d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Llandygwnning

Cylchdaith Llandygnning – MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 3,6 km/2.25 milltir.
Amcan o’r amser: 1.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Ganol Botwnnog, SH260 310.

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Afon Soch – Mae’r afon Soch yn tarddu ar lethrau Mynydd Cefnamwlch ac yn llifo trwy Sarn Mellteyrn, Botwnnog ac ymlaen trwy Forfa Neigwl ac i’w haber yn Abersoch. Dywedire yr arferai unwaith lifo i’r môr yn Mhorth Neigwl. Credir fod ei henw, fel amryw o fannau yn Llŷn yn Wyddelig, y dair ‘socc’ am ‘hwch. Sylwer fod amryw o enwau afonydd yn dwyn enwau anifeiliaid sy’n tyrchu. Gwêl ‘Dictionary of the Place-names of Wales’ Owen a Morgan.

Afon Soch o Pont y Gof
Afon Soch o Pont y Gof

2 Botwnnog – Mae’n debyg mai cyfeirio mae’r enw Botwnnog at bot (cartref neu eglwys) Tywynnog (nawddsant gwreiddiol y plwyf)

Eglwys Twnnog Botwnnog
Eglwys Tywynnog Botwnnog

Ysgol Botwnnog – Go brin fod unrhyw ysgol sy’n ennyn mwy o anwyldeb gan ei chyn- ddisgyblion nag Ysgol Botwnnog – ‘Hen Ysgol Hogia LIŷn’ Sefydlwyd yr ysgol yn dilyn marwolaeth yr Esgob Henry Rowlands, Mellteyrn yn 1616. Yn nhŷ Gwyn ger yr eglwys yr agorwyd yr ysgol gyntaf a gosodwyd plac arno yn ddiweddar i gofio hynny. Bu amryw o fygythiadau i’w chau ond gwrthsafodd yn llwyddiannus bob tro. Yn 1848 y codwyd y rhan hynaf o’r adeilad presennol.

Ysgol Botwnnog
Ysgol Botwnnog

Mae cofeb i’r Esgob Rowlands ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Botwnnog. Dywedir maei Gwynnog a sefydlodd yr eglwys gyntaf yn yr ardal hon ac i’r enw datblygu’n raddolwedyn yn Bod-ty-wnnog ac yna’n Botwnnog.

Hen 'Post office' Botwnnog
Hen ‘Post office’ Botwnnog

Bodnithoedd – Dyma gartref Owain LIŷn (1786-1867), bardd o waed yr uchelwyr.

Trygarn lle ganed Moses Griffith (1747-1819), yr arlunydd a deithiodd y wlad gyda- Thomas Pennant i baratoi darluniau ar gyfer ei lyfrau.

Clynnog by Moses Griffith 1782.jpg
Gan Thomas Pennant – Llyfrgell Genedlaethol, Public Domain, Linc

3 Capel Rhyd Bach – Rhoddwyd tir i adeiladu’r capel cyntaf gan Lewis Williams, Gwag y Noe, Llangian tua 1783. Ef hefyd roddod dir ar gyfer Capel Newydd, Nanhoron. Adeilad bychan o bridd gyda tho gwellt arno ydoedd. Codwyd un gwell gyda llofft ym mhob talcen iddo ym 1813, ac ym 1847 agorwyd capel newydd eto. Ond ym 1877-8 codwyd capel newydd yn y Nant a chodwyd un ar yr un cynllun yn Rhyd-bach ymhen deng mlynedd. Dathlodd ei ganmlwyddiant ym 1989.

Capel Rhyd Bach
Capel Rhyd Bach

4 Eglwys Llandygwnning – Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin a Cynwyl (Penrhos) â thywysog Celtaidd o’r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei thŵr unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i dŵr eglwys Botwnnog. Ar ochr y tŵr ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn ‘roedd un Griffith Mathias yn flaenor yng nghapel Rhyd-bach tra ar yr un pryd yn glochydd Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i’r dwyrain o’r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol.

Eglwys Llandygwnning
Eglwys Llandygwnning

5 Faerdref -Enw sy’n dyddio’n ôl i’r blynyddoedd cynnar ac yn ein hatgoffa o’r cyfnod pan oedd i Neigwl statws uchel yng nghwmwd Dinllaen.

6 Neigwl – Rhannwyd Llŷn yn dri chwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i’r gogledd, yn ymestyn o’r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o’r hen gaer arfordirol – Dinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan ‘roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna ‘roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o’r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd â Nigel de Lohareyn, cyfaill i’r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i’w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi iddi statws bwrdeistref.

Porth Neigwl
Porth Neigwl

ffynonellau llyfryddiaeth

CYFARWYDDIADAU

Cychwyn gyferbyn â Swyddfa’r Post, Botwnnog (SH 260 310) a cherdded i lawr y llwybr tua’r de i gyfeiriad Tregrwyn.

  • Dod allan i’r ffordd (Botwnnog i Rhiw), troi i’r chwith a thros Bont Rhyd Goch sy’n croesi afon Soch .
  • Gyferbyn â Chapel Rhyd-bach (SH 261308) mae giât ar ben clawdd. Mynd trwy honno a chroesi’r cae at bompren. Mynd dros honno a chroesi dau gae arall nesa dod i gyffiniau fferm Trewen.
  • Wedi mynd dros gamfa i’r chwith o iard y fferm mae angen cerdded i’r dde ar hyd ffordd drol.
  • Dal i’r chwith a thros gamfa a phompren (SH 261303) ac ymlaen tua’r de lle ceir camfa arall.
  • Mynd dros y gamfa ac i’r chwith (Gwelir camfa ar y dde – anwybyddu) ac i lawr y cae a thros bompren.
  • Daw’r llwybr allan gyferbyn ag Eglwys Llandygwnning (SH 266300). Troi i’r chwith ar y ffordd ac ymlaen at gyffordd gyda ffordd Pwllheli – Aberdaron (B4413).
  • Troi i’r chwith a dilyn y briffordd heibior Feddygfa a Chapel Rhyd-bach ac yn ôl i bentref Botwnnog.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn