{"id":76,"date":"2019-10-13T15:26:18","date_gmt":"2019-10-13T14:26:18","guid":{"rendered":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=76"},"modified":"2023-07-18T09:08:36","modified_gmt":"2023-07-18T08:08:36","slug":"cylchdaith-llangwnnadl","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=76","title":{"rendered":"Cylchdaith Llangwnnadl"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><object class=\"wp-block-file__embed\" data=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llangwnnadl.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:640px\" aria-label=\"Mewnblaniad Cylchdaith Llwybr Arfordir Llangwnnadl\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-eb865c07-b8ae-43ca-9d45-b4054e6e5311\" href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llangwnnadl.pdf\">Cylchdaith Llwybr Arfordir Llangwnnadl<\/a><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Cylchdaith-Llwybr-Arfordir-Llangwnnadl.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-eb865c07-b8ae-43ca-9d45-b4054e6e5311\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Manylion y daith<\/h2>\n\n\n\n<p>Amcan o\u2019r hyd: 6.4 kilometr\/4 milltir.<br>Amcan o\u2019r amser: 2.5 awr.<br>Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.<br>Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Penllech, SH206 342.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Disgrifiad<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Llangwnnadl \u2013<\/strong>&nbsp;Ystyr Llangwnnadl yw Eglwys Gwynhoedl ond Nantgwnnadl oedd yr enw tan yr 16eg ganrif pan newidiwyd o i gyd fynd \u00e2\u2019r llannau eraill. Honna rhai fod Gwynhoedl Sant&nbsp; (o\u2019r 6ed ganrif) yn fab i Seithennin. Hwn, yn \u00f4l y chwedl, fu\u2019n gyfrifol am foddi teyrnas Cantre\u2019r Gwaelod sydd bellach o dan y m\u00f4r ym mae Ceredigion. Fel ei frodyr, roedd Gwynhoedl yn aelod o Goleg Dunawd, ym Mangor Is-Coed; ac roedd un o\u2019i frodyr yn feudwy ar Ynys Enlli. Yn \u00f4l hen draddodiad daeth y teulu i Langwnnadl o Lannor, pentref ger Pwllheli (yn wir mae lle yn Llannor o\u2019r enw Maes Gwyn), a\u2019r gred ydi fod Gwynhoedl, yr arweinydd, wedi marw cyn iddynt adael gan ddod \u00e2\u2019i gorff hefo nhw i\u2019w gladdu yma. <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Mwy\u2026 Llangwnnadl.org.uk<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 1  <\/mark><strong> Porth Colmon<\/strong> &#8211; Un o\u2019r porthladdoedd mwyaf dymunol\u00a0yn Ll\u0177n, gyda ffordd gar yn arwain i lawr\u00a0ato oddi wrth Gapel Penygraig. Mae Porth Colmon yn enghraifft nodedig o byrth arfordirol traddodiadol gogledd Ll\u0177n. Cafnwyd glanfa yno i longau\u2019n hwylio gyda\u2019r glannau drwy chwythu\u2019r creigiau ar y traeth llechog. Galwai stemars yno yn ddiweddarach gan gludo nwyddau a theithwyr yn \u00f4l ac ymlaen i Gaernarfon a Lerpwl. Gallwch ganfod dolennau haearn ar gyfer rhwymo\u2019r hen longau yng nghreigiau\u2019r lanfa o hyd ac mae olion iard l\u00f6 ac odyn yn y borth. <\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1.jpg\" alt=\"Porth Colmon\" class=\"wp-image-1089\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/cwch-1-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Colmon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ar fwrdd treftadaeth ger gi\u00e2t y llwybr, mae disgrifiad da o\u2019r winsh arbennig a adeiladwyd yno ar gyfer dadlwytho llongau. Yn y pumdegau bu bron i ni golli\u2019r Borth&nbsp;am byth. Ond diolch i frwydro ystyfnig y brodorion lleol,&nbsp;gorchfygwyd y Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag&nbsp;cael mynd &nbsp;i lawr i\u2019r Borth <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=135\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Porth Colmon Llangwnnadl\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"399\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon.jpg\" alt=\"Porth Colmon\" class=\"wp-image-1193\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon-300x200.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Porth-Colmon-120x80.jpg 120w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Porth Colmon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 2 <\/mark><strong> Porth T\u0177 Mawr <\/strong>&#8211; Enw arall ar Porth T\u0177 Mawr yw Porth Wisgi. Yn 1901 drylliwyd llong y Stuart ar y creigiau yma. Roedd ar ei ffordd o Lerpwl i Seland Newydd gyda swyddogion ifanc a chriw o 19. Daeth y criw i\u2019r lan yn ddiogel a chredid y gellid ailgodi\u2019r llong ar lanw uchel. Ond daeth storm o\u2019r m\u00f4r gan dorri ei mastiau ac agor yr howld gan wasgaru ei chargo ar hyd y glannau. Ymysg y llwyth roedd llestri, pianos, canhwyllau \u2013 a stowt a wisgi. Mae baledwyr a haneswyr lleol yn s\u00f4n am firi mawr wrth i bobl yr ardal heidio i\u2019r pyrth i gasglu\u2019r nwyddau a rhai yn cythru\u2019r poteli wisgi, eu hagor ar y creigiau a\u2019u hyfed yn y fan a\u2019r lle. Does fawr ddim i\u2019w weld o weddillion y Stuart erbyn hyn, heblaw am ddarnau o\u2019i haearn yma ac acw yn y caeau a malurion llestri yn y cerrig trai.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"402\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3.jpg\" alt=\"Y stuart -Porth T\u0177 Mawr\" class=\"wp-image-1090\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3-300x201.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/stuart_3-119x80.jpg 119w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Y stuart -Porth T\u0177 Mawr<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ceir peth o hanes y \u201cStuart\u201d yn \u201cBIas Hir Hel\u201d a hefyd fe\u2019i crybwyllir yn \u201cPigau\u2019r S\u00ear\u201d gan John Griffith Williams. Cafodd J. G. Williams ei garcharu yn ystod yr&nbsp;ail ryfel byd&nbsp;am, yn ei eiriau ei hun yn ei gyfrol&nbsp;<em>Maes Mihangel<\/em>&nbsp;(1974), &#8220;wrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru.&#8221; Yn \u00f4l darlith Robin Gwyndaf, ymwelodd Serah Trenholme, \u00e2\u2019r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cafodd Elfed Gruffydd ei hanes yn fanwl gan ei ewythr, Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i\u2019r cyfan ac yn gofnodwr manwl.  <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=90\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Y Stuart Porth T\u0177 Mawr Llangwnnadl\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 3 <\/mark><strong> Eglwys Llangwnnadl <\/strong>&#8211; Mae Eglwys Llangwnnadl yn un o hen eglwysi Ll\u0177n a oedd ar Lwybr y Pererinion\u00a0 i Ynys Enlli yn yr Oesoedd Canol. Roedd Gwynhoedl, nawdd sant yr eglwys, yn un o\u2019r seintiau cynnar (pan oedd yr Eglwys Geltaidd yn ffynnu ar lannau gogledd orllewinol Ewrop yn y bumed a\u2019r chweched ganrif). Ar gi\u00e2t haearn, addurniedig yr eglwys mae\u2019r geiriau \u2018T\u0177 Dduw\u2019 a ddyluniwyd gan J. G. Williams (awdur \u201cPiga\u2019r S\u00ear\u201d a \u201cMaes Mihangel\u201d) a gof Aberdaron a\u2019i gwnaeth. Mae\u2019r eglwys ei hun yn adeilad hyfryd, gyda thair cangell ac mae\u2019n debyg mai\u2019r un ganol yw\u2019r hynaf.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"383\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tydduw2.jpg\" alt=\"Eglwys Llangwnnadl\" class=\"wp-image-1194\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tydduw2.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tydduw2-300x192.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tydduw2-125x80.jpg 125w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Eglwys Llangwnnadl<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Gwynhoedl oedd un o seintiau cynharaf Ll\u0177n. Yn yr eglwys mae carreg sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Gwynhoedl y credir iddi fod yn garreg fedd iddo. Canfyddwyd hi wrth adnewyddu\u2019r eglwys yn 1940au , pan dynwyd plaster oddi ar y waliau. Y mae\u2019r garreg i\u2019w gweld yn wal ddeheuol yr eglwys &nbsp;ac wedi ei thorri arni mae croes geltaidd. Gellir tybio fod y groes wedi ei phaentio ar y dechrau gan fod olion lliw coch i\u2019w gweld arni o hyd. Mae haneswyr amlwg wedi dyddio\u2019r garreg i gyfnod o gwmpas 600 A.D.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Eglwys Llangwnnadl\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/npn3f3fIN0o?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><figcaption class=\"wp-element-caption\">Ffilm o Eglwys Llangwnnadl <\/figcaption><\/figure>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter\"><a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/wp-content\/uploads\/2013\/11\/gloch.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/wp-content\/uploads\/2013\/11\/gloch-231x300.jpg\" alt=\"gloch\" class=\"wp-image-81\"\/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Un arall o geririau\u2019r blynyddoedd cynnar yw cloch sanctaidd o efydd. Mae\u2019n dyddio yn \u00f4l i\u2019r 6ed &nbsp;ganrif, ac fe\u2019i defnyddir mewn llyfrau safonol fel enghraifft gynnar o waith metel. Yn anffodus nid yw\u2019r gloch yn yr eglwys bellach, ond gellir ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd ei chadw yng Nghastell Madryn yn ystod y gwaith adnewyddu a fu ar yr eglwys yn y 19eg ganrif, a daeth i\u2019r golwg unwaith eto yn yr ocsiwn yng Nghastell Madryn pan gafodd ei gwerthu am \u00a344 2s. Ond mae castin manwl ohoni bellach yn yr eglwys ar ol iddi gael ei ei chyflwyno i\u2019r eglwys ychydig flynyddoedd yn \u00f4l gan y diweddar Mr. W. J. Hemp, Cricieth; hynafiaethwr amlwg a chyfaill ffyddlon i\u2019r eglwys.  <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=68\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Eglwys Llangwnnadl\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 4 <\/mark><strong> Capel Penygraig<\/strong> &#8211; Mae Canolfan Dreftadaeth a Natur Ll\u0177n wedi\u2019i leoli yng Nghapel Penygraig . Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig,\u00a0Yn 1863 codwyd capel ar dir y fferm a chodwyd y capel \u00a0presennol yn 1901. Roedd yr ysgubor ddegwm yn y beudy tu \u00f4l i\u2019r capel. Pan gaewyd Ysgol Llangwnnadl yn 1949, cynhaliwyd ysgol i\u2019r plant ieuengaf yn festri\u2019r capel tan ddiwedd yr 1960au pan gludwyd y plant i Ysgol Tudweiliog.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"355\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/penygraig_llangwnnadl.jpg\" alt=\"Capel Penygraig ar hen gytiau ar Y Dryll\" class=\"wp-image-1086\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/penygraig_llangwnnadl.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/penygraig_llangwnnadl-300x178.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/penygraig_llangwnnadl-135x80.jpg 135w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Siop Penygraig, Capel Penygraig ar hen gytiau ar Y Dryll<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Mae John ac Alun wedi canu am hanes y teuluoedd hynny a allfudodd i Ogledd America ar \u00f4l cynnal eu gwasanaeth olaf yng Nghapel Pen y graig cyn cerdded i Borth Golmon a ffarwelio gyda theulu a ffrindiau am byth. Neu mae hi\u2019n bosib mai hwylio o Bwllheli a wnaethont. Ond mae un peth yn sicr a hynny ydi y cynhaliwyd&nbsp; gwasanaeth emosiynol iawn yn y capel yn 1825 i ffarwelio \u00e2 dros hanner cant o drigolion y plwyf a oedd yn gadael eu bro am byth ac yn ymfudo i\u2019r America. <a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=112\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Capel Penygraig\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 5 <\/mark><strong> Siop Penygraig <\/strong>&#8211; Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig, lle sefydlwyd Siop Pen y graig,, sydd wedi cau erbyn heddiw ond a fu\u2018n un o siopau pwysicaf y wlad yn ei chyfnod, yn gwerthu\u2019r ffasiwn diweddaraf a thynnu cwsmeriaid o bell. A daeth teulu\u2019r Siop yn enwog am eu meddyginiaeth gyfrinachol i wella\u2019r ddafad wyllt (canser ar y croen). Mae carreg fedd Owen Griffiths i\u2019w gweld ym mynwent Llangwnnadl.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-content-justification-center is-nowrap is-layout-flex wp-container-1\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"338\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pengraig.jpg\" alt=\"Siop Penygraig\" class=\"wp-image-1075\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pengraig.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pengraig-300x230.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/pengraig-104x80.jpg 104w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Hen Siop Penygraig<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/bedd-griffith.jpg\" alt=\"Carreg fedd Owen Griffiths\" class=\"wp-image-1074\" width=\"225\" height=\"334\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Carreg fedd Owen Griffiths<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 6 <\/mark> <strong>Minafon<\/strong> &#8211; Roedd Minafon yn ganolfan i w\u0177r a gwragedd y cylch am gyfnod byr ddechrau\u2019r 20ed ganrif am mai yno yr oedd siop a swyddfa\u2019r fenter seithug honno, Cymdeithas Gydweithredol Amaethyddol Ll\u0177n. Pan agorwyd y \u201cCo-op\u201d yn 1913, fe benodwyd \u00a0Evan Williams yn Ysgrifennydd, a phan ddaeth y Gymdeithas i derfyn digyllid yn 1928, fe adawyd yr Ysgrifennydd heb ddim ar ei elw yn llythrennol. Dim ond dwy siwt a beic ac ychydig lyfrau!<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"387\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/minafon.jpg\" alt=\"Co-op Minafon\" class=\"wp-image-1077\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/minafon.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/minafon-300x194.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/minafon-124x80.jpg 124w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Co-op Minafon<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Un elfen adfydus ym methiant y Gymdeithas oedd y lorri st\u00eam (neu \u201cdracshion\u201d ar lafar) a brynwyd am bymtheg cant o bunnau i gludo nwyddau dros y pedair milltir ar ddeg o Bwllheli, gan mai dyna ben draw\u2019r tr\u00ean. Ond yn fuan ar \u00f4l ei phrynu fe ddaeth lorri betrol yn beth gweddol gyffredin, a bu\u2019r \u201ctracshion\u201d yn ei gwt ym Mhenygroeslon heb godi\u2019r un pwff o st\u00eam am rai blynyddoedd, nes ei gwerthu\u2019n sgrap yn y diwedd am drigain punt.<\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 7 <\/mark> <strong>Coets Tir Gwenith<\/strong> &#8211; Yn y 19eg ganrif roedd pobl a masnach Ll\u0177n yn dibynnu ar goets a cheffyl i\u2019w cario o Bwllheli. Coets Tirgwenith a\u2019r bws yn ddiweddarach a ddeuai i Langwnnadl drwy Nefyn ac Edern ac mae llorp y goets i\u2018w gweld ym Mhen y graig heddiw.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"800\" height=\"600\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tir-gwenith.jpg\" alt=\"Coets Tir Gwenith yn Tudweiliog\" class=\"wp-image-1080\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tir-gwenith.jpg 800w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tir-gwenith-300x225.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tir-gwenith-768x576.jpg 768w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/tir-gwenith-107x80.jpg 107w\" sizes=\"(max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Coets Tir Gwenith yn Tudweiliog<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 8 <\/mark><strong> Yr Hen Ysgol <\/strong>&#8211; Y GANOLFAN \u00a0&#8211; Caewyd yr Ysgol yn 1949. Ond ar ei newydd wedd mae hi\u2019n Ganolfan Gymunedol, erbyn hyn, lle cynhelir pob math o weithgareddau o ddawnsio gwerin i chwarae bingo. Yma yn Nh\u0177\u2019r Ysgol yr oedd Dr. J\u00f4s (meddyg yn Nh\u0177 Doctor, Botwnnog) a\u2019i wraig Jini \u201cJini Ty\u2019r Ysgol\u201d yn byw. Roedd Jini Jones yn athrawes yn yr ysgol yn ogystal \u00e2 bod yn artist. Hi ddyluniodd y cymeriad Porci yn y cylchgrawn \u201cHwyl\u201d, i blant ac ysgrifennu \u201cTomos o Enlli\u201d. Roedd Dr. J\u00f4s a Jini Jos yn sicr yn ddau o gymeriadau lliwgar Ll\u0177n.<br><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"452\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangwnnadl1.jpg\" alt=\"Hen Ysgol\" class=\"wp-image-1084\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangwnnadl1.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangwnnadl1-300x226.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/llangwnnadl1-106x80.jpg 106w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Hen Ysgol  <br><br><a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=84\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Yr Hen Ysgol \/ Canolfan Cymunedol\">Mwy..<\/a><a href=\"http:\/\/llangwnadl.org.uk\/wp2\/?page_id=84\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">.<\/a><\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 9 <\/mark> <strong>Maen Hir Llangwnnadl <\/strong>(SH 208325) &#8211;  Saif y Maen Hir ar ben bryn bychain. Mae\u2019n 3metr o daldra, ac yn fras mae ei groestoriad yn betryal o faint 60x40cm. Mae dyddio\u2019r meini\u2019n parhau\u2019n ddirgelwch ond mae cytundeb iddynt gael eu codi yn gynnar yn Oes yr Efydd (2500-1500 CC). Ni wyddom pam y cafodd y meini urddasol eu codi. Oes arwyddoc\u00e2d i\u2019w safle mewn perthynas \u00e2\u2019r mynyddoedd cyfagos megis Garn Fadryn neu Fynydd Y Rhiw? A oeddynt yn fannau sanctaidd yn yr hen oes? Ai cerrig beddi ydynt i arwyr neu benaethiaid llwythi? A gawsant eu defnyddio mewn seremon\u00efau \u2018paganaidd\u2019 a bod o bosib elfen Gristnogol wedi\u2019i ychwanegu\u2019n ddiweddarach? Ai eu codi i\u2019w defnyddio mewn astudiaethau seryddol oedd y bwriad? A oes arwyddoc\u00e2d i\u2019w safleoedd mewn perthynas \u00e2\u2019r tymhorau, codiad yr haul ar Alban Hefin (hirddydd haf) neu gylchdro\u2019r lleuad? Neu ai mynegbyst i gyfeirio teithwyr yn ystod y canrifoedd cynnar oeddent? Pwy a \u0175yr.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond yn sicr ni chodwyd nhw ar chwarae bach nac yn fympwyol.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"440\" height=\"315\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/10.jpg\" alt=\"Maen Hir Llangwnnadl\" class=\"wp-image-1095\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/10.jpg 440w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/10-300x215.jpg 300w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/10-112x80.jpg 112w\" sizes=\"(max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Maen Hir Llangwnnadl<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\">10 <\/mark><strong><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-white-color\">.<\/mark>Traeth Penllech<\/strong> (SH 205346) &#8211;  Cyfarwyddiadau: Naill ai dilynwch y ffordd isaf gul ar hyd yr arfordir o Langwnnadl i Dudweiliog trwy hen blwyf Penllech a pharcio yn y maes parcio (ger Pont yr Afon Fawr)\u00a0 ger Bryn Geinach yna cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus i\u2019r traeth Neu, wrth gwrs, gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Borth Colmon tua\u2019r dwyrain.   <br>Mae\u2019n draeth eang tywodlyd sy\u2019n ymestyn o Benrhyn Melyn yn y pen gogleddol i gyrion Porth Colmon. Mae ynddo gilfachau creigiog yn dwyn enwau fel Porth Sion Dafydd, Pont Bridd a Th\u0177 Nain. Yng Nghreigiau Duon Berth Aur mae Ogof Huw Sion Fychan, ogof gron rhyw lathen o\u2019r tywod. Pwy oedd Huw Sion Fychan a pham fod twll ebill yn ei llawr? Dirgelion na chawn fyth ateb iddynt, mae\u2019n bur debyg. Ym mhen gogleddol y traeth cyn cyrraedd Fach Penrhyn (Fach Peryn) mae ogof arall o\u2019r enw\u2019r Popdy Du y credir i Hywel Harries fod wedi pregethu ohoni i gynulleidfa ar y traeth pan ar un o\u2019i deithiau cynharaf i L\u0177n.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"600\" height=\"800\" src=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof.jpg\" alt=\" Ogof Huw Sion Dafydd\" class=\"wp-image-1502\" srcset=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof.jpg 600w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof-225x300.jpg 225w, http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/ogof-60x80.jpg 60w\" sizes=\"(max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"> Ogof Huw Sion Fychan<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n<p>I\u2019r de o aber yr Afon Fawr (neu Afon LLeuddad yn wreiddiol, yn \u00f4l rhai) mae Penrhyn Blawd lle chwythir tywod y traeth yn&nbsp; f\u00e2n fel blawd hyd ei odrau a\u2019i lethrau ar adegau. &nbsp;Ychydig i fyny\u2019r afon o dan y rhaeadr mae\u2019r &nbsp;Pwll Gerwin a\u2019r &nbsp;Pwll Diwaelod. Er ei fod yn draeth diogel i nofio ynddo boddodd&nbsp;<strong>J Bodvan Annwyl&nbsp;<\/strong>(Bodfan), y geiriadurwr yma ar 23 Gorffennaf 1949. Roedd yn byw yn yr ardal ac yn arfer nofio\u2019n ddyddiol. Yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o\u2019r rhain. Fe\u2019i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar \u00f4l ymneilltuo o\u2019r swydd honno, ymsefydlodd yn&nbsp;Nant, Llangwnnadl lle cododd d\u0177 newydd a\u2019i alw\u2019n Bryn Bodfan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Penllech\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/BmIePqqN-hg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:rgba(0, 0, 0, 0)\" class=\"has-inline-color has-white-color\">.<\/mark><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 11 <\/mark><strong> Porthladdoedd bach<\/strong> &#8211; Ni all neb fod ymhell o\u2019r m\u00f4r yn Ll\u0177n a bu\u2019n ddylanwad cryf ar fywydau\u2019r trigolion ar hyd y canrifoedd. Yn wir, roedd hi\u2019n \u00a0haws dod \u00e2 nwyddau yma mewn llong nag mewn trol. Y porthmyn, mae\u2019n debyg, oedd yr unig rai a welai\u2019r angen i wella cyflwr y ffyrdd. Daeth y tr\u00ean i Bwllheli yn 1867 a daeth y cyfle i dderbyn amrywiaeth eang o nwyddau. Edwinodd y porthladdoedd fel lleoedd masnachu a daeth canrifoedd o draddoriad i ben.\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/morwrol\/llinellamser.HTML#top\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Llinell Amser Morwrol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ym Mhorth Ysgadan, Porth Colmon a Phorth Ferin roedd ierdydd yn y pyrth i gadw glo a deuai\u2019r llongau i mewn ac allan ar lanw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn dogfen wedi\u2019i dyddio yn 1524 yn enwi\u2019r porthladdoedd yr oedd hi\u2019n bosibl glanio ynddynt. Dyma nhw:<\/p>\n\n\n\n<ul>\n<li>The bay of Dynlley betweene karrek y llan and the barre of carn\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>The bay between Karrek y llam and penrhyn Dynllayn<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of abergyerch<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth yskadan<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth y Gwylen<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth ychen<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth penllegh<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth Colmon<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth Veryn<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth Yeagowe<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porthor and the Ile of Bardsey<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of porth Muduy<\/li>\n\n\n\n<li>The bay of Aberdaron<\/li>\n\n\n\n<li>The bay of Nygull<\/li>\n\n\n\n<li>The Roode of the two Ilonder of Stidwall<\/li>\n\n\n\n<li>The Crik of Aber Soigh<\/li>\n\n\n\n<li>The bay of Castellmarch<\/li>\n\n\n\n<li>The baye of stydwalles to the geist<\/li>\n\n\n\n<li>The haven of pullele in the myddes of the said baye<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gallwn yn hawdd eu hadnabod a gwelwn fod enwau arfordirol Ll\u0177n yn ganrifoedd oed. Lle bynnag y mae\u2019r arfordir yn creigiog mae nifer helaeth o enwau ond maent yn brin mewn baeau a thraethau tywodlyd. Pysgotwyr a chreincwyr a roddodd iddynt eu henwau a ch\u00e2nt eu defnyddio\u2019n ddyddiol heddiw. Tu \u00f4l i bob enw mae stori boed yn disgrifio craig, yn dweud pwy ddarganfu\u2019r twll cranc neu gallant gyfeirio at drigiolion a digwyddiadau, rhai bellach yn angof.&nbsp;  <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/MORWROL.HTML\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><mark style=\"background-color:#cf2e2e\" class=\"has-inline-color has-white-color\"> 12 <\/mark><strong> Llongdrylliadau <\/strong>&#8211;  Mae\u2019n gwbl naturiol fod penrhyn Ll\u0177n wrth ymestyn allan i f\u00f4r prysur Iwerddon wedi bod yn dipyn o gur pen i berchnogion a chapteiniaid llongau dros y blynyddoedd. Mae arfordir gogledd Ll\u0177n yn greigiog a pheryglus ac mae hi\u2019n \u00a0anodd cyrraedd rhai o\u2019r baeau i gysgodi oherwydd eu gelltydd meddal. Ond mae Porthdinllaen yn eithriad ac yn gysgodol iawn rhag y gwyntoedd i gyd ag eithrio\u2019r gwynt o\u2019r gogledd ddwyrain.\u00a0  <a href=\"http:\/\/www.gwynedd.biz\/1\/Hanes\/llangwnnadl\/wreck.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Mwy&#8230;<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=767\"><sub><sup>ffynonellau llyfryddiaeth<\/sup><\/sub><\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfarwyddiadau<\/h2>\n\n\n\n<ul>\n<li>Cerddwch o&#8217;r maes parcio i gyfeiriad Tudweiliog ac ar \u00f4l croesi&#8217;r bont, dilynwch y llwybr gyda glan yr Afon Fawr drwy gaeau bychain i Draeth Penllech. <\/li>\n\n\n\n<li>Os yw&#8217;r llanw&#8217;n caniatau, croeswch ran o&#8217;r traeth, drwy&#8217;r afon, ac i fyny&#8217;r grisiau i&#8217;r llwybr sy&#8217;n mynd ar hyd ben rallt i Borth Colmon. <\/li>\n\n\n\n<li>Ewch ymlaen ar hyd y Llwybr Arfordir am rhyw filltir ar \u00f4l hynny a throi i&#8217;r chwith yn \u00f4l i gyfeiriad y tir. Croeswch dir amaethyddol nes cyrraedd l\u00f4n darmac. <\/li>\n\n\n\n<li>Trowch i&#8217;r chwith eto gan ddilyn y ffordd darmac nes canfod y llwybr sy&#8217;n mynd \u00e2 chi drwy amryw o gaeau nes cyrraedd Eglwys Llangwnnadl. <\/li>\n\n\n\n<li>Croesi&#8217;r ffordd ac ymlaen drwy gaeau bychain eto nes cyrraedd l\u00f4n wledig arall. I&#8217;r dde a chwblhau&#8217;r daith yn y maes parcio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/?page_id=21\">Yn \u00f4l i dudalen Llwybrau Cylchol Ll\u0177n<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Manylion y daith Amcan o\u2019r hyd: 6.4 kilometr\/4 milltir.Amcan o\u2019r amser: 2.5 awr.Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.Man cychwyn\/gorffen: Maes Parcio Penllech, SH206 342. Disgrifiad Llangwnnadl \u2013&nbsp;Ystyr Llangwnnadl yw Eglwys Gwynhoedl ond Nantgwnnadl oedd yr enw tan yr 16eg ganrif pan newidiwyd o i gyd fynd \u00e2\u2019r llannau eraill. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":21,"menu_order":-4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mi_skip_tracking":false},"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/76"}],"collection":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=76"}],"version-history":[{"count":38,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/76\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1878,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/76\/revisions\/1878"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/21"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/crwydro.co.uk\/crwydro-c\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=76"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}