Manylion y daith
Amcan o hyd: 4.3 km/2.7 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283.
Disgrifiad
Rhiw – Un o’r pentrefi uchaf yn Llŷn a’r golygfeydd o Fae Ceredigion a’r arfordir o Griccieth gyda’r glannau i lawr mor bell ag Aberystwyth yn destun edmygedd ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd. Y pentref ei hun ar wasgar o gapel Nebo yr Annibynwyr i Eglwys St Aelrhiw filltir i’r gorllewin. Yr eglwys heb wasanaethau erbyn hyn a’r plwyf wedi ei uno a phlwyf LLanfaelrhys i’r de rhwng y Rhiw ag Aberdaron.
Mae llawer o olion hen fywyd ar ochr y Rhiw o gwmpas y Castell, a thai a mân dyddynnod eraill. Cafwyd hyd i olion mynwent gynnar ar dir Coch-y-moel, ac y mae enwau llawer o’r ffermydd a’r tai yn awgrymu sefydliad cynnar.
Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o’r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. ol cloddio pump o dyllau i godi’r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.
1 Plas Yn Rhiw – Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i’r 17eg ganrif y mae’r adeilad presennol, fe’i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y tŷ i lawr trwy’r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae’n debyg mai’r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu’r tŷ yn 1820.
Ychwanegwyd adain y gegin i’r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr ystâd yn nwylo’r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe’i gadawyd yn y pen draw.
Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy â’u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu’r ardd, ac ymdrechu’n ddiflino i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu’n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf bŵer niwclear yn Edern.
Yn ogystal â’r plasdy ei hun a’i nodweddion pensaernïol diddorol, mae’r ardd organig yn nodedig gan fod yma lecyn cysgodol a chasgliadau o blanhigion prin. Mwy…
2 Rhuol – Tro arall y gellir ei wneud yw dilyn y llwybr i’r chwith o ben uchaf y maes parcio hwn. Mae’r ffordd drol yn dirwyn i lawr y llethr at hen bentref morwrol Rhuol . yng nghesail gogledd-orllewinol Porth Neigwl. Tafarn oedd yr adeilad ger y lanfa pan oedd y porthladd bychan ar ei anterth ac mae hanesion am smyglo mawr yn cael eu cysylltu â’r hafan ddiarffordd hon.
3 Eglwys Aelrhiw – Eglwys hynafol yw Eglwys y Rhiw mewn mynwent llawn cymeriad. C18 ar sylfaen cynharach. Adgyweirwyd 1860-61. Cist pren o 1715. Sant o’r 6g a gysylltir gyda phentref y Rhiw yw Aelrhiw, ond mae’n fwy na phosib nad oedd person o’r enw yma’n bodoli, ac mai camsillafiad ydyw. Yn ôl Rice Rees, yn Bonedd y Saint (tt.306, 332) cysegrwyd Eglwys y Rhiw yn wreiddiol i’r ‘Ddelw Fyw’, ac mae’n bosib mai talfyriad llafar o’r enw yma yw enw’r sant. Mwy…
Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) – Mae hen ffynnon Aelrhiw Sant gerllaw. Gwelir y ffynnon hon yng nghaeau Tyddyn Aeliw i gyfeiriad y de o Eglwys St Aelrhiw. Gellir mynd ati trwy giât i gae sydd ger y blwch postio a gyferbyn â giât yr eglwys. Yna dilyn y wal ar y chwith i ben draw’r cae a gwelir y ffynnon ar y chwith yn y cae nesaf. Mae wal o’i chwmpas a gwnaed tipyn o waith adfer arni yn ddiweddar. Mae’n ffynnon feddyginiaethol i wella anhwylderau’r croen, un a elwid yn – ‘Man Aeliw’ a’r llall, manwynnau (clwyf lymffatig, scrofula) a effeithiai yn arw ar blant ifanc ers talwm. Erbyn hyn mae Ffynnon Aelrhiw wedi ei glanhau.
4 Llanfaelrhys -Ychydig yn nes am Aberdaron mae eglwys ddiddorol Llanfaelrhys. Sant arall a ddaeth o Lydaw yn y canrifoedd cynnar oedd Maelrhys, cefnder i Cadfan a Hywyn. Yma yn Llanfaelrhys y ceir yr unig eglwys yng Nghymru a sancteiddiwyd iddo. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a’r Rhiw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe’u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i’r llall disgynnodd barn Duw arnynt a’u troi’n ddwy golofn ithfaen.
Porth Ysgo – Mae yna llwybr i lawr Nant y Gadwen sy’n arwain at draeth Porth Ysgo . Gwaith manganis yn ffynnu yn ystod dau ryfel y ganrif ond yn rhy ddrud i’w weithio adeg heddwch. Cludiwyd y cerrig manganis mewn llongau o’r lanfa oedd wedi ei hadeiladu ym Mhorth Ysgo ag inclen o’r gwaith yn eu cario i’r llongau. Trafnidiaeth ffyrdd a loriau oedd yn symud y cynnyrch yn ystod yr ail Ryfel byd. Roed y gwaith wedi bod yn boblogaidd yn niwedd y Cl9 a dechrau’r C20, ac y mae olion ‘y barics’ yn aros ar ochor ddwyreiniol y pentref.Ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd 90% o fanganîs gwledydd Prydain yn arfer cael ei fwyngloddio yn yr ardal hon. Mae olion ‘weiar-rôp’ oedd yn cario’r mwyn i’r lanfa islaw yn y Nant (SH210 265). Chwalwyd y lanfa mewn storm yn 1910-11.
5 Felin Uchaf – Rhwng y Rhiw a Rhoshirwaun mae Canolfan Felin Uchaf. Canolfan eco arbrofol yw honno sy’n croesawu ymwelwyr i gerdded y llwybrau natur a gweld yr adeiladau treftadaeth. Defnyddir dulliau traddodiadol i godi waliau clai a thyweirch, fframiau derw a thouau gwellt a brwyn. Gwnaed y gwaith gan wirfoddolwyr o bedwar ban y byd a chynhelir nosweithiau o chwedleua a cherddoriaeth yma. (www.felinuchaf.org) (SH205 288)
6 Olion cyn-hanes – Mae nifer o olion cyn-hanes o fewn cyrraedd y tro hwn – gwelir cromlech, meini hirion, carneddau a ffatri fwyeill Neolithig ar lethrau Mynydd Rhiw.
Chwarel Bwyelli mynydd Rhiw (SH 234299) – Ar ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill cerrig. Darganfuwyd rhai o’r cerrig hyn mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr. ôl cloddio pump o dyllau i godi’r cerrig, a gweddillion y gwastraff oedd ar ol yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd.
Roedd crib Mynydd Rhiw ym mhen draw gorllewin Llŷn yn ffynhonnell bwysig o siâl ymdoddedig yn y cyfnod Neolithig. Gellir gweld olion cyfres o byllau chwarel wedi’u llenwi hyd heddiw – dyma weddillion ffos mwyngloddio brig sengl a gredir iddi fesur 90 medr o hyd. Yma, defnyddiwyd carreg wedi’i mwyngloddio i gynhyrchu bwyelli a chaiff y safle ei adnabod fel ‘ffatri’ fwyelli neu ganolfan gynhyrchu Neolithig. Canfuwyd bwyell o’r safle hwn yn ystod gwaith cloddio diweddar yn Llwydiarth Esgob yn Ynys Môn.
Carneddi mynydd Rhiw -Ddau gan medr i’r de o brif safle’r chwarel, ceir pedair carnedd gladdu o Oes yr Efydd sydd wedi’u lleoli ar hyd crib amlwg. Roedd pumed carnedd yn bodoli ar un adeg ar gopa Mynydd Rhiw, ond yn anffodus, nid oes modd ei gweld heddiw. Yn ystod gwaith cloddio yn y 1950au, canfuwyd wrn o Oes yr Efydd a ddefnyddiwyd i ddal llwch yn dilyn amlosgiad ym mhentrefan cyfagos Y Rhiw. Nid yw’r carneddi eu hunain erioed wedi cael eu cloddio. Mae’r ddau safle uchod wedi’u dynodi yn Henebion Rhestredig.
Cromlech Tan y Muriau (SH 238288) – Cromlech ag iddi gryn arbenigrwydd a chyfeiriad ati yng nghyfrol Frances Lynch ‘Gwynedd’ (Cadw) Codwyd y gromlech yn y 4edd neu’n gynnar yn y 3edd fileniwm Cyn Crist ac yn enghraifft o ddatblygiad ym mhensaerniaeth cromlechi’r cyfnod yna.. Mae ganddi benllech enfawr yn ei phen gorllewinol a cheir yna mewn gwirionedd ddwy gromlech. Credir y bu yna unwaith dair siambr.
Wedi’i lleoli ar lethrau dwyreiniol Mynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, ymgorfforir dwy siambr gladdu yn y beddrod hudol hwn. Credir i’r beddrod gael ei adeiladu’n wreiddiol oddeutu 3500 CC yn steil cromlech borth oedd yn gyffredin i’r ardal ac fe’i orchuddiwyd yn wreiddiol â charnedd fawr ryw 35 metr (120 troedfedd) o hyd. Mae’r porth hwn, wedi’i gapio gan slaben enfawr, yn dal i oroesi heddiw. Cafodd y beddrod ei addasu rhywbryd yn oddeutu 3000 CC i ymgorffori siambr gladdu hir yn steil ardal Hafren-Cotswold.
Mae’r mwyafrif o’r math hwn o henebion i’w canfod yn yr ardal rhwng Rhydychen a Bryste, er bod dosbarthiadau hefyd yn bodoli yn Wiltshire a de Cymru. Y cwestiwn mawr i archaeolegwyr a haneswyr yw p’un a yw hyn yn cynrychioli dylifiad o bobl newydd i’r rhan hon o Wynedd yntau ai dim ond cyflwyniad o ddulliau newydd o adeiladu beddrodau ydyw? Mae’n awgrymu bod rhwydweithiau cyfathrebu eang wedi bodoli rhwng gwahanol gymunedau Prydain Neolithig.
Ar un adeg, roedd trydydd siambr gladdu yn bodoli ar ran isaf y garnedd, ond nid yw hon yn weladwy erbyn heddiw. Saif y beddrod ar dir tŷ Tan y Muriau, ryw 400 metr i’r dwyrain o eglwys Sant Aelrhiw.
Gwnaeth archaeolegwyr raglen ddyfal o waith yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf gan ganfod hen dai crynion a llawer o ôlbywyd cynnar yma.
Maen Hir (Lladron Maelrhys) (SH22612767) neu Maen Hir Tan Y Foel – Gwelir hwn yn y clawdd ar ochr chwith y ffordd drol sy’n arwain o Dan y Foel, Rhiw tuag at Greigiau Gwinau. Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a’r Rhiw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd dau faen hir, un ar ei draed ac un ar ei orwedd. Dyma Ladron Maelrhys. Dywedir bod dau gnaf wedi lladrata arian o Eglwys Llanfaelrhys. Fe’u herlidwyd ac wrth iddynt groesi o un plwyf i’r llall disgynnodd barn Duw arnynt a’u troi’n ddwy golofn ithfaen.
Greigiau Gwinau. (SH 226276)
Cyfarwyddiadau
- Wrth adael y maes parcio Plas yn Rhiw (www.nationaltrust.org.uk/plas-yn-rhiw), ewch ifyny’r ffordd ddi-ddosbarth am ychydig i gyfeiriad pentref y Rhiw.
- Trowch i’r chwith oddi ar y ffordd i ddilyn trywydd Llwybr yr Arfordir ar ffurf bwa drwy gaeau bychain gan fwynhau golygfeydd dramatig o Borth Neigwl tua’r dwyrain. Rydych yn cyrraedd yn ôl at y ffordd ym mhen isaf y pentref.
- Trowch i’r dde gan ddilyn y ffordd darmac am ychydig cyn troi i’r chwith ar lwybr arall yn nes ymlaen a disgyn yn raddol i lawr y llechwedd y tu ôl i Blas yn Rhiw.
- Mae llwybr yn mynd â chi wedyn drwy’r coed ac yn ôl i fyny at y maes parcio.