Llwybrau anhygoel llond hanes a diwylliant
Dewis Llwybr yn ôl lleoliad neu fath
Mae'r holl lwybrau yn dangos cyfeirnod grid, pa mor anodd ydyw, pellter, faint o amser a mwy ...
LLEOLIAD LLWYBRAU
Mae'r holl lwybrau wedi'u rhestru yn ôl lleoliad
LLWYBRAU CYLCHol
Gyrru yno, cerdded o gwmpas, gyrru adref
LLWYBRAU BEICIO
Traffig Isel grêt i feicio
ADDAS I GADAIR OLWYN
Mynediad addas i'r anabl
Amdanom Ni
Mae Crwydro.co.uk wedi cael ei sefydlu gan bobl leol sy'n frwdfrydig dros yr ardal, a'i iaith a'i ddiwylliant. Gan weithio gyda chynghorau sir a phlwyf rydym yn gwybod pa lwybrau sydd ar agor, a ble mae’r mannau o ddiddordeb. Rydym yn awyddus i ddangos pobl leol ac ymwelwyr rhai o'r pethau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig, ac i roi mewnwelediad dyfnach i bobl o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal tra maent yn cerdded ar hyd llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y wlad.
Ein Gwasanaethau
Mae pob un o'r llwybrau yn cael cyfarwyddiadau manwl a nodiadau helaeth. Maent i gyd ar gael yn rhad ac am ddim mewn aml fformatau.
LAWR LWYTHO
Gallwch lawr lwytho’r holl fapiau a chyfarwyddiadau i'w hargraffu i fynd gyda chi fel canllaw. Maent ar gael fel ffeiliau pdf oddi ar y wefan, a thrwy dechnoleg NFC 'tap' yn ein siop yn Nefyn, neu drwy gannoedd o bwyntiau gwybodaeth ar y llwybrau ar hyd a lled yr ardal.
GWEITHIO YM MHOB MAN
Rydym yn darparu gwybodaeth traws-lwyfan, aml fformat. Mynediad ar bob dyfais. Fe'i cyflwynir drwy gyfrwng y we, rhwydwaith symudol neu yn y maes trwy godau QR, tagiau NFC ac iBeacons. Beth bynnag yw eich dyfais neu lwyfan, mae 'na ateb i chi.
GWYBODAETH
Rydym yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir. Rhoi'r wybodaeth holl bwysig i chi amdan yr hanes, diwylliant, ac iaith yr ardal. Dyma ein hanes ni, ein diwylliant ni wedi ei osod allan i chi er mwyn cael cipolwg ar wir hanfod a ffabrig Llŷn.
TEITHIAU CERDDED TYWYSEDIG
Os byddai'n well gennych daith gerdded ddwysedig, gallwn drefnu hyn ar eich cyfer - Cysylltwch â ni. Nid ydym ond am ddangos harddwch naturiol yr ardal, fe gewch weld hynny drosoch eich hunain. Bydda ni’n dangos beth sydd yn gorwedd oddi tano.
