click for English text
Cyhoeddwyd y drydedd gyfrol o Restr Henebion Hynafol sir Gaernarfon yn 1964 yn Saesneg. Mae’r wefan yma yn cyflwyno’r testun fel y cafodd ei gyhoeddi, ond mae rhyngwyneb y wefan yn ddwyieithog ac rydym yn annog sylwadau Cymraeg neu Saesneg.
Roedd y cyhoeddiad, yn 1964, o’r drydedd gyfrol o Restr Henebion Hynafol sir Gaernarfon, sydd yn cwmpasu Cantref Llŷn, yn cwblhau’r gyfres a gychwynodd gyda Chyfrol I yn 1956 a Chyfrol II yn 1960. Dechreuodd y gwaith maes yn Sir Gaernarfon ar ddiwedd y 1930gau a pharhaodd drwy gyfnod y rhyfel tra ‘roedd y Comisiwn Brenhinol, am gyfnod byr, wedi ei leoli yng Nghricieth. Cariodd y gwaith ymlaen ar ôl y rhyfel, dan ofal yr Ysgrifennydd a symudodd y Comisiwn i Aberystwyth, sydd yn parhau i fod yn ganolfan i’r gwaith hyd heddiw.
Mae 50 mlynedd ers cyhoeddi Cyfrol III yn rhoi cyfle i adolygu’r wybodaeth a gyhoeddwyd yn 1964, ac i’w ddefnyddio fel meincnod i gofnodi cyflwr presennol yr henebion ac I gael gwell dealltwriaeth o adnoddau archaeolegol a phensaernïol yr ardal. Mae’r prosiect yn dangos gwerth y cyfraniad enfawr a wneir gan y gymdeithas leol i ymchwil archaeolegol a gwerthg cofnodi cymunedol sydd yn codi proffil archaeoleg yn yr ardal a thu hwnt. Yn ogystal â gwella Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a’r cofnodion amgylchedd hanesyddol rhanbarthol, drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein sydd ar gael yn rhwydd, bydd y wybodaeth ar gael i’r gynulleidfa eang sydd â diddordeb mewn archeoleg gyfoethog ac amrywiol y rhan hon o ogledd-orllewin Cymru.
The Inventory is recognised by many as the apogee of the Commission’s published inventory series when modern ideas of recording, first used to produce the previous Inventory of Anglesey in 1937, matured and took the Commission beyond methods used in its early publications, which reflected an earlier, almost antiquarian, approach to recording. The new approach emphasised the importance of fieldwork and created detailed records of hundreds of sites across the county, with a greater emphasis on vernacular architecture than had been seen in earlier publications.
The 50th anniversary of the publication of Volume III offers the opportunity to review the information published in 1964, and to use it as a benchmark to record the current condition of the monuments and enhance our understanding of the archaeological and architectural resources of the area. The project demonstrates the huge contribution made by the local society to archaeological research and the value of community recording in raising the profile of archaeology in the area and beyond. In addition to enhancing the National Monuments Record of Wales and the regional historic environment records, by using readily available online services, the information will be made available to the wide audience interested in the rich and varied archaeology of this part of north-west Wales.
Rhannwch - Share and Enjoy