d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Taith Beic Garn Fadryn

Disgrifiad

Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o’ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae’r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.

0 Fynytho mae’r ffordd yn gymharol wastad a chewch gyfle i fwynhau golygfeydd rhyfeddol o’r ffordd sy’n arwain trwy Lanfihangel Bachellaeth – “y lle tawela’ ‘ngwlad Llŷn”. O’r chwith i’r dde mae Garn Boduan, Yr Eifl, Eryri gyda’r Wyddfa a’i dau gopa, Bae Pwllheli ac ymlaen at Borthmadog.

Mae’r wlad yn fwy coediog wrth odre Garn Fadryn yng nghanol Llŷn ond buan y dowch i olwg y môr ar yr arfordir gogleddol gydag Ynys Môn ar y gorwel. Wedi gadael Tudweiliog cewch gyfle i ymweld a thraeth tywod Porth Tywyn neu borthladd creigiog Porth Ysgaden.

Mae’n werth galw i weld Coeten Arthur, y gromlech wrth droed Mynydd Cefnamwlch cyn parhau ar y daith i Sarn Mellteyrn.

Wrth ddilyn yr Afon Soch gwelwch dair o eglwysi hynafol Llŷn, sef Llandygwning a’i thwr anarferol, Llangian gyda’i maen hynafol yn y fynwent, a Llanengan a fu’n gyrchfan pererinion yn y canol oesoedd.

Cyfarwyddiadau

Mae’r daith yn cychwyn o’r maes parcio ar y system unffordd yn Abersoch.

Troi i’r dde wrth adael y maes parcio a throi i’r dde ar y gyffordd nesa gan gymeryd gofal arbennig o drafnidiaeth yn teithio o’r chwith.

• Troi i’r chwith tuag at Bwllheli a chymeryd y tro nesa i’r chwith tuag at Mynytho. Wedi tua 2 filltir, troi i’r dde gan ddilyn arwydd Mynytho. Cymeryd y tro nesa i’r chwith ac i fyny’r allt. Gwyro i’r dde ar y gyffordd a chroesi’r B44I3 a chymeryd y tro cyntaf i’r chwith (safle picnic ar y chwith gyda golygfeydd godidog).

• Teithio’n syth ymlaen a throi i’r dde ym mhendraw y ffordd, dilyn y ffordd tuag at Rhydyclafdy gan ofalu arafu’n raddol ar yr allt serth. Troi i’r chwith ar y gyffordd nesa ac ymlaen i Rhydyclafdy. Wedi cyrraedd y pentref (man addas i orffwyso ar y chwith) troi i’r chwith ac ymhen tua milltir troi i’r dde tuag at Dinas.

• Wrth gyrraedd Dinas troi i’r dde ger y capel, teithio ymlaen ac ar draws y groesffordd nesa. Mae dau dro garw ar yr hyd nesa cyn cyrraedd Tudweiliog. Troi i’r dde ar y gyffordd yng nghanol y pentref a throi i’r chwith tuag at Ian y môr wrth adael y pentref. Teithio ar hyd ffordd glan y môr a gwyro i’r chwith wedi cyrraedd Porth Ysgaden.

• Troi i’r chwith ar y gyffordd nesa yna troi i’r dde ar y B4417. Troi i’r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Sarn Mellteyrn i’r chwith ar y gyffordd nesa ac i lawr yr allt yn ofalus. Pan fydd y ffordd yn gwyro i’r chwith mae angen troi i’r dde gyda gofal arbennig. Dilyn y ffordd i fyny’r allt serth a chymeryd y tro nesa i’r chwith. Troi i’r chwith ar y gyffordd nesa a dilyn y ffordd ymlaen tuag at Botwnnog.

• Gwyro i’r dde ar y gyffordd gyda’r B44I3, croesi’r bont a throi yn syth i’r dde. Teithio ymlaen heibio eglwys hynafol Llandygwning a throi i’r chwith ger Seithbont. Troi i’r dde tuag at Llangian ac yna cymeryd y tro cyntaf i’r dde tuag at Porth Neigwl. Dilyn y ffordd ymlaen tuag at Rhydolion ac yna troi i’r dde. Dilyn y ffordd a fe gyrhaeddwch ganol pentref Llanengan.

• Rhaid dilyn y ffordd yma ymlaen tuag at Abersoch ac wrth deithio i lawr yr allt fe welwch y man cychwyn.

Yn ôl i dudalen Beicio