Manylion y daith
Amcan o’r hyd: 13km/8 milltir.
Amcan o’r amser: 4 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253 a 254.
Man cychwyn/gorffen: maes parcio ar y ffordd i Nant
Gwrtheyrn uwchben pentref Llithfaen, SH441 353.
Disgrifiad
1 Yr Eifl – Mae’r Eifl yn dri copa sy’n codi’n uchel uwchlaw’r môr. O ganlyniad, cewch olygfeydd o arfordir Bae Ceredigion, mynyddoedd Eryri ac Ynys Môn, a hyd yn oed fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon ar ddiwrnod clir. Gall niwl y môr o Fae Caernarfon achosi i’r tywydd newid yn sydyn iawn ar Yr Eifl. Y tri copa yw Tre’r Ceiri (485m), Garn Ganol (564m) a Garn For (444m). Garn Ganol yw’r pwynt uchaf ym Mhenrhyn Llŷn.
2 Tre’r Ceiri – Yn ddi-os, Tre’r Ceiri , (a gyfieithir weithiau’n ‘dref y cewri’) yw un o’r esiamplau gorau o fryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd Ewrop ac mae hefyd yn un o’r rhai uchaf, yn 480metr. Mae waliau cerrig y muriau amgylchynol hyd at 3.5metr o uchder mewn mannau; ac mae gweddillion oddeutu 150 o dai crynion i’w gweld o fewn y gaer. Mae’r prif wahanfur yn ymestyn yn ddi-dor ar hyd cefnen estynedig y copa, gan amgáu dwy hecter o fewn rhagfur cerrig (3.5m o uchder a 2.3 i 3m o drwch). Mae wal ychwanegol ar yr ochr ogledd-orllewinol yn cryfhau amddiffyniadau’r rhan gaeëdig. Nid oes angen waliau ychwanegol ar yr ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol.
Mae’r mynedfeydd gwreiddiol i’w gweld o hyd. Mae’r brif fynedfa ar yr ochr ogledd-orllewinol yn dilyn llwybr lletraws drwy’r rhagfuriau allanol a mewnol, ac yn y fan hon mae’r wal yn fwy trwchus a cheir waliau gydag ochrau’r llwybr sy’n arwain at y fynedfa fel bod modd cael mynediad i’r fryngaer ar hyd tramwyfa 15metr. Mae nifer o gylchoedd cytiau yn y rhan fewnol. Mae rhai cytiau mwy, a chynharach wedi cael eu rhannu’n gydrannau drwy ychwanegu croesfuriau mewnol i greu ystafelloedd afreolaidd llai. Mae’n debygol iawn bod anheddu wedi dechrau yn Nhre’r Ceiri yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar a’i fod yn dal i gael ei anheddu yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig ac efallai, hyd yn oed yn ddiweddarach.
Mae dwy fryngaer arall o Oes yr Haearn ym Mhen Llŷn y gellir mynd atynt o gylchdeithiau, sef Garn Boduan ger Nefyn (Cylchdaith Garn Boduan) a Garn Fadryn (Cylchdaith Garn Fadryn), ac mae’r rhain yr un mor bwysig â Thre’r Ceiri yn eu ffyrdd eu hunain.
3 Nant Gwrtheyrn – Heddiw, mae Nant Gwrtheyrn, cyn bentref chwarelyddol Porth y Nant yn gartref ac yn Ganolfan Iaith Gymraeg i ddysgwyr sy’n aros yn yr hyn a arferai fod yn fythynnod y chwarelwyr. Adeiladwyd y tai teras yn 1878 ac fe’i hystyriwyd, bryd hynny, yn fythynnod gweithwyr gorau’r ardal. Roedd y chwarel yn cynhyrchu cerrig sets oedd yn sail i balmentydd Llundain, a llawer o ddinasoedd eraill, yn ogystal â meini cwrlo ar gyfer y gemau Olympaidd (Gwaith Trefor),
Mae’r ganolfan dreftadaeth a leolir yng nghyn gapel y pentref yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol am hanes y pentref a’r ardal gyfagos, gan gynnwys stori serch drasig Rhys a Meinir, (www.nantgwrtheyrn.org).
Mae’r cwm hwn hefyd yn gysylltiedig â chwedl sy’n cael ei hadleisio mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’r chwedl o’r cyfnod canoloesol cynnar yn sôn am y gwrthdaro rhwng Emrys Wledig a Gwrtheyrn. Roedd Gwrtheyrn yn bwriadu adeiladu amddiffynfa ar y mynydd a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel Dinas Emrys. Cafodd ei atal, fodd bynnag, gan bwerau proffwydol Emrys, ac fe’i gorfodwyd i adael Dinas Emrys a symud i le o’r enw Caer Gwrtheyrn, yn ôl y ddogfen o’r nawfed ganrif sy’n adrodd hanes y digwyddiadau hyn.
Caiff y bae rhwng Trwyn y Gorlech a Charreg y Llam ei gysylltu â Gwrtheyrn Gwrthenwu – cymeriad chwedlonol a drodd yn fradwr drwy roi tir i’r Saeson. Cafodd ei ymlid gan Emrys Wledig a Garmon a llwyddodd i ddianc i’r lle o’r enw Nant Gwrtheyrn heddiw. Cododd gastell o goed yno ond daeth ei erlidwyr ar ei ôl. Yn hytrach nag ildio llamodd i’w farwolaeth o ben craig a disgyn i’r môr. Dyma Garreg y Llam. Mae’n ddiddorol sylwi bod Caer Gwrtheyrn yn rhan o diriogaeth Gwynessi – Gwynus, neu Wyniasa mae’n debyg, sy’n cael ei gofnodi yn y dogfennau hanesyddol fel ransh wartheg a thir pori’r Tywysog yng nghwmwd Dinllaen yn y 13eg ganrif. Yr hyn sy’n gwneud y chwedl yn fwy diddorol fyth yw mai ynddi hi y cawn y cofnod cyntaf o’r ddraig goch fel un o symbolau Cymru.
4 Tafarn Y Fic – Adeiladwyd y dafarn yn 1869. Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl leol gwmni cydweithredol a chodi arian i brynu’r dafarn oedd erbyn hynny wedi’i chau gan y bragdy. Tyfodd yn ganolfan gymdeithasol bwysig a daeth ei nosweithiau o adloniant Cymraeg yn enwog ar draws gwlad. Moderneiddiwyd yr adeilad a rhoi estyniad arno yn 2004 gan greu ystafell gymunedol a bwyty’r Daflod, yn ogystal â pharhau fel tafarn Gymreig. Tafarn y Fic.com
5 Cae’r Mynydd – Gan ddefnyddio cragen fôr fawr, galwodd Robert William Hughes, Cae’r Mynydd ar drigolion Llithfaen i ddod ynghyd i wrthwynebu’r swyddogion a’r mesurwyr tir ym Medi 1812. Bu terfysg ond daeth y Dragoons yn ôl a daliwyd Robert Hughes yn ei gartref yn cuddio mewn car bara oedd yn crogi o’r nenbren. ‘The king against Robert William Hughes, for a Riot’ oedd y cyhuddiad yn y llys. Trawsgludwyd Robert Hughes yn 1813 i Awstralia i dreulio gweddill ei oes yn Botany Bay.
6 Chwarel Cae’r Nant – Bu Nant Gwrtheyrn a Phorth y Nant yn hynod o brysur pan oedd chwareli’r Eifl ar agor. Byddai llongau yn cario sets o chwareli Nant Gwrtheyrn a Charreg y Llam. Yn llyfr Griffith R Williams, Atgofion Canrif mae atgofion difyr gan un a fu’n gweithio yno am flynyddoedd lawer.
Pan gerddai gweithwyr Llithfaen i’w gwaith yn chwareli’r Nant yn y gaeaf, byddai’n rhaid iddynt grafangu ar hyd llwybr y bwlch ar eu pedwar pan fyddai’n stormus iawn.
Ar eu pedwar, pwy ydynt
‘ ddaw i’w gwaith drwy ddannedd gwynt?
Gwŷr caeth i fara’r graig hon
a’u gwinedd ynddi’n gynion,
haf neu aeaf, yr un iau
o gerrig ar eu gwarrau.
Ond hwy, ar lwybr yr wybren,
yn plygu, baglu i ben
y mynydd, hwy yw meini
conglau ein waliau – a ni,
mor bell o gyllell y gwynt,
yw’r naddion o’r hyn oeddynt.
Myrddin ap Dafydd
7 Eglwys Carnguwch (SH 3742241823) – Un o nifer o eglwysi a gafodd eu sefydlu gan Beuno yn y 7fedG. Saif mewn llecyn tawel, gwledig uwch llechwedd serth sy’n disgyn at lannau afon Erch. Dadgysegrwyd yr eglwys ond daliwyd i gladdu yn y fynwent hyd y 1970au. Yn ôl prisiad Norwich roedd eglwys yma yn 1284. Pan ymwelodd Hyde-Hall â Charnguwch rhwng 1809 a 1811 gwelodd fod yr adeilad ar ffurf croes mewn cyflwr erchyll. Ond yn 1882 cafodd yr eglwys bresennol ei hadeiladu ar gynllun y pensaer, Henry Kennedy. Mae’r ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o’r 15/16edG.
Mae’r pulpud deulawr a seddi â Ld.N. (Lord Newborough) a ‘1815 I LL’ (Isaac Lloyd, Plas Trallwm) arnynt yn rhai o’i nodweddion amlwg. Roedd ynddi ddysgl i ddal dŵr o ffynnon Sanctaidd (gerllaw) a châi’r dŵr ei wasgaru â brwsh arbennig – ‘Ysgub y Cwhwfan’ dros bawb a âi i’r gwasanaeth.
Bellach mae’r eglwys wedi’i dadgysegru ac mae Cyfeillion Eglwys Carnguwch yn gwarchod y safle. Yn wreiddiol roedd yma fynwent gron ac ynddi gasgliad gwerthfawr o englynion beddargraff.
Pan agorodd chwareli’r Eifl yng nghanol 19yddG. datblygodd pentref Llithfaen ond roedd yr eglwyswyr yn amharod i fynd i Garnguwch i addoli. Câi gwasanaethau eu cynnal yn yr ysgol ar y dechrau cyn adeiladu Eglwys Sant Ioan yn y pentref. Wedi agor hon yn 1882 caeodd Eglwys Carnguwch yn fuan wedyn.
8 Y Groes – (a siop Pen-Y-Groes) – Siop gyfleus yn gwerthu nwyddau angenrheidiol sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ydi Siop Pen y Groes yn Llithfaen. Gellir archebu papur, cylchgronau a llefrith, yn ogystal â bara Glanrhyd, yn ddyddiol. Hefyd, mae posib archebu ffrwythau, llysiau a physgod i’w casglu o’r siop ar Ddydd Gwener. sioppenygroes@hotmail.com
9 Y Wal Mawr (SH353 440) – Codwyd y wal fynydd hon tua 1815 gan filwyr di-waith a ddychwelodd o frwydr Waterloo. Mae’r caeau sgwarog yr ochr isaf i’r wal, sydd wedi’u marcio gan syrfewyr, yn perthyn i’r un cyfnod – dyma’r tir a gafodd ei ddwyn gan stadau’r tirfeddianwyr oddi ar y bobl gyffredin leol gan ddeddf amgáu Tiroedd Comin yr Eifl. Amcenir bod dros filiwn o aceri o dir Cymru wedi ei gau yn y cyfnod hwn, sef rhyw un rhan o bump o’r wlad gyfan. Mwy am Cau tiroedd-
10 Gallt y Bwlch – Mae Gallt y Bwlch i’r de o Nant Gwrtheyrn wedi ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd bod yma goedwig arfordirol agored yn cael ei deifio gan wyntoedd o’r gorllewin. Mae’n goedwig hynafol a choed derw a bedw sydd ynddi gan fwyaf heddiw.
11 Carreg Llam (SH 334838) – Ar Garreg y Llam mae Penrhyn Glas a Phorth Hywel. Yr enw am y darn o dir glas dros y dibyn yw Clwt Llwgu. Hawdd iawn i ddafad gael ei denu gan y blewyn glas dyfai arno a wedyn methu mynd yn ôl i ddiogelwch. Yr unig ateb fyddai ei gadael nes y byddai’n rhy wan i symud a wedyn ei chodi oddi yno.
Cyfarwyddiadau
- Mae yna ddwy ddolen i gylchdaith Llithfaen a Thre’r Ceiri i bob pwrpas. O’r maes parcio, dilynwch y llwybr rhwng Garn For a’r Garn Ganol, gan droi i’r dde i gyrraedd copa’r Eifl ac i lawr i ymuno gyda llwybr sy’n mynd tua’r chwith i gopa Tre’r Ceiri.
- Dychwelwch ar hyd yr un llwybr a dilynwch y llwybr sy’n mynd tua’r gorllewin yn ôl i’r maes parcio.
- Yna dilynwch y lôn i lawr i Nant Gwrtheyrn, mynd i lawr at y traeth a dilyn Llwybr yr Arfordir.
- Byddwch yn dringo’n raddol yn uchel uwch ben y traeth, ac yn y diwedd yn troi i mewn i’r tir i fyny lôn heibio Ciliau Canol, gan ei gadael am lwybr drwy’r caeau yn ôl i’r maes parcio.
Cyfarwyddiadau Eglwys carnguwch: O Lithfaen: Dilynwch lôn ddi-ddosbarth oddi ar y B4417 tua’r de-ddwyrain (1km) i’r dwyrain o bentref Lithfaen) gyda godre Moel Carnguwch ac yna dilyn llwybr ymhen 1.3km tua’r de ac i lawr at yr eglwys.
Cyfarwyddiadau Carreg Llam: Gellwch fynd i Garreg y Llam trwy fynd ar B4417 o Lithfaen i gyfeiriad Pistyll. Ymhen 1.25km dilynwch ffordd drol tuag at ffermydd Ciliau a dilyn arwyddion llwybr cyhoeddus ‘Carreg Llam’
Llwybrau eraill – Llwybr Gwyn Plas