d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Amdanom Ni

Sefydlwyd Crwydro.co.uk gan bobl leol sy’n frwdfrydig dros  Lŷn, yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd. Gan weithio gyda chynghorau tref a phlwyf rydym yn gwybod pa lwybrau sydd ar agor ac ymhle mae’r mannau o ddiddordeb. Rydym yn awyddus i ddangos i bobl leol ac ymwelwyr rai o’r pethau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig; ac i roi mewnwelediad dyfnach i bobl o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal tra maent yn cerdded ar hyd llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y wlad.

Mae rhai o’r mapiau ar y wefan hon wedi’u diweddaru o fapiau a ariannwyd yn gyhoeddus ac sydd ers hynny wedi’u disodli gan fersiynau gwahanol. Mae rhai sy’n newydd sbon danlli ac eraill yn gyfredol gyda dolen yn arwain i wefanau’r perchnogion.

Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl Llŷn ond mae wedi cael effaith niweidiol ar y Gymraeg ers canrif. Dechreuodd y diddordeb yn un o bentrefi bach hyfrytaf a thawelaf yn Llŷn tua chan mlynedd yn ôl ac mae’i ddylanwad negyddol i’w weld yn amlwg iawn yn Abersoch, erbyn heddiw.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn i sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Mae angen creu cyfleoedd newydd i addysgu pawb am hanes yr iaith Gymraeg (a ddatblygodd o’r Frythoneg, iaith frodorol Ynys Prydain) ac sydd wedi bod yma o’r cyfnod cynharaf. Creu cyfleoedd i gynorthwyo dysgwyr a chroesawu pawb i weld gwerth yn y  Gymraeg yw’r nod. Gwarchod gweithgareddau traddodiadol Gymraeg a chreu cyfleoedd fydd yn mabwysiadu Rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Er bod modd lawr lwytho ac argraffu’r holl lwybrau ar y wefan hon, os ydych am brynu mapiau o’r ardal, dyma’r rhai y byddwn yn eu hargymell:


Crwydro Arfordir Cymru –

Yr Arfordir yn Eich Poced

Ap Crwydro Arfordir Cymru yw’r ap perffaith ar gyfer archwilio arfordir Cymru gyfan sydd ar gael AM DDIM. O’r aber i’r môr, o ben yr allt i’r traeth, archwiliwch ein harfordir heddiw a helpwch ni i’w warchod am byth.  

Mwy…..

Crwydro Arfordir Cymru
Crwydro Arfordir Cymru

Y Codau Cefn Gwlad
Yn dilyn cyngor yn y Codau Cefn Gwlad i fanteisio’n llawn ar eich ymweliad:


Mae mwy o wybodaeth ar gael am yr ardal a llwybrau lleol  ar safleoedd AHNE Llŷn ,

Eryri Mynyddoedd a Môr, a Llwybr Arfordir Cymru ymysg eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys nag iaith unrhyw wefan allanol!


Mae fflecsi Llŷn yn gweithredu ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd hyblyg o’ch casglu a’ch gollwng yn yr ardal ddiffiniedig gan eich galluogi i gyrraedd o draethau, gwersylloedd, mannau twristaidd a gwneud teithiau lleol eraill.

Mae fflecsi 

wedi’i gynllunio i ddarparu mwy o symudedd mewn ardaloedd gwledig a helpu pobl i wneud teithiau lleol mewn amgylchedd diogel a hyblyg.


Cofiwch na allwn amlinellu pob perygl ar daith gerdded; mater i chi yw bod yn addas ar ei chyfer a bod yn ofalus.

Tywydd – Met. office