Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Clynnog – Nefyn
Llwybr Clynnog Fawr i Nefyn – Manylion y daith
Amcan o’r hyd: 21.6km/ 13.5 milltir.
Amcan o’r amser: 6-7 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Clynnog Fawr SH415497 / Nefyn SH307405
1 Clynnog Fawr –Eglwys Sant Beuno – Mae Clynnog Fawr yn un o’r tair eglwys plwyf fwyaf nodedig yng Ngwynedd. Mae’n ymdebygu i Gadeirlan o ran graddfa o’i chymharu ag eglwysi eraill Llŷn, ac fe sylwch arni’n syth o’r ffordd fawr, gyda’i thŵr uchel a’i chapel bylchfuriog ar wahân. Mae’n eang ac yn olau braf y tu mewn gyda tho pren coeth a chroglen gywrain (sy’n gwahanu’r gangell a chorff yr eglwys).
Cafodd Eglwys Beuno Sant ei hadeiladu gan fwayf yn yr 16eg ganrif, ond saif ar safle adeilad llawer cynharach. Cafodd Beuno Sant (o’r 7fed ganrif) ei gladdu yma, yn y fan lle mae’r capel a’r eglwys yn uno. Cafodd arch Beuno ei dymchwel ym 1856, ond mae rhan o’r bwa oedd uwch ei phen wedi aros.
Sefydlwyd mynachlog bwysig yng Nghlynnog yn y 7ed ganrif gan Beuno Sant, y dathlir ei ddydd gŵyl ar Ebrill y 21ain. Roedd yr Eglwys yng Nghlynnog yn un o’r mannau mwyaf sanctaidd yng Nghymru, ar y cyd ag Eglwys Tyddewi ym Mhenfro ac Ynys Enlli.
Pan ddyfarnodd y Pab Calixtus II fod dwy daith i Dyddewi’n gyfwerth ag un i Rufain, daeth pererindota yng Nghymru’n fwyfwy poblogaidd ac erbyn yr 11eg a’r 12fed ganrif roedd y daith i Enlli dan ei sang o bererinion, a phob un ohonynt yn aros yng Nghlynnog wrth gysegrfa enwog Beuno.
Mae deial haul carreg yn arddull y Gwyddelod yn y fynwent, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, mwy na thebyg, sef adeg teyrnasiad Gruffudd ap Cynan. Ganed Gruffudd yn Nulyn, i dad o Gymro a’i fam yn hanner Gwyddeles a hanner Llychlynes. Mae’r deial haul yn atgof o’r cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod teyrnasiad Gruffudd. Mwy o wybodaeth
Ffynnon Beuno – Mae Ffynnon Beuno wedi’i lleoli o fewn muriau sgwâr o gerrig ac mae’n un o nifer o ffynhonnau sanctaidd ar y llwybr o Dreffynnon i Enlli. Credai’r pererinion y gellid gwella unrhyw salwch drwy ymweld â mannau arbennig ac yfed dŵr o’r Ffynhonnau Sanctaidd.
2 Cromlech Fachwen SH40774948 – Mae’n gromlech borth a gafodd ei chodi yn yr Oes Neolithig Gynnar (hyd at 4,000 CC). Mae’r beddrod mewn lleoliad amlwg, ar godiad tir, ac mewn llecyn lle mae golygfa glir o’r môr a’r arfordir. Lleolir siambr gladdu Bachwen ar un o gaeau fferm Bachwen ar gyrion Clynnog Fawr, yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Mae’n heneb sy’n nodweddiadol o seremonïau claddu’r cyfnod. Mae mewn cyflwr arbennig o dda, gyda rheiliau haearn o’i hamgylch i’w gwarchod.
Mae’r gromlech hon yn haeddu sylw arbennig oherwydd y 110 o bantiau bychain (a elwir yn cup-marks yn Saesneg) a dwy rigol fas sydd wedi eu torri ar ben uchaf y capfaen. Mae nifer o ddamcaniaethau ynglŷn â diben yr “addurniadau” hyn ond mae eu pwrpas yn ddirgelwch mewn gwirionedd. Efallai mai dim ond addurniadau er eu mwyn eu hunain yn unig ydynt. Mae pantiau cwpan tebyg i’w gweld ar Garreg ‘Maen Hir’ Penllech sydd ger adwy un o gaeau fferm Plas ym Mhenllech ger Tudweiliog.
3 Trefor – Mae pentref glan môr Trefor yn bodoli o ganlyniad i graig ithfaen Yr Eifl, sef y tri bryn sy’n edrych dros y pentref. Mae Chwarel yr Eifl ar lethrau gogleddol copa mwyaf gogleddol yr Eifl, sef Garn Fôr. Agorwyd y chwarel yn 1850, i wneud sets i balmantu ffyrdd. Agorwyd Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn yn 1835 a chwarel Porth y Nant tua 1860. Daeth y chwareli hyn, a chwareli bach eraill yn ardal Trefor, at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y Gwylwyr, Moel Tŷ Gwyn ym Mhistyll , Carreg y Llam, Porth y Nant a’r Eifl yn Nhrefor oedd y chwareli mwyaf. Tua diwedd y 19eg ganrif roedd llai o alw am sets a mwy o alw am gerrig mâl i wneud ffyrdd, mewn tarmacadam ac fel agreg ar gyfer concrid. Roedd tramffordd yn cario’r deunydd o’r ponciau. Ym 1870 adeiladwyd cei a chyflwynwyd trenau stêm bychain i weithio rhan isaf y dramffordd i’r pier.
Yn niwedd y 19eg ganrif roedd bron i 100 o dai mewn cnewyllyn clos o dai teras ar waelod inclein y chwarel ger y gweithdai. Roedd y pentref yn cynnwys tri capel Anghydffurfiol ac un eglwys Anglicanaidd, wedi ei hadeiladu gan brif beiriannydd y Welsh Granite Company er budd y gweithwyr. Fe’i gynlluniwyd fel Pentref model diwydiannol. Mwy… Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd dwywaith gymaint o adeiladau yn y pentref, ac roedd y pentref wedi ehangu ar hyd y ddwy briff ffordd i Drefor o’r A499 o Glynnog i Lanaelhaearn. Y ffordd fwyaf deheuol o’r ddwy oedd y ffordd wreiddiol i’r pentref; adeiladwyd y ffordd ogleddol er mwyn hwyluso mynediad i’r chwarel.
4 Tre’r Ceiri – Yn ddi-os, Tre’r Ceiri , (a gyfieithir weithiau’n ‘dref y cewri’) yw un o’r esiamplau gorau o fryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd Ewrop ac mae hefyd yn un o’r rhai uchaf, yn 480metr. Mae waliau cerrig y muriau amgylchynol hyd at 3.5metr o uchder mewn mannau; ac mae gweddillion oddeutu 150 o dai crynion i’w gweld o fewn y gaer. Mae’r prif wahanfur yn ymestyn yn ddi-dor ar hyd cefnen estynedig y copa, gan amgáu dwy hecter o fewn rhagfur cerrig (3.5m o uchder a 2.3 i 3m o drwch). Mae wal ychwanegol ar yr ochr ogledd-orllewinol yn cryfhau amddiffyniadau’r rhan gaeëdig. Nid oes angen waliau ychwanegol ar yr ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol.
Mae’r mynedfeydd gwreiddiol i’w gweld o hyd. Mae’r brif fynedfa ar yr ochr ogledd-orllewinol yn dilyn llwybr lletraws drwy’r rhagfuriau allanol a mewnol, ac yn y fan hon mae’r wal yn fwy trwchus a cheir waliau gydag ochrau’r llwybr sy’n arwain at y fynedfa fel bod modd cael mynediad i’r fryngaer ar hyd tramwyfa 15metr. Mae nifer o gylchoedd cytiau yn y rhan fewnol. Mae rhai cytiau mwy, a chynharach wedi cael eu rhannu’n gydrannau drwy ychwanegu croesfuriau mewnol i greu ystafelloedd afreolaidd llai. Mae’n debygol iawn bod anheddu wedi dechrau yn Nhre’r Ceiri yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar a’i fod yn dal i gael ei anheddu yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig ac efallai, hyd yn oed yn ddiweddarach.
Mae dwy fryngaer arall o Oes yr Haearn ym Mhen Llŷn y gellir mynd atynt o gylchdeithiau, sef Garn Boduan ger Nefyn (Cylchdaith Garn Boduan) a Garn Fadryn (Cylchdaith Garn Fadryn), ac mae’r rhain yr un mor bwysig â Thre’r Ceiri yn eu ffyrdd eu hunain.
Caer a ddefnyddid rhwng 100 CC a 400 OC gydag olion tua 150 o gytiau crynion yw Tre’r Ceiri. . Ychydig o safleoedd cynhanesyddol Cymreig sy’n dal y dychymyg mor rymus â bryngaer Tre’r Ceiri sy’n edrych dros Benrhyn Llŷn o gopa mwyaf dwyreiniol tri chopa’r Eifl. Gan edrych i lawr o gopa llawn sgri ar uchder o 485m O.D. mae Tre’r Ceiri yn un o’r bryngaerau Oes Haearn orau ym Mhrydain lle mae tai crwn, pyrth a rhagfuriau i’w gweld mewn cyflwr rhyfeddol o gyfan.
Saif Tre’r Ceiri ar safle serth ac mae’r gopa wedi’i feddiannu gan garnedd gladdu sylweddol o’r Oes Efydd Gynnar, sy’n amlwg wedi’i chadw a’i pharchu o fewn y fryngaer ddiweddarach. Mae’r brif fryngaer wedi’i hamgáu gan ragfur sengl aruthrol sy’n dal i sefyll hyd at 3.5m o uchder mewn mannau. Mae llwybr parapet hefyd yn parhau i fod yn eithaf cyfan. Mae’r wal hon wedi’i thorri gan ddau brif borth, gyda’r ddau yn sianelu ymwelwyr trwy dramwyfeydd cul, cyfyngol, yn ogystal â thri `phostern’ neu borth bach, y cynlluniwyd un ohonynt o leiaf i ganiatáu i drigolion fynd allan ar hyd llwybr mynydd cul i gasglu dŵr o’r ffynnon. Y tu hwnt i’r brif fryngaer mae ail wal allanol, sy’n atgyfnerthu dynesiadau mwy bregus ar yr ochrau gogleddol a gorllewinol. Mae porth allanol yn torri ar ei draws, ac mae’n gorwedd dros lwybr cynharach i’r fryngaer, sy’n dangos yn ôl pob tebyg mai gwaith eilaidd oedd yr amddiffynfa allanol hon.
Ym 1989, dechreuodd Cyngor Dosbarth Dwyfor a Chyngor Sir Gwynedd, gyda chyllid gan Cadw, ar raglen hir o atgyfnerthu ac atgyweirio’r gaer gyda goruchwyliaeth archeolegol a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Bu’r prosiect yn rhedeg am ddegawd, gan adael y bryngaerau mwyaf diddorol wedi’u hadnewyddu ac yn barod i oroesi dwy fil o flynyddoedd arall.
5 Nant Gwrtheyrn – Dechreuwyd chwarela cerrig gwenithfaen yn Nant Gwrtheyrn o ddifrif yn 1861. Agorodd tair chwarel yn y degawd hwnnw, yn bennaf ar gyfer cyflenwi sets pafin ar gyfer strydoedd dinasoedd a oedd yn tyfu’n gyflym, megis Lerpwl a Manceinion.
Codwyd y ddwy res o fythynnod yma ym 1878 fel llety ar gyfer y chwarelwyr. Enwyd y rhes sy’n wynebu’r môr yn Trem y Môr, a’r llal yn Trem y Mynydd. Erbyn 1886, roedd y tai yma yn galon i bentref o 200 o drigolion.
Daeth chwarela i ben yma yn 1939. Gadawodd y preswylydd diwethaf 20 mlynedd yn ddiweddarach. Dadfeiliodd y bythynnod, yn enwedig wedi i gomiwn hipi ymgartrefu yma yn y 1970au a thynnu pren o adeiladau’r hen bentref ar gyfer coed tân. Prynwyd y safle, ar ôl ymdrech fawr i godi arian, oddi wrth AMEY Roadstone Corporation ym 1978 ar gyfer creu’r Ganolfan Iaith Genedlaethol newydd. Syniad Dr Carl Clowes oedd y defnydd newydd yma i’r pentref. Roedd o wedi symud i’r ardal yn 1970 i weithio fel meddyg teulu a gwelodd angen dybryd i greu gwaith i’r bobl leol.
Adnewyddwyd y bythynnod, a chroesawodd y ganolfan ei dysgwyr cyntaf ym 1982. Ers hynny, mae mwy na 25,000 o bobl wedi astudio’r Gymraeg yma. O 2007 i 2011, uwchraddiwyd cyfleusterau’r pentref ar gost o £5miliwn gan gynnwys gwella’r ffordd serth i lawr i’r nant. Ariannwyd hyn gan nifer o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Nant Gwrtheyrn
6 Llithfaen – Gweler- Cylchdaith Llithfaen,
Tafarn Y Fic – Adeiladwyd y dafarn yn 1869. Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl leol gwmni cydweithredol a chodi arian i brynu’r dafarn oedd erbyn hynny wedi’i chau gan y bragdy. Tyfodd yn ganolfan gymdeithasol bwysig a daeth ei nosweithiau o adloniant Cymraeg yn enwog ar draws gwlad. Moderneiddiwyd yr adeilad a rhoi estyniad arno yn 2004 gan greu ystafell gymunedol a bwyty’r Daflod, yn ogystal â pharhau fel tafarn Gymreig. Tafarn y Fic.com
Cae’r Mynydd – Gan ddefnyddio cragen fôr fawr, galwodd Robert William Hughes, Cae’r Mynydd ar drigolion Llithfaen i ddod ynghyd i wrthwynebu’r swyddogion a’r mesurwyr tir ym Medi 1812. Bu terfysg ond daeth y Dragoons yn ôl a daliwyd Robert Hughes yn ei gartref yn cuddio mewn car bara oedd yn crogi o’r nenbren. ‘The king against Robert William Hughes, for a Riot’ oedd y cyhuddiad yn y llys. Trawsgludwyd Robert Hughes yn 1813 i Awstralia i dreulio gweddill ei oes yn Botany Bay.
Eglwys Carnguwch (SH 3742241823) – Un o nifer o eglwysi a gafodd eu sefydlu gan Beuno yn y 7fedG. Saif mewn llecyn tawel, gwledig uwch llechwedd serth sy’n disgyn at lannau afon Erch. Dadgysegrwyd yr eglwys ond daliwyd i gladdu yn y fynwent hyd y 1970au. Yn ôl prisiad Norwich roedd eglwys yma yn 1284. Pan ymwelodd Hyde-Hall â Charnguwch rhwng 1809 a 1811 gwelodd fod yr adeilad ar ffurf croes mewn cyflwr erchyll. Ond yn 1882 cafodd yr eglwys bresennol ei hadeiladu ar gynllun y pensaer, Henry Kennedy. Mae’r ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o’r 15/16edG.
Mae’r pulpud deulawr a seddi â Ld.N. (Lord Newborough) a ‘1815 I LL’ (Isaac Lloyd, Plas Trallwm) arnynt yn rhai o’i nodweddion amlwg. Roedd ynddi ddysgl i ddal dŵr o ffynnon Sanctaidd (gerllaw) a châi’r dŵr ei wasgaru â brwsh arbennig – ‘Ysgub y Cwhwfan’ dros bawb a âi i’r gwasanaeth.
Bellach mae’r eglwys wedi’i dadgysegru ac mae Cyfeillion Eglwys Carnguwch yn gwarchod y safle. Yn wreiddiol roedd yma fynwent gron ac ynddi gasgliad gwerthfawr o englynion beddargraff.
Pan agorodd chwareli’r Eifl yng nghanol 19yddG. datblygodd pentref Llithfaen ond roedd yr eglwyswyr yn amharod i fynd i Garnguwch i addoli. Câi gwasanaethau eu cynnal yn yr ysgol ar y dechrau cyn adeiladu Eglwys Sant Ioan yn y pentref. Wedi agor hon yn 1882 caeodd Eglwys Carnguwch yn fuan wedyn.
Y Groes – (a siop Pen-Y-Groes) – Siop gyfleus yn gwerthu nwyddau angenrheidiol sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ydi Siop Pen y Groes yn Llithfaen. Gellir archebu papur, cylchgronau a llefrith, yn ogystal â bara Glanrhyd, yn ddyddiol. Hefyd, mae posib archebu ffrwythau, llysiau a physgod i’w casglu o’r siop ar Ddydd Gwener. sioppenygroes@hotmail.com
Y Wal Mawr (SH353 440) – Codwyd y wal fynydd hon tua 1815 gan filwyr di-waith a ddychwelodd o frwydr Waterloo. Mae’r caeau sgwarog yr ochr isaf i’r wal, sydd wedi’u marcio gan syrfewyr, yn perthyn i’r un cyfnod – dyma’r tir a gafodd ei ddwyn gan stadau’r tirfeddianwyr oddi ar y bobl gyffredin leol gan ddeddf amgáu Tiroedd Comin yr Eifl. Amcenir bod dros filiwn o aceri o dir Cymru wedi ei gau yn y cyfnod hwn, sef rhyw un rhan o bump o’r wlad gyfan. Mwy am Cau tiroedd-
7 Carreg Llam – (SH 334838) – Ar Garreg y Llam mae Penrhyn Glas a Phorth Hywel. Yr enw am y darn o dir glas dros y dibyn yw Clwt Llwgu. Hawdd iawn i ddafad gael ei denu gan y blewyn glas dyfai arno a wedyn methu mynd yn ôl i ddiogelwch. Yr unig ateb fyddai ei gadael nes y byddai’n rhy wan i symud a wedyn ei chodi oddi yno.
8 Pistyll – Eglwys Sant Beuno – Un o’r eglwysi a sefydlwyd gan Beuno Sant oedd hon ac roedd yn adnabyddus am gynnig triniaeth feddygol i’r pererinion ar y daith i Enlli. Yn y 6ed ganrif, roedd y fan hon yn lle o unigedd i Beuno a oedd yn genhadwr diflino. Yn ddiweddarach daeth yn hosbis i bererinion a oedd yn teithio i Ynys Enlli. Mae grisiau a ffenestr y gwahangleifion i’w gweld yma heddiw. Crwn yn hytrach na sgwâr yw siâp wal y fynwent, sy’n dangos safle o addoliad neu grefydd cynharach na Christnogaeth. Dywedir bod y wal yn eglwys Pistyll yn grwn er mwyn atal y diafol rhag cuddio yn y corneli.
Mae’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 15fed ganrif, yn bennaf, a rhan ohoni o’r 12fed, o bosib.. Yn ôl Cadw, gwnaed y waliau o rwbel a rhyolit ac mae’r tu mewn yn cynnwys pum bae o’r 15fed ganrif. Roedd gan yr eglwys do gwellt tan ddechrau’r 20fed ganrif pan dowyd hi a llechi. Gellid gweld yn y gwaith coed y tyllau ar gyfer y rhaffau a glymai’r to gwellt yn ei le.
.
.
Mae llawr yr eglwys yn dal i gael ei orchuddio gyda brwyn a pherlysiau, sy’n draddodiad hynafol. Mae’r bedyddfaen yn dyddio o’r 11eg ganrif ac ar un o’r waliau y tu mewn mae paentiad wal hynafol yn dangos dau o bobl. Cynhelir gwasanaethau bob mis yn yr eglwys, ar Noswyl y Nadolig ac i ddathlu Calan Awst (Lammas). Mwy…
.
9 Bodeilias a Doc Bodeilias – Bu Bodeilias, un o ffermydd Pistyll yn gartref i un o bregethwyr enwocaf Cymru, sef Tom Nefyn (1895 – 1958).
Chwarel Tŷ Mawr / Bodeilias – Ar y traeth islaw Pistyll mae gweddillion porthladd a oedd yn bwysig yn yr hen amser ar gyfer allforio gwenithfaen. Sefydlwyd y chwarel anghyffredin hon ar Benrhyn Bodeilias gan Herbert Thomas, Tŷ Mawr, Pistyll Yn 1861 gwerthwyd prydles y chwarel i Richard Morris Griffith, Hedworth Lee a William Darbishire a ffurfiwyd “The Tŷ Mawr Granite Company” a ddaeth yn rhan o’r “Welsh Granite Company” yn 1864.
Gwerthwyd chwarel Bodeilias yn 1866 a bu sawl cwmni gwahanol yn berchen arni dros y blynyddoedd. Wrth gerdded ar hyd y llwybr o Bistyll fe welwch ddwy bonc neu lefel. Mae’r un isaf, 100 llath o hyd a 50 troedfedd o uchder, a dim ond 15 troedfedd uwchben lefel y môr ar lanw. Gellir cerdded ar hyd y traeth o Nefyn i’r man lle‘r oedd doc, gweithdy saer coed, gefail a swyddfeydd ar un cyfnod. Yn 1901 roedd 84 o weithwyr yma ond erbyn 1907 roedd y chwarel wedi cau.
Carreg Arysgrifiedig Tŷ Mawr (SH 31969 41813) – Carreg Arysgrifiedig ar ochor y lôn B4417. Mae’r heneb yn cynnwys carreg gyda chroes wedi’i cherfio ar ei hwyneb Mae’n dyddio o gyfnod yr oesoedd canol cynnar (o’r 8fed neu’r 9fed ganrif). Mae’r garreg fechan hon wedi’i gosod mewn cilfach a baratowyd ar waelod wal ymyl ffordd, ar ôl cael ei symud o’i safle gwreiddiol mewn cae cyfagos. Mae’n mesur 0.5m o uchder a 0.5m o led. Mae yna groes ar y garreg o fewn cylch sy’n mesur 0.25m mewn diamedr.
10 Wern ar Gwylwyr – Y Gwylwyr – Rhwng Nefyn a Pistyll mae mynydd y Gwylwyr, uwchlawr Wern a Bodeilias. Perchennog y Gwylwyr oedd Is-lyngesydd Robert Lloyd A.S. (1816-70), Plas Tregaean, Môn. Yn y flwyddyn 1843 cafodd Samuel Holland brydles o’r mynydd ganddo. Brodorion o Lerpwl oedd y ddau Samuel Holland, yn dad a mab a bu’r tad yn gweithio gwaith copr ym Mronygadair ger Tremadog o 1824 hyd 1830. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Yn ddeunaw oed daeth Samuel yn oruwchwyliwr ar chwarel ei dad yn Rhiwbryfdir yn 1822.
Felly yn 1843 cafodd Samuel Holland y brydles i’r Gwylwyr, a hynny yn ddi rent. Roedd i dalu breindal o ddwy geiniog ar bob tunnell o gerrig a gludid oddi yno. Agorwyd y chwarel ym mis Hydref 1844, a’r bwriad, yn ddi-os, oedd cyflenwi’r North Wales Railway Company â cherrig, ynghyd â bod y chwarel fwyaf cyfleus ar gyfer anghenion ehangu porthladd Portin-llaen. Ysywaeth, doedd gan y Cwmni rheilffordd yr un arweinydd cymwys ar gyfer y cynllun a bu llawer iawn o gecru mewnol rhwng y buddsoddwyr â’i gilydd. Yn fuan wedi hyn aeth yr holl fenter i’r gwellt, a hynny ar ôl gwario’n helaeth. Ymhlith y buddsoddwyr roedd Arglwydd Newborough, Glynllifon; Arglwydd Douglas Pennant, Penrhyn; Thomas Love Parry, Castell Madryn; Charles Griffith Wynne, Cefnamwlch; Richard Lloyd Edwards, Nanhoron: a.y.b.. Y canlyniad oedd na chafodd y Gwylwyr eu gorsafoedd rheilffordd er mawr siom i bawb.
Wern – Yn Wern yr oedd pier i ddocio’r coasters oedd yn dod i nôl y sets a gai eu torri yn y Gwylwyr ac wedyn eu danfon i lawr yr inclên mewn wageni. Croesai’r wageni ar draws y ffordd o Bistyll i Nefyn ac yna barhau i lawr trwy Wern at y pier.
Mynydd Nefyn – Chwarel Foel Dywyrch– Agorwyd Chwarel Foel Dywyrch ar gopa Mynydd Nefyn yn 1881. Er i’r “Nefyn United Granite Quarries Ltd.,” ei phrynu yn 1886, ni fu erioed yn fenter lewyrchus a daeth y gwaith i ben yn Chwefror 1903. Yn fuan iawn doedd dim yno ond tir pori garw fel cynt.
Chwarel John Lloyd – Yn 1866 prynodd John Lloyd Jones, Baladeulyn, Nantlle a’i bartner busnes James Hughes o Fanceinion brydles ar dir o eiddo’r Arglwydd Newborough ar Fynydd Nefyn ar ôl sylweddoli faint o elw oedd mewn ithfaen. Gallasai Gwaith John Lloyd fod wedi bod yr un mor llwyddiannus â’r Gwylwyr oni bai ei fod mewn lle mor anhygyrch.
Bu’r chwarel yn segur am gyfnod ar ddechrau’r 20fed ganrif nes i Henry Griffiths o Flaenau Ffestiniog ei hailagor fel “Arvonia Quarry” yn 1925. Bu 32 o ddynion yn gweithio yma pan oedd y chwarel ar ei hanterth ond y dyn a elwodd fwyaf oedd Wil Blore. Dyma un o gymeriadau Nefyn, dyn garw ei olwg gyda llais mawr a chras; bu’n cludo’r ithfaen gyda cheffyl a throl am flynyddoedd a gallwch ddilyn olion carnau ei ferlyn trwy gerdded Llwybr yr Arfordir i lawr i Nefyn. Caewyd y chwarel yn derfynol yn 1937.
11 Nefyn – Saif y dref ar dir eithaf gwastad, tua 100 troedfedd uwch lefel y môr a chwarter milltir, yn fras, i’r tir o’r clogwyni clai sy’n edrych dros y bae cysgodol a ffurfia harbwr naturiol Porth Nefyn. Mae’r adeiladu wedi ymestyn ar hyd yr arfordir erbyn heddiw ond pery’r rhan fwyaf o’r ardal yn borfa iseldirol o hyd ag eithrio’r de ddwyrain, lle saif Garn Boduan a’r mynyddoedd cyfagos yn gefn cadarn iddi.
Tywysogion Gwynedd – Tardda’r fwrdeistref o’r hon a gyfrifir yn un o faenordai mwyaf tywysogion Gwynedd yn hwyr yn y 12fed ganrif neu’n gynnar yn y 13eg. Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol yn 1306-7. Adlewyrchir pwysigrywdd y faenor, yn y gorffennol, yn enwau’r strydoedd megis, Stryd y Plas, Bryn Mynach. Nefyn oedd canolfan yr hen gwmwd Dinllaen.
Edward 1 – Cafodd Nefyn ymweliad gan Edward I yn 1284, a chynhaliwyd ‘Bwrdd Crwn’ neu dwrnamaint yno i ddathlu ei goncwest dros Wynedd. Casgliad o gaeau yn ymestyn oddi tan Ystâd Tai Iorwerth tua Capel Seion (tua 300 mtr o’r gogledd – de wrth 80, gyda llethr serth ar y Gorllewin (SH30774027) yw Cae Iorwerth. Derbynir yn lleol mai yno y cynhaliwyd y twrnamaint. Yn y Tithe Award Schedule 1838-42 ffurfia’r caeau yma ran o ardal fwy o’r enw Cae Thomas lle roedd rhafflan a allai fod yn achos lefelu artiffisial. Yn 1833 rhoddwyd i’w leoliad tybiedig glawdd cylchog ger lôn Edern, ond nid oes unrhyw awgrym o’i fodolaeth.
Siarter Frenhinol – Derbyniodd Nefyn siarter frenhinol yn 1355 gan y Tywysog Du, a bu’n ganolfan bwysicaf Llŷn gyda’i masnach bysgod a phwysigrwydd mawr ei chysylltiadau morol. Daethai’r llyngesau o gychod bach â chymaint o benwaig i Nefyn ar un cyfnod nes y bu’n rhaid eu taflu ar y tir fel gwrtaith; a dim rhyfedd felly i’r penwaig ddod yn rhan o arfbais Nefyn. Gwerthid y pysgod mewn trioedd “mwrw”, a dyna pam mai tri pennog sydd ar yr arfbais. Cyfeiria trigolion Pen Llŷn at bobl Nefyn fel Penwaig hyd heddiw.
Eglwys Santes Fair – Siâp llong sydd i’r ceiliog gwynt sy’n eistedd ar ben Eglwys y Santes Fair (bellach yn amgueddfa forwrol), gan ddangos eto bwysigrwydd y môr mewn cyfnod diweddarach, fel y gwna llawer o enwau’r tai a’r lleoedd. Y môr oedd y ffordd rwyddaf o gludo pethau i Lŷn a’u cludo oddi yma hyd nes y daeth y rheilffordd i Bwllheli ac y gwellodd cyflwr y ffyrdd.
Y Tŵr – Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol o 1306-7. Ond yr unig adeilad sydd wedi goroesi o’r cyfnod cyn y 18fed ganrif yw mwnt difrodedig ‘Y Tŵr’. Ni ddengys cynllun y dref unrhyw arwydd o gysondeb o ran patrwm a gysylltir gyda bwrdeistrefi Edwardaidd fel Conwy neu Gaernarfon, a does dim prawf iddi gael ei hatgyfnerthu chwaith. Y mae’r Tŵr ( ar ben mwnt) a pharhaodd ei sylfaen yn solad tan yn eithaf diweddar. Ceir mynediad i’w ben drwy esgyn grisiau allanol. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran yr adeilad, ond mae’n debyg iddo gael ei adeiladu yn sgil y bysgodfa benwaig a ffynnai yn gynnar yn y 19eg ganrif.
Mae yn y dref sawl tŷ bychan nodweddiadol o’r 18fed ganrif ond ni ellir dyddio’r un ohonynt, â sicrwydd, i gyfnod cyn 1750. Mae’r Mwnt ar ochr ogledd-orllewinol y dref. Yma mae gweddillion dadfeiliedig tomen grwm oedd yn wreiddiol tua 10 troedfedd o uchder a 40 troedfedd ar draws. Mae’r ochr ogleddol wedi ei therasu a’i rhagfurio gyda wal fodern ac adeiladau’n gorgyffwrdd ar yr ochr ddeheuol, sydd wedi ei thorri ymaith yn rhannol. Y tŵr sy’n coroni’r copa. Ni pharodd dim a allai ddangos fod beili wedi bod yno erioed.
Cau Tiroedd – Mae plwyf Nefyn yn cydffinio gyda’r hen fwrdeistref a ddaeth i ben yn 1882 a’i hanes yn debyg i hanes bwrdeistref Pwllheli. Cyflwynwyd corfforaeth Nefyn a Phwllheli i rinweddau y deddfau cau tiroedd gan Mr. Richard Ellis. Pa mor anghyfarwydd bynnag ag yr oedd Ellis â’r gyfraith, gwnaeth iawn am hynny drwy ei ddawn gynhenid o herio corfforaeth fwy di-ddeall nag yntau. Ei dad, neu Ellis ei hun a ddarbwyllodd stiwardiaid ‘Nevin’ i ymddihatru eu hunain oddi wrth eu hawliau i dri neu bedwar can acer o dir cyhoeddus (tir a ddefnyddid gan amlaf gan y trigolion ar gyfer eu defaid ) dan yr argraff eu bod yn cytuno i indentur prentisiaeth. Ym Mhwllheli derbyniodd y gorfforaeth ychydig o latheni sgwâr o graig foel yn gyfnewid am dir oedd yn werth tua £500 y flwyddyn. Dywedodd Ellis wrth Gomisiynwyr y Corfforaethau Trefol, yn gyntaf na wrthwynebodd sywddogion y fwrdeistref, ac yn ail fod eu gwrthwynebiad yn anghymwys ac wedi ei gwrthod.
Carreg Arysgrifiedig Tŷn-y-cae – Carreg â chroes, Tŷn-y-cae. Defnyddir y garreg fel lintel i feudy erbyn hyn, ond cyn tua 1860 safai ar godiad bychan, lle canfyddwyd esgyrn, ar ffin blwyfol mewn cae o’r enw Cae Pen-y-maen. Roedd y groes yn wynebu’r môr. Darn o graig igneaidd yw hi, â’i hwyneb arysgrifedig yn 140cm o hyd wrth 36cm o led. Ond mae rhan o’r ymyl wedi ei naddu. Croes o’r 7ed ganrif ydi hi, mae’n debyg, gyda breichiau yn ymestyn wedi ei hendorri arni. Mae ei huchder yn 44cm a’i thrwch gwreiddiol yn 23cm.
Cytiau a sustemau caeau – Dengys y caeau modern rhwng Cerniogell (SH 32453993, 32 S.W) a Cerniog Fawr (SH 32704030) olion terasu dros ardal 600 llath yn y de orllewin, rhwng y cyfuchlinau 500 troedfedd a 600 troedfedd, gogledd ddwyrain wrth 200 llath. Yn eu canol (SH32624018) y mae ardal anesmwyth a allai fod yn safle grŵp o gytiau amgaeedig. Gwelir mwy o derasu tua’r gogledd ddwyrain, ym mhlwyf Pistyll.
9
Cyfarwyddiadau
Wedi dringo’r allt y tu ôl i’r pentref a dilyn un ai’r lôn fach o amgylch godre’r Bwlch Mawr neu’r llwybr serth rhwng Gyrn Goch a Bwlch Mawr daw wyneb y chwarel ithfaen uwchben Trefor i’r amlwg. Yma mae’r graig, a chwydwyd fel lafa o grombil y ddaear, wedi rhoi bywoliaeth i genedlaethau.
Dyma hefyd yw sail pentref arbennig Nant Gwrtheyrn, sydd bellach yn Ganolfan i hybu iaith a threftadaeth Cymru.
Mae pwysigrwydd craig yr Eifl i’w gweld hefyd ym mryngaer Tre’r Ceiri sy’n sefyll ar y copa mwya dwyreiniol o’r tri. Byddai’r holl gerrig parod wedi’i wneud yn lle addas i drigolion yr Oes Haearn adeiladu eu pentref hwythau.
Diolch i’r ithfaen hefyd mae pridd asidig llethrau’r Eifl yn cynnal rhostir gwych o rug ac eithin sy’n
darparu lliw a bywyd gwyllt i’r parthau hyn.
Wrth nesàu at Bistyll cewch weld eglwys arall a adeiladwyd gan gefnogwyr Beuno Sant i roi cysur i deithwyr ar eu pererindod i Ynys Enlli.
Cylchdeithiau eraill ar y map yma– A-Llithfaen , B-Garn Boduan , C-Nefyn
Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn
Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma – Caernarfon – Trefor
Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma – Trefor -Aberdaron
Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Trefor – Nefyn