d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Rownd yr Horn (Tudweiliog)

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 4.5 km/2.8 milltir.
Amcan o’r amser: 1.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Cychwyn ym maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367)

Pethau i’w gweld ar y daith

1 Tudweiliog – Y mae Pentref Tudweiliog yn sefyll a’r fryn bach, sydd wedi ei amgylgylchynu a thir porri isel, ar arfordir Gogleddol Llŷn. Mae wedi ei leoli ar y B4417 rhwng Edern a Llangwnnadl, wrth ochr afon Amwlch, a tua 1km oddi wrth yr arfordir a thraeth Porth Tywyn. Dywedir mai Tudwal oedd y sant gwreiddiol y plwyf ac mai ef a roddodd ei enw i’r pentref. Eglurir enw’r pentref hefyd gyda stori am ddyn a’i geffyl yn nofio o Iwerddon i Lŷn, ac er mwyn annog y ceffyl i nofio’n gyflymach mae’n galw arno “Ty’d Weiliog! Ty’d Weiliog”!’ Eglurhad arall yw bod modd ers talwm groesi ar gefn ceffyl i Iwerddon ar drai. Wrth ddychwelyd i Dudweiliog ar gefn ei geffyl o’r enw Gweiliog, clywodd y person gloch yr eglwys yn galw’r plwyfolion. Ceisiodd ruthro’i geffyl a gweiddi ‘Tyrd Weiliog’! Awgrymir hefyd fod yr enw’n gysylltiedig â Sant Tudwal.

Doedd dwylo teuluoedd y bonedd ddim yn lân o smyglo na mor-ladrata chwaith. Bu Huw Gruffudd (? – 1603), mab sgweiar Cefnamwlch yn gapten ar Pendragon, llong a ddefnyddiai i gludo arfau a chario ysbail. Câi gymorth gan William Jones Castellmarch a ddaeth yn brif farnwr Iwerddon. Roedd gan deulu Cefnamwlch long fechan a ddadlwythai ar Ynysoedd Enlli a Thudwal ac yn ôl traddodiad roedd twnnel yn rhedeg o ardd Cefnamwlch i fferm Gwyndy. Roedd twnnel arall yn ymestyn o Dyddyn Isaf, Tudweiliog i greigiau’r môr.

Mwy o Hanes….

Tudweiliog
Tudweiliog

2 Eglwys Tudweiliog – Nawddsant yr eglwys yw Cwyfan. Ef hefyd sefydlodd eglwysi yn Llangwyfan, Dinbych ac ar Ynys Cwyfan ym Môn. Cynlluniwyd yr eglwys bresennol gan Syr Gilbert Scott a’i hadeiladu yn 1849 o garreg leol. Mae’n rhaid bod eglwys Cwyfan Sant wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned hon erioed. Ym 1564 rhoddwyd tir yn Nhudweiliog i John ap Gruffydd ap David ap Madog o Fadryn – tir a oedd yn arfer bod yn rhan o ddaliadau Enlli – i’w ddal mewn ffi fferm gan John Wyn ap Hugh o Fodfel. Mae enwau’r cydrannau’n ddiddorol: tenement o’r enw Hengwrt neu, yn lle hynny, y Cae Mawr, a oedd yn cynnwys Dryll Cerrig Llwydion; yr Hirdir Mawr; Erw’r Eglwys; Llain yr Abad; y Talarau Hiron a Llain dan y cae mawr. Mae’r caeau’n cyfeirio at diroedd âr meysydd agored; at yr eglwys; at abad, a allai fod yn gyfeiriad at gymuned glas flaenorol a ‘Hengwrt’ anhysbys. Ailadeiladwyd eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog, yn gyfan gwbl ym 1849 gan y pensaer George Gilbert Scott.

Fe’i adeiladwyd ar safle lle bu adeilad canol oesol (sonwyd amdano yn 1254 ac yn ddiweddarach fel un o capeli Abaty Enlli. Symudwyd y bedyddfaen C14 or eglwys wreiddiol a gellir ei weld heddiw yng ngardd Cefnamlwch, yn ogystal a cherrig addurniadol or eglwys sydd mewn wal yn ymyl porthdy y plas. Mae yna arysgrifen ar gloch yr eglwys ‘Tydwielog / 1734 made in Dublin.’ Mae cerrig coffa yn y fynwent- Francis Jones of Llangoed 1680, a Jane Trygarn 1683.

3 Rhoslan – Y rhan hwn o blwyf Tudweiliog y dywedir fod yma bentref cyn sefydlu pentref Tudweiliog a bod yna eglwys ar y fan lle saif siop Tywyn yn awr.

4 Tywyn (SH 232374)- Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau – y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.

5 Traeth Tywyn (SH 23103755) – Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma’r Ebol – mae ôl carn ebol i’w weld arni. Pan fyddai ôl y carn wedi’i orchuddio â thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau’r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o’r ardal luchio’r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau’n codi yn eu gwerth!

Daw Cerrig Delysg i’r golwg ar drai ac arni wymon o’r enw ‘delysg’ – gwymon bwytadwy. (Lladin – Fucus palmatus.)

6 Porth Sglaig – Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i’r môr Gwelir olion melin o’r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y môr mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog. Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill. Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety’r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Cychwyn ym maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367) ac i’r ffordd fawr (B4417)
  • Dal i’r chwith ac i lawr trwy ganol y pentref nes cyrraedd cyffordd am Roslan (ger Rhent) a dilyn arwydd ‘TRAETH’.
  • Ymlaen ar hyd Ffordd yr Arfordir heibio ffermydd Tywyn (SH 232374) a Phorth Ysgaden.
  • Dilyn y ffordd i’r chwith ac ymlaen heibio Minafon nes dod i Benlon Caenewydd (SH 230361) ac i’r B4417.
  • Dilyn y B4417 i’r chwith yn ôl i Dudweiliog ac i faes parcio’r ‘Lion’

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn