MANYLION Y DAITH
Amcan o hyd: 5.6km/3.5 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Stryd y Plas yn Nefyn (SH 308404) neu ar y maes parcio ar ffordd Boduan.(B4354)
PETHAU I WELD AR Y DAITH
1 Nefyn – Daw’r fwrdeistref i’r amlwg yn hwyr yn y 12fed ganrif ac mae’n ymddangos ei bod yn un o faenorau mwyaf tywysogion Gwynedd. Cofnodwyd yr eglwys hynafol am y tro cyntaf, yn ôl y cofnodion sydd wedi goroesi, yng nghanol y 12fed ganrif. Rhoddodd Cadwaladr, mab Gruffudd ap Cynan a brawd Owain Gwynedd, eglwys Nefyn a phopeth a berthynai iddi a’r holl dir lle safai’r eglwys, rhwng dwy nant fechan sy’n diffinio’r ffiniau, i Abaty Awstinaidd Haughmond. Rhoddodd hefyd dir y tu allan i Nefyn ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Nefyn.
Rhoddwyd tir yn Nefyn yn rhodd i Abaty Haugmond dair gwaith ar ôl hyn, gan Dafydd ab Owain,
ddwywaith rhwng 1177 a 1190, a chan Lywelyn ap Iorwerth, ym 1230. Mae’n bosibl ein bod, yn y siarteri a’r grantiau hyn, yn gweld enghraifft gynnar, yng Ngogledd Cymru, o’r trawsnewidiad o eglwys glas hynafol i un o’r urddau pan-Ewropeaidd ‘modern’; yn yr achos hwn, priordy Awstinaidd. Ym 1301 gwrthododd David ap Madoc, un o gaplaniaid Nefyn, unrhyw hawliad i eglwys Nefyn a datganodd ei fod wedi ei fagu yn y priordy Awstinaidd gyda’r canonau a’i fod wedi bod yn gweinyddu o fewn yr eglwys ers amser maith.
Yr unig eglurhad dros feddwl y gallai sefyllfa o’r fath fodoli yw bod rhywfaint o’r hen glas yn parhau, mewn rhyw ffordd, i wasanaethu’r eglwys. Mae’n bosibl bod un aelod seciwlar o gymuned Nefyn, Madoc Clericus (a oedd yn galw ei hun yn farsiandwr) yn berthynas i David ap Madoc. Ym 1252 roedd William, Prior Nefyn, yn dyst i gytundeb ynglyn â threfniadau deiliadol yn Aberdaron. Ym 1535 roedd gan yr eglwys statws ficerdy’r Abaty, ar drothwy’r diddymiad. Parhaodd eglwys y Santes Fair, Nefyn, fel eglwys blwyfol. Erbyn hyn mae’n amgueddfa forwrol, a chodwyd eglwys newydd Dewi Sant yn ei lle ger Tŵr Pen y Bryn.
2 Cae Iorwerth (cae pysgodyn) (SH 30774027) – Ymwelodd Edward I ag ef yn 1284, a dyma leoliad
‘Ford Gron’ neu dwrnamaint yn dathlu ei goncwest o Wynedd. Cynhaliwyd y twrnamaint yng Nghae
Iorwerth neu gae pysgodyn fel y’i gelwir yn lleol, oherwydd ei siâp fel pysgodyn. Mwy…
3 Garn Boduan – Ar ben Garn Boduan mae llwyfan creigiog o dir tua 250m uwchlaŵr môr ac arno fryngaer fawr o Oes yr Haearn sydd tua 10 hectar o faint. Ynddi mae olion tua 170 o gytiau cerrig crynion, yn amrywio rhwng 5.2m a 7.3 metr ar draws.
Mae Garn Boduan yn fynydd amlwg iawn uwchben bwrdeistref ganoloesol Nefyn, 1km oddi yno, a chaer
bentir arfordirol ym Mhorth Dinllaen, tua 4km i ffwrdd. Yn ystod Oes y Tywysogion roedd Garn Boduan yn nhrefgordd gaeth Boduan.
Llwyfandir yw copa Garn Boduan. Mae tua 250m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac mae ardal o tua 10ha wedi ei chau gan ragfur cerrig sy’n adfail erbyn hyn. Ar yr ochr orllewinol mae darn o graig yn codi uwchben y llwyfandir i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Cofnodwyd tua 170 o sylfeini cerrig cytiau crwn, rhai ohonynt yn weddol fawr, â diamedr o tua 8m. Cynrychiolir trydydd is-gyfnod adeiladu, sy’n un pur wahanol, ar y darn creigiog sydd ar ochr ddwyreiniol y mynydd. Adeiladwyd ‘cadarnle’ cryf i gau ardal fechan 60m wrth 30m, â waliau 3.5m o drwch. Mae’r waliau’n gadarn ac mae ôl curo ar eu hochrau allanol. Un awgrym credadwy yw bod y ‘cadarnle’ yn cynrychioli cyfnod anheddu ac amddiffyn llawer diweddarach, yn ystod y canol oesoedd cynnar efallai.
CYFARWYDDIADAU
Gallwch wneud hon naill ai’n daith gylchol neu’n daith linynnol. Gallwch gychwyn yn Stryd y Plas yn Nefyn (SH 308404) neu ar y maes parcio ar ffordd Boduan. (B4354)
- Os cychwynnwch yn Nefyn, ewch allan o’r maes parcio a throwch i’r chwith. Yna cymerwch y fforch i’r dde, ac ewch i fyny’r Fron
- Dringwch yn serth trwy dai i fan lle daw’r lôn i ben wrth dŷ Frondirion. Parhewch ymlaen i fyny trac sy’n codi i droi i’r dde yn fuan heibio i adfail a chymerwch y trac i’r chwith.
- Pan fydd y trac hwn yn gwyro i’r chwith tuag at adfeilion, ewch yn eich blaen i fynd trwy ddwy giât yn fuan wedyn.
- Dringwch y lôn suddedig y tu hwnt i gyrraedd cae.
- Croeswch hwn ar yr ochr chwith gan fynd trwy agoriad i’r cae nesaf a chroeswch hwn ar yr ochr dde. Ar y brig ewch drwy giât mochyn i gyffordd llwybr.