d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Llwybr Arfordir Gogledd Llŷn

Rhybudd! Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys nag iaith unrhyw wefan allanol!, mae’r wybodaeth am y daith isod, er yn Gymraeg, yn arwain at nifer fawr o safleoedd we a gwybodaeth uniaith Saesneg.

Mae’r llwybr cerdded yma yn cysylltu pentrefi arfordirol Llanbedrog ac Aberdaron ar arfordir de-orllewinol Pen Llŷn. Mae’n dilyn llwybr arfordir Cymru ac yn gweld nifer o safleoedd  EcoAmgueddfa  Pen Llŷn ar hyd y ffordd. Mae’r daith tua 39km o hyd, ac mae’n cael ei dangos yma fel un o gyfres o lwybrau y gellir eu cysylltu â’i gilydd fel antur pedwar neu bum niwrnod o amgylch Pen Llŷn ar droed. Maen cymryd rhwng 8 ac 11 awr i gwblhau’r daith, felly gallwch ei gwblhau mewn un diwrnod neu gallwch gerdded darnau llai ohono os byddai’n well gennych gymryd eich amser a mwynhau ardaloedd ar hyd y ffordd am fwy o amser.

Dyma’r llwybrau eraill yn y gyfres yma – Llwybr Arfordir y De