d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Clynnog – Trefor

Cylchdaith Clynnog i Trefor – Manylion y daith

Amcan o’r hyd: 15km/9.3 milltir.
Amcan o’r amser: 5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.
Man cychwyn/gorffen: Maes parcio traeth Trefor, SH376 473. Dewis arall yw Clynnog Fawr, SH414 497.

Disgrifiad

1 Trefor – Mae pentref glan môr Trefor yn bodoli o ganlyniad i graig ithfaen Yr Eifl, sef y tri chopa sy’n edrych dros y pentref. Mae Chwarel yr Eifl ar lethrau gogleddol copa mwyaf gogleddol yr Eifl, sef Garn Fôr. Agorwyd y chwarel yn 1850, i wneud sets i balmantu ffyrdd. Agorwyd Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn yn 1835 a chwarel Porth y Nant tua 1860. Daeth y chwareli hyn, a chwareli bach eraill yn ardal Trefor, at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y Gwylwyr, Moel Tŷ Gwyn ym Mhistyll , Carreg y Llam, Porth y Nant a’r Eifl yn Nhrefor oedd y chwareli mwyaf. Tua diwedd y 19eg ganrif roedd llai o alw am sets a mwy o alw am gerrig mâl i wneud ffyrdd, mewn tarmacadam ac fel agreg ar gyfer concrid. Roedd tramffordd yn cario’r deunydd o’r ponciau. Ym 1870 adeiladwyd cei a chyflwynwyd trenau stêm bychain i weithio rhan isaf y dramffordd i’r pier.

Trefor a'r Eifl
Trefor a’r Eifl

Yn niwedd y 19eg ganrif roedd bron i 100 o dai mewn cnewyllyn clos o dai teras ar waelod inclein y chwarel ger y gweithdai. Roedd y pentref yn cynnwys tri capel Anghydffurfiol ac un eglwys Anglicanaidd, wedi ei hadeiladu gan brif beiriannydd y Welsh Granite Company er budd y gweithwyr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd dwywaith gymaint o adeiladau yn y pentref, ac roedd y pentref wedi ehangu ar hyd y ddwy briff ffordd i Drefor o’r A499 o Glynnog i Lanaelhaearn. Y ffordd fwyaf deheuol o’r ddwy oedd y ffordd wreiddiol i’r pentref; adeiladwyd y ffordd ogleddol er mwyn hwyluso mynediad i’r chwarel.

Ar y copa mwyaf dwyreiniol, sef Tre’r Ceiri, mae olion un o’r gwrthgloddiau gorau ei gyflwr sydd  ar gael yn Ewrop o Oes yr Haearn.  Mwy…. Cylchdaith Clynnog Fawr i Nefyn

2 Gyrn Goch a Gyrn Ddu – Gall y golygfeydd ar hyd y daith dros fryniau Bwlch Mawr, Gyrn Goch a Gyrn Ddu fod yn eang pan fo’r tywydd yn ffafriol, yn cynnwys golygfeydd dros y dair gwlad, Cymru, Lloegr ac Iwerddon (yn ogystal ag Ynys Manaw). Mae’r golygfeydd o’r Eifl yn ddihafal.

Tre Ceiri o'r awyr
Trefor, Gyrn Goch a Gyrn Ddu

3 Clynnog Fawr – Mae gan Glynnog Fawr un o’r tair  eglwys plwyf mwyaf nodedig yng Ngwynedd. Mae’n ymdebygu i Gadeirlan o ran graddfa o’i chymharu ag eglwysi eraill Llŷn, ac fe sylwch arni’n syth o’r ffordd fawr, gyda’i thŵr uchel a’i chapel bylchfuriog ar wahân. Mae’n eang ac yn olau braf y tu mewn gyda tho pren coeth a chroglen gywrain (sy’n gwahanu’r gangell a chorff yr eglwys).

Eglwys Clynnog Fawr
Eglwys Clynnog Fawr

Sefydlwyd mynachlog bwysig yng Nghlynnog yn y 7ed ganrif gan Beuno Sant, y dathlir ei ddydd gŵyl ar Ebrill y 21ain. Roedd yr Eglwys yng Nghlynnog yn un o’r mannau mwyaf sanctaidd yng Nghymru, ar y cyd â Thyddewi ym Mhenfro ac Ynys Enlli.

Pan ddyfarnodd y Pab Calixtus II fod dwy daith i Dyddewi’n gyfwerth ag un i Rufain, daeth pererindodau o fewn Cymru’n fwyfwy poblogaidd ac erbyn yr 11eg ganrif  a’r 12ed ganrif, roedd y daith i Enlli dan ei sang gan bererinion, a phob un ohonynt yn aros yng Nghlynnog wrth gysegrfa enwog Beuno. Mae arddangosfa ddiddorol am yr eglwys yn cynnwys gwaith diweddar y gellir ei weld yn – Fama .

Clynnog by Moses Griffith 1782.jpg
Gan Thomas Pennant – Llyfrgell Genedlaethol, Public Domain, Linc

4 Ffynnon Beuno – Mae Ffynnon Beuno i’w gweld o fewn muriau cerrig, sgwâr ac mae’n un o nifer o ffynhonnau sanctaidd ar y llwybr o Dreffynnon i Enlli. Credai’r pererinion y gellid gwella unrhyw salwch drwy ymweld â mannau arbennig ac yfed dŵr o Ffynhonnau Sanctaidd.

Ffynnon Beuno
Ffynnon Beuno

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Gan gychwyn y daith ym maes parcio traeth Trefor, dilynwch y llwybr i gyfeiriad y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli (A499) a dilynwch y llwybr beicio sy’n gyfochrog gyda’r ffordd wrth iddo gylchu godrau’r Garn Ddu a’r Gyrn Goch i Glynnog Fawr. gyda’i ffynnon sanctaidd a’i eglwys hynod.
  • Yng Nghlynnog, cymerwch y llwybr sy’n dringo o gefn y pentref i ymuno â lôn dawel i ddringo’n raddol y tu cefn i Bwlch Mawr, ac ymlaen ar draws rhosdir moel ond trawiadol gyda godrau de-ddwyreiniol y Gyrn Goch a’r Gyrn Ddu.
  • Mae’r llwybr wedyn yn disgyn yn raddol yn ôl i Drefor, lle bydd rhan olaf y daith yn eich arwain drwy goedwig aeddfed at droed Yr Eifl, heibio’r hen chwarel gan ddychwelyd at y maes parcio ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn