d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Edern

Manylion y daith

Amcan o’r hyd: 10.4 km/6.5 milltir.
Amcan o’r amser: 3.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Ochr ffordd pentref Edern, SH277 398.

Disgrifiad

1 Edern – Yn yr Hen Felin wrth afon Geirch yng ngwaelod y pentref y byddai J. Glyn Davies, awdur caneuon “Fflat Huw Puw ac eraill”, yn arfer treulio’i wyliau gyda’i deulu. Cafodd y cyfnodau hynny ddylanwad mawr ar y bardd a’r ‘sgwennwr caneuon.

J. Glyn Davies (ar y cart)
J Glyn Davies (ar y trap) tu allan i’r Ship, Edern
Cerddi Portinllaen / Huw Puw
Cerddi Portinllaen / Huw Puw

11 Dinllaen Enw hen gwmwd yn Llŷn yw Dinllaen. Mae porthladd a bae Porth Dinllaen yn un o lecynnau harddaf Cymru. Bu’n harbwr diogel i longau yn yr hen ddyddiau a chafodd ei ystyried fel lleoliad ar gyfer prif borthladd i Iwerddon yn nechrau’r 19eg ganrif, cyn codi pontydd Menai. Mae nifer o bysgotwyr yn gwneud bywoliaeth yn y borth o hyd. Credir fod yr enw Llŷn [Lleyn] yn tarddu o enw un o’r llwythau Celtaidd o gwmpas Leinster yn Iwerddon a sefydlodd ar lannau gogleddol Llŷn mewn aneddiadau megis Castell Odo, a chaerau pentiroedd  arforol megis Porth Iago a Phorth Dinllaen. A dyna ni ystyr yr enw Porthdinllaen: Porth caer y dynion o Leinster: gyda  din yn hen enw Brythoneg am amddiffynfa ( fel Caeredin yn yr Alban).

Caer Bentir Dinllaen (SH 275416) -Yn ystod y cyfnod cynhanes,  amddiffynnid pentir Porth Dinllaen gan ddau glawdd pridd a oedd yn croesi yn y rhan gulaf bron o’r pentir, tua hanner ffordd ar ei hyd, ac mewn man lle’r oedd y tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tuag at y rhan o’r culdir sy’n nes at y môr. Roedd yr amddiffynfa ar y pentir yn cynnwys cyfuniad o ragfuriau wedi eu codi gan ddyn ac amddiffynfeydd naturiol y môr a’i elltydd. Mae olion y mur amddiffynnol i’w  weld yn glir ar ochor chwith y lôn sydd yn rhedeg i lawr i’r borth o wastatir y penrhyn.

Yn ystod wythnosau olaf Hydref a dechrau Tachwedd 2011 aethpwyd ati i gynnal prosiect archeolegol cymunedol yn Ninas Dinllaen, caer bentirol o Oes yr Haearn ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Bellach mae’r safle yn ffurfio rhan o glwb golff Nefyn a’r cyffiniau ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Mae’r pentir ble mae’r safle yn cael ei erydu ac ers rhai blynyddoedd mae hyn wedi dechrau difrodi’r archeoleg.

Cloddio caer bentir arforol Dinllaen
Cloddio caer bentir arforol Dinllaen

Mae dwy ffos a thri clawdd wedi eu lleoli ar y tamaid culaf o’r pentir sy’n amgáu ardal o bedair acer ar ddeg trwy gyfuniad o glogwyni serth a chreigiog. Y mae’r ardal hon wedi ei gorchuddio mewn mannau gan haenau trwchus o luwchfeydd rhewlifol, sef y deunydd a adawyd, ar ôl wrth i’r rhewlifau ddadmer. Archwiliwyd y ffosydd a’r cloddiau allanol trwy gloddio ond nid y clawdd mewnol; cafodd pedair ffos eu cloddio i gyd, un ar draws pob nodwedd. Cafwyd llith o wybodaeth am ddatblygiad cronolegol yr amddiffynfeydd. Mae nifer o gyfnodau adeiladu wedi cael eu nodi ac maent yn berthnasol i gyfnodau pan fu ail-dyllu ar y ffosydd neu atgyfnerthu’r waliau.  Mwy…

12 Porth Dinllaen ai Gychod – Mae Porthdillaen yn un o’r porthladdoedd mwyaf cysgodol a diogel rhag unrhyw beth ar wahân i wynt y gogledd-ddwyrain. Masnachu arfordirol oedd y prif ddiwydiant ym Mhorthdinllaen am ganrifoedd. Roedd mordeithiau pell yn cludo penwaig a moch wedi eu halltu i Iwerddon, Caer a Lerpwl. Cyflwynwyd stêm yn yr 1830au a’r 40au ond llongau hwyliau a ddefnyddid fwyaf am y rhan helaethaf o weddill y ganrif. Roedd rhwng 700 a 900 o longau’n dod i’r bae bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn.

Cychod Porthdinllaen
Cychod Porthdinllaen

Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers o leiaf y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y traeth yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks. Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn, o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, gyda’r bwriad o sefydlu porthladd yno i gludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Ond aflwyddiannus fu’r cais a Phorthladd Caergybi a enillodd y dydd.


2 Cwrs Golf – Mae’r cwrs golff ar benrhyn Porth Dinllaen . Cafodd Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau ei sefydlu yn 1907 fel cwrs naw twll ac yna yn 1912 fe’i ehangwyd i gwrs 18 twll.  

Hen Clwb Golff Nefyn
Hen Clwb Golff Nefyn

Comisiynwyd dau o ddylunwyr gorau’r byd Golff J. H Taylor a James Braid yn 1933 i ychwanegu naw twll arall ac i ailwampio’r cwrs a fodolai’n barod. Mae’r modd y gosodwyd y cwrs  yn hynod o anarferol, erbyn heddiw, gan mai dim ond 26 twll sydd bellach yn cael eu chwarae.  Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddianwyd y cwrs fel tir amaethyddol. Collwyd y tŷ clwb gwreiddiol yn 1911. Mwy…

3 Bad Achub – Ym Mhorth Dinllaen y sefydlwyd y Bad Achub cyntaf yng Nghymru ac agorwyd adeilad newydd i gartrefu’r gwasanaeth yno. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd bron i fil o longau’n galw heibio’r bae yn flynyddol, amryw ohonynt yn cysgodi rhag stormydd Môr Iwerddon. Roedd hi’n anochel y byddai  damweiniau a llongddrylliadau yn digwydd yn gyson yno a chodwyd cwt i gwch achub yno yn 1864. Ailadeiladwyd y cwt cwch a’r llithrfa ym 1888. Ym 1925 aethpwyd ati i ymestyn y llithrfa a’r tŷ cwch ar gyfer bad achub newydd efo injan. Mae’r llithrfa yn un o’r rhai hiraf sy’n cael ei defnyddio.

Mae’r gwasanaeth wedi achub 400 o fywydau ers hynny. Y cwch presennol, y ‘John D Spicer’, yw’r 12fed i wasanaethu yma. Costiodd £2.7 miliwn. Cwch ‘ Tamar Class’ sydd yn Mhorthdinllaen heddiw. Cafodd Tamar Porthdinllaen ei ariannu gan gymynrodd hael y diweddar Mr John Dominic Spicer o Swydd Rhydychen a fu farw ar y 7fed o Hydref 2010. Ar gais yr ysgutorion enwyd bad achub yn RNLB John D Spicer. Angorwyd y bad achub, dros dro, tra roedd y gwaith o godi cwt newydd, ar y safle ym Morfa Nefyn, yn mynd rhagddo.

Mae gan y Tamar y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn ychwanegu at ei gallu i achub bywydau. O’i gymharu â bad o’r dosbarth Tyne mae’r Tamar yn fwy- 16 metr yn hytrach nac 14- ac mae’r amser ymateb yn gynt gyda chyflymder o 25 yn hytrach na 17 not.

Costiodd y cwt newydd i’r bad achub £8.2 miliwn.  Mwy…
Mae pentref Porth Dinllaen bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fuddsoddodd yn helaeth yn harddwch y llecyn rai blynyddoedd yn ôl trwy dynnu’r gwifrau trydan i lawr a’u lleoli o dan y ddaear.

Bad Achyb Porthdinllaen
Cwt Newydd Bad Achub Porthdinllaen

4 Tŷ Coch – Atyniad poblogaidd ar y traeth yw tafarn y Tŷ Coch. Adeiladwyd y Tŷ Coch allan brics coch a defnyddiwyd fel balast i longau oedd yn hwylio o’r iseldiroedd yn 1823. Roedd y dafarn hon ymhlith y  dair flaenaf pan bleidleiswyd am ‘Dafarn Draeth Orau’r Byd’ ym mhapur newydd y Guardian yn 2014. Yma yn y Tŷ Coch y bu Mrs Jones yn cadw ysgol forwrol tua 1880. Hi oedd yr unig wraig harbwr feistr yn Ynysoedd Prydain yn y 1920au, a bu fyw i fod yn 98 oed.

Jane Jones Tŷ Coch
Jane Jones Tŷ Coch

Am bum mlynedd gyntaf ei oes bu’n ficerdy ficer Edern. Ym 1828 codwyd ficerdy drws nesaf i’r eglwys ac yn y diwedd daeth Tŷ Coch i ben fel yr ail ficerdy wrth i’r ficer y Parch. John Parry Jones Parry symud allan yn gyfan gwbl gan adael ei wraig cadw tŷ, Catherine Ellis i agor yr adeilad fel Tafarn ym 1842 i’w gyflenwi. lluniaeth i’r gweithlu adeiladu llongau oedd yn gweithio ar y traeth.

Roedd Tŷ Coch yn cystadlu, yn sicr gyda’r Whitehall Inn ac yn ôl y sôn ar un adeg, cyfanswm o bedair tafarn arall ar y traeth rhwng bwlch Bridin a porthdinllaen.

5 Abergeirch – O gilfach Aber-geirch y rhedwyd cêbl teliffôn i Howth yn Iwerddon (64 milltir o  bellter) yn 1913. Mae olion y cwt lle’r oedd y peiriannau i’w gweld yma o hyd.

Cwt Telegraff Abergeirch
Cwt Telegraff Abergeirch
Cable telegraff i Iwerddon
Darn o ‘teleraph Cable’ Abergeirch i Iwerddon

6 Cors Geirch – Gorwedd Cors Geirch i’r de-ddwyrain o Edern. Mae’r afon Geirch yn llifo drwy gors sy’n gynefin pwysig i rywogaethau prin o flodau a llystyfiant. Mae’n Warchodfa Natur ond gellir cael mynediad iddi wrth droi am Geidio oddi ar ffordd A497 Pwllheli/Nefyn (SH308 382).

7 Whitehall Porthdinllaen – Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, er mwyn sefydlu porthladd, fel cystadleuaeth i Gaergybi, neu fel dewis arall yn lle Caergybi, a chludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Y bwriad oedd adeiladu porthladd newydd a phier. Y dyn y tu ôl i’r fenter  oedd William Madocks, a gafodd Ddeddf Seneddol ym 1806 i ddechrau datblygu’r porthladd ym Mhorthdinllaen; ac yn 1807 i amgáu a draenio’r Traeth Mawr, adeiladu ffordd dros y morglawdd, neu’r cob, a chreu harbwr ym Mhorthmadog maes o law, wedi’i enwi ar ei ôl.

Whitehall, Porthdinllaen
Whitehall, Porthdinllaen

Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers y 18fed ganrif o leiaf, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y draethlin yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks.

8 Pen Cim a Warws Dora – Mae Warws Dora ym Mhen Cim, y pentir bychan sy’n gwahanu bae Morfa Nefyn a bae Porthdinllaen. Roedd hwn yn un o’r prif warysau i storio nwyddau oedd wedi eu mewnforio a’u dadlwytho. Daeth llongau arfordirol, sloops bach a sgwneri yma gyda phob math o nwyddau o Lerpwl ac ymhellach, i bentrefi a ffermydd Llŷn.

Warws Dora, Pen Cim
Warws Dora, Pen Cim

Daeth grawn a bwydydd, tecstilau a llestri i mewn i’w dosbarthu i’r degau o siopau bach a oedd yn britho’r penrhyn. O droad y ganrif hyd y rhyfel byd cyntaf, roedd agerlongau o’r Barmouth Steamship Co. yn galw yma, un oedd y ‘Telephone’ ac yna’n ddiweddarach y ‘Dora’.

S.S. Dora
S.S. Dora

9 Smyglwyr Tŷ Newydd – Roedd Porthdinllaen yng nghanol y busnes smyglo yn yr 17eg a’r 18fed ganrif. Un o smyglwr enwocaf dechrau’r 19eg ganrif oedd Boaz Pritchard o Gaernarfon a’i ddiod feddwol ‘Brandi Boaz’. Ar un adeg, meddiannodd yr awdurdodau’r brandi a’i storio yn atig Tŷ Newydd, y tollty, ar draeth Bwlch Bridin, Morfa Nefyn.

Bwlch Bridin
Bwlch Bridin

Nid oedd hwn yn achos ar ei ben ei hun o smyglo, yn wir roedd yna fôr-ladron a ‘privateers’ yn gweithredu ar hyd yr arfordir. Dyma rai enghreifftiau o smyglo yr adroddwyd amdanynt ym mhorth Dinllaen – 1763 – Smyglwyd rym i Borthdinllaen oddi ar “cutter”. (Cwch bach un Hwylbren), 1785 – Aeth llong smyglo ar y creigiau ym Mhorthdinllaen a chafodd ei dal gan swyddogion y tollau. 1786 – Daliwyd cwch ym Mhorthdinllaen ar ôl iddo fod mewn cysylltiad â lugger smyglo. Hwyliwyd cwch arall o Borthdinllaen i angorfa ddiogel oddi ar Enlli. 1791 – Gwelwyd llong smyglo ynghyd â ‘privateer’ Ffrengig oddi ar Borthdinllaen. 1791 – Dwynwyd llong y dynion tollau o Borthdinllaen gan long smyglo. a.y.y.b.  Mwy….Llinell amser morwrol Llŷn

10 Gwaith Brics Ym 1868, sefydlwyd gwaith brics enwog ym Morfa Nefyn gan y Capten David Hughes, Siop Groesffordd a John Roberts, Cefn Edern. Roedd ganddo simnai uchel a glanfa ar y traeth. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben ym 1906 ac erbyn hyn mae’r safle’n faes parcio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thai.

Gwaith Brics Bwlch Bridin
Gwaith Brics Bwlch Bridin

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Ar ôl cerdded i lawr stryd Edern (i lawr at y bont, i gyfeiriad Morfa Nefyn), mae’r daith yn mynd â chi ar hyd llwybr ar draws caeau amaethyddol at ffordd drol.
  • Trowch i’r dde am fferm Porth Dinllaen, i’r chwith drwy ran o’r buarth ac yna ar draws maes carafanau, ar hyd llwybr rhwng dau glawdd, ac at Faes Golff Nefyn.
  • Ymlaen ar eich union nes cyrraedd adeilad y Clwb Golff a dilyn y lôn darmac drwy’r maes golff am bentref Porth Dinllaen.
  • O’r traeth yno, gallwch ddilyn llwybr yr arfordir o amgylch y trwyn ac yna tua’r gorllewin – bydd yn dod â chi at gilfach ddiddorol Aber-geirch a’i phompren dros afon Geirch.
  • Dilynwch y llwybr ar hyd ben rallt wedyn a throi am y tir ychydig uwch ben Porth Tŷ Mawr. Croesi caeau nes cyrraedd lôn darmac wledig a aiff â chi’n ôl at lôn bost Edern. Troi i’r chwith ac yn ôl at y car/safle bws.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn