Llwybr Y Morwyr
Pellter : 19km/7.5
Amcan o’r amser –3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Llwybr Nefyn i Abersoch / Llanbedrog (PDF, 368 KB)
Caernarfon – Groeslon
Pellter : 10.8km/6.7m
Amcan o’r amser –3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Llwybr Caernarfon i Groeslon (PDF, 368 KB)
Groeslon – Clynnog Fawr
Pellter : 10.8km/6.7m
Amcan o’r amser –3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Llwybr Groeslon i Clynnog (PDF, 368 KB)
Clynnog Fawr – Nefyn
Pellter : 21.6km/13.5m
Amcan o’r amser –3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Llwybr Groeslon i Clynnog (PDF, 368 KB)
Llwybr Arfordir Cymru
Dyma gyfle gwych i brofi gwlad agored a chyfoethog Penrhyn Llyn o un o’i nodweddion mwyaf hynod a phwysig – ei harfordir. Cewch werthfawrogi ysblander tirwedd amrywiol yr arfordir wrth ddilyn y llwybr troellog hwn. Mae yma gilfachau bychain ac eangderau tywod, clogwyni geirwon, moroedd oriog, porthladdoedd bach a rhostiroedd gwyllt yn eich disgwyl. Dyma orllewin Prydain ar ei orau sy’n llawn haeddu ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithiradol.
Hanes a Diwylliant – Dyma gyfle gwych i gerdded yn ôl traed y pererinion cynnar a phrofi bro sydd â diwylliant a hanes yn ddwfn yn ei phridd. Cewch werthfawrogi olion sydd yn dangos dulliau byw pobl o gyfnodau cyn hanesyddol hyd heddiw. Mae ôl gwaith trigolion yr Oesoedd Cerrig, Efydd a Haearn i’w weld ar hyd y ffordd a llaw y Cristnogion cynharaf yn yr eglwysi hynafol. Dylanwad pysgotwyr a ffermwyr y canrifoedd sydd yn amlwg ar y tirwedd, y cartrefi a’r adeiladau. Dyma un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac mae traddodiadau Cymreig yn dal yn fyw yma.
Natur a Bioamrywiaeth – Dyma gyfle gwych i brofi gwlad gyforiog o rywogaethau o bob math. Cewch werthfawrogi yr anifeiliaid a’r planhigion amlwg ond hefyd y rhai anoddach eu gweld wrth chwilota ar hyd llwybr yr arfordir. Mae brain coesgoch yn aml wrthi’n gwneud campau yn yr awyr a gall morloi llwyd fod yn gymdeithion ffyddlon ar hyd rhannau o’r daith. O gerdded yn y gwanwyn cewch y clustog Fair a serennog y gwanwyn wrth ymyl rhai rhannau o’r llwybr ond yn yr haf, clytiau o rug porffor ymysg llwyni melyn yr eithin sydd yn gefndir lliwgar mewn rhannau eraill. Yma mai rhai o drysorau naturiol gorau arfordir Prydain.
——————————————————————————————