cyflymaf yn yr ardal. Hwyliodd ledled y byd, i Dde America ac o amgylch Cape Horn ac er iddi gael ei gwerthu ymlaen ychydig o weithiau, roedd yn dal ar y cefnfor yn ystod yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/llyn.tv\/43\/linus.jpg\" alt=\"\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Y Linus<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Clwb Mawr <\/strong>&#8211; Adeiladwyd yr adeilad hwn yn 1846 gan Gymdeithas Gyfeillgar Nefyn. Cafodd y gymdeithas ei sefydlu fel yswiriant lleol, rhag marwolaeth a gwaeledd mawr, drwy danysgrifiadau blynyddol. Ffurfiwyd y Clwb Mawr yn 1827 gan John Roberts (Bwlch Glas), William Evans (Tan y Maes), Hugh Davies (T\u0177 Clap) a Henry Jones (Holborn). Fe\u2019i defnyddiwyd hefyd fel ysgol a man addoli gan y Bedyddwyr. Fe\u2019i defnyddiwyd hefyd fel ysgol i hyfforddi morwyr yn y grefft o forwriaeth a mordwyo.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"354\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clwb1.jpg\" alt=\"Clwb Mawr\" class=\"wp-image-1612\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clwb1.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clwb1-300x241.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clwb1-99x80.jpg 99w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Clwb Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Erbyn 1879 roedd 8 cymdeithas yswiriant morol cydfuddiannol wedi eu lleoli yn Nefyn gyda llongau wedi eu hyswirio am fwy na \u00a32,000,000.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Cwrw Ll\u0177n &#8211; <\/strong>Mae Bragdy Cwrw Ll\u0177n i\u2019w weld mewn parc busnes ar Ffordd Dewi Sant, B4417. Bragdy lleol ydi hwn, yn cynhyrchu cwrw go-iawn ac yn cynnig teithiau ymweld o amgylch y gweithdy, cael cip ar y broses o fragu a chael cyfle i brynu cynnyrch a swfenirau yn y siop nwyddau yno. Ymysg y poteli cwrw sydd ar werth yno mae Brenin Enlli, Cochyn a Seithenyn sy\u2019n dangos eu bod yn defnyddio hanes a chwedlau lleol wrth frandio.\u00a0 <a href=\"https:\/\/cwrwllyn.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">www.cwrwllyn.cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Y T\u0175r<\/strong> &#8211; Ychydig sy\u2019n weddill o\u2019r\u00a0 castell mwnt a beili a adeiladwyd, o bosib, yn yr 11eg ganrif gan Iarll Normanaidd Caer, Hugh D\u2019Avranches; un o nifer o\u2018i fath a adeiladodd ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn ystod y goresgyniad byr, Normanaidd hwnnw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"460\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/twr2.jpg\" alt=\"Y T\u0175r Nefyn\" class=\"wp-image-1137\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/twr2.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/twr2-287x300.jpg 287w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/twr2-77x80.jpg 77w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y T\u0175r Nefyn<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Adeiladwyd y t\u0175r gwylio ym Mhen y Bryn, Nefyn, yn yr 19eg ganrif ar union safle \u2018castell\u2019 mwnt a beili o\u2019r 12fed ganrif. <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/nefyn\/?page_id=31\">mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Caeau Capel <\/strong>&#8211; Adeiladwyd y t\u0177 mawreddog hwn yn yr 19eg ganrif fel cartre gwledig i deulu Miller. Arferai\u2019r Prif Weinidog Clement Atlee ymweld yn aml a phriododd \u00e2 Violet, merch Henry Edward Miller.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"322\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/caeau-capel.jpg\" alt=\"Caeau Capel\" class=\"wp-image-1595\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/caeau-capel.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/caeau-capel-300x220.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/caeau-capel-109x80.jpg 109w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Caeau Capel<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"350\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clem.jpg\" alt=\"Clement Atlee\" class=\"wp-image-1596\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clem.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clem-300x239.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/clem-101x80.jpg 101w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Clement Atlee<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark> <strong>Nanhoron Arms Hotel<\/strong> &#8211; Adeiladiwyd yn 1914<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-2\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"301\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan2.jpg\" alt=\"Nanhoron Arms Hotel\" class=\"wp-image-1598\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan2.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan2-300x205.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan2-117x80.jpg 117w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Nanhoron Arms Hotel<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan.jpg\" alt=\"Bws Cambrian\" class=\"wp-image-1597\" width=\"433\" height=\"272\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan-300x188.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/nan-128x80.jpg 128w\" sizes=\"(max-width: 433px) 100vw, 433px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bws Cambrian<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>T\u0177 Receifer <\/strong>&#8211; Un o ddau fwthyn yn dyddio o\u2019r 18ed ganrif a adeiladwyd gan Yst\u00e2d Nanhoron ar safle t\u0177 cynharach oedd yn eiddo i Humphrey Jones, Derbynnydd Cyllid Cyffredinol Gogledd Cymru ar ran Siarl y Cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pen Isa\u2019 Dre<\/strong> &#8211; yw\u2019r rhan yma o\u2019r dref. Yr oedd yma felin yn cael ei phweru gan yr afon Mynach a llwybr rhaff at wasanaeth gwneud rhaffau ar gyfer y fasnach adeiladu llongau. Yr oedd iard l\u00f6 yn arfer bod y tu \u00f4l i lle roedd yr hen Orsaf D\u00e2n. Dyma le yr oedd Owen Parry yn cadw ei gerbydau modur pan ffurfiodd y &nbsp;Nefyn and District Omnibus Company.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-3\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"432\" height=\"287\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/receiver.jpg\" alt=\"T\u0177 Receiver\" class=\"wp-image-1599\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/receiver.jpg 432w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/receiver-300x199.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/receiver-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 432px) 100vw, 432px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">T\u0177 Receiver<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/bws.jpg\" alt=\"Nefyn Omnibus Co.\" class=\"wp-image-1600\" width=\"392\" height=\"302\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Nefyn Omnibus Co.<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 10 <\/mark> <strong>Y Groes<\/strong> &#8211; Ar droad y 18fed\/19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o adeiladau\u2019r fwrdeistref wedi eu crynhoi yn yr ardal o amgylch y groes; ar gyffordd Stryd y Ffynnon, Stryd y Plas a\u2019r Stryd Fawr; ac i\u2019r gogledd ar hyd Stryd y Ffynnon.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-4\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"315\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/groes1-1.jpg\" alt=\"Y Groes - Stryd y Ffynnon\" class=\"wp-image-1605\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/groes1-1.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/groes1-1-300x215.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/groes1-1-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y Groes &#8211; Stryd y Ffynnon<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/groes2-1.jpg\" alt=\"Y Groes - Stryd Fawr\" class=\"wp-image-1606\" width=\"433\" height=\"286\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y Groes &#8211; Stryd Fawr<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Roedd ychydig o adeiladau gwasgaredig i\u2019r de o\u2019r eglwys ar hyd Stryd y Llan ac i\u2019r gogledd o\u2019r eglwys.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"298\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/oldpost1.jpg\" alt=\"'Old Post' - Pen Bryn i Ffordd Dewi Sant\" class=\"wp-image-1607\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/oldpost1.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/oldpost1-300x203.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/oldpost1-118x80.jpg 118w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">&#8216;Old Post&#8217; &#8211; Pen Bryn i Ffordd Dewi Sant<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae\u2019r ddwy stryd, Stryd y Plas a\u2019r Stryd Fawr, yn dargyfeirio i\u2019r de a\u2019r de-orllewin o\u2019r Groes, gan greu lle gwag o fewn y triongl hwnnw lle\u2019r oedd y Maes. Roedd y ffynnon ym mhen deheuol Stryd y Ffynnon ac roedd y ffrwd a ddeuai ohoni yn llifo fwy neu lai i lawr canol y stryd.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark> <strong>Stryd Y Plas<\/strong> &#8211; Nefyn oedd canolfan cwmwd Dinllaen ac yn un o brif ganolfannau tywysogion Gwynedd yn y 12ed ganrif. Yn 1355 daeth yn fwrdeistref rydd ac adlewyrchir ei phwysigrwydd yn enwau\u2019r strydoedd: Stryd y Plas a Bryn Mynach.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l y s\u00f4n, yn ystod dathliadau\u2019r twrnamaint yn 1284, i ddathlu concro Cymry, bu\u2019r holl ddawnsio gan Edward y Cyntaf yn y plas yn ormod i\u2019r hen lawr pren ac fe ddisgynnodd trwy\u2019r llawr!<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-5\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"318\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/pla2.jpg\" alt=\"Stryd y Plas\" class=\"wp-image-1608\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/pla2.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/pla2-300x217.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/pla2-111x80.jpg 111w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Stryd y Plas<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tan1.jpg\" alt=\"Gwaelod Stryd y Plas \" class=\"wp-image-1609\" width=\"428\" height=\"288\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tan1-300x203.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/tan1-118x80.jpg 118w\" sizes=\"(max-width: 428px) 100vw, 428px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Gwaelod Stryd y Plas <\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Mae cofnod o 1306-7 am y gwaith a wnaed ar yr adeiladau. Ond yr unig adeilad sydd \u00e2\u2019i olion wedi goroesi cyn y 18ed ganrif yw &nbsp;mwnt yr hen gastell Normanaidd lle codwyd \u2018Y T\u0175r\u2019. Ni ddengys cynllun y dref unrhyw arwydd o gysondeb o ran patrwm a gysylltir gyda bwrdeistrefi Edwardaidd fel Conwy neu Gaernarfon, a does dim prawf iddi gael ei grymuso. Ym 1349 rhoddwyd Nefyn i Nigel Loryng, siambrlen y Tywysog Du. Ym 1355 cynghorodd Loryng y Tywysog Du i ryddfreinio Nefyn (a Phwllheli) a chreu bwrdeistrefi rhydd yno. I gydnabod ei wasanaeth yn Poitiers, yn 1356, rhoddwyd y ddwy fwrdeistref i Nigel Loryng am byth am rent blynyddol o un rhosyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y gwrthryfel yn 1400 llosgodd Owain Glynd\u0175r Nefyn i\u2019r llawr am ei bod yn Fwrdeistref Frenhinol, a bu\u2019n rhaid i bawb ffoi.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 12 <\/mark> <strong>Pwll William <\/strong>&#8211; Mae Pwll William hanner ffordd rhwng penrhyn Nefyn a Morfa Nefyn. L\u00f4n Penrallt yw\u2019r ffordd sy\u2019n rhedeg gyda\u2019r arfordir. Yma ym Mhwll William neu Penrallt arferai plant a chyn gapteiniaid llongau ddwad i chwarae a hwylio cychod model ac adrodd a gwrando ar y straeon am y gwledydd pell a\u2019r dyddiau a fu.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"648\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt.jpg\" alt=\"Pwll William\" class=\"wp-image-1134\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt-278x300.jpg 278w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pwll-penrallt-74x80.jpg 74w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Pwll William<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae cyfeiriad at Bwll Penrallt a Mynydd Nefyn yng ngeiriau enwog \u201cY Sgwner Tri Mast\u201d,&nbsp;un o ganeuon m\u00f4r J Glyn Davies. Mwy- <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=398\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Cylchdaith Edern<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Nefyn\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/WB0zMCAQz1U?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">CYFARWYDDIADAU<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>O&#8217;r maes parcio uwch y traeth, cerddwch yn \u00f4l i gyfeiriad Ffordd Dewi Sant Nefyn\/Morfa Nefyn. <\/li>\n\n\n\n<li>Ar ben yr allt, cyn cyrraedd y briffordd, trowch i&#8217;r chwith ar hyd Rhodfa&#8217;r M\u00f4r ac yna mae llwybr yn dilyn yr arfordir cyn troi am ganol yr hen dref. <\/li>\n\n\n\n<li>Heibio hen eglwys y Santes Fair, ac yna byddwch yn gweu ar hyd nifer o strydoedd cefn difyr cyn mynd ymlaen am Gae Pysgodyn. <\/li>\n\n\n\n<li>Oddi yno, mae dringfa fer i ben bryncyn, croesi priffordd A497 a dilyn llwybrau drwy gaeau amaethyddol yn \u00f4l i gyfeiriad yr arfordir. <\/li>\n\n\n\n<li>Croeswch y ffordd B4417 rhwng Nefyn a Morfa Nefyn ac yna dilynwch L\u00f4n Pwll William at lyn bychan. <\/li>\n\n\n\n<li>Cadwch gydag ochr chwith y pwll a mynd ymlaen at ben allt y m\u00f4r gyda golygfeydd braf o Borth Nefyn. Yna yn \u00f4l ar hyd L\u00f4n y Traeth i&#8217;r maes parcio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Manylion y daith Amcan o hyd: 6.4km\/4 milltir.Amcan o&#8217;r amser: 2 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes parcio traeth Nefyn, SH302 407. DISGRIFIAD 1 Nefyn &#8211; Mae hen dref Nefyn wedi bod yn dref o statws ers Oes y Tywysogion Cymreig. Llys y Tywysogion Cymreig yn Nefyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/74"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=74"}],"version-history":[{"count":29,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/74\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1923,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/74\/revisions\/1923"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=74"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}