d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Tudweiliog (Porth Ysgaden)

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 4.7 km/3 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Cychwyn ym maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367)

Pethau i weld ar y daith

1 TudweiliogY mae Pentref Tudweiliog yn sefyll a’r fryn bach, sydd wedi ei amgylgylchynu a thir porri isel, ar arfordir Gogleddol Llŷn. Mae wedi ei leoli ar y B4417 rhwng Edern a Llangwnnadl, wrth ochr afon Amwlch, a tua 1km oddi wrth yr arfordir a thraeth Porth Tywyn. Dywedir mai Tudwal oedd y sant gwreiddiol y plwyf ac mai ef a roddodd ei enw i’r pentref. Eglurir enw’r pentref hefyd gyda stori am ddyn a’i geffyl yn nofio o Iwerddon i Lŷn, ac er mwyn annog y ceffyl i nofio’n gyflymach mae’n galw arno “Ty’d Weiliog! Ty’d Weiliog”!’ Eglurhad arall yw bod modd ers talwm groesi ar gefn ceffyl i Iwerddon ar drai. Wrth ddychwelyd i Dudweiliog ar gefn ei geffyl o’r enw Gweiliog, clywodd y person gloch yr eglwys yn galw’r plwyfolion. Ceisiodd ruthro’i geffyl a gweiddi ‘Tyrd Weiliog’! Awgrymir hefyd fod yr enw’n gysylltiedig â Sant Tudwal.

Doedd dwylo teuluoedd y bonedd ddim yn lân o smyglo na mor-ladrata chwaith. Bu Huw Gruffudd (? – 1603), mab sgweiar Cefnamwlch yn gapten ar Pendragon, llong a ddefnyddiai i gludo arfau a chario ysbail. Câi gymorth gan William Jones Castellmarch a ddaeth yn brif farnwr Iwerddon. Roedd gan deulu Cefnamwlch long fechan a ddadlwythai ar Ynysoedd Enlli a Thudwal ac yn ôl traddodiad roedd twnnel yn rhedeg o ardd Cefnamwlch i fferm Gwyndy. Roedd twnnel arall yn ymestyn o Dyddyn Isaf, Tudweiliog i greigiau’r môr.

Mwy o Hanes….

Tudweiliog
Tudweiliog

2 Eglwys Tudweiliog– Nawddsant yr eglwys yw Cwyfan. Ef hefyd sefydlodd eglwysi yn Llangwyfan, Dinbych ac ar Ynys Cwyfan ym Môn. Cynlluniwyd yr eglwys bresennol gan Syr Gilbert Scott a’i hadeiladu yn 1849 o garreg leol. Mae’n rhaid bod eglwys Cwyfan Sant wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned hon erioed. Ym 1564 rhoddwyd tir yn Nhudweiliog i John ap Gruffydd ap David ap Madog o Fadryn – tir a oedd yn arfer bod yn rhan o ddaliadau Enlli – i’w ddal mewn ffi fferm gan John Wyn ap Hugh o Fodfel. Mae enwau’r cydrannau’n ddiddorol: tenement o’r enw Hengwrt neu, yn lle hynny, y Cae Mawr, a oedd yn cynnwys Dryll Cerrig Llwydion; yr Hirdir Mawr; Erw’r Eglwys; Llain yr Abad; y Talarau Hiron a Llain dan y cae mawr. Mae’r caeau’n cyfeirio at diroedd âr meysydd agored; at yr eglwys; at abad, a allai fod yn gyfeiriad at gymuned glas flaenorol a ‘Hengwrt’ anhysbys. Ailadeiladwyd eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog, yn gyfan gwbl ym 1849 gan y pensaer George Gilbert Scott.

Fe’i adeiladwyd ar safle lle bu adeilad canol oesol (sonwyd amdano yn 1254 ac yn ddiweddarach fel un o capeli Abaty Enlli. Symudwyd y bedyddfaen C14 or eglwys wreiddiol a gellir ei weld heddiw yng ngardd Cefnamlwch, yn ogystal a cherrig addurniadol or eglwys sydd mewn wal yn ymyl porthdy y plas. Mae yna arysgrifen ar gloch yr eglwys ‘Tydwielog / 1734 made in Dublin.’ Mae cerrig coffa yn y fynwent- Francis Jones of Llangoed 1680, a Jane Trygarn 1683.

3 Tywyn – Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau – y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.

4 Traeth Tywyn – (SH 23103755) Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma’r Ebol – mae ôl carn ebol i’w weld arni. Pan fyddai ôl y carn wedi’i orchuddio â thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau’r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o’r ardal luchio’r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau’n codi yn eu gwerth!

Daw Cerrig Delysg i’r golwg ar drai ac arni wymon o’r enw ‘delysg’ – gwymon bwytadwy. (Lladin – Fucus palmatus.)

5 Porth Sglaig – Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i’r môr Gwelir olion melin o’r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y môr mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog. Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill. Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety’r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.

6 Porth Cychod (SH 22073754) – Fel yr awgryma’r enw ym Mhorth Cychod cadwai pysgotwyr Tudweiliog a Phenllech eu cychod. Cysylltir y fan hyn a digwyddiad arbennig iawn. Un bore ym mis Mawrth 1933, cychwynnodd dau lanc ifanc allan mewn cwch i osod cewyll, ond collasant eu rhwyfau. Fe’u cariwyd allan i’r môr gan y gwynt a’r llanw a’r diwedd fu iddynt gael eu golchi i’r lan yn Kilkeel yng ngogledd Iwerddon. Gallwch ddychmygu’r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a’r llawenydd pan gafwyd y neges fod yr hogiau’n
ddiogel.
Tybed beth fyddai eu tynged pe bai’r gwynt wedi chwythu ychydig mwy i’r gorllewin a’u gyrru heibio gogledd Iwerddon. Ar yr allt gwelir adeilad a fu unwaith yn fan i deulu Cefnamwlch gysgodi pan ddeuent i fwynhau’r haul ac awel y môr yn ystod yr haf. Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol ydi fod y tri brawd Tir Dyrys, Rhoshirawun a foddodd dri mis yn ddiweddarach ym Mhorth Widlin (Porth Fesyg) yn gefndryd i un o’r bechgyn.

Porth Cychod
Porth Cychod

7 Porth Ysgaden – Un o’r porthladdoedd bychain a fu’n brysur yn gwasanaethu ardal wledig Pen Llŷn, ardal brin ei thrafnidiaeth ar dir. Deuai llongau bychain yma rhyw hanner dwsin o weithiau bob blwyddyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl David Thomas.
Yn y ganrif flaenorol deuent o Lerpwl a Chaer yn bennaf gan fewnforio nwyddau megis llestri, haearn, lledr, pyg, tar, baco, snisin, te, coffi, gwin, siwgr, orennau ac ati. Deuid â sôp wast yn falast o Iwerddon i’w chwalu ar y caeau fel gwrtaith i’r tir, ynghyd â chanhwyllau gwêr, lliain, a chasgenni gweigion i’r penwaig.

Un tro, ym mis Awst 1759, daeth pum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth Ysgaden. Deuid â glo yma wrth gwrs ac mae’r ierdydd i’w gweld heddiw. Pan ddiflannodd y dreth ar y glo yn 1813 cynyddodd y mewnforio. Deuai llongau’n gyson o’r meysydd glo a pharhaodd y ‘Maggie Purvis’ a’r ‘Tryfan’ i gludo glo hyd ddechrau’r Ail Ryfel Byd i Borthdinllaen a Phorth Ysgaden.

Mewnforid hefyd galch a chodwyd odyn i’w losgi. Arferai gwragedd yr ardal ymgynnull i wau a chadw’n gynnes wrth dân yr odyn. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynnyrch fferm a allforid – nwyddau megis menyn a chaws.

Arferai’r murddun a welir ar ben yr allt fod yn gartref i saer cychod a’i deulu. Ar dywydd garw arferai’r fam grogi cannwyll yn y ffenestr i rybuddio llongau fod creigiau ysgithrog islaw.

Porth Ysgaden
Porth Ysgaden

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Cychwyn ym maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367) ac i’r ffordd fawr (B4417)
  • Dal i’r chwith i ganol y pentref ac ymlaen nes dod at lôn drol sy’n arwain i’r chwith i Faes Carafanau Tyn Llan.
  • Dilyn y ffordd honno ac wrth fynedfa’r maes carafanau a dilyn arwydd llwybr cyhoeddus (Llwybr Arfordir Llŷn) i’r dde.
  • Wrth ddod allan ger fferm Tywyn (SH 232374) ar Ffordd yr Arfordir mynd am lwybr sy’n arwain at Draeth Tywyn.
  • Cerdded tua’r de-orllewin ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn ar hyd ben yr allt ac i Borth Ysgaden (SH 219374) (lle mae murddyn ar ben yr allt). Mynd heibio’r odyn galch ac i’r chwith, gan adael yr arfordir a dilyn lôn drol i Ffordd yr Arfordir.
  • Troi i’r chwith heibio fferm Porth Ysgaden (SH 225370).
  • Ar y dde gwelir llwybr yn arwain trwy’r caeau i gyfeiriad Tudweiliog.
  • Heibio Tŷ Hir (SH 231366), dal i’r chwith wrth y Felin ac i fyny heibio Ysgol Tudweiliog.
  • Dychwelyd i faes parcio’r ‘Lion’.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn