Nid ardal o ruthro drwyddi yw Llŷn ac Eifionydd a pa ffordd well o fwynhau’r fro nag yn hamddenol ar gefn beic. Fyddwch chi byth ymhell o’r môr na’r mynyddoedd er mai bryniau ydynt mewn gwirionedd. Dilynwch y lonydd culion tawel, gyda’r cloddiau o bobtu yn llawn o flodau yn eu tymor – briallu, blodyn neidr, bysedd y cŵn, bwtsias y gog, gwyddfid, brenhines y weirglodd. Er mai ardal gymharol ddi-goed ydyw cewch eich cysgodi gan ddrain gwynion a duon, eithin a banadl sydd yn tyfu ar y gwrychoedd. Yn Eifionydd mae’r griafolen gyda’i aeron oren yn amlwg iawn. Ynn, derw, llwyfen a masarn yw’r coed mwyaf.
Taith Mynydd Yr Ystum Cychwyn a Gorffen: Canol pentref Aberdaron |
![]() |
Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Hywyn Sant mae dwy garreg fedd o’r 6ed Ganrif ac yn Y Gegin Fawr, sy’n gaffi poblogaidd, y gorffwysai’r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt stormus. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl – cyrchfan arall i’r seintiau.
Am fap a manylion y daith lawrlwythwch: Taith Mynydd Yr Ystum Route
Taith Garn Fadryn Cychwyn a Gorffen: Canolfan Dwristiaeth Abersoch |
![]() |
Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o’ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae’r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.
Am fap a manylion y daith lawrlwythwch: Taith Garn Fadryn Route
Taith Garn Boduan Cychwyn a Gorffen: Y Groes, Nefyn |
![]() |
Mae Nefyn yn dref arbennig a dderbyniodd er siarter gan y Tywysog Du ym 1355. Mae iddi hanes llawn rhamant. Bu yn enwog am ei phenwaig a gwelir y tri phennog ar arfbais y dref. Ceir Amgueddfa Forwrol yn yr hen eglwys. Wrth ddringo’r allt i fyny at Fynydd Nefyn edrychwch yn ôl ar yr olygfa ysblennydd o Faeau Nefyn a Phorthdinllaen. Bu’r ddau fae yn enwog am adeiladu llongau ac yn borthladdoedd llongau hwyliau prysur. Tri chopa’r Eifl sydd i’w gweld ar y chwith.
Am fap a manylion y daith lawrlwythwch: Taith Garn Boduan Route
Cofiwch – Côd Beicio Da
- Darllenwch Reolau’r Ffordd Fawr; dilynwch nhw bob amser.
- Ystyriwch eraill; yn argennig ar lwybrau lle rhennir defnydd.
- Byddwch yn ymwybodol o gerddwyr, canwch y gloch neu galwch arnynt yn gwrtais i’w rhybuddio.
- Sicrhewch fod eich beic mewn cyflwr da.
- Cymerwch ofal wrth gysylltfannau ffyrdd ar elltydd serth, ac ar dywydd gwlyb.
- Gwisgwch helmed beic a defnyddiwch ddillad adlewyrchyddion llachar.