d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Aberdaron

Cylchdaith Aberdaron – Manylion y daith

Amcan o hyd: 15 km/9.3 milltir.
Amcan o’r amser: 5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH172 264.

Disgrifiad

Mae holl amrywiaeth Llŷn a’i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi’i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol – gogledd a de – y penrhyn; dringfa raddol ar hyd llethrau Mynydd Anelog sy’n cynnig golygfeydd gwych a phanoramig, a dychwelyd drwy gaeau amaethyddol ac ar hyd cwm bychan Afon Daron.

Mannau o Ddiddordeb

1 Aberdaron – Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda’i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a’i dai a phontydd llawn cymeriad. Mae’n werth galw ym Mecws Islyn, gyda’i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref, ond i fwynhau’r lluniau a’r mapiau a’r darnau o dreftadaeth sy’n addurno waliau’r caffi. Adeilad hynafol a diddorol yw’r Gegin Fawr, hen dafarn y pererinion. Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol. Er hynny, mae’n dal yn bentref bach. Mae’r ffyrdd yn dal yn gul a throellog ac mae’r ddwy bont gerrig, Pont Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr draw i’r pontydd mae’r ffordd yn lledu ychydig i ffurfio sgwâr marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon. mae yna nifer o achosion smyglo ar hyd arfordir Llŷn, dyma un enghraifft – 1808 – Daliwyd lygar yn Aberdaron am smyglo halen.  mwy….

Aberdaron
Aberdaron

2 Eglwys hywyn Sant – Galwch heibio Eglwys Aberdaron – Eglwys St Hywyn ar lan y môr a gwrthglawdd newydd wedi cael ei godi ym 1998 i wrthsefyll yr erydu sydd yn digwydd yn barhaus ac sydd wedi bygwth diogelwch yr eglwys o’r blaen. Eglwys Hywyn Sant yw’r ddolen olaf yng nghadwyn Llwybr y Pererinion oedd ar eu ffordd i Enlli. Yn ogystal â bod yn eglwys fyw, yn hanesyddol gyda’i phensaernïaeth arbennig. Peth o adeiladwaith yr adeilad presennol yn mynd yn ol i’r Cl2 gyda’r bwa Normanaidd uwchben y drws. 

Yn 1094, roedd Gruffudd ap Cynan, a oedd yng nghanol rhyfel gerila yn erbyn y Normaniaid, yn falch o gael lloches gan y gymuned fynachaidd yn Aberdaron, a dihangodd i Iwerddon yn eu cwch. Ugain mlynedd yn ddiweddarach yn 1115 gofynnodd Gruffudd ap Rhys Tewdwr (Tywysog Deheubarth) am loches yn eglwys Aberdaron rhag yr un Gruffudd ap Cynan (ei dad-yng nghyfraith), tywysog Gwynedd., a rhoddwyd noddfa iddo. Ar ei wely angau ym 1137 gadawodd Gruffudd ap Cynan arian yn ei ewyllys i Enlli

Eglwys St. Hywyn Aberdaron
Eglwys St. Hywyn Aberdaron

mae hon hefyd yn ganolfan treftadaeth gydag arddangosfeydd diddorol yn olrhain hanes y pererinion a’r cysylltiad gydag Ynys Enlli. Bu’r bardd R. S. Thomas yn ficer yma (1967- 78) ac mae arddangosfa yn dathlu’i gyfraniad yma.

3 Porth Y Swnt – Yn y maes parcio, gwelir Porth y Swnt . Canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hon, sy’n cynnig profiad o natur a threftadaeth yr ardal.

4 Porth Meudwy (SH 16302550) – Hafan gysgodol yn wynebu’r de yw Porth Meudwy a dyma’r man traddodiadol i ddal cwch am Enlli. Ar ben hynny, mae’n harbwr prysur i bysgotwyr a chimychwyr y glannau hyn sy’n codi’r cynnyrch lleol y mae galw mawr amdano.

Mae’r cildraeth yn agosach at yr ynys nag at Aberdaron, ac mae mwy o gysgod rhag y prifwynt, sy’n sicrhau bod modd i gychod gychwyn ar eu taith yn fwy diogel. Mae sôn bod tri phererindod i Ynys Enlli gyfystyr ag un pererindod i Rufain. Aethai rhai yno i farw. Yn ôl y chwedl, mae 20,000 o seintiau (Cristnogion cynnar) wedi’u claddu ar yr ynys.

Glaniodd saith morwr ym Mhorth Meudwy ym mis Hydref 1917, wedi iddynt oroesi ymosodiad ar eu llong ager gan long danfor Almaenig yr wythnos flaenorol. Cyraeddasant y lan ym mad achub y stemar, yn wan gan newyn. Cawsant fwyd poeth gan drigolion lleol, ac fe sychwyd eu dillad. Aethant yn eu blaen ar fws i Bwllheli, cyn anelu am Lerpwl.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, aethai’r amaethwr a’r pysgotwr John Evans ag ymwelwyr ar deithiau i Ynys Enlli yn ei gwch. Ym mis Mehefin 1955 roedd wrthi’n tynnu ei gwch i fyny’r llithrfa hon pan fu i’w dractor droi ar ei hochr, gan ei ladd yn y fan a’r lle.

Mae enw Cymraeg arall am ‘feudwy’, a ddefnyddid gan feirdd ganrifoedd yn ôl, sef ‘ermid’, gair sy’n deillio o eremite mewn Saesneg Canol. Enwyd ffermydd gerllaw yn Bodermid Uchaf a Bodermid Isaf. Cofnodir yr enw fel Bodermitt yn yr 16eg ganrif, ac mae’n debyg ei fod yn dynodi aelwyd (Bod-) meudwy. O Borth Meudwy gallwch weld Ynys Gwylan-fawr ac Ynys Gwylan-fach.

5 Ynys Enlli – O lwybr Anelog byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a’r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy’n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a’u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i’r ynys drwy gysylltu â Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).

Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o’r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar ôl. Mae’r traddodiadau sy’n ymwneud â sefydliadau mynachaidd Enlli wedi’u dogfennu’n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi’i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy’n rhoi adroddiad cynnar o’r traddodiad bod myrdd o saint wedi’u claddu yno; 20,000 yn ôl adroddiadau diweddarach.

Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen â llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy’i gilydd, ag arysgrif yn coffáu ‘Esyllt’, neu enw tebyg, ar un o’r ochrau byr; a charreg â siâp croes arni yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu lai.

Mwy….. Cenhadwyr y 6ed Ganrif

Ym 1012 (s.a. 1011) mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog â darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.

Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a’r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a’r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a’r drefn Rufeinig i’r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono’n dal i sefyll.

6 Porthor – Traeth braf gyda’i faes parcio ei hun (SH 167300)(eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yw Porthor. Enwog am ei longddrylliadau a’i draddodiad smyglo!

Efallai mai’r mwyaf anghyffredin o’r holl draethau hyfryd o amgylch yr ardal yw Porthor, sydd ychydig i’r gogledd o Aberdaron. Mae’r tywod gwyn yn chwibanu pan fydd rhywun yn cerdded arno. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.

7 Ynysoedd Gwylan – Allan yn y bae mae Ynysoedd Gwylan (Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach) ac ar olau arbennig, gellir gweld i lawr ar hyd Fae Ceredigion hyd at sir Benfro. Mae adar mudol yn galw heibio trwyn y pentir yn eu gwahanol dymhorau ac mae morloi i’w gweld yma’n gyson. Sonnir hefyd yn y gerdd ‘Pe bawn i yn artist’ am Ynysoedd Gwylan. Mae dwy ohonynt, y Fwyaf a’r Lleiaf, yn gorwedd yn urddasol yn y bae. Dynodwyd y rhain yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar sail eu harbenigrwydd fel mannau nythu i’r palod yn ogystal â’r bilidowcar, y llurs a’r gwylog. Ar yr ynys leiaf ceir Plas Deryn a Llyw yr Ynys Fach, sef y trwyn agosaf i Enlli. Mae cilfachau Ogof Hwyaid yn wynebu Aberdaron a Heuwal yr Ynys yn fan cysgodol. Ar yr Ynys Fwyaf ceir Trwyn yr Ynys Fawr. Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf arferid mynd â defaid Cadlan i’r ynysoedd ar ddechrau’r haf a’u gadael yno i bori.

8 Anelog – Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Ar y cerrig sydd wedi’u treulio gan ddwr gwelir arysgrifiadau, yn Lladin, i goffáu Senacus, offeiriad a gladdwyd gyda thyrfa o’i frodyr (cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. Mae’r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif OC. Yn eglwys Aberdaron bellach y mae cerrig coffa arysgrifedig Senacus a Veracius o’r bumed neu’r chweched ganrif, a ganfuwyd yn wreiddiol yn Anelog.

9 Bodwrda – Saif Bodwrda (SH 188272) mewn llecyn cysgodol yng nghanol y coed, ryw 2km dwyrain o Aberdaron. Yr oedd y plasty yn enwog fel cartref teulu’r Gwyniaid. Bu rhai o’r teulu yn bwysig yng ngwleidyddiaeth cyfnod Cromwell ac yr oedd Griffith Gwyn ymhlith y fintai a aeth i Baris yn amser yr Adferiad i hebrwng Siarl 1 i Lundain. Bu aelwyd Bodwrda yn noddi beirdd am genedlaethau.

Mater i’r dychymyg yw penderfynu beth oedd ffynhonell cyfoeth y teulu distadl ac anadnabyddus yma i beri i un fod yn siryf ym 1584, a thua deugain mlynedd yn ddiweddarach iddynt ail adeiladu Bodwrda mewn briciau (defnydd adeiladu prin a drud mewn lle mor anghysbell ar y pryd) Mwy…Hanes y Tŷ. Ni ellir ond awgrymu eu bod hwythau, fel eu cymheiriaid, Teulu Bodfel, yn byw yn agos i’r mor.  Mwy… Achau Llŷn a hanes manwl y teulu a’r tŷ

10 Mynydd Yr Ystum / Castell Odo – Bryn bychan a gysylltir ag Odo Gawr lle dywedir iddo gael ei gladdu dan garnedd o gerrig. Mae Castell Odo ar ei gopa lle ceir olion caer o Oes yr Efydd, ar ôl 1800 C.C. Ar ei odre gogleddol mae Ffynnon Odo a cheir Capel Odo yn yr ardal. Ar y copa hefyd mae maen enfawr a elwir yn Garreg Samson. Dywedir i hon gael thaflu yma o Uwchmynydd gan Samson a’r tyllau ynddi yw olion ei fysedd. O dan hon mae cawg o aur. Arddangosir creiriau crochenwaith a gloddiwyd yma yn 1958-9 yn Amgueddfa Bangor. Yn ôl un gred difethwyd y gaer gan y Rhufeiniaid yn 78 O.C.

Carreg Samson Castell Odo
Carreg Samson Castell Odo

Meillionydd – Tua 2km i’r dwyrain o gastell odo mae yna fryngaer bridd arall o tua’r un cyfnod. Y mae hwn wedi bod yn destun cloddio blynyddol gan brifysgol Bangor.-  http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cy

Dywedi’r bod hwn ‘mond di cael ei ‘darganfod’ yn ddiweddar o luniau o’r awyr. Er hyn, mi oedd yna sôn amdani yn 1880 yn y Llyfr – Archaeolegia Lleynensis gan y Parch Daniel.

tud. 28 Arch. Lleynensis
tud. 28 Arch. Lleynensis

11 Dinas Mawr a Dinas Bach – Mae’r enwau’n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn ôl. Bellach mae’n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu’r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty’n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau’r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.

12 Plas Carmel – Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan.  Plas Carmel

Siop Plas Carmel
Siop Plas Carmel

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Gellir cyrraedd y llwybr ar hyd ben rallt i Borth Meudwy o ben pella’r maes parcio – y pen agosaf at y traeth.
  • O Borth Meudwy, dilynwch y nant fechan ar hyd ffordd drol i fyny’r dyffryn at fferm Cwrt.
  • Oddi yno ewch ar draws y caeau, drwy ran o Uwchmynydd ac yna dringo llethrau Mynydd Anelog.
  • Yr ochr draw i’r mynydd, trowch i’r dde gan gerdded ar hyd ben rallt, tua Mynydd Carreg ac ymlaen wedyn nes cyrraedd Traeth Porthor.
  • Troi am y tir yma, gan gerdded drwy’r maes parcio, troi i’r dde a dilyn y ffordd am ychydig cyn troi i’r chwith ar hyd ffordd drol.
  • Pan ddowch at ffordd wledig arall, troi i’r dde am Cyll y Felin, ar draws croesffordd ac yna i’r chwith gan ddychwelyd i’r pentref drwy gefn gwlad braf ac ar hyd dyffryn cul yr afon at hen felin Aberdaron.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn