YMWELD A SAFLEOEDD – VISITING SITES

 click  for English Text

Ymweld a safleoedd

Wrth ymweld a safleoedd dilynwch y Cod Cefn Gwlad – Parchwch, Diogelwch, Mwynhewch

 Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion.

  • Cyfeiriwch at fap neu lyfr tywys diweddar, neu ewch i Wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe allwch chi gael gwybodaeth hefyd o ganolfannau gwybodaeth lleol.
  • Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunan, ac am ddiogelwch y bobl eraill sydd yn eich gofal. Felly, byddwch yn barod am newid yn y tywydd neu am bethau eraill a allai ddigwydd. Ar Cyfoeth Naturiol Cymru fe gewch chi gysylltiadau â mudiadau sy’n cynnig cyngor penodol ynghylch cyfarpar a diogelwch. Neu cysylltwch â chanolfannau gwybodaeth i ymwelwyr a llyfrgelloedd i gael rhestr o grwpiau gweithgareddau awyr agored.
  • Cyn mentro allan, gwiriwch ragolygon y tywydd. Peidiwch â bod ofn troi’n ôl pe bai’r tywydd yn troi.
  • Rhan o apêl cefn gwlad yw’r cyfle i ddianc rhag y byd a’i broblemau. Mae’n bosib fyddwch chi ddim yn gweld unrhyw un arall am oriau. Cofiwch hefyd fod yna lefydd sydd heb signal clir i ffôn symudol. Felly, gadewch i rywun arall wybod ble rydych chi’n mynd, a phryd i’ch disgwyl chi’n ôl.
  • Gofalwch eich bod chi’n gwybod ystyr arwyddion a symbolau. Maen nhw yno i’ch helpu chi i ffeindio’ch ffordd.

Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw.

Dangoswch barch at y bobl sy’n gweithio yng nghefn gwlad. Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn gallu effeithio ar fywoliaeth pobl, ar ein treftadaeth ac ar ddiogelwch a lles anifeiliaid a ni’n hunain.

  • Mewn caeau lle mae cnydau’n tyfu, dilynwch y llwybrau lle bynnag y bo modd.
  • Mae’n bosib y bydd ffermwr yn gadael gât neu glwyd ar gau er mwyn cadw anifeiliaid i mewn. Fe allai hefyd ei gadael ar agor fel bod anifeiliaid yn gallu mynd at fwyd neu ddwr. Felly, gadewch y clwydi a’r gatiau fel rydych chi’n eu ffeindio, neu dilynwch gyfarwyddiadau neu arwyddion. (Os ydych chi’n cerdded mewn grwp, gofalwch fod y cerddwr olaf yn gwybod sut i adael y clwydi.)
  • Defnyddiwch glwydi a chamfeydd lle bynnag mae hynny’n bosib. Mae dringo dros waliau, gwrychoedd a ffensys yn gallu’u difrodi, gan adael i anifeiliaid fferm ddianc.
  • Gadewch beiriannau ac anifeiliaid fod. Peidiwch ag ymyrryd ag anifeiliaid hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eu bod nhw mewn trafferthion neu’n dioddef. Yn lle ymyrryd, ceisiwch roi gwybod i’r ffermwr.
  • Mae ein treftadaeth yn perthyn i ni i gyd. Gofalwch dydych chi ddim yn gwneud difrod i adfeilion neu safleoedd hanesyddol.
  • Os ydych chi’n meddwl bod arwydd yn anghyfreithlon neu’n gamarweiniol (e.e. arwydd ‘Preifat – Dim Mynediad’ ar lwybr cyhoeddus), cysylltwch â’r awdurdod lleol.
  • Paid a symyd neu cymeryd dim byd o’r safle

Lle mae’r safle ar tir preifat plis gofynnwch caniatad

Gofalwch eich bod chi’n gwarchod planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â’ch sbwriel gartref.

Rydyn ni’n gyfrifol am ddiogelu cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn niweidio anifeiliaid, adar, planhigion neu goed.

  • Mae gadael sbwriel neu sbarion bwyd ar eich ôl yn gwneud mwy nag amharu ar harddwch cefn gwlad. Mae’ch sbwriel yn gallu peryglu bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, a lledaenu clefydau. Felly, ewch â’ch sbwriel gartref. (Mae gollwng a thaflu sbwriel yn drosedd.)
  • Fe ddylech chi werthfawrogi harddwch yr amgylchedd naturiol. Ond, gadewch i gerrig, planhigion a choed fod. Dyma gartrefi a bwyd adar, anifeiliaid a phryfed, a dyma’r pethau sy’n gwneud mynd i gefn gwlad yn bleser i ni i gyd.
  • Mae’n anodd rhagweld sut bydd anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid fferm yn ymddwyn os ydych chi’n mynd yn rhy agos atyn nhw, yn enwedig os oes anifeiliaid ifanc gyda nhw. Rhowch ddigon o le iddyn nhw.
  • Mae tân yn gallu niweidio bywyd gwyllt a chynefinoedd yn yr un ffordd ag y mae’n niweidio pobl ac eiddo. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn gollwng matsien neu sigarét heb eu diffodd yn iawn. (Ond cofiwch: mae tân yn cael ei ddefnyddio i reoli llystyfiant gweunydd a rhosydd rhwng mis Hydref a dechrau mis Ebrill. Felly, cyn ffonio 999, gofalwch nad oes yna rhywun yno’n gofalu am y tân.)

Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.

Mae cefn gwlad yn lle ardderchog i fynd â’ch ci am dro. Ond, dyletswydd pob un sy’n berchen ar gi yw gofalu dydi’r ci ddim yn peryglu neu’n poenydio anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt neu bobl eraill.

  • Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi reoli’ch ci, a’i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn byr pan fyddwch chi ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd gydol y flwyddyn pan fyddwch chi’n agos at anifeiliaid fferm.
  • Cyn belled â’ch bod chi’n cadw’ch ci dan reolaeth dynn, does dim rhaid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae’n well ei gadw ar dennyn os dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cwn sy’n anafu neu’n poeni’u hanifeiliaid.
  • Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich ôl, mae’n fwy diogel i chi adael eich ci oddi ar ei dennyn. Peidiwch â pheryglu’ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus i rwystro’ch ci rhag dychryn defaid ac wyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall. Heb gael eu hamddiffyn gan eu rhieni, mae wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw’n fuan.
  • Mae pawb yn gwybod mor annymunol yw baw ci. Mae hefyd yn gallu lledaenu heintiau. Felly, gofalwch eich bod chi’n glanhau ar ôl eich ci bob tro, a’ch bod chi’n cael gwared â’r baw mewn ffordd gyfrifol. Gofalwch hefyd fod eich ci’n cael triniaeth reolaidd ar gyfer llyngyr.
  • Ar rai adegau, fydd cwn ddim yn cael mynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid cadw’r ci ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion. Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y rheolau yma ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Drwy ystyried teimladau pobl eraill, a pharchu’r bobl yna, fe fyddwch chi’n gwneud cefn gwlad yn lle gwell i bawb – yn eu cartrefi, wrth weithio ac wrth wneud gweithgareddau hamdden.

  • Mae traffig trwm ar heolydd bach y wlad yn gallu bod yn annymunol ac yn beryglus. Lle bynnag mae hynny’n bosib, gadewch eich car gartre’. Meddyliwch am ffyrdd o rannu ceir, a defnyddiwch ffyrdd eraill o deithio, e.e. cludiant cyhoeddus neu feiciau. (I gael gwybod mwy am gludiant cyhoeddus, ffoniwch Traveline ar 0870 608 2608.)
  • Parchwch anghenion pobl leol. Peidiwch â pharcio mewn mannau anaddas, e.e. o flaen tai neu ar draws mynedfeydd.
  • Pan rydych chi ar eich beic neu’n gyrru, arafwch i geffylau, cerddwyr ac anifeiliaid fferm. Wrth eu pasio, rhowch ddigon o le iddyn nhw. (Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a’r rheini sydd ar gefn ceffylau ar lwybrau ceffylau.)
  • Cadwch allan o’r ffordd pan mae anifeiliaid fferm yn cael eu casglu neu’u symud. Dilynwch gyfarwyddiadau’r ffermwr.
  • Helpwch economi cefn gwlad i ffynnu. Prynwch fwyd a phethau eraill o siopau lleol.

Gwybodaeth gan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Cod Cefn Gwlad


.

 

When Visiting Sites

When visiting the sites please follow The Countryside Code – Respect, Protect, Enjoy.

Be Safe – plan ahead and respect all signs and fences:

• Refer to up-to-date maps or guidebooks, visit Natural Resources Wales or contact local information centres.

• You’re responsible for your own safety and for others in your care, so be prepared for changes in weather and other events. Visit Natural Resources Wales for links to organisations offering specific advice on equipment and safety, or contact visitor information centres and libraries for a list of outdoor recreation groups.

• Check weather forecasts before you leave, and don’t be afraid to turn back.

• Part of the appeal of the countryside is that you can get away from it all. You may not see anyone for hours and there are many places without clear mobile-phone signals, so let someone else know where you’re going and when you expect to return.

• Get to know the signs and symbols used in the countryside to show paths and open countryside.

Leave gates & property as you find them

Please respect the working life of the countryside, as our actions can affect people’s livelihoods, our heritage, and the safety and welfare of animals and ourselves.

• In fields where crops are growing, follow the paths wherever possible.

• A farmer will normally leave a gate closed to keep livestock in, but may sometimes leave it open so they can reach food and water. Leave gates as you find them or follow instructions on signs (if walking in a group, make sure the last person knows how to leave the gates).

• Use gates and stiles wherever possible – climbing over walls, hedges and fences can damage them and increase the risk of farm animals escaping.

• Leave machinery and livestock alone – don’t interfere with animals even if you think they’re in distress. Try to alert the farmer instead.

• Our heritage belongs to all of us – be careful not to disturb ruins and historic sites.

• If you think a sign is illegal or misleading (for example, a ‘Private – No Entry’ sign on a public footpath), contact the local authority.

• Report vandalism at sites—you may be the only one that sees it

• Never remove anything from the site

Where the heritage site is on private land, please ask the landowners permission.

Protect plants & animals, and take your litter home

We have a responsibility to protect our countryside now and for future generations, so make sure you don’t harm animals, birds, plants or trees.

• Litter and leftover food doesn’t just spoil the beauty of the countryside, it can be dangerous to wildlife and farm animals and can spread disease – so take your litter home with you (dropping litter and dumping rubbish are criminal offences).

• Discover the beauty of the natural environment and take special care not to damage, destroy or remove features such as rocks, plants and trees. They provide homes and food for wildlife, and add to everybody’s enjoyment of the countryside.

• Wild animals and farm animals can behave unpredictably if you get too close, especially if they’re with their young – so give them plenty of space.

• Fires can be as devastating to wildlife and habitats as they are to people and property – so be careful not to drop a match or smouldering cigarette at any time of the year. Sometimes, controlled fires are used to manage vegetation, particularly on heaths and moors between October and early April, so please check that a fire is not supervised before calling 999.

Keep dogs under control

The countryside is a great place to exercise dogs, but it’s every owner’s duty to make sure their dog is not a danger or nuisance to farm animals, wildlife or other people.

• By law, you must control your dog so that it does not disturb or scare farm animals or wildlife. You must keep your dog on a short lead on most areas of open country and common land between 1 March and 31 July, and at all times near farm animals.

• You do not have to put your dog on a lead on public paths as long as it is under close control. But as a general rule, keep your dog on a lead if you cannot rely on its obedience. By law, farmers are entitled to destroy a dog that injures or worries their animals.

• If a farm animal chases you and your dog, it is safer to let your dog off the lead – don’t risk getting hurt by trying to protect it.

• Take particular care that your dog doesn’t scare sheep and lambs or wander where it might disturb birds that nest on the ground and other wildlife – eggs and young will soon die without protection from their parents.

• Everyone knows how unpleasant dog mess is and it can cause infections – so always clean up after your dog and get rid of the mess responsibly. Also make sure your dog is wormed

• At certain times dogs may not be allowed on some areas of open land or may need to be kept on a lead. Please follow any signs. You can also find out more about these rules from or by phoning the CCW Enquiry Line on 0845 130 6229.

Consider other people

Showing consideration and respect for other people makes the countryside a pleasant environment for everyone – at home, at work and at leisure.

• Busy traffic on small country roads can be unpleasant and dangerous to local people, visitors and wildlife – so slow down and, where possible, leave your vehicle at home, consider sharing lifts and use alternatives such as public transport or cycling (for public transport information, phone Traveline on 0870 608 2608).

• Respect the needs of local people – for example, don’t block gateways, driveways or other entry points with your vehicle.

• When riding a bike or driving a vehicle, slow down for horses, walkers, and livestock and give them plenty of room. (By law, cyclists must give way to walkers and horse riders on bridleways).

• Keep out of the way when farm animals are being gathered or moved and follow directions from the farmer.

• Support the rural economy – for example, buy your supplies from local shops.

Information from Pembrokeshire Coast National Park – The Countryside Code

Rhannwch - Share and Enjoy