d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Llanbedrog

Manylion y daith

Amcan o hyd: 3.6 km/2.3 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Llanbedrog; SH331 315.

Disgrifiad

1 Traeth Llanbedrog – Mae Traeth Llanbedrog yn un o draethau mwyaf pleserus Llŷn gyda’i wely tywod braf a’i gilfach gysgodol. Mae’r cytiau-newid traddodiadol o bob lliw dan haul yn rhoi cymeriad i’r lle a gwelir olion yr hen bentref pysgota ym mythynnod Foxhall a Hen Dai ac olion yr hen odyn galch. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog y traeth heddiw.

2 Plas Glyn y Weddw – Plasty hardd, gothig a gosgeiddig yw Plas Glyn y Weddw a dyma’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu yn 1857 i gartrefu casgliad celf gweddw stâd Madryn. Mae bellach yn adeilad cadwraeth Gradd II* gyda’i risiau Iacobeaidd a’i drawstiau coed a’i ffenest liw ysblennydd. Fe’i prynwyd gan y dyn busnes Solomon Andrews yn 1896 a’i ddatblygu fel oriel gyhoeddus, gan adeiladu tramffordd rhyngddo â thref Pwllheli. Mae hen dram wedi’i adfer i’w weld yn y gerddi ac mae amffitheatr awyr agored erbyn hyn yng nghysgod y winllan. Ymddiriedolaeth sy’n rhedeg yr oriel ers 1996.

Cymerwch daith rithwir o’r Plas

3 Y Winllan – Datblygwyd y goedwig, a elwir yn ‘Winllan,’ ar lethr cysgodol uwch ben yr Oriel yn nyddiau Solomon Andrews. Aeth yn wyllt yn hanner olaf yr 20fed ganrif, gyda llwyni rhododendron a llawryf yn ymledu a thagu’r llwybrau. Adferwyd y Winllan yn 2008 ac ailagorwyd Llwybrau Madryn a Solomon drwy’r coed.

4 Y Dyn Haearn – Mae’r ‘Delw’ ar ben llwybr y Winllan a llwybr y Traeth ac mae’n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a phobl leol. Penddelw llong osodwyd yno yn wreiddiol gan deulu Solomon Andrews. Llosgwyd honno gan fandaliaid ac yna comisiynwyd un haearn gan artist lleol yn yr 1970au. Pydrodd honno gydag amser a chodwyd y Delw presennol yn 2002.

5 Mynydd Tir-y-cwmwd – Rhostir arfordirol gyda’i lwyni eithin, grug a llus yw Mynydd Tir-y-Cwmwd Mae wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n ymestyn allan i’r môr fel pentir crwn, moel, trawiadol ac yn codi i 132metr uwchlaw’r Seilnod Ordnans ger y glannau. Ym 1808 pasiwyd Deddf Amgau ar gyfer Tir Comin Mynytho a Mynydd Tir-y-Cwmwd. Caewyd 122 hecter o Fynydd Tir-y-Cwmwd (302 acer). Mae olion hen gromlech yma a hefyd weddillion tri gwaith ithfaen i lawr ar lan y môr. Bu’r rhain yn gweithio rhwng 1850-1949 yn cynhyrchu cerrig palmantu (sets) a cherrig mân (metlin), gan allforio o lanfeydd pwrpasol.

'Silos chippings' Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog
‘Silos metlin’ Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog

Ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd ar Fynydd Tir-y-Cwmwd ers i’r chwareli gau ym 1949, ar wahân i ddatblygiad anorfod maes carafanau a chabanau gwyliau ar ochr ddeheuol gwddf y pentir, a mwy o garafanau tua’r gogledd. Mae’n ithfaen felynach na gweddill chwareli’r ardal ac mae enghreifftiau ohoni i’w gweld ar rai o strydoedd hynaf Pwllheli (Stryd Penlan).

6 Ynysoedd Tudwal – Mae dwy ynys – Ynysoedd Tudwal – i’w gweld yn glir ar y daith. Sant yn oes yr Eglwys Geltaidd oedd Tudwal ac roedd ganddo ei gell ar yr ynysoedd. Mae goleudy ar yr ynys fwyaf orllewinol ac mae llwybrau Ynysoedd Tudwal yn angorfa ddiogel i longau ar dywydd stormus.

Ynysoedd Tudwal
Ynysoedd Tudwal

7 Eglwys St. Pedrog Llanbedrog (SH29562895) – Byddai’r pererinion ar eu taith o’r dwyrain a’r de i Ynys Enlli yn siwr o alw yn yr eglwys i weld Picell Pedrog cyn mynd ymlaen i gyfeiriad Llanengan. Ar eu ffordd byddai modd ymweld â Ffynnon Bedrog neu Ffynnon Fyw ym Mynytho. Dwy eglwys sefydlodd Pedrog yng Nghymru, un yn Llanbedrog a’r llall yn St Petrox, de Penfro. Un o’r creiriau a arferai fod yn yr eglwys oedd ei waywffon. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at ‘Lanredauc’.

Eglwys St Pedrog Llanbedrog
Eglwys St Pedrog Llanbedrog

Mae corff yr eglwys wedi’i chodi yn y 13eg ganrif; a’r gangell yn dyddio o’r 16eg ganrif sef yr un cyfnod â’r sgrin sy’n eu gwahanu. Cafodd hon ei chuddio ar y traeth yn ystod y Rhyfel Cartref pan ddefnyddiai Sieffre Parry a’i filwyr yr eglwys fel stabl i geffylau’r Seneddwyr. Mae darnau gwydr o’r ffenestri gafodd eu torri bryd hynny wedi eu casglu i ailgreu ffenestr liwgar yng ngorllewin yr eglwys.

Yn 1827 cafodd yr adeilad ei atgyweirio drwy ailgodi’r waliau. Bu atgyweirio helaeth yn 1865 ac adeiladwyd y tŵr a’i ail-doi yn 1895. Mae’r dyddiadau hyn ar y talcen yn y tŵr. Bu cysylltiad clos rhwng Teulu Jones Parry, Madrun, (Glyn y Weddw’n ddiweddarach) â’r eglwys. Cyflwynasant roddion i’r eglwys a defnyddir y cwpan cymun heddiw. Mae cerrig beddau aelodau’r teulu yn y fynwent.

8 Ffynnon Pedrog – Mae Ffynnon Pedrog (SH 3250032190) gryn bellter o eglwys y plwyf. Gan fod yr ardal wedi gordyfu ac yn wlyb nid yw ei hunion leoliad yn hysbys. Roedd yn ffynnon feddyginiaethol bwysig wedi’i hadeiladu â cherrig ac yng nghanol y 19eg ganrif byddai’n denu cleifion a dioddefai o bob math o anhwylderau. Wrth ei glanhau cawsant hyd i lestr yn llawn o binnau; pinnau a gai eu hoffrymu wrth gesio ennill gwellhad. Credid hefyd y gallai’r ffynnon ddatrys lladrad. Rhaid fyddai dangos ffydd yn y FFynnon trwy benlinio, rhoi bara brown yn y dŵr a sibrwd enwau’r lladron. Pan gâi’r lleidr ei  enwi byddai’r bara’n suddo.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Croeswch lôn y traeth ar ôl gadael y maes parcio a cherdded i fyny lôn Plas Glyn y Weddw. Pasiwch heibio’r plas a cherdded heibio’r theatr awyr agored newydd sydd yno.
  • Mae’r llwybr yn codi’n raddol drwy’r coed, gyda grisiau cerrig ar y ddringfa olaf at lwyfandir y rhostir.
  • Dilynwch y llwybr sy’n cylchu’r trwyn, gan fwynhau golygfeydd godidog o Fae Llanbedrog, mynyddoedd Eryri a Bae Ceredigion ac yna, wrth droi gyda’r pentir, daw Ynysoedd Tudwal i’r golwg ac yna golygfa o fryniau Llŷn.
  • Pan ddewch o lwybr y mynydd i ffordd drol ac yna i lôn darmac, trowch i’r dde. Byddwch yn cerdded heibio tai uchaf y pentref ac yn dod i lawr yr allt at neuadd yr eglwys.
  • Trowch i’r dde eto ar hyd lôn y traeth a dychwelyd i’r maes parcio sydd ar y chwith ichi.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn