Llwybrau anhygoel llond hanes a diwylliant
Dewis Llwybr yn ôl lleoliad neu fath
Mae'r holl lwybrau yn dangos cyfeirnod grid, pa mor anodd ydyw, pellter, faint o amser a mwy ...
Amdanom Ni
Sefydlwyd Crwydro.co.uk gan bobl leol sy'n frwdfrydig dros yr ardal, yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd. Gan gydweithio â chynghorau sir a phlwyf rydym yn gwybod pa lwybrau sydd ar agor a ble mae’r mannau o ddiddordeb. Rydym yn awyddus i ddangos i bobl leol ac ymwelwyr rai o'r pethau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig; ac i roi mewnwelediad dyfnach i bobl o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal tra maent yn cerdded ar hyd llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y wlad.
Ein Gwasanaethau
Mae cyfarwyddiadau manwl yn ogystal â nodiadau helaeth ar gyfer pob un o'r llwybrau. Maent i gyd ar gael yn rhad ac am ddim mewn aml fformatau.
LAWR LWYTHO
Gallwch lawr lwytho’r holl fapiau a chyfarwyddiadau a’u hargraffu i fynd gyda chi fel canllaw. Maent ar gael fel ffeiliau pdf oddi ar y wefan, a thrwy dechnoleg NFC 'tap' yn ein siop yn Nefyn, neu drwy gannoedd o bwyntiau gwybodaeth ar y llwybrau ar hyd a lled yr ardal.
GWEITHIO YM MHOB MAN
Rydym yn darparu gwybodaeth traws-lwyfan, aml fformat. Mynediad ar bob dyfais. Fe'i cyflwynir drwy gyfrwng y we, rhwydwaith symudol neu yn y maes trwy godau QR, tagiau NFC ac iBeacons. Beth bynnag yw eich dyfais neu lwyfan, mae’r wybodaeth yn siwr o’ch cyrraedd.
GWYBODAETH
Rydym yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir ac yn rhoi'r wybodaeth holl bwysig i chi am iaith, hanes a diwylliant yr ardal. Dyma ein hanes ni, ein diwylliant ni wedi ei osod allan i chi er mwyn i chi gael cipolwg ar wir hanfod a hunaniaeth Llŷn.
TEITHIAU CERDDED TYWYSEDIG
Pe byddai’n well gennych daith gerdded dywysiedig, fe allwn drefnu hynny ar eich cyfer. Cysylltwch â ni. Cewch weld harddwch naturiol yr ardal â’ch llygaid eich hunain ond mae mwy i’r ardal hon na thlysni arwynebol a dyna pam yr ydan ni am rannu ein hunaniaeth a’n treftadaeth hefo chi hefyd.
Hanes a Henebion
Cyhoeddwyd y drydedd gyfrol o Restr Henebion Hynafol Sir Gaernarfon yn Saesneg yn 1964. Mae’r wefan hon yn cyflwyno’r testun fel y cafodd ei gyhoeddi ond mae rhyngwyneb y wefan yn ddwyieithog ac rydym yn annog sylwadau Cymraeg neu Saesneg.
Mwy...Bioamrywiaeth a rhywogaethau Llŷn
Ffynhonnell wybodaeth yw hon ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ar fioamrywiaeth yn Llŷn. Y mae’n cynnig ffordd hawdd o ddod i adnabod enwau planhigion a gwahanol rywogaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd o gymorth i addysgwyr gyda theithiau maes ac yn y dosbarth mewn ffordd strwythurol a gweledol, ddefnyddiol.
Mwy...Croeso Cymraeg
Profiadau unigryw o aros yn Llŷn a phrofi gwyliau hollol Gymraeg. Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd, bob dydd, lle gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar braf, rhamantus.
Mwy...