d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Llwybr Groeslon – Clynnog Fawr

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 10.8km/6.7 milltir.
Amcan o’r amser: 3 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.
Man cychwyn/gorffen: Groeslon, SH 467 530.

Pethau i weld ar y daith

1 Lôn Eifion – Llwybr 20km i gerddwyr a beicwyr a adeiladwyd ar wely yr hen reilffordd a arferai redeg i Afon Wen. Rhan o rwydwaith ehangach o Lonydd Glas.

2 Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr – Mae gan Glynnog Fawr un o’r tair o eglwysi plwyf mwyaf nodedig yng Ngwynedd. Mae’n ymdebygu i Gadeirlan o ran graddfa o’i gymharu ag eglwysi eraill yn Llŷn, ac fe sylwch chi arni’n syth o’r ffordd fawr, gyda’i thŵr uchel a’i chapel bylchfuriog ar wahân. Mae’n eang ac yn olau braf y tu mewn gyda tho pren coeth a chroglen gywrain (sy’n gwahanu’r gangell a chorff yr eglwys).

Eglwys Clynnog Fawr
Eglwys Clynnog Fawr

Sefydlwyd mynachlog pwysig yng Nghlynnog yn y seithfed ganrif gan Beuno Sant, y dathlir ei ddydd gŵyl ar Ebrill y 21ain. Roedd yr Eglwys yng Nghlynnog yn un o’r mannau mwyaf sanctaidd yng Nghymru, ar y cyd ag Eglwys Tyddewi yn Sir Benfro ac Ynys Enlli.

Pan ddyfarnodd y Pab Calixtus II fod dwy daith i Dyddewi’n gyfwerth ag un i Rufain, daeth pererindodau o fewn Cymru’n fwyfwy poblogaidd ac erbyn yr unfed ganrif ar ddeg a’r ddeuddegfed ganrif tua’r flwyddyn 630, roedd y daith i Enlli’n boddi dan bererinion, a phob un ohonynt yn aros yng Nghlynnog wrth gysegrfa enwog Beuno. Mae arddangosfa ddiddorol am yr eglwys yn cynnwys gwaith diweddar y gellir ei weld yn www.treftadaetheryri.info/cy/location/437/st-beuno-church/ .

3 Ffynnon Beuno – Mae Ffynnon Beuno wedi’i lleoli o fewn amgae gerrig ac mae’n un o nifer o ffynhonnau sanctaidd ar y llwybr o Dreffynnon i Enlli. Credai’r pererinion y gellid gwella unrhyw salwch drwy ymweld â mannau arbennig ac yfed dŵr o Ffynhonnau Sanctaidd.

Ffynnon Beuno
Ffynnon Beuno

4 Bryngaer Dinas Dinlle (SH 43685 56474) – Mae bryngaer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi’i lleoli ar fryn o waddodion drifft rhewlifol (marian gwth-floc yn benodol) sy’n edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol sir Gaernarfon. Mae’r fryngaer a’r ffos ‘wylan’ o’r Ail Ryfel Byd ar lethrau gogleddol y gaer wedi’u diogelu fel Henebion Cofrestredig gan Cadw, ac mae’r bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar sail pwysigrwydd ei waddodion rhewlifol, y gellir eu gweld yn glir yn y rhannau wedi’u dinoethi o glog-glai, tywod a graean yn wyneb y clogwyn. Cafodd y rhain eu dyddodi pan ymledodd iâ o’r y war o’r cap iâ Cymreig tuag at Ffrwd Iâ Môr Iwerddon yn ystod dadrewlifo ar ddiwedd y rhewlifiant diwethaf, y cyfeirir ato fel y cyfnod Defensaidd, tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Mwy…

Mae’n debygol iawn fod pobl ar y safle yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar – mae’r enw Dinas Dinlle i’w gael yn chwedl Math fab Mathonwy a Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi lle ceisir esbonio’r enw Dinlle fel cyfuniad o ‘din’, hen air Cymraeg am gaer, a ‘Lle’, ffurf fer ar Lleu.

.

5 Cromlech Fachwen (SH 40769 49477) – Mae’r gromlech yn dyddio o’r cyfnod Neolithig cynnar (c.4,200CC – 3,000CC).Mae’r beddrod bach hwn wedi’i alinio o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae’n sefyll yng nghanol cae sy’n edrych dros y môr. Mae’n cynnwys pedwar unionsyth, tua 1.1m o uchder sy’n cynnal capfaen trionglog y mae ei ddimensiynau mwyaf yn 2.5m o hyd, 1.3mo led a 0.5m o drwch. Mae unionsyth deheuol y siambr yn un modern yn ei le. Mae’r heneb yn fwyaf adnabyddus am ei chapfaen addurnedig gyda 110 marc cwpan a dwy rigol fas. Ceir wyth cwpan arall ar ochr ddwyreiniol y capfaen. Cloddiwyd y siambr yn 1876; ni chofnodwyd dim o ddiddordeb yn ystod y cloddiad hwnnw.

.

Cromlech Bachwen
Cromlech Bachwen

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

Wrth i chi adael Groeslon fe welwch wal hen stâd Glynllifon ar y dde. Y plasty sy’n sefyll yn ganolbwynt i’r stâd oedd cartref yr Arglwydd Newborough a’i deulu a fanteisiodd ar y cyfle i ennill cyfoeth mawr pan oedd y diwydiant llechi yn ei anterth. Bellach, mae rhannau helaeth o stâd Glynllifon yn gartref i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor a’r gerddi hanesyddol yn rhan o Barc Gwledig gyda cherfluniau awyr agored
difyr.

Wrth i chi agosáu at un o wir drefi’r chwareli, sef Penygroes mae eich llwybr yn troi oddi ar y lôn las ac yn
ymdroelli trwy’r caeau tua’r arfordir.
Wrth Bontllyfni mae gennych ddewis o barhau i gerdded trwy gaeau’r iseldir neu droi at y môr. O wneud hyn cewch olygfeydd gwerth chweil tua Dinas Dinlle gyda hen gaer yr Oes Haearn yn sefyll uwchben y tonnau fel pe tae’n gwarchod y bae.

Os ydych yn ymweld pan fo’r llanw’n isel fe welwch nodwedd hynafol arall y fro sef Caer Arianrhod rhyw
gilomedr o’r lan. Dyma gastell honedig un o gymeriadau chwedlau’r Mabinogi sydd mwy na thebyg yn bentwr o gerrig a adawyd ar ôl wrth i’r rhewlifau gilio.

Wrth bentref bach Aberdesach fe drowch yn ôl at y brif lwybr sydd yn arwain at Glynnog Fawr.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn


Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma – Caernarfon – Trefor