d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Llwybr Caernarfon i Groeslon

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 7km/4.4 milltir.
Amcan o’r amser: 2.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.
Man cychwyn/gorffen: Caernarfon SH 48214 61758 / Groeslon, SH 47298 55948.

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Lôn Eifion – Llwybr 20km i gerddwyr a beicwyr a adeiladwyd ar wely yr hen reilffordd a arferai redeg i Afon Wen. Rhan o rwydwaith ehangach o Lonydd Glas.

Cyfarwyddiadau

Os dymunwch, gallwch gychwyn eich taith yng Nghaernarfon, gellid honni mai’r ‘cyntedd’ sydd yn arwain at grynswth y daith yw’r rhan gyntaf hon sydd yn gadael y dref ac yn ymlwybro ar hyd gwastadedd gogledd Arfon.
Cewch ddilyn Lôn Eifion, llwybr i gerddwyr a beicwyr ar wely’r hen reilffordd a arferai redeg i Afonwen. Gyfochrog â’r llwybr mae Rheilffordd Ucheldir Eryri sy’n cychwyn ar ei thaith i galon Eryri. Os am brofi
golygfeydd o’r môr wrth geg y Fenai mae gennych ddewis i adael Caernarfon ar hyd y lôn fach sydd
yn dilyn ar hyd ymyl y lan cyn ymuno â Lôn Eifion wrth Llanwnda.

Mae’r llwybr wedyn yn teithio heibio Groeslon, un o’r pentrefi di-rif a dyfodd yn sgîl y diwydiant llechi.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn


Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma – Caernarfon – Trefor