d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Anelog

Cylchdaith Anelog – MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 4 km/2.4 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Aberdaron, SH164268.

Pethau i weld ar y daith

1 Gors, Anelog – Dyma safle Capel Anelog, o bosibl lleoliad cyntaf Cristnogaeth yn Llŷn. Nid oes olion ar ôl heddiw, ond mae’r safle wedi ei nodi fel SH 15602743. Roedd y pererinion cynharaf wedi darganfod llecyn arbennig i encilio iddo ar lethrau mynydd Anelog a sefydlwyd clàs yno ganddynt. Dyma, mae’n debyg, leoliad Capel Anelog, un o gapeli coll cynnar Llŷn.

Darganfuwyd dwy garreg fedd yn dyddio o’r 5ed neu’r 6ed ganrif O.C. ar y safle; un yn coffau Senacus, yr offeiriad a chriw o frodyr, a’r llall yn coffau Veracius. Efallai fod amryw o’r pererinion (brodyr), bregus a fethodd a chwblhau’r daith i Enlli yn eu plith. O gyfeiriad mynydd Anelog llifa afon Saint i Aberdaron. Byddai cyfle i yfed o ddŵr meddyginiaethol Ffynnon Saint.

Am flynyddoedd lawer cadwyd y ddwy garreg ym Mhlas Cefnamwlch, Tudweiliog ond maent bellach yn cael eu  harddangos yn Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron.

2 Mynydd Anelog – Ceir golygfa anhygoel o Ben Llŷn, Eryri a Meirionnydd o fynydd Anelog. Mae’r llethrau serth yn rhedeg yn syth i lawr i’r môr a’r pysgotwyr o’u cychod wedi enwi’r cilfachau a’r creigiau sydd yma, lleoedd fel Trwyn Du, Porth Ddofn a Thrwyn Llwyd. Er hyn, gelwir un lle yn Gwely Daniel, lle yr arferai Daniel Pwllwgwr, bysgota. Dywedir bod lladron defaid wedi defnyddio’r ogof, Ogof Llety Siôn.

Anelog o Mynydd Mawr
Mynydd Anelog, Garn Madryn a’r Wyddfa o Mynydd Mawr

3 Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel – Dyma’r ‘mynyddoedd’ yn mhen eithaf Llŷn gyda Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair, yn enwog o Oes y Seintiau, ac yn hynod am fod dwr croyw ynddi er fod yn môr yn golchi drosti ar lanw. Ar y gwastad lle mae’r llwybr yn cychwyn i lawr i’r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Ceir y cofnod cynharaf ohono dyddiedig 1748 ar fap gan Lewis Morris.

Mae ffordd goncrit a godwyd amser yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae’r gerdd olaf gyfansoddodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o’r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma’r fan gorau i weld Enlli.

Enlli o Mynydd Mawr
Enlli o Mynydd Mawr

4 Pwlldefaid – Arferiad ymlith rhai ffermwyr cyfoethog yn Llŷn fyddai prynu siop ym Mhwllheli i’r ail fab tra byddai’r mab hynaf yn aros gartref i ffermio. Mae siop ym Mhwllheli heddiw o’r enw Pwlldefaid. Un o feibion fferm Pwlldefaid, Uwchmynydd oedd perchennog y siop ar un cyfnod a fo hefyd a sefydlodd y cwmni catalog J. D. Williams ym Manceinion.

5 Ynys Enlli – O lwybr Anelog byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a’r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy’n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a’u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i’r ynys drwy gysylltu â Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).

Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o’r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar ôl. Mae’r traddodiadau sy’n ymwneud â sefydliadau mynachaidd Enlli wedi’u dogfennu’n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi’i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy’n rhoi adroddiad cynnar o’r traddodiad bod myrdd o saint wedi’u claddu yno; 20,000 yn ôl adroddiadau diweddarach.

Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen â llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy’i gilydd, ag arysgrif yn coffáu ‘Esyllt’, neu enw tebyg, ar un o’r ochrau byr; a charreg â siâp croes arni yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu lai.

Mwy….. Cenhadwyr y 6ed Ganrif

Ym 1012 (s.a. 1011) mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog â darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.

Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a’r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a’r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a’r drefn Rufeinig i’r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono’n dal i sefyll.

6 Dinas Fawr a Dinas Fach – Mae’r enwau’n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn ôl. Bellach mae’n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu’r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty’n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau’r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.

Cyfarwyddiadau

  • Parciwch y car ger Capel Uwchmynydd (SH 1255263). Cychwyn i lawr yr allt a dilyn y lôn gul ar y dde i chi.
  • Trwy’r giât gyda’r arwydd yn dynodi ‘Talcen Foel’
  • Gwyrwch i’r dde, heibio blaen Talcen Foel a thrwy’ddo y porth’r giât sy’n arwain i’r mynydd.
  • Dilynwch y llwybr i’r chwith i fyny i gopa Mynydd Anelog. (SH 151272) (Gallwch osgoi’r copa a pharhau ar hyd y llwybr sy’n ymylu ar y mynydd)
  • Cerddwch dros y mynydd ac i lawr yr allt i gyfeiriad y gogledd
  • Bydd Mount Pleasant (SH 151274) yn dod i’r golwg. Y llwybr yn parhau heibio’r bwthyn ar yr ochr sy’n wynebu’r môr.
  • Parhewch i gyfeiriad y gogledd. **
  • • Gwnewch weddus yn raddol. Byddwch yn gweld dyffryn bach ar eich dde (i’r gorllewin). Dilynwch y llwybr i’r dde, heibio fferm Anelog
  • Dilynwch yr arwyddion a bydd y llwybr yn arwain at Lôn Anelog. (SH 155 273)
  • Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd, heibio’r Gors nes cyrraedd Ty’n Anelog. (SH 157271)
  • Dilynwch y llwybr i’r dde a pharhau heibio Pwlldefaid. (SH 157266)
  • Daw’r llwybr allan ger Capel Uwchmynydd.

** Gallwch barhau ar hyd llwybr yr arfordir i gyfeiriad Porth Orion (SH 156287), Mynydd Carreg (SH 163291) a Phorthor (SH 165298).
O’r mannau hyn mae llwybrau troed sy’n cysylltu â ffordd yr arfordir (Aberdaron – Tudweiliog) Ger Capel Carmel / Plas Ffordd (SH 155 283)
troi i’r dde i Lôn Anelog a pharhau i fyny i Ty’n Anelog (SH 162 273) lle mae’r llwybr yn mynd ymlaen heibio Pwlldefaid ac i Capel Uwchmynydd.

ffynonellau llyfryddiaeth

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn