d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Y Tair Ffynnon

Manylion y daith

Amcan o hyd: 5.25km/3.25 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes parcio Mynydd y Rhiw, tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (SH 236 299)

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Capel Galltraeth – Gwelir olion y capel hwn led cae i’r chwith o’r llwybr ger Torbant. Capel Bedyddwyr ydoedd a godwyd yn 1819, yr un flwyddyn a chapel Talgraig (Llangian) a Rhoshirwaun, o’r un enwad.
Cyfeirir fel hyn ato:
“Ymddengys yn chwithig i ni erbyn heddiw fod capel wedi cael ei adeiladu yng Ngalltraeth, oherwydd safle anghysbell y lle, ar ochr mynydd y Rhiw, gryn bellter o’r briffordd, a dim ond llwybrau geirwon yn arwain ato, os na oedd yr hen saint yn rhagweled fod oes yr awyrlongau yn dyfod! Roedd Daniel Davies, y
Cenhadwr yn bedyddio yma yn 1788” (Llawlyfr Undeb y Bedyddwyr Cymru a Mynwy, 1930)

Capel Galltraeth

2 Cromlech Tan y Muriau – Cromlech ag iddi gryn arbenigrwydd a chyfeiriad ati yng nghyfrol Frances Lynch ‘Gwynedd’ (Cadw) Codwyd y gromlech yn y 4edd neu’n gynnar yn y 3edd fileniwm Cyn Crist ac yn enghraifft o ddatblygiad ym mhensaerniaeth cromlechi’r cyfnod yna.. Mae ganddi benllech enfawr yn ei phen gorllewinol a cheir yna mewn gwirionedd ddwy gromlech. Credir y bu yna unwaith dair siambr.

Cromlech Tan y Muriau
Cromlech Tan y Muriau

3 Ffynnon Aelrhiw – Gwelir y ffynnon hon yng nghaeau Tyddyn Aeliw i gyfeiriad y de o Eglwys St Aelrhiw. Gellir mynd ati trwy giât i gae sydd ger y blwch postio a gyferbyn â giât yr eglwys. Yna dilyn y wal ar y chwith i ben draw’r cae a gwelir y ffynnon ar y chwith yn y cae nesaf. Mae wal o’i chwmpas a gwnaed tipyn o waith adfer arni yn ddiweddar. Mae’n ffynnon feddyginiaethol i wella anhwylderau’r croen, un a elwid yn – ‘Man Aeliw’ a’r llall, manwynnau (clwyf lymffatig, scrofula) a effeithiai yn arw ar blant ifanc ers talwm.

FFynnon Aelrhiw
FFynnon Aelrhiw

4 Ffynnon Lleithfan – I’w gweld bron ar gychwyn y daith ar lethrau Mynydd y Rhiw, ar y chwith i’r ffordd cyn mynd i dringo’r gamfa dros wal y mynydd. Mae’r brif ffynnon wedi’i gorchuddio â choncrid ac yn goferu trwy beipen. Gwelir fod wal allanol y ffynnon wedi’i adeiladu â cherrig sychion. Ceir tarddiant arall i’r gogoledd.
Dywed Myrddin Fardd yr arferai fod yna risiau o’r ddau gyfeiriad yn mynd i lawr i’r ffynnon. Roedd ei dŵr yn effeithiol at wella defaid ar groen. Ond ei arbenigrwydd oedd bod yn rhaid i’r person a fynnai gael gwellhad gerdded ati heb yngan gair wrth neb ar y ffordd nac edrych yn ôl. Dylid golchi’r defaid â chadach gyda bloneg arno ac yna ei guddio o dan garreg y ffynnon. Wrth ymadael â’r ffynnon dylid gwneud hynny unwaith eto heb sgwrsio â neb nag nedrych yn ôl. Pe byddai’r cadach yn pydru byddai’r defaid yn diflannu.

5 Ffynnon Saint – Ffynnon fâs betryal ydyw wedi’i hamgylchynu â wal sydd bellach yn isel iawn. Mae tri gris yn disgyn i lawr i lefel y dŵr o gyfeiriad y gogledd a’r de, a dŵr yn llifo iddi o’r gorllewin ac ohoni tua’r dwyrain. Tua 1960 roedd y wal ddwyreiniol yn 4 troedfedd o uchder. Ar Ddydd Iau Dyrchafael arferai merched fynd at y ffynnon i olchi eu llygaid a thaflu un bin i’r dŵr fel arwydd o ddiolchgarwch.

6 Plas yn Rhiw – Codwyd rhan hynaf yr adeilad yn y G16 a mae bellach yn eiddo i’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe’i prynwyd yn 1938 gan dair chwaer, Keating, a’i adfer. Claddwyd y chwiorydd ym mynwent eglwys Llanfaelrhys. Ceir golygfeydd arbennig o Borth Neigwl o’i erddi.

ffynonellau llyfryddiaeth

CYFARWYDDIADAU

Cychwyn o fan parcio ar lethr dwyreiniol Mynydd y Rhiw, tir yr Ymddiriedolaeth Gen. (SH 236 299)
I gyrraedd y fan hyn o Fotwnnog: Ar y B4413 (Pwllheli – Aberdaron) Dilyn arwydd Rhiw ger capel Rhyd Bach ac ymlaen am 3km a throi i’r chwith. I fyny’r allt ar hyd Lôn Comin nes dod at dir agored ar y dde. (SH 236298)

  • Cerdded yn ôl i’r gogledd nes dod at gamfa ar y dde.
  • (Ffynnon Cefn Lleithfan ar y chwith ychydig ymhellach na’r gamfa (SH 236399))
  • Croesi’r gamfa a dilyn llwybr i lawr y llethr tua’r gogledd.
  • Wedi cyrraedd dau dŷ, dilyn llwybr i lawr i’r dde i ganlyn walo flaen Torbant.
  • Parhau ymlaen (olion Capel Galltraeth ar y chwith. (SH 240302)) a heibio Nyth y Gog.
  • Dilyn llwybr ymlaen i’r dde trwy’r goedwig. Parhau ar lôn drol gyda’r goedwig ar y chwith a thir agored ar y dde.
  • Ar y dde mae giât yn y wal yn arwain ar Ffynnon Saint (SH 241294)
  • Parhau ymlaen dwy’r goedwig a cherdded heibio Tŷ’n Parc ac allan i’r ffordd ar Forfa Neigwl.
  • Cerdded i’r dde heibio Treheli ac i fyny’r allt i gyfeiriad Rhiw.
  • Dyma Lôn Newydd Rhiw, ac ar y chwith gwelir Plas y Sarn.
  • Dringo i’r dde am Blas yn Rhiw (SH 236282) ac arwydd Tan y Muriau (SH 237287)
  • Yn y man gwelir cyffordd ger Eglwys Aelrhiw (SH 234286). Ar y chwith ac i’r de-ddwyrain mae Ffynnon Aelrhiw (SH 234284)
  • Cadw i’r dwyrain o’r eglwys a cherdded ar hyd Lôn Comin yn ôl i’r man parcio.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn