d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Daron

Cylchdaith Daron – MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 5.3 km / 3.3 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH172 264.

Pethau i weld ar y daith

Aberdaron – Mae’r pentref yn ganolfan boblogaidd ar gyfer ymwelwyr ym misoedd yr haf; a’r traeth yn llawn pobol sy’n bolaheulo a nofio neu’n manteisio ar yr adnoddau gwych sydd ar gael ar gyfer hwylio, sglefrio, syrffio ac yn y blaen. Mae dau westy, y  ‘Ship’ a ‘Ty Newydd‘ yn paratoi ar gyfer ymwelwyr lletya ac ymwelwyr ar daith. Dau gaffi – ‘Yr Hen Bost’, a’r ‘Gegin Fawr’. Mae’r maes parcio eang sydd yng nghanol y pentref, yn hwylus ar gyfer y traeth a’r llwybrau treftadaeth o gwmpas.

Mae adeilad y Swyddfa Bost yng nghanol y pentref o ddiddordeb pensaerniol arbennig, wedi ei gynllunio i fod yn rhan o batrwm y pentref o ran ffurf a defnydd. Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda’i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a’i dai a dwy bont fechan llawn cymeriad. Mae’n werth galw ym Mecws Islyn, gyda’i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref ond i fwynhau’r lluniau a’r mapiau a’r darnau o dreftadaeth sy’n addurno waliau’r caffi.

Cynhelir regata boblogaidd bob mis Awst a chystadlaethau sy’n agored i’r byd. Mae’n bosib trefnu teithiau pleser neu deithiau pysgota o’r bae hefyd ac mae gwasanaeth rheolaidd i Enlli o Borth Meudwy neu o’r traeth ei hun ar rai dyddiau yn ystod y tymor gwyliau.

Mae ‘Gŵyl Pen Draw’r Byd’ wedi dod yn arbennig o boblogaidd a llwyddiannus bob blwyddyn gydag amrywiaeth o  grwpiau roc a chanu gwlad ac yn y blaen, yn cymryd rhan; a’r chwaraeon a’r cystadlaethau ar y traeth yn y dydd yn denu llawer o deuluoedd yno hefyd bob mis Awst.  Mwy….

Aberdaron
Aberdaron

1 Cae’r Eos (SH168280) – Dyma gartef yr ieithmon hynod, Richard Robert Jones (Dic Aberdaron). Does dim yn sefyll o’i gartref, erbyn hyn ond gosodwyd plac i’w goffau yn y clawdd yn agos i’r fan lle safai’r bwthyn.

Cae'r Eos
Cae’r Eos (1885)

Mab i saer coed a saer cychod oedd Dic Aberdaron (1879 – 1843) ond datblygodd yn gymeriad unigryw ac athrylithgar. Er cael cyfle i brentisio hefo’i dad ni ddangosodd Dic unrhyw ddiddordeb na dawn yn y maes hwnnw. Ond yr hyn a ddaeth ag enwogrwydd iddo oedd ei ddawn eithriadol i ddysgu ieithoedd, ei ddillad blêr a’i ddiffyg glanweithdra corfforol, a’r cathod gwyllt a fyddai’n ei ddilyn i bobman.

Oherwydd ei ddiffyg diddordeb yng ngalwedigaeth ei dad, gorfodwyd ef yn gymharol gynnar ynei fywyd  i adael ei gartref, pa un ai o’i wirfodd ai o raid nid oes sicrwydd. Dechreuodd ddysgu Lladin pan oedd tua 12 oed, a chyn bod yn 20 yr oedd wedi dechrau dysgu Groeg. Ond naill ai am fod yr ysfa i grwydro yn ei waed, neu am fod gorfodaeth amgylchiadau yn peri iddo symud yn aml, ansicr a bratiog ydyw ei hanes ar hyd ei oes. Gwyddys iddo fod yn Lerpwl yn 1804 ac yn Llundain yn 1807 ac iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor, yng Nghaernarfon ac yn sir Fôn; ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg.

Cariai nifer helaeth o lyfrau hefo fo ym mhlygion ei ddillad, a bu’n rheidrwydd arno droeon, oherwydd newyn a’r angen i ddilladu ei hun, i werthu rhai ohonynt a’u prynu yn ôl drachefn. Nid oedd ganddo unrhyw ddiddordeb  mewn llenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfan heb wybod odid ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei Eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg, ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu farw yn Llanelwy  ar y 18ed o Ragfyr,  1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar ei garreg fedd gan Ellis Owen, Cefnymeysydd:

Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith, – gwir ydoedd,
Geiriadur pob talaith:
Aeth Angau â’i bymthengiaith;
Obry’n awr mae heb r’un iaith.

Dic Aberdaron
Richard Robert Jones (Dic Aberdaron)

Ysgrifenodd T.H. Parry-Williams amdano yn bur ddirmygus yn ei Rigymau sy’n cynnwys y llinell ‘Nid yw pawb yn gwirioni’r un fath’ tra rhoddodd R.S. Thomas ddarlun mwy ystyriol a dwys ohono a geisiai ateb y cwestiwn o bwy yn union oedd Dic Aberdaron?

A hefyd Cán Bryn Fón – Richard Robat Jones –

Mewn hunangofiant y dechreuodd arno tua diwedd ei fywyd nododd Dic iddo gael gwybod gan ei chwaer, Jane, mai yn 1780 y’i ganwyd, a’r dyddiad hwnnw sydd ar ei garreg fedd. Ond dengys cofnodion Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron, iddo gael ei fedyddio ar y 4ydd o Orffennaf, 1779. Y llysieuydd Alice Griffith oedd y fydwraig. Ef oedd y trydydd, o bedwar, o blant Robert Jones a’i wraig Margret, sef John, William, Richard a Jane. Mwy gan  Casgliad y werin.

2 Eglwys Sant Hywyn Aberdaron – Hywyn yw sant eglwys Aberdaron ac un o’r seintiau Llydewig a ddaeth gyda Cadfan i Lŷn ac i Enlli. Ger Ffynnon Saint roedd carreg fawr wastad a elwid yn Allor Hywyn. Yma yr arferai’r myneich ymgasglu i gynnal gwasanaethau. Ffrwydrwyd y garreg flynyddoedd lawer yn ôl.

Cafodd gwrthglawdd newydd ei godi ym 1998 i amddiffyn yr eglwys rhag yr erydu parhaus sy’n digwydd iddi o’r môr. Eglwys Hywyn Sant yw’r ddolen olaf yng nghadwyn Llwybr y Pererinion oedd ar eu ffordd i Enlli. Yn ogystal â bod yn eglwys fyw, yn hanesyddol gyda’i phensaernïaeth arbennig. Peth o adeiladwaith yr adeilad presennol yn mynd yn ol i’r Cl2 gyda’r bwa Normanaidd uwchben y drws.  

Eglwys St. Hywyn Aberdaron
Eglwys St. Hywyn Aberdaron

Yn 1094, roedd Gruffudd ap Cynan, a oedd yng nghanol rhyfel gerila yn erbyn y Normaniaid, yn falch o gael lloches gan y gymuned fynachaidd yn Aberdaron, a dihangodd i Iwerddon yn eu cwch. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1115 gofynnodd Gruffudd ap Rhys Tewdwr (Tywysog Deheubarth) am loches yn eglwys Aberdaron rhag yr un Gruffudd ap Cynan (ei dad-yng nghyfraith), tywysog Gwynedd., a rhoddwyd noddfa iddo. Ar ei wely angau ym 1137 gadawodd Gruffudd ap Cynan arian yn ei ewyllys i Enlli. Mwy…

mae hon hefyd yn ganolfan treftadaeth gydag arddangosfeydd diddorol yn olrhain hanes y pererinion a’r cysylltiad gydag Ynys Enlli. Bu’r bardd R. S. Thomas yn ficer yma (1967- 78) ac mae arddangosfa yn dathlu’i gyfraniad yma.

Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Ar y cerrig, sydd wedi’u treulio gan ddŵr, gwelir arysgrifiadau mewn  Lladin i goffáu Senacus, offeiriad a gladdwyd gyda thyrfa o’i frodyr (cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. Mae’r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif O.C. ac maent i’w gweld, erbyn hyn, yn eglwys Aberdaron.

3 Mynydd Yr Ystum – Bryn bychan yw hwn a gysylltir ag Odo Gawr lle dywedir iddo gael ei gladdu dan garnedd o gerrig. Mae Castell Odo ar ei gopa lle ceir olion caer o Oes yr Efydd (ar ôl 1800 C.C.). Ar ei odre gogleddol mae Ffynnon Odo a cheir Capel Odo yn yr ardal. Ar y copa hefyd mae maen enfawr a elwir yn Garreg Samson. Dywedir i hon gael ei thaflu yma o Uwchmynydd gan Samson a’r tyllau ynddi yw olion ei fysedd. O dan hon mae cawg o aur. Arddangosir creiriau crochenwaith a gloddiwyd yma yn 1958-9 yn Amgueddfa Bangor. Yn ôl un gred difethwyd y gaer gan y Rhufeiniaid yn 78 O.C.

Carreg Samson
Carreg Samson

4 Traeth Aberdaron – Fel ym mhob traeth tywodlyd prin iawn yw’r enwau a geir yma, dim ond ambell garreg yma ac acw sy’n dwyn enw arwyddocaol, megis Carreg y Ring. Bu arni ddolen rhyw dro ar gyfer clymu llongau. Yn “Porthmadog Ships” cyfeirir at adolygiad o waith J. Glyn Davies lle mae’n trafod dulliau o ddadlwytho calch ar y traethau. Eglura fel y byddai llongau calch a glö yn dod i’r lan ar draeth tywodlyd, megis Aberdaron, ar ben llanw. Clymid y llong wrth ddolen ar graig ar y traeth fel y gellid ei dadlwytho. Deuai’r troliau i nôl y calch ar drai a byddai’r llong yn barod i adael pan ddeuai’r môr i mewn unwaith eto.
Ceid trafferth i gael y llong yn ôl i’r môr pe bai wedi glanio â’i thrwyn i’r tir, felly wrth ddod i mewn byddent yn ei chlymu wrth y ddolen dros yr ochr nid dros y tu ôl. Byddai wedyn yn haws i’w throi yn ôl i’r môr wrth hwylio ymaith.

O dan y fynwent mae Carreg y Ring ac ni welir hi ond ar ddistyll. Draw ar y traeth hefyd gwelir Carreg Oistars; lle da, mae’n siwr, am lymeirch. Mae Carreg y Meudwy yma sydd yr un siâp yn union ag Enlli. Honnir mai awyrfaen (meteorite) ydyw, er nad oes daearegwr wedi profi hynny. Yma hefyd mae Carreg Gyfrwy a fu unwaith yn gorwedd yn y tywod a’i ffurf yn union fel cyfrwy. Nid yr un siâp sydd iddi bellach a honnir yn lleol fod y môr wedi ei throi ar ei phen i lawr yn y tywod! O dan y fynwent hefyd y ceir y Banc Sidan.
Deuai llongau masnach i Aberdaron yn y dyddiau pell hynny a daeth yn borthladd pysgota penwaig o gryn bwys. Dywedir y byddai gwraig o Uwchmynydd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn mynd o gwmpas y ffermydd i gasglu wyau ac yna’n mynd â hwy i Aberdaron a’u hanfon yn slŵp y teulu i Lerpwl i’w gwerthu. Aeth llong yn ddrylliau yma yn 1752. Sgwner o’r enw John the Baptist ydoedd ac arni lwyth o geirch ar daith o Wexford i Lerpwl.
Gelwir y fan, lle mae’r ffordd yn terfynu ger y môr, yn Ben yr Odyn ac mae’n rhaid mai yno yr oedd yr odyn lle llosgid y calch a fewnforid. Dywedir fod Sgweiar Nanhoron yn 1906 wedi rhoi’r tir lle safai’r odyn i’r plwyf er mwyn helaethu’r fynwent. Yr hyn sy’n anodd i’w gysoni yw fod gwesty Tŷ Newydd rhwng y fynwent a’r fan a adnabyddir yn lleol fel Pen yr Odyn.
Bu Aberdaron hefyd yn lloches i smyglwyr, fel amryw o’r porthladdoedd eraill o gwmpas Llŷn. Mae David Thomas yn dyfynnu o lythyr capten y Cutter, Llong y Cyllid ym mis Mai 1767:

Ar y pumed o’r mis hwn, angorodd slŵp gan tunnell ym Mae Aberdaron gyda’r hwyr, a daeth deg o wŷr i’r lan, a chleddyfau a llawddrylliau ganddynt, a chynnig brandi a the ar werth. Dywedent mai o Ffrainc y daethent, ond ni werthent lai na deg casgen o frandi a chist o de, a gofyn decpunt amdanynt. Trannoeth, taniwyd gwn ar fwrdd y llong gyda’r nos i alw’r dynion yn eu holau, ac yna hwylio am lannau Aberteifi a gwerthu eu cargo yno, yn ôl fel y clywsom.
Un o’r prif smyglwyr halen yn yr ardal oedd Huw Andro, brodor o Lanfaelrhys. Dywedir iddo unwaith fynd i Iwerddon, lle’r oedd halen yn ddi-doll, a phan aeth ei gyd-deithiwr i rhyw dŷ i werthu halen, roedd dyn yno a gredai ei fod wedi ei witsio. Dywedwyd wrth hwnnw y gallai Huw Andro ei wella. Galwyd ar Huw i’r tŷ ac adroddodd y pennill hwn uwchben y claf, fel geiriau hud:

Mi ddois i yma o wlad bell,
Os nad ei di’n waeth, ’nai m’onot yn well;
Cawn i olwg unwaith ar Fynydd y Rhiw,
Waeth gen i di’n farw mwy nag yn fyw.

Pan ddychwelodd i Iwerddon i gael rhagor o halen cafodd groeso twymgalon gan fod y Gwyddel wedi gwella’n llwyr.

Roedd cynllun arbennig i gychod Aberdaron; cychod dau flaen oeddynt, fel yr un a gaiff sylw J.T.W. yn ei gerdd ‘Cwch Dau Flaen fy Nhad’.

5 Trwyn y Penrhyn – Wrth nesu at gwr dwyreiniol Traeth Aberdaron deuwn at Y Wig, Wig Bach, Ogof Ddeuddrws, Llech Cranc a Thrwyn Llech. Yn y môr i gyfeiriad Porth Meudwy o Lech Cranc mae Carreg Allan. Yna gwelir Trwyn y Penrhyn ym mhen dwyreiniol y bae, y fan y dymunai T. Rowland Hughes eistedd oddi tano i greu ei gampwaith, yn ôl ei gerdd:

“Dan drwyn y Penrhyn a’r wylan a’i chri
Yn troelli uwchben mi eisteddwn i.
Nosweithiau hirion nes llithio bob lliw
Ynysoedd Gwylan a’r tonnau a’r Rhiw.
Ond wrth gwrs, ‘wêl neb mo Enlli’ o’r fan hyn.”

6 Ynysoedd Gwylan – Allan yn y bae mae Ynysoedd Gwylan (Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach) ac ar olau arbennig, gellir gweld i lawr ar hyd Fae Ceredigion hyd at sir Benfro. Mae adar mudol yn galw heibio trwyn y pentir yn eu gwahanol dymhorau ac mae morloi i’w gweld yma’n gyson. Sonnir hefyd yn y gerdd ‘Pe bawn i yn artist’ am Ynysoedd Gwylan. Mae dwy ohonynt, y Fwyaf a’r Lleiaf, yn gorwedd yn urddasol yn y bae. Dynodwyd y rhain yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar sail eu harbenigrwydd fel mannau nythu i’r palod yn ogystal â’r bilidowcar, y llurs a’r gwylog. Ar yr ynys leiaf ceir Plas Deryn a Llyw yr Ynys Fach, sef y trwyn agosaf i Enlli. Mae cilfachau Ogof Hwyaid yn wynebu Aberdaron a Heuwal yr Ynys yn fan cysgodol. Ar yr Ynys Fwyaf ceir Trwyn yr Ynys Fawr. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf arferid mynd â defaid Cadlan i’r ynysoedd ar ddechrau’r haf a’u gadael yno i bori.

Aberdaron
Aberdaron a ynysoedd Gwylan

7 Ffynnon Saint (SH 16542671) – Ffynnon fach, siâp D, tua 3 troedfedd (tua 0.9m) ar draws, wedi’i hamgylchynu gan wal gerrig a’i gorchuddio â chaead haearn modern. Disgrifir y safle yn nhrydedd gyfrol y Rhestr o Henebion yn Sir Gaernarfon (CBHC: 1964) fel un sydd mewn cyflwr gweddol ac yn dal i gael ei ddefnyddio, ond mae’n debyg ei fod wedi tyfu’n wyllt ers hynny. Ger Ffynnon Saint roedd carreg fawr wastad a elwid yn Allor Hywyn. Yma arferai’r myneich ymgasglu i gynnal gwasanaethau. Ffrwydrwyd y garreg flynyddoedd lawer yn ôl wrth adeiladu’r bont gerllaw.

Ffynnon Saint
Ffynnon Saint

Cyfarwyddiadau

Cychwyn o ganol y pentref, ger y pontydd a dringo ychydig i fyny’r allt ar ffordd Rhoshirwaun (B4413) i gyfeiriad becws Islyn (SH 173264)

  • Wedi mynd heibio’r Hen Felin dal i’r dde ar y llwybr cyhoeddus.
  • Dilyn y llwybr i ganlyn afon Daron. Ymhen 1km bydd llwybr yn troi i’r chwith (gogloedd ddwyrain) (SH182 273) ac yn dringo at y B4413.
  • Croesi’r ffordd honno a dilyn y llwybr nes dod at Hendre Uchaf. (SH 179279)
  • Dilyn llwybr i’r chwith ac at groesffordd (ger Cyll y Felin) (SH 172 273)
  • Cymryd y ffordd i’r gorllewin yn y groesffordd. (Yn y man, ar y dde gwelir plac i ddynodi Cae’r Eos, cartref Dic Aberdaron)
  • Dal i’r chwith yn y gyffordd nesaf a dilyn Ffordd yr Arfordir i Aberdaron. Mae hon yn mynd heibio Capel Deunant ac Ysgol Deunant, sef hen Ysgol Aberdaron.

ffynonellau llyfryddiaeth

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn