d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Rhoshirwaun

Cylchdaith Rhoshirwaun – Manylion y daith

Amcan o hyd: 11.5 km/7.1 milltir.
Amcan o’r amser: 4 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Neuadd y Rhos (SH 19305 29210)

Disgrifiad

Mae holl amrywiaeth Llŷn a’i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi’i gynnwys yn y daith hon. Ceir yma lwybrau arfordirol – gogledd a de – y penrhyn; dringfa raddol ar hyd llethrau Mynydd Anelog sy’n cynnig golygfeydd gwych a phanoramig, a dychwelyd drwy gaeau amaethyddol ac ar hyd cwm bychan Afon Daron.

Mannau o Ddiddordeb

1 Rhoshirwaun (SH 19494 29162) – Pentref bychan yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, Cymru, yw Rhoshirwaun. Fe’i lleolir ym mhen Llŷn ar ffordd y B4413 tua 3 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Aberdaron a thua 9 milltir i’r de-orllewin o Nefyn. Mae i’r enw ‘Rhoshirwaen’ disgrifiad dwbwl. Y mae Rhos a Gwaun yn gyfystyr ac yn paru’n naturiol a’i gilydd. Rhoddwyd palis o ansoddair rhwng y ddau enw cyfystyr a’i wneud yn ‘Rhoshirwaun’. Y mae’r ansoddair yn briodol iawn gan hired y rhostir hwn. Mae’r rhos yn ymestyn o Bengopa, ar gwr plwyf Bryncroes i odre’r Ystum ym mhlwyf Aberdaron, gwell na milltir o hyd. Saif dau fwthyn dan yr unto ar y chwith wedi gadael Pengopa o’r enw Lonliffig, “diffyg ffordd”. Dyna awgryn fod tir comin yn cychwyn yno, gan nad oedd ffordd. Yna ar gwr pentra Rhoshirwaen y mae ffarm o’r enw Llidiardau a dyna awgrym eto o gaead ar y tir comin o’r pen arall, yn gadael rhos hir o Lonliffig i Llidiardau.

Ar y rhosdir hirgul hwn y codwyd pentra Rhoshirwaun ym Mhenrhyn Llŷn, ar dir comin, neu fel y d’wedai Tom Nefyn, ‘Tir neb’. Ar wahan i hawl pori ar y tir comin, yr oedd hefyd hen hawl i godi tŷ dan amodau arbennig – ‘tai-unos’, fel y gelwid. Dyma arhosfa olaf y Gots Fawr y Tocia ar ei ffordd o dref Pwllheli i Aberdaron.

Dwy filltir i’r dwyrain cyfyd Mynydd Rhiw. Sefydlwyd Capel Saron yn y pentref gan y Methodistiaid Calfinaidd; fe drowyd yn dŷ yn 2000.

Rhoshirwaun
Pentre Rhoshirwaun

Eisteddfod y Rhos – Yr oedd yn yr ardal hon draddodiad hir o eisteddfota ac o farddoni. Sefydlodd gweinidog y Bedyddwyr, un o’r enw Mr. John, Gymdeithas Lenyddol lwyddiannus yma. Fe haerid fod pawb ar un amser yn medru cynganeddu yn y Rhos. Nid rhyfedd i’r ‘steddfod ddod yn sefydliad o bwŷs yn yr ardal hon.

Eisteddfod y Rhos 1909
Cadair Eisteddfod y Rhos 1909 Llun: Iestyn Tyne, Casglu’r Cadeiriau

Eisteddfod Hyd y Ganwyll – Cychwynnodd yr Eisteddfod yn Sgubor Tynlon wrth olau cannwyll, a’r gannwyll a benderfynai hyd yr eisteddfod. Cryddion a chrefftwyr lleol eraill oedd ei phrif gynheiliaid. Byddai’r beirdd gwlad hyn yn cwrdd yn sgubor Tynlon gyda’r nos. Byddai cannwyll yn cael ei goleuo ar ddechrau’r cwrdd a’r drefn oedd mai tra parhâi’r gannwyll honno i losgi y parhâi’r eisteddfod; o ganlyniad byddai’r cyfarfod yn hwy ar noson dawel nag ar noson wyntog gan fod drafftiau’r ysgubor yn peri i wêr y gannwyll redeg ac iddi losgi’n gynt. Dyna eisteddfod enwog ‘Hyd y Gannwyll’.

Seromoni goleuo'r gannwyll
Seromoni goleuo’r gannwyll ar ddechrau cyfarfod o Glwb Hyd y Ganwyll. Evan Griffith Hughes, Y Fachwen yn goleuo’r gannwyll; Robert Griffith, Trefgraig Bach a John Evans, Y Bryn.

Buan iawn yr aeth y Sgubor yn rhy gyfyng a’r gannwyll yn rhy fyr. Yna symudwyd i Ysgol Llidiardau. Agorwyd yr ysgol yma yn 1880 ac erbyn rwan, mae’r ysgol wedi cau gan Cyngor sir Gwynedd. Cafodd ‘steddfod y Rhos lety yn hon. Hawliodd y ‘steddfod ddiwrnod-iddi ei hun – ‘Yr Ynyd’ – a dyna fu ei henw wedyn. Cofnodwyd y cerddi buddugol – yn englynion, penillion a rhigymau – mewn llyfrau a gedwid yn Nhŷ’n y Pwll, Rhoshirwaun, gyda chroeso i bawb a’i fynno eu darllen. Ar ddiwedd y 1950au roedd y llyfrau hynny ar gael o hyd yn ôl Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960).

Clwb Hyd y Ganwyll
Cyfarfod o Glwb Hyd y Ganwyll – Llewelyn Jones, Efail Bach yn darlithio. John Morris, Prifathro ysgol Deunant; Harri Jones, Cae Rhôs: William Jones, Gladstone; John Parry Hughes, Fferm Pencaerau; Wil Williams, Brynchwiliog; Tom Gladstone, Ifan Pritchard, Gilfach; Gwilym Hughes, Prifathro Ysgol Bryncroes; a Gruffydd Parry, Pencraig Fawr, Sarn.

2 Neuadd y Rhos (SH 19305 29210) – Dros y blynyddoedd, bu’r syniad am Neuadd Bentref yn cnoi mewn sawl Pwyllgor ‘Steddfod yn y Rhos. Rhaid cofio mai’r Eisteddfod ydi mam y neuadd yma. Yr oedd yma hen bwyllgor Eisteddfod yn mynd yn ol i 1883. ‘Doedd dim byd o bwys yn digwydd yn Rhoshirwaun heb i bwyllgor y ‘Steddfod gytuno a hynny.

Mae’r gair ‘sefydlog’ yn air pwysig yn Rhoshirwaun. Pasiwyd mewn pwyllgor ar 10 Ionawr, 1920, i roi cyfran o elw’r eisteddfod y flwyddyn honno i ffurfio cronfa i gael pabell sefydlog. Dyna’r awgrym a’r cam cyntaf at Neuadd y Rhos. Ar 21 Chwefror, 1920, agorwyd ‘Cyfrif y Babell’ gyda £35.0.0. Erbyn Ebrill y flwyddyn honno, yr oedd holl aelodau’r eisteddfod yn aelodau o bwyllgor y Babell. Mae’r pymtheg punt ar ugain yn brawf o lwyddiant eithriadol yr eisteddfod.

Neuadd Rhoshirwaun
Neuadd Rhoshirwaun

Llwyddiant a’i gyrrodd yn gynnar yn 1921 i chwilio am lecyn addas i godi’r babell. Chwarter erw o Ros y Fachwen fu’r cynig cyntaf, ond ni lwyddwyd . Yr un fu’r hanes yn yr Hendra hefyd. Yr oedd Griffiths y Gilfach yn gofyn £ 15 am glwt o dir yno, neu ddarn o Ros Tyddyn Bychan. Yr oedd gwr Penybryn yn gofyn £20 am le ym Mharc y Brenin. Daeth cynnig arall gan yr Ysgrifennydd, John Hughes, Fron Olau – chwarter erw am saith a chweugain, neu swllt y flwyddyn, nes y deuai pethau’n well ar y pwyllgor. Ar 30 Ebrill, 1921, derbyniwyd cynnig John Hughes i godi’r babell ar gwr gwinllan Fron Olau. ‘Does dim cofnod o dalu’r £7. 10 . 0, na’r swllt y flwyddyn. Yn ôl ei ferch, M.J. Roberts, y peth pwysicaf gan ei thad oedd nad oedd ‘Whist Drive’ i’w chynnal mewn neuadd ar dir y Fron Olau. Yno yng nghwr y coed y codwyd Neuadd y Rhos.

Diwrnod agor Neuadd Rhoshirwaun 28-2-1922
Diwrnod agor Neuadd Rhoshirwaun 28-2-1922

3 Ysgol Llidiardau (SH 19100 29231) – Agorwyd yr ysgol yma yn 1880 ac erbyn rwan, mae’r ysgol wedi cau gan Cyngor sir Gwynedd.

Ysgol Llidiardau 14-2-08
Ysgol Llidiardau 14-2-08 ffred Ffrancis yn cyrraedd ar ôl cerdded o de Cymru

4 Mynydd Yr Ystum / Castell Odo (SH 18678 28436) – Bryn bychan a gysylltir ag Odo Gawr lle dywedir iddo gael ei gladdu dan garnedd o gerrig. Mae Castell Odo ar ei gopa lle ceir olion caer o Oes yr Efydd, ar ôl 1800 C.C. Ar ei odre gogleddol mae Ffynnon Odo a cheir Capel Odo yn yr ardal. Ar y copa hefyd mae maen enfawr a elwir yn Garreg Samson. Dywedir i hon gael thaflu yma o Uwchmynydd gan Samson a’r tyllau ynddi yw olion ei fysedd. O dan hon mae cawg o aur. Arddangosir creiriau crochenwaith a gloddiwyd yma yn 1958-9 yn Amgueddfa Bangor. Yn ôl un gred difethwyd y gaer gan y Rhufeiniaid yn 78 O.C.

Carreg Samson Castell Odo
Carreg Samson Castell Odo

Tylwydd Teg Rhoshirwaun – Cyfeirir uchod at un o hen chwedlau’r cylch, ac yr oedd straeon tylwyth teg yn perthyn i’r cylch hwn. Ond un yn unig sydd yn ddilys yn y rhan hon o’r wlad. Syr John Rhys sydd yn ei chofnodi yn y Cymmrodor. Dywaid ef iddo gael gafael ar yr un stori yn union yn y gongl orllewinol o’r Iwerddon, ond does dim hunman arall. Ymddengys mai tŷ un drws oedd Deunant ac y byddid yn arfer gwagio’r bwced i’r domen yn yr iard o flaen y tŷ bob gyda’r nos. Un noson ymddangosodd dyn bach, a gofyn, ” Beth wyt ti’n feddwl wyt ti’n ei wneud?” “Gwagio’ ‘r bwced fel arfer,” atebodd y dyn, “a fy nhome n i ydyw”. “nei di sefyll ar fy nhroed i ?” gofynnai’r bychan. A chyn gynted ag y gwnaeth fe welodd res o dai yno. “Wyddwn i ddim amdanynt; nid wyf wedi eu gweld erioed o’r blaen,” meddai ‘r dyn. “Yn y ty yna yr wyf i yn byw, ac yn gorfod glanhau ar dy ôl di bob nos,” meddai ‘r bychan eto, “Wel, ni wyddwn fy mod yn achosi’r fath drafferth iti – wnaiff o ddim digwydd eto,” oedd yr ateb. “Na wnaiff, ond i ti gau y drws ffrynt, a thorri drws newydd yn y cefn, ac ni chaiff yr un anifail yma ddolur byr byth eto,” ebe’r dyn bach. A seliwyd y fargen! Roedd Syr John Rhys yn methu deall pam fod y ddwy stori yr un fath, ac mewn dau le cyffelyb yn ymyl y môr.

5 Plas Carmel (SH 16252 28385) – Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan. Plas Carmel

Siop Plas

Siop Plas Carmel
Siop Plas Carmel

Capel Carmel (SH 16252 28385) – Dywedir bod Capel y Bedyddwyr yn dyddio o c1810 neu 1818 ond heb ei nodi ar Fap Degwm 1844. Eithriadol o fach gyda’r golau mewnol gwreiddiol. Y mae y Capel a’r Plas, y tŷ capel [q.v.], yn un rhes, a’r ddwy ran o’r un maint yn fras, gyda’r Nenfwd estyllog, c1915.

Capel Carmel
Capel Carmel

6 Capel Anelog -SH 1560 2743 – Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Crybwyllir safle’r cerrig hyn yn nodiadau llawysgrifen Lewis Morris, hynafiaethydd o’r 18fed ganrif (BM Add. MSS 14907, ffol. 184) cyhoeddwyd gan Owen (Owen/1896). Dywed Morris: `Yn adfeilion Capel Angelog, plwyf Aberdaron, yn Lleyn… Geilw rhai ef yn Gapel-y-Verach neu – Capel Berach…

Wedyn, mewn adroddiad 1858 – Dywed Mr Wynne (Cefn Amwlch) iddynt gael eu dwyn o fferm fechan ar ei stad, o’r enw Gors, rhwng Cefn Amwlch ac Aberdaron, a’u bod yn sefyll yn yr hyn a dybir oedd yn fynwent i hen eglwys, ac y mae olion safle yr eglwys dal yno. Tua phymtheg mlynedd yn ol yr oedd y tenant yn myned i ddwyn y fan i amaethu, ac wedi hyny symudwyd y meini, er diogelwch, i’w gorphwysfa presenol. Y mae Mr. Wynne yn tybio nad yw yr eglwys hon, o bosibl, yn un o gadwyn o adeiladau cyffelyb a godwyd ar hyd yr hen lwybr i Enlli o Fangor, trwy Gaernarfon, Clynnog, Llanaelhaearn, &c. Ymddengys fod sail dda i’r dybiaeth hon, oblegid gall fod y meini yn benaf wedi eu codi a’u harysgrifio yno, neu efallai eu bod wedi eu dwyn yno o Enlli ei hun ar ol diddymiad y fynachlog. Mae’n debyg bod llinell y ffordd ar gyfer pererinion i Ynys y Seintiau yn mynd trwy Nefyn a Thudweiliog, trwy Langwnnadl a Bodferin i Eglwys Fair, ym mhen draw’r penrhyn.

Dywedodd Cyrnol Wynne Finch (Ebrill 2, 1899), …`ryw ddeng mlynedd yn ôl fe es i draw (y fferm a elwir yn “Gors”) ac edrych yn ofalus am unrhyw gerrig o’r fath, a holodd y tenant. ond ni wyddai am ddim ac ni welais feini tebyg. Pan ddygwyd y cerrig hyn yma gyntaf, yr wyf yn eu cofio yn dda, a chofiaf hefyd glywed fod meini eraill yn y fan a’r lle gydag arysgrifau arnynt, ond fod y lleill i gyd naill ai wedi eu torri neu malu gymaint fel mai y ddau hyn oedd yr unig feini o werth. dwyn i ffwrdd.”

Ar y cerrig sydd wedi’u treulio gan ddwr gwelir arysgrifiadau, yn Lladin, i goffáu Senacus, SENACUS/PBR/HIC/IACIT/CVMMVLTITV/FRATRVM sy’n nodi bod Senacus, yr offeiriad yn gorwedd yno ‘gyda llu o frodyr’.(cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. VERACIUS/PBR/HIC/IACIT yn coffáu offeiriad o’r enw Veracius, ond gall fod yn sant Gwyddelig â’i enw’n gyfystyr â’r enw Berach. Mae’r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif OC. Symudwyd y cerrig i Gefnamwlch ger Tudweiliog rywbryd cyn 1859, tua 1844. Yn eglwys Aberdaron bellach y mae cerrig coffa arysgrifedig Senacus a Veracius.

Caiff Senacus yn Gymraeg ei ddehongli fel Hunog ac yn ddiddorol mae fferm o’r enw Bryn Hunog (SH 20103090) yn Rhoshirwaun.

7 Chwarel Iasbis Carreg (SH 16102905) – Ym 1901 darganfuwyd gwythiennau o faen iasbis hyd at 37 metr (40 llath) o led ar waelod Mynydd Carreg. Mae maen iasbis hefyd yn dod i’r brig ar y clogwyni môr gerllaw. Yn ôl y sôn yn 1904 y cafodd y chwarel ei hagor. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am y chwarelydda yma ond mae’r olion yn amlwg ar yr arfordir rhwng Porthor (SH16682996) a Phorth Orion (SH15602880). Ar odre Mynydd Carreg (SH 16102905), ger Porthorion bu cryn gloddio yn gynnar 20fedG. Craig fetamorffig yw maen iasbis a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Neoproterosöig Cyn-Gambriaidd, rhwng 1,000 miliwn a 541 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Chwarel Iasbis, Carreg
Chwarel Iasbis, Carreg

Roedd Iasbis yn fwyn gwerthfawr a’r pryd hynny roedd darn dwy fodfedd giwb ohono’n werth £60. Câi ei ddefnyddio i ychwanegu at wychder adeiladau dinasoedd mawrion, megis Cadeirlan Westminster a Phalas St James yn Llundain. Cafodd Iasbis ei gloddio ar Fynydd Carreg, ger Porthorion ac yn Llanllawen, Uwchmynydd.

Rhyw 1km oddi yno mae Pont Nant y Widdan ac wrth fynd â darn anferth o iasbis drosti dymchwelodd y bont. Ai llun o’r llwyth hwnnw gafodd ei dynnu wedi iddo gyrraedd Pwllheli ar wagan yn cael ei thynnu gan dracsion.

Iasbis ar y Maes Pwllheli
Tracsion gwaith Iasbis Carreg Plas, Aberdaron wedi cyrraedd Y Maes Pwllheli gyda maen iasbis i’w anfon i ffwrdd a tren. Thomas Jones ‘Ship’ Aberdaron oedd y gyrrwr (tad Thomas Glyn).

8 Dinas Mawr a Dinas Bach – Mae’r enwau’n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn ôl. Bellach mae’n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu’r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty’n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau’r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.

9 Porthor – Traeth braf gyda’i faes parcio ei hun (SH 167300)(eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yw Porthor. Enwog am ei longddrylliadau a’i draddodiad smyglo!

Efallai mai’r mwyaf anghyffredin o’r holl draethau hyfryd o amgylch yr ardal yw Porthor, sydd ychydig i’r gogledd o Aberdaron. Mae’r tywod gwyn yn chwibanu pan fydd rhywun yn cerdded arno. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.

10 Cau Tiroedd – Y Cau cyntaf yn Sir Gaernarfon dan ddeddf 1802 oedd tir comin eang y goron yn Rhoshirwaun yn cynnwys tua dwy neu dair mil o aceri mewn tri phlwyf yn eithaf gorllewin Llŷn, lle’r oedd ugeiniau o bysgotwyr yn ystod y blynyddoedd wedi cael eu gadael i sgwatio. Pan basiwyd fod eu daliadau a’u tai i gael eu gwerthu dros eu pennau, yn enwedig os yr oedd wedi ei sefydlu yn ystod yr ugain mlynedd cynt, yna dangoswyd bwriad i wrthsefyll a defnyddio grym, yn arbennig pan sylwedolwyd eu bod yn mynd i golli’r mawnogydd oedd yn ffynhonell tanwydd rhad iddynt. Rhoddodd mintai o filwyr yr anfonwyd amdanynt o Loegr derfyn ar eu gwrthwynebiad, ond ni lwyddwyd i roi’r mesur mewn grym hyd 1814.

Dychrynwyd bonnedd y sir gan y gwrthwynebiad yn Rhoshirwaun ac mewn cyfarfod yng Nghaernarfon yn 1808 pasiwyn i gymryd pob mesur angenrheidiol i orfodi’r Deddfau Cau Tir, ac i gosbi unrhyw rai a’u gwrthwynebai. Daeth rhan arall o bedair mil o aceri, yn cynnwys Garn Fadrun a Mynydd Mynytho o dan fygythiad o dan ddeddf 1808, lle, unwaith eto yr oedd y bythynwyr yn colli eu hawliau torri tywyrch yn danwydd. Rhagwelai adroddiadau ar y pryd ddiboblogi eang a chyfeirid yn bendrist at ‘y digalondid cyffredinol yn lledu trwy Lŷn’. Mwy….

11 Gweirglodd Gorlan Hen – Mae digonedd o gaeau yn Llŷn nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer amaeth, y gellir eu hadfer fel gweirgloddiau wrth gyflwyno rheolaeth briodol. Enghraifft o hyn yw Gorlan Hen, ger Pengroeslon. Bwthyn 300 oed yw Gorlan Hen ac yn rhan o’r tyddyn mae gweirglodd 5-acer. Cynhaliwyd y weirglodd yma dan reolaeth Alan Hilton o’r chwechdegau tan eithaf diweddar. Oedd Alan yn gymeriad diddorol, a chafwyd llawer o rywogaethau o’r weirglodd yma ei nodi ar wefan bioamrywiaeth Llŷn.

Cribell Melyn
Cribell Felen
Tregerian Brych
Tegeirian Brych

Mae’n debyg mai dyma un o’r ychydig o weirgloddiau hynafol sydd ar ôl yn Llŷn ac mae’n darparu
arddangosfa hyfryd o flodau drwy gydol yr haf, yn enwedig y llygad llo mawr, cribell felen,
tegeirian brych, y feddyges las, suran y cŵn, corfeillionen wen, a’r bengaled. Mae sefyll yng
nghanol y weirglodd hon ar ddiwrnod o haf gyda suo’r holl bryfed o’ch cwmpas yn brofiad
rhyfeddol!

12 Glampio Coed a Crasu coed – Dyma leoliad perffaith yng nghanol cefn gwlad am ddihangfa perffaith yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi awydd penwythnos i ffwrdd neu wythnos i ymweld a mannau newydd, mae’n leoliad yn ddelfrydol i gyplau, ffrindiau neu deulu sydd yn chwilio am amser i ymlacio mewn caban moethus a chlyd. Hefyd, mae Crasu Coed yn gwneud Pitsa ardderchog ar y safle yma.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Cychwyn o faes pacio’r neuadd (SH 19305 29210), ac wedyn cerdded i’r gorllewin tuagat ysgol Llidiardau.
  • Trowch i’r chwith a cherdded wrth gadw mynydd Ystum ar y chwith.
  • Parhewch ar hyd y lon am tua 2km, ar draws y groesffordd wrth Gyll y Felin.
  • Wedyn parhewch am tua 2km arall nes dowch chi at siop yn Blas Carmel.cewch fwyd a phanad yma.
  • Dros ffordd i’r siop mae llwybr tua’r môr a llwybr yr arfordir. ewch i’r de ar hyd llwybr yr arfordir at Borthor.
  • Wedyn ewch yn ôl i mewn i’r tir a throi i’r chwith at Fethlem.
  • O Fethlem, ewch trwy Rydlios.
  • wedyn trowch i’r de yn y troiad nesaf (Capel Mul), ac yn ôl at ysgol llidiardau.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn