{"id":758,"date":"2023-04-19T23:06:18","date_gmt":"2023-04-19T22:06:18","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=758"},"modified":"2023-07-28T21:38:58","modified_gmt":"2023-07-28T20:38:58","slug":"llwybr-llangwnnadl-i-plas-yn-rhiw","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=758","title":{"rendered":"Llwybr Llangwnnadl &#8211; Plas yn Rhiw"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llangwnnadl-i-Plas-yn-Rhiw.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:650px\" aria-label=\"Mewnblaniad Map Llangwnnadl - Plas yn Rhiw\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llangwnnadl-i-Plas-yn-Rhiw.pdf\">Map Llangwnnadl &#8211; Plas yn Rhiw<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Llangwnnadl-i-Plas-yn-Rhiw.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-41c1ae0f-f1e5-41c7-a14d-727bf9b9df79\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<p>Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.-&nbsp;<a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=758#nefyn\" title=\"\">Llangwnnadl &#8211; Plas yn Rhiw<\/a> (3 rhan)<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">MANYLION Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o hyd: 28.3km\/17.6 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 7-8 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.<br>Man cychwyn \/ gorffen: Penllech (SH 205 346) \/ Plas yn Rhiw (SH 237 282).<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">PETHAU I WELD AR Y DAITH<\/h2>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1 <\/mark>  <strong>Porth T\u0177 Mawr \/ Y Stuart \u2013 1901<\/strong>\u00a0\u2013 Ym Mhorth T\u0177 Mawr, yr aeth y \u201cStuart\u201d i helbulon; mae\u2019r hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu \u201cAlmanac\u201d. Yr hyn sy\u2019n tynnu\u2019r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai wisgi oedd cyfran go dda o\u2019r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw newydd i\u2019r fan, sef Porth Wisgi. Mae\u2019n debyg y bu cryn ysbeilio yma, a\u2019r pictiwr a gawn yw fod pawb, o\u2019r byd a\u2019r betws, am y gorau unai yn casglu\u2019r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LI\u0177n. Gosodwyd y testun \u201cYsgrif fer ar gychwyniad, a drylliad y llong \u2018Stuart\u2019 ar greigiau Porth Ty Mawr, Ll\u0177n\u201d yng Nghymldeithas Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia\u2019r buddugol, J. 0. Roberts, T\u0177 Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa a dyfynnaf ef heb ddiweddaru\u2019r orgraff,<br>Yr oedd \u201cstaen\u201d y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig or neulltu yr oedd \u201ccask\u201d, ac wedi taro ei dalcen i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- \u201cwisgi\u201d \u201cangen yw mam dyfais\u201d- medd hen air, \u2013 wele un yn tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or \u201cglass\u201d gore allan un arall gyda\u2019i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso y gwaith o\u2019i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd bychain dros y creigiau i lawr tua\u2019r m\u00f4r, a\u2019i llwybr mor laned a\u2019r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla, pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid i ddinistr bythol guda hylif y \u201ccask\u201d, yn hytrach na manteisio ar ddiod Duw, \u2013 d\u0175r. 0 ynfydrwydd \u2013 a pha hyd?<\/p>\n\n\n\n<p>Bu\u2019r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir ddaeth yn fuddugol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir peth o hanes y \u201cStuart\u201d yn \u201cBIas Hir Hel\u201d a hefyd fe\u2019i crybwyllir yn \u201cPigau\u2019r S\u00ear\u201d. Yn \u00f4l darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, \u00e2\u2019r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr. Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i\u2019r cyfan ac yn gofnodwr manwl.<br>Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith 1901 gyda chriw o 19 a\u2019i swyddogion ifanc. Mae\u2019n rhaid mai diffyg profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y \u201cddamwain\u201d gan nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw m\u00e2n yn \u00f4l y s\u00f4n, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio eilwaith ar \u00f4l iddi ddod i\u2019r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau cododd gwynt o\u2019r m\u00f4r a thorri ei mastiau a\u2019r rheini yn eu tro yn disgyn ar y llong a\u2019i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru\u2019r cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae\u2019r llestri i\u2019w gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi yn dal heb eu hagor.<br>Mae un o diwbiau\u2019r \u201cStuart\u201d i\u2019w weld yn glir yn y creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i\u2019r golwg ar dreiau mawr.<br>Un o\u2019r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth y \u201cStuart\u201d iddynt oedd i\u2019w chel fynd ar draws llong arall oedd yn gorwedd o dan y dwr.&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/llangwnnadl\/wreck.html\">Y \u201cSorrento\u201d Mwy\u2026<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>diolch i Elfed Gruffydd am dyffyniadau o \u2018Ar hyd ben \u2018rallt\u2019<\/p>\n\n\n\n<p><strong><mark><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark><\/mark>&nbsp;Porth Iago<\/strong>&nbsp;\u2013 (SH 16753165) trowch i\u2019r chwith ar l\u00f4n fferm a mynd i T\u0177 Mawr Bodferin (parcio) Traeth bychan tywodlyd hynod o gysgodol yn wynebu\u2019r de orllewin ydyw. Nid yw Llwybr Arfordir Cymru\u2019n mynd trwy fan hyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Allan yn y m\u00f4r o\u2019r Tyllborth i\u2019r gogledd mae Maen Mellt. Bu hwn yn broblem i longau ar hyd y canrifoedd gan fod natur y garreg ynddo\u2019n fagnetig ac yn amharu ar gwmpawdau llongau. I\u2019r de o Both Iago aeth y \u2018Newry\u2019 ar y creigiau yn Ogof Newry:<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Llong go fawr a gariai ymfudwyr o Iwerddon i Quebec ym mis Ebrill 1833 oedd y Newry. Aeth ar y creigiau a chollwyd pump ar hugain o\u2019r pedwar cant oedd ar ei bwrdd. Byddai\u2019r colledion yn llawer uwch oni bai am ddewrder Dafydd Griffith, hen forwr a drigai ym Morfa Trwyn Glas. O ganlyniad i\u2019w ddewrder enillodd fedal gan y Gymdeithas Frenhinol Genedlaethol, ynghyd ag \u00a320. Trosglwyddwyd y fedal hon o un Dafydd Griffith i\u2019r llall.  Claddwyd y rhai a gollwyd oddi ar fwrdd y Newry ym mynwent Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"496\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthIago.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1244\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthIago.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthIago-300x248.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthIago-97x80.jpg 97w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Iago<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3<\/mark><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color\"> <\/mark> <strong>Porthor<\/strong> &#8211;  Tir ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff ei adnabod gan ei lys enw Saesneg \u2018Whistling Sands\u2019, enw a gafwyd oherwydd y s\u0175n a gaiff ei wneud wrth gerdded dros y tywod gwyn. Daw\u2019r s\u0175n oherwydd straen croeswasgiad pwysau ar y tywod, a dim ond dau draeth yn Ewrop gyfan sydd yn gwenud hyn. \u00a0Mae\u2019r maes parcio agosaf 590ft\/180m i ffwrdd, er nid yw hyn yn ei rhwystro rhag bod yn hynod o boblogaidd gyda theuluoedd yn chwilio am ddiwrnod allan. Mae\u2019r golygfeydd oddi wrth y traeth &#8211; a nifer o\u2019r llwybrau cerdded &#8211; yn anfarwol. Mae cyfyngiadau ar g\u0175n ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"324\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg\" alt=\"Porth Iago\" class=\"wp-image-860\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-300x162.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/porthor1-w-148x80.jpg 148w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Iago<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark>  <strong>Chwarel Iasbis Carreg<\/strong> &#8211; Ym 1901 darganfuwyd gwythiennau o faen iasbis hyd at 37 metr (40 llath) o led ar waelod Mynydd Carreg. Mae maen iasbis hefyd yn dod i\u2019r brig ar y clogwyni m\u00f4r gerllaw. Yn \u00f4l y s\u00f4n yn 1904 y cafodd y chwarel ei hagor. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am y chwarelydda yma ond mae\u2019r olion yn amlwg ar yr arfordir rhwng Porthor (SH16682996) a Phorth Orion (SH15602880). Ar odre Mynydd Carreg (SH 16102905), ger Porthorion bu cryn gloddio yn gynnar 20fedG. Craig fetamorffig yw maen iasbis a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Neoproteros\u00f6ig Cyn-Gambriaidd, rhwng 1,000 miliwn a 541 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"405\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg.jpg\" alt=\"Chwarel Iasbis, Carreg\" class=\"wp-image-1337\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg-300x203.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/carreg-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Chwarel Iasbis, Carreg<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Roedd Iasbis yn fwyn gwerthfawr a\u2019r pryd hynny roedd darn dwy fodfedd giwb ohono\u2019n werth \u00a360. C\u00e2i ei ddefnyddio i ychwanegu at wychder adeiladau dinasoedd mawrion, megis Cadeirlan Westminster a Phalas St James yn Llundain. Cafodd Iasbis ei gloddio ar Fynydd Carreg, ger Porthorion ac yn Llanllawen, Uwchmynydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhyw 1km oddi yno mae Pont Nant y Widdan ac wrth fynd \u00e2 darn anferth o iasbis drosti dymchwelodd y bont. Ai llun o\u2019r llwyth hwnnw gafodd ei dynnu wedi iddo gyrraedd Pwllheli ar wagan yn cael ei thynnu gan dracsion. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1000\" height=\"750\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis.jpg\" alt=\"Iasbis ar y Maes Pwllheli\" class=\"wp-image-1489\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis.jpg 1000w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-768x576.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/iasbis-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Tracsion gwaith Iasbis Carreg Plas, Aberdaron wedi cyrraedd Y Maes Pwllheli gyda maen iasbis i&#8217;w anfon i ffwrdd a tren. Thomas Jones &#8216;Ship&#8217; Aberdaron oedd y gyrrwr (tad Thomas Glyn).<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark> <strong>Dinas Mawr a Dinas Bach <\/strong>&#8211;  Mae&#8217;r enwau&#8217;n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn \u00f4l. Bellach mae\u2019n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu\u2019r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty\u2019n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau\u2019r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"902\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg\" alt=\"Dinas Mawr a Dinas Bach\" class=\"wp-image-788\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-200x300.jpg 200w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Dinas4-w-53x80.jpg 53w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Dinas Mawr a Dinas Bach<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Capel Carmel<\/strong> &#8211; (SH 16252 28385) \u2013 Dywedir bod Capel y Bedyddwyr yn dyddio o c1810 neu 1818 ond heb ei nodi ar Fap Degwm 1844. Eithriadol o fach gyda\u2019r golau mewnol gwreiddiol. Y mae y Capel a\u2019r Plas, y t\u0177 capel, yn un rhes, a\u2019r ddwy ran o\u2019r un maint yn fras, gyda\u2019r Nenfwd estyllog, c1915.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"900\" height=\"598\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2010\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image-1.png 900w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image-1-300x199.png 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image-1-768x510.png 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/image-1-120x80.png 120w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Capel Carmel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><strong>Plas Carmel <\/strong>-(SH 16252 28385) \u2013 Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio\u2019r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o\u2019r capel, t\u0177, siop a\u2019r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y \u2018capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Ll\u0177n\u2019 a welodd Cynan.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgw\u00e2r Plas Carmel. Y weledigaeth yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a\u2019u pasio nhw ymlaen i\u2019r cenedlaethau ifanc, tra\u2019n gwneud lle i rhai newydd. Yma, bydd pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda\u2019n byd ni heddiw, a\u2019r rheiny yn rhan annatod o fywydau\u2019r trigolion lleol. O lwybrau\u2019r Seintiau a\u2019r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd \u00e2 hud a chwedlau lleol. Y gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth.  <a href=\"https:\/\/www.plascarmel.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"396\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/plas-carmel.jpg\" alt=\"Plas Carmel\" class=\"wp-image-1336\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/plas-carmel.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/plas-carmel-300x198.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/plas-carmel-121x80.jpg 121w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Plas Carmel<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark><strong> Mynydd Mawr<\/strong> <strong>a Mynydd Gwyddel <\/strong>&#8211; Dyma\u2019r \u2018mynyddoedd\u2019 yn mhen eithaf Ll\u0177n gyda Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair, yn enwog o Oes y Seintiau, ac yn hynod am fod dwr croyw ynddi er fod yn m\u00f4r yn golchi drosti ar lanw.  Ar y gwastad lle mae\u2019r llwybr yn cychwyn i lawr i\u2019r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Ceir y cofnod cynharaf ohono dyddiedig 1748 ar fap gan Lewis Morris.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffordd goncrit a godwyd amser yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae\u2019r gerdd olaf gyfansoddodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o\u2019r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma\u2019r fan gorau i weld Enlli.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"390\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg\" alt=\"Enlli o Mynydd Mawr\" class=\"wp-image-874\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-300x195.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/mynydd-mawr-123x80.jpg 123w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Enlli o Mynydd Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark> <strong>Parwyd<\/strong> &#8211; Dyma ran o\u2019r arfordir gyda\u2019r gelltydd serthaf yn Ll\u0177n. Rydym yn fwy cyfarwydd \u00e2\u2019r enw yn ei ffurf luosog, parwydydd, ond a ddefnyddir yn gyffredin yma ac ar Drwyn Cilan am graig serth iawn. Yn 1794 priodwyd dau o\u2019r ardal ac aethant i fyw D\u0177\u2019n L\u00f4n, Uwchmynydd, gerllaw\u2019r Parwyd. Ymhen rhai blynyddoedd blinwyd hwy gan ddrychiolaeth, ond pan ddarllenid darn o\u2019r Ysgrythur byddai\u2019r ddrychiolaeth yn cilio i gyfeiriad y Parwyd ac yno y byddai\u2019n hofran cyn diflannu. Canlyniad hyn fu i\u2019r p\u00e2r ifanc ymadael a mynd i fyw i Rhwng Ddwyborth, plwyf Bodferin. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr ardal, yn 1801, gollyngwyd peilot o long ar greigiau Grepach. Roedd yn feddw iawn ond rhywsut llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn a mynd i gysgodi mewn corlan ddefaid. Yn y bore bach, a hynny cyn sobri, ceisiodd anelu am ei gartref ond aeth i\u2019r cyfeiriad anghywir a diflannodd dros y dibyn ac i\u2019r m\u00f4r. Dywed Myrddin Fardd mai\u2019r enw addas ar y fan hon yn ei amser ef oedd Pared Gallt Uffern \u2018am ei bod megys yn erchwyn i\u2019r cyfyngfor tonog ac enbydus y sy rhyngddi ag Ynys Enlli\u2019<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Aberdaron<\/strong> &#8211; Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda\u2019i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a\u2019i dai a phontydd llawn cymeriad. Mae\u2019n werth galw ym Mecws Islyn, gyda\u2019i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref, ond i fwynhau\u2019r lluniau a\u2019r mapiau a\u2019r darnau o dreftadaeth sy\u2019n addurno waliau\u2019r caffi. Adeilad hynafol a diddorol yw\u2019r Gegin Fawr, hen dafarn y pererinion. Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol. Er hynny, mae\u2019n dal yn bentref bach. Mae\u2019r ffyrdd yn dal yn gul a throellog ac mae\u2019r ddwy bont gerrig, Pont Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr draw i\u2019r pontydd mae\u2019r ffordd yn lledu ychydig i ffurfio sgw\u00e2r marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon. mae yna nifer o achosion smyglo ar hyd arfordir Ll\u0177n, dyma un enghraifft \u2013 1808 \u2013 Daliwyd lygar yn Aberdaron am smyglo halen.\u00a0<a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/morwrol\/llinellamser.HTML\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">mwy\u2026.<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"430\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1.jpg\" alt=\"Aberdaron\" class=\"wp-image-1333\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1-300x215.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/aberdaron1-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aberdaron<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p> <mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\">10 <\/mark> <strong>Porth Ysgo<\/strong> &#8211; Porth Ysgo sy\u2019n dilyn gyda\u2019i olion diwydiannol, dieithr i L\u0177n. Bu cryn fri yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan allforid y mangan\u00ees a gloddid o\u2019r gelltydd cyfagos. Mae s\u00f4n fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio yma ganrifoedd ynghynt, gan ddefnyddio\u2019r mwyn i lifo dillad. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ailddechreuwyd cloddio ym Mynydd y Rhiw ac i lawr Nant y Gadwen i gyfeiriad Porth Ysgo.<br>C\u00e2i\u2019r mango o\u2019r Rhiw ei gario mewn troliau at ffrwd lle byddai\u2019r gwragedd yn ei olchi. Yna eid ag ef mewn ceir llusg i Borth Neigwl i\u2019w lwytho ar longau. Pan sylweddolwyd fod galw am y mango, rhedwyd weiar-r\u00f4p i lawr i lanfa a godwyd wrth ymyl y Graig Ddu, o dan y Garth ym Mhorth Neigwl. Yn ystod gaeaf 1910-11 dinistriwyd y lanfa ac ni atgyweiriwyd hi wedyn. Codwyd glanfa ym Mhorth Ysgo hefyd a rhedwyd rheilffordd i lawr ati o Fynydd y Rhiw. Yn nechrau\u2019r ganrif roedd ardal y Rhiw yn cynhyrchu 90% o fangan\u00ees gwledydd Prydain, gan gyflogi hyd at ddau gant o weithwyr. Bu unwaith fwriad i ymestyn y rheilffordd o Bwllheli i\u2019r Rhiw, ond ni pharhaodd y bri.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2.jpg\" alt=\"'Winch' Nant Gadlan, Porth Ysgo\" class=\"wp-image-861\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/ysgo2-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">\u2018Winch\u2019 Nant Gadlan, Porth Ysgo<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ailagorwyd y mwynfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i\u2019w cau\u2019n derfynol ym mis Rhagfyr 1945. Ym Mhorth Ysgo mae craig yn dwyn yr enw Carreg y Ring oherwydd fod arni hithau, fel aml un arall, ddolen i glymu llongau wrthi. Mae Pistyll y Gaseg yn rhaeadru i lawr o ben yr allt i draeth caregog tawel. Ceir Pwll y Gaseg yma hefyd yn yr un rhan o\u2019r traeth. Ym mhen dwyreiniol Porth Ysgo ceir Porth Alwm \u2013 Porth Alm ar lafar \u2013 ac i\u2019r lle hwn y rhed Nant y Gadwen. Gwelir trwyn bychan ar y map yn gwahanu Porth Alm oddi wrth Borth Ysgo. Dyma\u2019r Trwyn Coch. Yng nghwr dwyreiniol Porth Ysgo ceir Carreg Oswald.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark> Plas yn Rhiw &#8211; Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i\u2019r 17eg ganrif y mae\u2019r adeilad presennol, fe\u2019i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y t\u0177 i lawr trwy\u2019r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae\u2019n debyg mai\u2019r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu\u2019r t\u0177 yn 1820.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegwyd adain y gegin i\u2019r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr yst\u00e2d yn nwylo\u2019r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe\u2019i gadawyd yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy \u00e2\u2019u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu\u2019r ardd, ac ymdrechu\u2019n ddiflino i ddiogelu\u2019r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu\u2019n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf b\u0175er niwclear yn Edern.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r plasdy ei hun a\u2019i nodweddion pensaern\u00efol diddorol, mae\u2019r ardd organig yn nodedig gan fod yma lecyn cysgodol a chasgliadau o blanhigion prin.&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/cy\/visit\/wales\/plas-yn-rhiw\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mwy\u2026<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Wedi mynd heibio i Borth Colmon byddwch yn gadael yr arfordir am ychydig cyn ailgyfarfod y m\u00f4r wrth Borthor. Wrth fynd o amgylch trwyn y penrhyn byddwch yn llygad y gwynt a dengys y creigiau serth a chaled mai\u2019r tonnau gwyllt sydd yn llunio\u2019r tirwedd hwn. Y graig a\u2019r gwynt sy\u2019n gyfrifol hefyd am rosydd bendigedig y bryniau sy\u2019n britho\u2019r trwyn. Ymysg y cyfoeth grug ac eithin, sydd wedi cael ei siapio ar ffurf tonnog gan y gwynt, mae planhigion megis clustog fair a theim gwyllt yn dibynnu ar y pridd sur am<br>gynhaliaeth.<br>Ar y clogwyni eu hunain mae\u2019r cyfle gorau i fywyd gwyllt difyr a phrin ymgartrefu. Dyma yw cadarnle arwyddlun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Pen Ll\u0177n sef y fran goesgoch \u00e2 adnabyddir o\u2019i chri groch a\u2019i phig a choesau coch. Yn y gwanwyn a\u2019r haf, pan fydd y gwynt wedi gostegu rydych yn debyg o glywed galwadau\u2019r llurs, y gwylog a\u2019r amryw wylanod yn paru a magu cywion ar silffoedd y graig.<br>Mae\u2019r llu cen, gwymonau amrywiol, sbwngau, llygaid maharen a gwichiaid sydd yng nghlwm wrth y creigiau isaf yn byw o fewn cyrraedd y llanw neu\u2019r tonnau.<br>Maent wedi ymgartrefu hefyd ar arfordir greigiog Ynys Enlli sydd i\u2019w gweld yn glir o\u2019r tir mawr. Ar \u00f4l gadael Uwchmynydd byddwch yn troi tua\u2019r dwyrain, gan ddod yn gyntaf i bentref tawel Aberdaron cyn dringo\u2019n raddol tuag at Y Rhiw.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"53\" height=\"52\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/m1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-680\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cylchdeithiau eraill ar y map yma<\/strong>&#8211;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=76\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">A-Llangwnnadl<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=520\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">B- Anelog<\/a> , <a href=\"\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=530\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">C-Parwyd<\/a> , <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=700\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">D-Daron<\/a> ,    <a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=56\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">E_Penarfynydd<\/a><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\" id=\"nefyn\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=27\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Llinynnol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"5\/13 Porth Colmon to Porth Y Wrach\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/CZiAis91bPI?list=PLSMGurEXmP8oZNK1Y6Ru2MQZ2XxDULuec\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Colmon &#8211; Porth y Wrach<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"6\/13  Porthor to Aberdaron\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/VppxDl6e0D0?list=PLSMGurEXmP8oZNK1Y6Ru2MQZ2XxDULuec\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porthor i Aberdaron<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"7\/13 Aberdaron to Rhiw\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/4RVdE8Q6IhY?list=PLSMGurEXmP8oZNK1Y6Ru2MQZ2XxDULuec\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aberdaron &#8211; Plas yn Rhiw<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.-&nbsp;Llangwnnadl &#8211; Plas yn Rhiw (3 rhan) MANYLION Y DAITH Amcan o hyd: 28.3km\/17.6 milltir.Amcan o\u2019r amser: 7-8 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.Man cychwyn \/ gorffen: Penllech (SH 205 346) \/ Plas yn Rhiw (SH 237 282). PETHAU [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":27,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/758"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=758"}],"version-history":[{"count":28,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/758\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2011,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/758\/revisions\/2011"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/27"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=758"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}