d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Penarfynydd

Manylion y daith

Amcan o hyd: 8.1 km/5 milltir.
Amcan o’r amser: 2.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Cychwyn o ganol pentref Rhiw (SH 226277)

PETHAU I WELD AR Y DAITH

Rhiw – Un o’r pentrefi uchaf yn Llŷn a’r golygfeydd o Fae Ceredigion a’r arfordir o Griccieth gyda’r glannau i lawr mor bell ag Aberystwyth yn destun edmygedd ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd. Y pentref ei hun ar wasgar o gapel Nebo yr Annibynwyr i Eglwys St Aelrhiw filltir i’r gorllewin. Yr eglwys heb wasanaethau erbyn hyn a’r plwyf wedi ei uno a phlwyf LLanfaelrhys i’r de rhwng y Rhiw ag Aberdaron.

Mae llawer o olion hen fywyd ar ochr y Rhiw o gwmpas y Castell, a thai a mân dyddynnod eraill. Cafwyd hyd i olion mynwent gynnar ar dir Coch-y-moel, ac y mae enwau llawer o’r ffermydd a’r tai yn awgrymu sefydliad cynnar.

Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o’r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. ol cloddio pump o dyllau i godi’r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.

1 Creigiau Gwinau (SH 228274)– Caer o Oes yr Haearn (tua 600 C.C.) mewn safle drawiadol iawn uwchben Porth Neigwl a golygfeydd o Eryri, Meirionnydd a Phen Llŷn. Mae’r fryngaer hon ar grib Mynydd y Graig. Ychydig o olion sydd i’w gweld – rhai cytiau crwn y unig. Llwyddon nhw i godi caer trwy ddefnyddio’r tirwedd naturiol – y graig yn rhagfuriau a’r allt serth tua’r deddwyrain yn amddiffynfeydd effeithiol iawn. Mae’r amddiffynfa yma yn defnyddio y crib serth naturiol fel mur ar hyd yr ochr ogleddol. Y mae’r tir yn gostwng yn fwy graddol ar yr ochr ddeheuol o’r amddiffynfa hyd nes y ceir ochr serth i lawr i’r môr. Bryngaer hirgrws sydd yma a’i maint yn 400 troedfedd o hyd wrth 188 troedfedd o led. Mwy…

O Creigiau Gwineu
O Creigiau Gwineu

2 Eglwys Llanfaelrhys – Sant arall a ddaeth o Lydaw yn y canrifoedd cynnar oedd Maelrhys, cefnder i Cadfan a Hywyn. Yma yn Llanfaelrhys y ceir yr unig eglwys yng Nghymru a sancteiddiwyd iddo. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a’r Rhiw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe’u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i’r llall disgynnodd barn Duw arnynt a’u troi’n ddwy golofn ithfaen.

Eglwys Llanfaelrhys
Eglwys Llanfaelrhys

3 Maen Hir Tan Y Foel (SH 226276)- Gwelir hwn yn y clawdd ar ochr chwith y ffordd drol sy’n arwain o Dan y Foel, Rhiw tuag at Greigiau Gwinau. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a’r Rhiw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe’u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i’r llall disgynnodd barn Duw arnynt a’u troi’n ddwy golofn ithfaen.

Maen Hir Llanfaelrhys
Maen Hir Llanfaelrhys

4 Penarfynydd – Dyma’r darn o dir sy’n ymestyn i’r môr gan wahanu bae Porth Ysgo a Phorth Neigwl. Mae’r trwyn ei hun a elwir yn Drwyn Talfarach yn eiddo i’r Ymddiriedlolaeth Genedlaethol ac ohono ceir golygfeydd arbennig i gyfeiriad Ynys Enlli. Yn y panorama hwn yn ogystal ag Enlli gwelir Ynysoedd Gwylanod, Carreg Cybi ar flaen Trwyn y Penrhyn, Porth Cadlan gyda’i orynys Maen Gwenonwy a Phorth Ysgo, Porth Alwm a Phorth Llywenan.
Mae gwaith carffosiaeth rhwng Penarfynydd a Mynydd y Graig ac wrth ddal i’r de-ddwyrain o hwnnw gellir dilyn Llwybr Arfordir Llŷn uwchben Porth Neigwl ac yn ôl i’r Rhiw neu ddilyn y ffordd gul heibio Carreg Lefain, eto yn ôl i’r Rhiw.

5 Porth Ysgo – Porth Ysgo sy’n dilyn gyda’i olion diwydiannol, dieithr i Lŷn. Bu cryn fri yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan allforid y manganîs a gloddid o’r gelltydd cyfagos. Mae sôn fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio yma ganrifoedd ynghynt, gan ddefnyddio’r mwyn i lifo dillad. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ailddechreuwyd cloddio ym Mynydd y Rhiw ac i lawr Nant y Gadwen i gyfeiriad Porth Ysgo.
Câi’r mango o’r Rhiw ei gario mewn troliau at ffrwd lle byddai’r gwragedd yn ei olchi. Yna eid ag ef mewn ceir llusg i Borth Neigwl i’w lwytho ar longau. Pan sylweddolwyd fod galw am y mango, rhedwyd weiar-rôp i lawr i lanfa a godwyd wrth ymyl y Graig Ddu, o dan y Garth ym Mhorth Neigwl. Yn ystod gaeaf 1910-11 dinistriwyd y lanfa ac ni atgyweiriwyd hi wedyn. Codwyd glanfa ym Mhorth Ysgo hefyd a rhedwyd rheilffordd i lawr ati o Fynydd y Rhiw. Yn nechrau’r ganrif roedd ardal y Rhiw yn cynhyrchu 90% o fanganîs gwledydd Prydain, gan gyflogi hyd at ddau gant o weithwyr. Bu unwaith fwriad i ymestyn y rheilffordd o Bwllheli i’r Rhiw, ond ni pharhaodd y bri.

'Winch' Nant Gadlan, Porth Ysgo
‘Winch’ Nant Gadlan, Porth Ysgo

Ailagorwyd y mwynfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i’w cau’n derfynol ym mis Rhagfyr 1945. Ym Mhorth Ysgo mae craig yn dwyn yr enw Carreg y Ring oherwydd fod arni hithau, fel aml un arall, ddolen i glymu llongau wrthi. Mae Pistyll y Gaseg yn rhaeadru i lawr o ben yr allt i draeth caregog tawel. Ceir Pwll y Gaseg yma hefyd yn yr un rhan o’r traeth. Ym mhen dwyreiniol Porth Ysgo ceir Porth Alwm – Porth Alm ar lafar – ac i’r lle hwn y rhed Nant y Gadwen. Gwelir trwyn bychan ar y map yn gwahanu Porth Alm oddi wrth Borth Ysgo. Dyma’r Trwyn Coch. Yng nghwr dwyreiniol Porth Ysgo ceir Carreg Oswald.

ffynonellau llyfryddiaeth

CYFARWYDDIADAU

Cychwyn o ganol pentref Rhiw (SH 226277). Parcio mewn man cyfleus.

  • Dilyn y ffordd gul i’r de-orllewin (gyda thalcen Y Groesffordd ac yn ymyl Tan y Foel troi i’r chwith i fyny lôn drol. (Maen hir yn y clawdd ar y chwith)
  • Gyferbyn â ‘Therfyn Uchaf’ mynd dros gamfa a dal i’r chwith at gamfa arall yn wal y mynydd.
  • Mynd dros y gamfa a cheir dewis Dringo’r llethr efo’r wal i fyny at gamfa bren ac odre’r creigiau. Dyma Greigiau Gwinau (SH 228274). Mae’r llwybr yn mynd i’r de orllewin ar dir yr Ymdd. Gen. ar Fynydd y Graig.
  • Yn y man gwelwch dyddynnod ar y dde a chraig o’ch blaen. Cyn cyrraedd y graig rhaid dal i’r dde ac yn fuan byddwch yn dod at waith carffosiaeth (SH 223 267) neu Cerdded i’r chwith ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn tua’r gogledd-ddwyrain ac ymlaen o gwmpas Mynydd y Graig.
  • Wedi cyrraedd i’w gwr deheuol deuwch at waith carffosiaeth (SH 223267)
  • Dringo eto’n raddol ar dir yr Ymdd. Gen. (Penarfynydd) i gopa Mynydd Penarfynydd (SH 220265) a drosodd i gyfeiriad Trwyn Talfarch (SH 216259) lle ceir golygfeydd arbennig eto.
  • Troi yn ôl i gyfeiriad y copa ond dilyn llwybr i’r chwith a disgyn yn raddol at fferm Penarfynydd (SH 219266). (Gellir cwtogi’r daith yma trwy ddilyn lôn fferm Penarfynydd yn ôl, heibio Tŷ Croes Mawr, i bentref Rhiw.)
  • O Benarfynydd dilyn llwybr ar draws cae i’r gorllewin a dod allan ar ffordd Rhiw – Llanfaelrhys (SH 215268)
  • Dilyn y ffordd i’r gorllewin heibio Llawenan a dal i’r chwith i lawr dyffryn bychan sy’n arwain i Borth Ysgo (SH 207264)
  • Dal i’r dde uwchben Porth Ysgo a pharhau ymlaen ar y llwybr hwnnw nes dod allan yn fferm Ysgo.
  • Dilyn y ffordd i’r de (dwyrain) a heibio Eglwys Llanfaelrhys nes dod yn ôl at geg y llwybr sy’n arwain i lawr i Borth Ysgo.
  • Ar y chwith yno mae llwybr yn mynd dros gamfa i’r cae.
  • Mynd o gamfa i gamfa ar draws y caeau nes dod allan i ffordd fawr (Rhiw i Lanfaelrhys (SH 216270)
  • Cerdded i’r chwith ar y ffordd honno nes gweld arwydd llwybr cyhoeddus ar y dde gyferbyn â Bryndol (SH 217272).
  • Cerdded i’r dwyrain, heibio murddyn ac allan yn ei ben draw ger Bryn Golau (SH 224275).
    Mynd heibio Bryn Golau a Thanyfoel ac allan i’r groesffordd yn Rhiw lle cychwynnodd y daith.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn