d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Llanystumdwy

Manylion y daith

Amcan o hyd: 5 km/3 milltir.
Amcan o’r amser: 1.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.
Man cychwyn/gorffen: Maes parcio Llanystumdwy, SH476 384.

Disgrifiad

1 Amgueddfa Lloyd George – Mae Amgueddfa Lloyd George yng nghanol Llanystumdwy. Y pentref hwn a’i ddiwylliant rhyddfrydol, anghydffurfiol Cymraeg a roddodd wreiddiau a  hunaniaeth i’r arweinydd a fu’n un o wleidyddion dylanwadol y Rhyfel Byd Cyntaf a Gwrthryfel Iwerddon. Mae’r amgueddfa yn cofnodi’i yrfa a rhan ohoni yw’r tŷ teras Highgate, cartref a gweithdy ei ewythr, Richard Lloyd, a’r man lle cafodd y darpar brifweinidog ei fagu.

2 Neuadd y Pentref – Gerllaw mae Neuadd y Pentref. Codwyd y neuadd yn 1912 drwy rodd gan Lloyd George, sef yr arian a enillodd mewn achos enllib. Bu’r seremoni agoriadol yn un ddramatig gan i aelodau o fudiad y Suffragettes fanteisio ar y cyfle i hyrwyddo eu brwydr dros bleidlais i ferched.

3 Afon Dwyfor – Mae aber yr afon Dwyfor yn lle da i gadw llygad ar fyd natur. Daw adar mudol, tymhorol yma, bydd ambell eog yn neidio yn yr afon ddiwedd yr haf ac efallai y cewch gip ar ddyfrgi yma.

4 Tŷ Newydd – Canolfan Ysgrifennu sydd wedi’i lleoli yn Nhŷ Newydd erbyn hyn. Codwyd y tŷ newydd hwn ar safle yr hen dŷ gan Lloyd George ac mae’n enghraifft nodedig o waith y pensaer Clough Williams-Ellis (sylfaenydd Portmeirion). Yn 1990, trosglwyddwyd yr eiddo ar gyfer ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cyrsiau preswyl llenyddol a chreadigol.

5 Bedd Lloyd George – Mae gwaith cerrig crefftus o gwmpas Bedd Lloyd George uwch afon Dwyfor. Cafodd y cyn-brifweinidog, Arglwydd Dwyfor erbyn hynny, ei ddymuniad o gael ei gladdu ar y safle hwn uwch afon Dwyfor ym mro ei febyd. Cynlluniwyd y gofeb gan Clough Williams-Ellis ac mae’n cynnwys telyneg ac englyn gan feirdd lleol.

6 Llanystumdwy – Mae Llanystumdwy hefyd yn enwog fel cartref Wil Sam. Dramodydd, sgwennwr a chwmnïwr difyr a ffraeth oedd Wil Sam (W. S. Jones). Mae’i lun ar wal Tafarn y Plu a chynhelir gŵyl flynyddol yma i gofio am ei gyfraniad. Cafodd ei eni (yn 1920) a’i fagu’n Nhy’n Llan ger y bont a’r eglwys, a bu’n cadw garej y Crown gerllaw. Gyda’i frawd, Elis Gwyn, ffurfiodd Theatr y Gegin yng Nghricieth ac mae’r rhan fwyaf o Gymry yn ei gofio o hyd fel ‘tad’ Ifas y Tryc.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

CYFARWYDDIADAU

  • O’r maes parcio, trowch i’r dde ac ewch ar hyd prif stryd y pentref heibio Tafarn y Plu.
  • Cyn cyrraedd y bont, trowch i’r chwith heibio talcen tŷ teras Britannia, a dilynwch y llwybr y tu ôl i’r tŷ.
  • Ar ôl gadael gerddi’r pentref byddwch yn croesi’r briffordd A497 ac yn mynd ar hyd ffordd fferm Abercin. Heibio’r ffermdy a throi i’r chwith, yna drwy’r caeau ac ar draws y rheilffordd at afon Dwyfor a’r arfordir.
  • Mae’r llwybr yn dilyn yr afon tua’r aber cyn troi yn ôl drwy dir amaethyddol a dychwelyd i’r pentref.
  • Wedi croesi’r briffordd A497 am yr eildro, mae dringfa fer i fyny cae llechweddog at Dŷ Newydd a’i bensaernïaeth ddiddorol.
  • Yna i lawr yr allt a dilyn cwrs yr afon drachefn yn ôl i brif stryd Llanystumdwy. Troi i’r chwith ac yn ôl i’r maes parcio/lle bws.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn