d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Tudweiliog (Porth Ychain)

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 6.7 km/4.2 milltir.
Amcan o’r amser: 2.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio’r ‘Lion’ (SH 236367).

Pethau i weld ar y daith

1 Tudweiliog – Dywedir mai Tudwal oedd y sant gwreiddiol y plwyf ac mai ef a roddodd ei enw i’r pentref. Eglurir enw’r pentref hefyd gyda stori am ddyn a’i geffyl yn nofio o Iwerddon i Lŷn, ac er mwyn annog y ceffyl i nofio’n gyflymach mae’n galw arno “Ty’d Weiliog! Ty’d Weiliog”!’ Eglurhad arall yw bod modd ers talwm groesi ar gefn ceffyl i Iwerddon ar drai. Wrth ddychwelyd i Dudweiliog ar gefn ei geffyl o’r enw Gweiliog, clywodd y person gloch yr eglwys yn galw’r plwyfolion. Ceisiodd ruthro’i geffyl a gweiddi ‘Tyrd Weiliog’! Awgrymir hefyd fod yr enw’n gysylltiedig â Sant Tudwal.

Tudweiliog
Tudweiliog

2 Eglwys Tudweiliog– Nawddsant yr eglwys yw Cwyfan. Ef hefyd sefydlodd eglwysi yn Llangwyfan, Dinbych ac ar Ynys Cwyfan ym Môn. Cynlluniwyd yr eglwys bresennol gan Syr Gilbert Scott a’i hadeiladu yn 1849 o garreg leol. Mae’n rhaid bod eglwys Cwyfan Sant wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned hon erioed. Ym 1564 rhoddwyd tir yn Nhudweiliog i John ap Gruffydd ap David ap Madog o Fadryn – tir a oedd yn arfer bod yn rhan o ddaliadau Enlli – i’w ddal mewn ffi fferm gan John Wyn ap Hugh o Fodfel. Mae enwau’r cydrannau’n ddiddorol: tenement o’r enw Hengwrt neu, yn lle hynny, y Cae Mawr, a oedd yn cynnwys Dryll Cerrig Llwydion; yr Hirdir Mawr; Erw’r Eglwys; Llain yr Abad; y Talarau Hiron a Llain dan y cae mawr. Mae’r caeau’n cyfeirio at diroedd âr meysydd agored; at yr eglwys; at abad, a allai fod yn gyfeiriad at gymuned glas flaenorol a ‘Hengwrt’ anhysbys. Ailadeiladwyd eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog, yn gyfan gwbl ym 1849 gan y pensaer George Gilbert Scott.

3 Tywyn – Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau – y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.

4 Traeth Tywyn – (SH 23103755) Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma’r Ebol – mae ôl carn ebol i’w weld arni. Pan fyddai ôl y carn wedi’i orchuddio â thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau’r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o’r ardal luchio’r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau’n codi yn eu gwerth!

5 Porth Sglaig – Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i’r môr Gwelir olion melin o’r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y môr mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog. Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill. Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety’r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.

6 Porth Cychod – Cysylltir y fan hyn a digwyddiad arbennig iawn. Un bore ym mis Mawrth 1933, cychwynnodd dau lanc ifanc allan mewn cwch i osod cewyll, ond collasant eu rhwyfau. Fe’u cariwyd allan i’r môr gan y gwynt a’r llanw a’r diwedd fu iddynt gael eu golchi i’r lan yn Kilkeel yng ngogledd Iwerddon. Gallwch ddychmygu’r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a’r llawenydd pan gafwyd y neges fod yr hogiau’n
ddiogel.
Tybed beth fyddai eu tynged pe bai’r gwynt wedi chwythu ychydig mwy i’r gorllewin a’u gyrru heibio gogledd Iwerddon. Ar yr allt gwelir adeilad a fu unwaith yn fan i deulu Cefnamwlch gysgodi pan ddeuent i fwynhau’r haul ac awel y môr yn ystod yr haf.

Porth Cychod
Porth Cychod

7 Porth Ysgaden – Un o’r porthladdoedd bychain a fu’n brysur yn gwasanaethu ardal wledig Pen Llŷn, ardal brin ei thrafnidiaeth ar dir. Deuai llongau bychain yma rhyw hanner dwsin o weithiau bob blwyddyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl David Thomas.
Yn y ganrif flaenorol deuent o Lerpwl a Chaer yn bennaf gan fewnforio nwyddau megis llestri, haearn, lledr, pyg, tar, baco, snisin, te, coffi, gwin, siwgr, orennau ac ati. Deuid â sôp wast yn falast o Iwerddon i’w chwalu ar y caeau fel gwrtaith i’r tir, ynghyd â chanhwyllau gwêr, lliain, a chasgenni gweigion i’r penwaig.

Porth Ysgaden
Porth Ysgaden

Un tro, ym mis Awst 1759, daeth pum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth Ysgaden. Deuid â glo yma wrth gwrs ac mae’r ierdydd i’w gweld heddiw. Mewnforid hefyd galch a chodwyd odyn i’w losgi. Arferai gwragedd yr ardal ymgynnull i wau a chadw’n gynnes wrth dân yr odyn. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynnyrch fferm a allforid – nwyddau megis menyn a chaws.
Arferai’r murddun a welir ar ben yr allt fod yn gartref i saer cychod a’i deulu. Ar dywydd garw arferai’r fam grogi cannwyll yn y ffenestr i rybuddio llongau fod creigiau ysgithrog islaw.

8 Porth Gwylan – Traeth cysgodol yn wynebu’r gorllewin. Ar yr allt mae man a elwir yn Ogof Gigfran. Gwelir nyth cigfran yn y creigiau.

9 Porth Ychain – Mae hanes i dair ar ddeg o fuchod Tŷ Mawr Penllech fynd dros yr allt yn Ogof Fari, stori sy’n gwneud i rywun feddwl mai hyn roddodd fod i’r enw Porth Ychain. Hanes difyr arall yw’r un am y llong a gariai lwyth o rum a ddaeth i’r lan rhyw dro, gyda dim ond wats yn tician mewn caban a mochyn byw ar ei bwrdd. Beth achosodd hynny tybed?
Dywedir bod y llyfr log wedi ei gwblhau yn daclus am y diwrnod cynt. Ceir stori gyffelyb gan Ioan Mai Evans yn narlith Clwb y Bont 1990 pan gyfeiria at long yn dod i’r lan â mochyn du arni a brynwyd wedyn gan hwsmon Cefnamwlch.

10 Tyddyn Belyn – Dywedir y bu eglwys yn yr ardal hon yn yr hen amser wedi ei sefydlu gan Belyn Sant. Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau – y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Dilyn cyfarwyddiadau Taith Porth Ysgaden nes cyrraedd Porth Ysgaden.
  • Parhau ymlaen ar Lwybr Arfordir Llŷn heibio Porth Gwylan (SH 216368) ac i Borth Ychain (SH 209360). Gellir byrhau’r daith yma trwy ddilyn Taith D Byr
  • Gadael yr arfordir a dilyn llwybr a lôn drol heibio Tyddyn Belyn (SH 2178360) i Ffordd yr Arfordir.
  • Dal i’r chwith ac ar lwybr i’r dde heibio ‘Raifft (SH 224358).
  • Wrth ddod allan i’r ffordd, dal i’r dde ac i Benlon Caenewydd (SH 230361)
  • Dilyn y B4417 i’r chwith at Dudweiliog ond troi i’r chwith cyn cyrraedd Siop Isaf (SH 234364).
  • Dal i’r dde heibio’r Felin ac i fyny’r llwybr at yr Ysgol.
  • Dychwelyd i faes parcio’r ‘Lion’.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn