d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Garn Fadryn

MANYLION Y DAITH

Amcan o’r hyd: 4.7km/3 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Capel Garn Fadryn, SH 278 352.

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Bwrdd y Brenin – Darn helaeth o garreg gyda wyneb sy’n union fel bwrdd yn agos at Ffynnon y Brenin. Mae i’w weld yn amlwg ar y gwastad i’r gogledd o gopa Garn Fadryn. Y brenin y cyfeirir ato, wrth gwrs, yw’r Brenin Arthur.

2 Ffynnon y Brenin – Ar ochr ogleddol Garn Fadryn, rhyw 25m i’r gorllewin o Fwrdd y Brenin – sydd yn garreg anferth a phetryal gyda wyneb fflat. Mae ar y gwastad cyn codi i’r ddringfa serth i’r copa. Mae’ ffynnon yn eitha dyfn gyda 40cm o ddŵr ynddi. Mae ei hwyneb wedi ei gau’n rhannol â cherrig nes bod yr agoriad yn 40cm x 30cm. Credid fod dŵr meddyginiaethol ynddi i wella anhwylderau’r llygaid, ac “yn llesol i wendidau menywaidd, i amhlantadwy ac i bruddglwyf”, yn ôl Myrddin Fardd.

3 Garn Fadryn – Y prif fynydd yng nghanolbarth Llŷn, sy’n 371m (1217 tr.) o uchder a’r golygfeydd o’i gopa o Lŷn gyfan yn ysblennydd. Y term daearegol am fynydd fel hyn yw monadnock, sef mynydd yn sefyll fel ynys ar lwyfandir. Mae Moel Caerau i’r dwyrain yn 200m a Garn Bach i’r de-ddwyrain yn 280m.

Mae posibilrwydd o weithgaredd cynnar ar gopa Garn Fadryn, sy’n cael ei gynrychioli gan garnedd a chistgladdiad ar y llwyfandir ac un palstaf o Oes yr Efydd a ddarganfuwyd gerllaw. Y dystiolaeth fwyaf gweladwy a dramatig o weithgaredd, fodd bynnag, yw’r amddiffynfeydd sydd wedi’u codi ar y mynydd hwn yn ystod nifer o gyfnodau gwahanol yn y gorffennol.

Mae’r amddiffynfa o’r is-gyfnod cyntaf ar y llwyfandir sydd rhwng tua 340m a 350m uwchlaw’r Seilnod Ordnans, ac mae’n cael ei ddiffinio gan ragfur o gerrig sychion, yn cau o amgylch arwynebedd o tua 5 hecter. Mae dwy fynedfa; y naill yn wal ogleddol y darn caeëdig, a’r llall yn y wal ddeheuol. Mae’r amddiffynfa o’r ail is-gyfnod ar ffurf estyniad o’r ardal gaeëdig i’r llethrau tua’r gogledd ac estyniad llai i’r de. Mae traciau sydd wedi eu diffinio’n dda yn arwain at y mynedfeydd, ac mae’n debygol iawn bod y rhain yn hynafol ac o’r un cyfnod â’r amddiffynfeydd. Ceir clystyrau o adeileddau crwn a phetryal yng nghanol padogau bychain yn erbyn y sgri a’r wal o graig sy’n codi ar ochr orllewinol y llwyfandir. Mae’r adeileddau hyn yn ddiweddarach na’r is-gyfnod cyntaf a gallent fod yn ddiweddarach na’r ail is-gyfnod. Mae tebygrwydd rhwng yr adeileddau hyn ac adeileddau’r is-gyfnod Brythonig-Rufeinig yn Nhre’r Ceiri.

Mae’r adeiladau crynion a elwir yn Gytiau Gwyddelod yn amlwg a cheir olion y muriau amddiffynnol. Mae yma hefyd olion castell o’r 12ed ganrif a godwyd gan Owain Gwynedd. Mae’r wal, lle mae wedi goroesi, yn fertigol, ac mae awgrym bod iddi drwch dwbl mewn rhai mannau. Wal o gerrig sychion ydyw. Ar ôl croesi’r Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd ac ymlaen i Lŷn ym 1188, gwelodd Gerallt Gymro gastell cerrig o’r enw Karnmadrun a oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar ac a oedd yn eiddo i feibion Owain Gwynedd. Mae’n bosibl mai’r cadarnle, waliau cerrig sychion, ar y copa oedd hwn.

Ym 1812, caewyd 230 hecter (568 acer) o Garn Fadryn a Garn Bach drwy amgaead Seneddol. Roedd yr ardal dan sylw’n cynnwys y llwyfandir ar gopa Carn Fadryn yn ei gyfanrwydd a hanner gorllewinol copa Garn Bach. Caewyd llethrau gorllewinol a de-orllewinol y ddau fynydd yr un pryd. Y rhai a fanteisiodd fwyaf o ganlyniad i hyn oedd yr Arglwydd Newborough a William Harvey.

Ceir cyfeiriad hiraethus morwyn fach pan gyfeirir ato mewn hen bennill:

Mi af oddi yma i ben Garn Fadryn
I gael gwelad Eglwys Nefyn,
O amgylch hon mae plant yn chwara’
Lle dymunwn fy mod inna’.

Mae’r ardal yn wledig gyda’i thai ar wasgar; ac ar odre deheuol mynydd Garn Fadryn y ganwyd Ieuan o Lŷn (John Henry Hughes) (1814 – 1903) yn Ty’n y Pwll. Cyhoeddwyd cyfrol o’i gerddi., ‘Caneuon Ieuan o Lŷn’ ond cofir amdano fel awdur dau emyn a welir yn “Caneuon Ffydd” – “Wele wrth y drws yn curo” ac “O Iesu croeshoeliedig”

Ieuan Llŷn
Ieuan o Lŷn

Cysylltir yr enw Garn Fadryn â Madren, wyres Gwrtheyrn Gwrtheneu a ddihangodd i Nant Gwrtheyrn, ac a oedd yn fam i Ceidio. Bu’n rhaid iddynt hwythau ddianc o Nant Gwrtheyrn i loches ar Garn Fadryn. Cysylltiad arall tebygol yw Garth Madryn yn ardal Talgarth ym Mrycheiniog. Dywed traddodiad iddi sefydlu’r eglwys yn Nhrawsfynydd, St Madryn; a’i mab roddod ei enw i blwyf Ceidio, sydd rhwng Garn Fadryn a Nefyn.


ffynonellau llyfryddiaeth

CYFARWYDDIADAU

Cychwyn ger Capel Garn Fadryn (SH278352). Mae lle i barcio i’r gorllewin o’r capel.

  • Cerdded i fyny’r llwybr ar hyd ochr ddwyreiniol y capel a throi i’r dde trwy giât yn ei ben uchaf.
  • Dilyn wal y mynydd tua’r gogledd-ddwyrain I gopa Garn Fadryn
  • Dilyn wal y mynydd ond dal i’r chwith i’r llwybr troellog (SH 281348) i fyny’r Garn.
  • Parhau i ddilyn y llwybr heibio i garneddi ac i’r chwith tua’r copa.
  • Dilyn yr un llwybr i lawr yn ôl at wal y mynydd. (Gellir dychwelyd yr un ffordd i ddechrau’r daith neu ddilyn y gylchdaith o gwmpas godre Garn Fadryn)
    Osgoi cerdded i’r copa ac ymlaen ar Daith Garn Fadryn (Cylchdaith Garn Fadryn: 4.7km – 3 milltir).
  • Mynd dros gamfa yn y wal a chroesi’r drwy’r eithin ac i’r tir agored.
  • Dal i’r chwith (tua’r gogledd-ddwyrain) ac at y wal. Gwelir dwy adwy yn y wal. Mynd trwy’r bellaf ohonynt ac at wal ar ben y bryncyn (SH 286352)
  • Dewis llwybr dros y bryncyn, dilyn y wal a mynd dros y gamfa.
  • Cerdded i lawr y llethr i gyfeiriad Madryn a Phorthdinllaen a dal i’r chwith efo’r wal nesaf.
  • Dros y gamfa nesaf a chadw Garn Fadryn ar y chwith a’r wal ar y dde. Yna croesi pontbren ac at y coed.
  • Mynd dros gamfa gerrig i gae a dilyn y wal (yr ochr isaf iddi) (SH 285357)
  • Parhau dros gamfeydd nes dod allan i lwybr llydan ger murddyn (Tŷ’n Ffynnon / Tŷ Ffebi (SH 276357)
  • Bydd y llwybr yn troi yn ffordd drol ac yna y ffordd dar sydd yn arwain yn ôl i Gapel Garn Fadryn.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn