Mae hanes hir i sefydlu’r wefan hon a ddechreuodd mor bell yn ôl ag 1996. Ar y pryd ‘roedd yr unig wybodaeth am Lŷn ar y ‘World Wide Wêb’ yn cael ei gyflwyno gan arwerthwyr tai a’r diwydiant twristiaeth a’r cyfan yn uniaith Saesneg. ‘Doedd fawr ddim gwybodaeth ar gael drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, nac am hanes y penrhyn hynafol hwn, y dywedodd Saunders Lewis amdano “fod parhad y Gymraeg yn Llŷn yn fater o fyw neu farw i Gymru”. Daw’r iaith Gymraeg o’r Frythoneg (iaith gynhenid Ynys Prydain) a siaredid ym mhob cwr o’r Ynys cyn dyfodiad y Saeson. Mae deall hyn yn sioc i lawer o bobol gan eu bod nhw wedi meddwl erioed mai’r Saesneg yw iaith sylfaenol Prydain. Felly fe ddylai’r Gymraeg a’i hanes, yn ogystal â bod yn berthnasol i Gymry, fod yn berthnasol ac o ddiddordeb hefyd i bawb sy’n siarad Saesneg ar draws y byd.
O ganlyniad i’r diffygion uchod y sefydlodd Seimon Jones (Waen) o’r cwmni ‘Argraff,’ wefan ‘Penllŷn.com’ gyda chymorth Gruffudd Parry, awdur y gyfrol “Crwydro Llŷn ac Eifionydd”. Cyhoeddwyd gwybodaeth gynhwysfawr am hanes Llŷn, yr iaith a’r genedl Gymraeg, yn ddwyieithog ar y we i’r byd. Mae wedi bod yn adnodd gwerthfawr i bawb ac yn enwedig i’r ysgolion a’r plant am ddegawdau. Yn fuan wedyn sefydlwyd Rhiw.com gan Tony a Gwenllian Jones er cof annwyl am eu mab, Sion Rhys, a gollwyd yn 1998. Yn raddol dros y blynyddoedd cyhoeddwyd mwy o wybodaeth a bu Seimon yn chware rhan allweddol i gynorthwyo eraill i ymgyfarwyddo â’r dechnoleg newydd. Ar ei newydd wedd mae’r wefan ‘Crwydro’ yn dilyn yr hanes ar hyd llwybrau Llŷn ac Eifionydd fel ag a wnaethpwyd gan Gruffudd Parry yn 1960.
Mae nod ac amcanion ‘Cyfeillon Llŷn’ a sefydlwyd gan R.S.Thomas a Gruffudd Parry, i warchod yr iaith, yr amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn yn 1984, wedi cael eu hadlewyrchu yn y gwaith o’r dechrau. Yn 2005 cyhoeddwyd y wefan bioamrywiaeth ar gyfer ysgolion cynradd Llŷn sydd yn helpu’r plant i adnabod enwau blodau. Bu cydweithio gyda’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn yn 2013.
Llwybr y Pererinion oedd y llwybr cyntaf i gael ei gyhoeddi ar y we a hynny gan ‘Penllŷn.com’. Arweiniodd hyn at gynllun llwybrau digidol arloesol yn Llangwnnadl ac yn Nefyn yn 2014 lle bu cydweithio gydag Amgueddfa Forwrol Llŷn a Chasgliad y Werin. Bu cydweithio hefyd ar gynllun uchelgeisiol Cyngor Tref Nefyn o dan arweiniad y Cynghorydd Gruffudd Williams, a arweiniodd at ddatblygu ‘Llwybr y Morwyr’ o Nefyn i Abersoch yn 2013 ac at ddechrau datblygu’r wefan yma yn ei sgil.
Mae’r holl wybodaeth ar y gwefannau ar gael yng Ngapel Penygraig yn Llangwnnadl gyda sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Natur Llŷn yn ganolog i bob dim sydd y tu ôl i’r gweithgareddau uchod. Sefydlwyd y ganolfan gyda chefnogaeth Cyfeillion Llŷn a Chymdeithas Penygraig yn sgil y cynllun ‘Croeso Cymraeg’ a noddwyd drwy brosiect Pecynnu’r Profiad gan Gyngor Gwynedd; ac ers hynny cynhaliwyd cyngherddau, arddangosfeydd, darlithoedd a digwyddiadau yno.
Mae’r wefan hon yn uniaith Gymraeg, ar hyn o bryd ac mae’n adnodd i’w defnyddio gan y busnesau twristiaeth a phawb sydd eisiau gwybod mwy am hanes Llŷn ac sydd eisio bod yn rhan o ddarparu ‘Croeso Cymraeg’ i ymwelwyr gael profiad Cymraeg lle bynnag y byddant yn crwydro yn yr ardal. Y gobaith yw, trwy greu rhwydweithiau newydd ar draws Cymru, y bydd nifer yr ymwelwyr fydd yn siarad Cymraeg ac yn disgwyl cael croeso Cymraeg yn codi a bydd y diwydiant yn gorfod darparu gwell gwasanath Cymraeg ar eu cyfer. Bydd y farchnad o fewn Cymru yn tyfu a bydd yn gwneud lles i’r iaith a’r amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn.
Mae Cyfeillion Llŷn
yn gofyn am gefnogaeth a chydweithrediad unigolion, grwpiau, busnesau,
mudiadau, cynghorau a sefydliadau ar draws y sectorau yn lleol a chenedlaethol i estyn ‘Croeso
Cymraeg’ i’r Eisteddfod a gweddill yr ymwelwyr i Lŷn eleni ac yn y dyfodol.
“Mi ddylia’ pob busnes gwyliau ym Mhen Llŷn fod yn gweithredu o leiaf yn ddwyieithog”.