d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Cefnamwlch

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 10.6 km/6.6 milltir.
Amcan o’r amser: 3 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Cychwyn ym maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367)

Pethau i’w gweld ar y daith

1 Tudweiliog – Y mae Pentref Tudweiliog yn sefyll a’r fryn bach, sydd wedi ei amgylgylchynu a thir porri isel, ar arfordir Gogleddol Llŷn. Mae wedi ei leoli ar y B4417 rhwng Edern a Llangwnnadl, wrth ochr afon Amwlch, a tua 1km oddi wrth yr arfordir a thraeth Porth Tywyn. Dywedir mai Tudwal oedd y sant gwreiddiol y plwyf ac mai ef a roddodd ei enw i’r pentref. Eglurir enw’r pentref hefyd gyda stori am ddyn a’i geffyl yn nofio o Iwerddon i Lŷn, ac er mwyn annog y ceffyl i nofio’n gyflymach mae’n galw arno “Ty’d Weiliog! Ty’d Weiliog”!’ Eglurhad arall yw bod modd ers talwm groesi ar gefn ceffyl i Iwerddon ar drai. Wrth ddychwelyd i Dudweiliog ar gefn ei geffyl o’r enw Gweiliog, clywodd y person gloch yr eglwys yn galw’r plwyfolion. Ceisiodd ruthro’i geffyl a gweiddi ‘Tyrd Weiliog’! Awgrymir hefyd fod yr enw’n gysylltiedig â Sant Tudwal.

Mwy o Hanes….

Tudweiliog
Tudweiliog

Eglwys Tudweiliog – Nawddsant yr eglwys yw Cwyfan. Ef hefyd sefydlodd eglwysi yn Llangwyfan, Dinbych ac ar Ynys Cwyfan ym Môn. Cynlluniwyd yr eglwys bresennol gan Syr Gilbert Scott a’i hadeiladu yn 1849 o garreg leol.

2 Cefnamlwch – I’r de o’r pentref mae plasty Cefnamwlch sy’n eiddo i’r teulu WynneFinch. Mae ganddynt stad helaeth gyda nifer o dai’r pentref a ffermydd yr ardal yn eiddo iddynt. Buddsoddwyd yn helaeth mewn buches odro. Roedd Tŷ Cefnamlwch (Er ei fod ym mhlwyf Penllech) yn gartref i deulu blaenllaw lleol – Griffith o Lŷn, a oedd o’r 15gan i’r 18gan yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr hen Sir Gaernarfon. Yr oedd gan Gefnamwlch ei fardd teulu ei hun – Morus Dwyfach – llai enwog na’i gyfoedion, a llawer llai ysbrydoledig ei awen, yn ei gyfyngu ei hun i destunau lleol. Ceir hanesion difyr am Gefnamwlch yn narlith Ioan Mai Evans (Darlith y Bont, 1990) ‘Llŷn Drwy Ffenestri Cefnamwlch’.

Doedd dwylo teuluoedd y bonedd ddim yn lân o smyglo na mor-ladrata chwaith. Oeddant wedi magu siryf ym 1589. Daeth hen linach Griffith, o Gefnamwlch, i amlygrwydd hefyd yn ystod y ganrif yma. Saif Cefnamwlch hefyd rhyw ddwy filltir o ffordd oddi wrth draeth neilltuedig. Bu un o feibion ienga’r teulu, Capten Hugh Griffith,(? – 1603), mab sgweiar Cefnamwlch yn gapten ar Pendragon, llong a ddefnyddiai i gludo arfau a chario ysbail. Oedd wedi ei brentisio yn fasnachwr yn Llundain, yn cadw busnes proffidiol fel herwlongwr yn erbyn llongau Sbaen am flynyddoedd, ac yna ymestyn i weithrediadau llai cyfreithlon lle’r oedd ei dad yn cynorthwyo yn ogystal a’i frawd yng nghyfraith, William Jones Castellmarch, cofrestrydd Beaumaris a ddaeth yn brif farnwr Iwerddon yn ddiweddarach. Bu ymholiadau yn Llys y Llynges ond nid ymddengys i enillion amheus y naill na’r llall o’r ddau deulu gael eu datgelu. Roedd gan deulu Cefnamwlch long fechan a ddadlwythai ar Ynysoedd Enlli a Thudwal ac yn ôl traddodiad roedd twnnel yn rhedeg o ardd Cefnamwlch i fferm Gwyndy. Roedd twnnel arall yn ymestyn o Dyddyn Isaf, Tudweiliog i greigiau’r môr. Mwy… Llŷn y Tuduriaid

3 Coed Caerdydd – Roedd modd cerdded o blasty Cefnamwlch ar hyd y llwybr trwy Goed Caerdydd rai canrifoedd yn ôl. Ar hyd hwn, meddir, y cerddai Madam Griffith i gyfarfod Howell Harris yn Nant yr Hen Lyn Uchaf – lle cynhelid seiadau gan y Methodistiaid yng nghanol y C18.

4 Eglwys Penllech – Wedi ei chysegru i’r Forwyn Fair. Tybed ai Belyn oedd ei sant gwreiddiol gan fod Tyddyn Belyn gerllaw? Adnewyddwyd hi yn 1840.

Eglwys Penllech
Eglwys Penllech

Maen Hir Penllech – Mae cilbost dwyreiniol adwy cadlas fferm Plas ym Mhenllech yn faen hir gyda siâp cwpanau wedi eu suddo ynddo.

5 Parc Bod Badrig – Fferm gyda chysylltiad amlwg efo Sant Padrig gan fod Ffynnon Badrig ar ei thir.

6 Nyth y Gigfran – Cynhelid seiadau yma yn y G18 a galwai Howell Harris yma pan ddeuai ar deithiau i Lŷn. Yma y cyfarfyddai Madam Griffith, Cefnamwlch ag ef. Pan âi hi i gyfarfod â Howell Harris arferai ei gwr, William Griffith ddweud fod y ‘gigfran wedi mynd ar ei nyth’! Gelwid y lle felly yn Nyth y Gigfran.

7 Tyddyn Belyn – Dywedir y bu eglwys yn yr ardal hon yn yr hen amser wedi ei sefydlu gan Belyn Sant.

8 Cromlech Cefnamwlch – Mae yn y plwyf gromlech wych (SH229345) sy’n cael ei adnabod fel Cromlech Cefnamlwch neu hefyd Coetan Arthur.

Cromlech Cefnamwlch

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Gadael maes parcio’r ‘Lion’ (SH 236367) ac i’r ffordd fawr.
  • Croesi’r B4417 gyferbyn â’r ‘Lion’. Cerdded i gyfeiriad Cefnamwlch ac ymlaen heibio Giat Wen (SH 240360).
  • (Os ‘di’r Llwybr ar gau – Parhau ymlaen ar hyd y ffordd. Heibio Pwllcoed a beudai ar y dde. Yn y gornel nesaf mynd ymlaen ar lwybr ar draws y cae.)
  • Troi i’r dde ac ar hyd llwybr sy’n croesi caeau – tua’r dehau. Bydd Coed Pwllcoed yn eich wynebu. Cerdded tua’u pen chwith a thros gamfa i’r ffordd ar gornel.
  • Yn syth i’r dde i lwybr arall (SH 2412350) a cherdded i lawr at Goed Caerdydd. Mynd dros gamfa a bydd y llwybr yn troi i’r chwith trwy’r coed gan ddilyn afonig.(SH
  • 238345).
  • Dilyn ffordd gul i’r dde ac i fyny’r allt heibio safle odro Cefnamwlch (SH 239343).
  • Daw’r ffordd hon allan ar ffordd Sarn Mellteyrn i Feudy Bigyn a Thudweiliog. Gwêl ‘Coeten Arthur’ isod.
  • Dal i’r chwith i gyfeiriad Sarn Meillteyrn. Dilyn y ffordd honno a throi i’r dde i lwybr ger Llidiart Gwyn (SH 236334).
  • Cerdded i fyny’r llethr gan gadw’r wal ar eich llaw dde ac i fyny at Pen Foel. Dringo dros gamfa ar gwr yr ardd a
  • chamfa arall i fynd i gyfeiriad y goedwig.
  • Mynd trwy giat fochyn yn y wal a dilyn llwybr trwy’r goedwig. Mynd heibio Tan y Foel, Parc Bod Badrig a Phig y Parc. Mae’r llwybr yn dilyn godre Mynydd Cefnamwlch ac yn dod allan i’r B4417 (SH 220337).
  • Troi i’r chwith a dilyn lwybr i’r dde dros camfa a daw allan ger Eglwys Penllech (SH 219344).
  • (Os ‘di’r Llwybr ar Gau – Cerdded ar hyd y B4417 gyda godre Mynydd Cefnamwlch a thoi i’r chwith, tua’r môr at Eglwys Penllech ac ymlaen i Ffordd yr Arfordir.)

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn