d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Llangwnnadl

Manylion y daith

Amcan o’r hyd: 6.4 kilometr/4 milltir.
Amcan o’r amser: 2.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Penllech, SH206 342.

Disgrifiad

Llangwnnadl – Ystyr Llangwnnadl yw Eglwys Gwynhoedl ond Nantgwnnadl oedd yr enw tan yr 16eg ganrif pan newidiwyd o i gyd fynd â’r llannau eraill. Honna rhai fod Gwynhoedl Sant  (o’r 6ed ganrif) yn fab i Seithennin. Hwn, yn ôl y chwedl, fu’n gyfrifol am foddi teyrnas Cantre’r Gwaelod sydd bellach o dan y môr ym mae Ceredigion. Fel ei frodyr, roedd Gwynhoedl yn aelod o Goleg Dunawd, ym Mangor Is-Coed; ac roedd un o’i frodyr yn feudwy ar Ynys Enlli. Yn ôl hen draddodiad daeth y teulu i Langwnnadl o Lannor, pentref ger Pwllheli (yn wir mae lle yn Llannor o’r enw Maes Gwyn), a’r gred ydi fod Gwynhoedl, yr arweinydd, wedi marw cyn iddynt adael gan ddod â’i gorff hefo nhw i’w gladdu yma. Mwy… Llangwnnadl.org.uk

1 Porth Colmon – Un o’r porthladdoedd mwyaf dymunol yn Llŷn, gyda ffordd gar yn arwain i lawr ato oddi wrth Gapel Penygraig. Mae Porth Colmon yn enghraifft nodedig o byrth arfordirol traddodiadol gogledd Llŷn. Cafnwyd glanfa yno i longau’n hwylio gyda’r glannau drwy chwythu’r creigiau ar y traeth llechog. Galwai stemars yno yn ddiweddarach gan gludo nwyddau a theithwyr yn ôl ac ymlaen i Gaernarfon a Lerpwl. Gallwch ganfod dolennau haearn ar gyfer rhwymo’r hen longau yng nghreigiau’r lanfa o hyd ac mae olion iard lö ac odyn yn y borth.

Porth Colmon
Porth Colmon

Ar fwrdd treftadaeth ger giât y llwybr, mae disgrifiad da o’r winsh arbennig a adeiladwyd yno ar gyfer dadlwytho llongau. Yn y pumdegau bu bron i ni golli’r Borth am byth. Ond diolch i frwydro ystyfnig y brodorion lleol, gorchfygwyd y Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag cael mynd  i lawr i’r Borth Mwy…

Porth Colmon
Porth Colmon

2 Porth Tŷ Mawr – Enw arall ar Porth Tŷ Mawr yw Porth Wisgi. Yn 1901 drylliwyd llong y Stuart ar y creigiau yma. Roedd ar ei ffordd o Lerpwl i Seland Newydd gyda swyddogion ifanc a chriw o 19. Daeth y criw i’r lan yn ddiogel a chredid y gellid ailgodi’r llong ar lanw uchel. Ond daeth storm o’r môr gan dorri ei mastiau ac agor yr howld gan wasgaru ei chargo ar hyd y glannau. Ymysg y llwyth roedd llestri, pianos, canhwyllau – a stowt a wisgi. Mae baledwyr a haneswyr lleol yn sôn am firi mawr wrth i bobl yr ardal heidio i’r pyrth i gasglu’r nwyddau a rhai yn cythru’r poteli wisgi, eu hagor ar y creigiau a’u hyfed yn y fan a’r lle. Does fawr ddim i’w weld o weddillion y Stuart erbyn hyn, heblaw am ddarnau o’i haearn yma ac acw yn y caeau a malurion llestri yn y cerrig trai.

Y stuart -Porth Tŷ Mawr
Y stuart -Porth Tŷ Mawr

Ceir peth o hanes y “Stuart” yn “BIas Hir Hel” a hefyd fe’i crybwyllir yn “Pigau’r Sêr” gan John Griffith Williams. Cafodd J. G. Williams ei garcharu yn ystod yr ail ryfel byd am, yn ei eiriau ei hun yn ei gyfrol Maes Mihangel (1974), “wrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru.” Yn ôl darlith Robin Gwyndaf, ymwelodd Serah Trenholme, â’r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cafodd Elfed Gruffydd ei hanes yn fanwl gan ei ewythr, Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i’r cyfan ac yn gofnodwr manwl. Mwy…

3 Eglwys Llangwnnadl – Mae Eglwys Llangwnnadl yn un o hen eglwysi Llŷn a oedd ar Lwybr y Pererinion  i Ynys Enlli yn yr Oesoedd Canol. Roedd Gwynhoedl, nawdd sant yr eglwys, yn un o’r seintiau cynnar (pan oedd yr Eglwys Geltaidd yn ffynnu ar lannau gogledd orllewinol Ewrop yn y bumed a’r chweched ganrif). Ar giât haearn, addurniedig yr eglwys mae’r geiriau ‘Tŷ Dduw’ a ddyluniwyd gan J. G. Williams (awdur “Piga’r Sêr” a “Maes Mihangel”) a gof Aberdaron a’i gwnaeth. Mae’r eglwys ei hun yn adeilad hyfryd, gyda thair cangell ac mae’n debyg mai’r un ganol yw’r hynaf.

Eglwys Llangwnnadl
Eglwys Llangwnnadl

Gwynhoedl oedd un o seintiau cynharaf Llŷn. Yn yr eglwys mae carreg sy’n gysylltiedig â Gwynhoedl y credir iddi fod yn garreg fedd iddo. Canfyddwyd hi wrth adnewyddu’r eglwys yn 1940au , pan dynwyd plaster oddi ar y waliau. Y mae’r garreg i’w gweld yn wal ddeheuol yr eglwys  ac wedi ei thorri arni mae croes geltaidd. Gellir tybio fod y groes wedi ei phaentio ar y dechrau gan fod olion lliw coch i’w gweld arni o hyd. Mae haneswyr amlwg wedi dyddio’r garreg i gyfnod o gwmpas 600 A.D.

Ffilm o Eglwys Llangwnnadl
gloch

Un arall o geririau’r blynyddoedd cynnar yw cloch sanctaidd o efydd. Mae’n dyddio yn ôl i’r 6ed  ganrif, ac fe’i defnyddir mewn llyfrau safonol fel enghraifft gynnar o waith metel. Yn anffodus nid yw’r gloch yn yr eglwys bellach, ond gellir ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd ei chadw yng Nghastell Madryn yn ystod y gwaith adnewyddu a fu ar yr eglwys yn y 19eg ganrif, a daeth i’r golwg unwaith eto yn yr ocsiwn yng Nghastell Madryn pan gafodd ei gwerthu am £44 2s. Ond mae castin manwl ohoni bellach yn yr eglwys ar ol iddi gael ei ei chyflwyno i’r eglwys ychydig flynyddoedd yn ôl gan y diweddar Mr. W. J. Hemp, Cricieth; hynafiaethwr amlwg a chyfaill ffyddlon i’r eglwys. Mwy…

4 Capel Penygraig – Mae Canolfan Dreftadaeth a Natur Llŷn wedi’i leoli yng Nghapel Penygraig . Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig, Yn 1863 codwyd capel ar dir y fferm a chodwyd y capel  presennol yn 1901. Roedd yr ysgubor ddegwm yn y beudy tu ôl i’r capel. Pan gaewyd Ysgol Llangwnnadl yn 1949, cynhaliwyd ysgol i’r plant ieuengaf yn festri’r capel tan ddiwedd yr 1960au pan gludwyd y plant i Ysgol Tudweiliog.

Capel Penygraig ar hen gytiau ar Y Dryll
Siop Penygraig, Capel Penygraig ar hen gytiau ar Y Dryll

Mae John ac Alun wedi canu am hanes y teuluoedd hynny a allfudodd i Ogledd America ar ôl cynnal eu gwasanaeth olaf yng Nghapel Pen y graig cyn cerdded i Borth Golmon a ffarwelio gyda theulu a ffrindiau am byth. Neu mae hi’n bosib mai hwylio o Bwllheli a wnaethont. Ond mae un peth yn sicr a hynny ydi y cynhaliwyd  gwasanaeth emosiynol iawn yn y capel yn 1825 i ffarwelio â dros hanner cant o drigolion y plwyf a oedd yn gadael eu bro am byth ac yn ymfudo i’r America. Mwy…

5 Siop Penygraig – Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig, lle sefydlwyd Siop Pen y graig,, sydd wedi cau erbyn heddiw ond a fu‘n un o siopau pwysicaf y wlad yn ei chyfnod, yn gwerthu’r ffasiwn diweddaraf a thynnu cwsmeriaid o bell. A daeth teulu’r Siop yn enwog am eu meddyginiaeth gyfrinachol i wella’r ddafad wyllt (canser ar y croen). Mae carreg fedd Owen Griffiths i’w gweld ym mynwent Llangwnnadl.

Siop Penygraig
Hen Siop Penygraig
Carreg fedd Owen Griffiths
Carreg fedd Owen Griffiths

6 Minafon – Roedd Minafon yn ganolfan i wŷr a gwragedd y cylch am gyfnod byr ddechrau’r 20ed ganrif am mai yno yr oedd siop a swyddfa’r fenter seithug honno, Cymdeithas Gydweithredol Amaethyddol Llŷn. Pan agorwyd y “Co-op” yn 1913, fe benodwyd  Evan Williams yn Ysgrifennydd, a phan ddaeth y Gymdeithas i derfyn digyllid yn 1928, fe adawyd yr Ysgrifennydd heb ddim ar ei elw yn llythrennol. Dim ond dwy siwt a beic ac ychydig lyfrau!

Co-op Minafon
Co-op Minafon

Un elfen adfydus ym methiant y Gymdeithas oedd y lorri stêm (neu “dracshion” ar lafar) a brynwyd am bymtheg cant o bunnau i gludo nwyddau dros y pedair milltir ar ddeg o Bwllheli, gan mai dyna ben draw’r trên. Ond yn fuan ar ôl ei phrynu fe ddaeth lorri betrol yn beth gweddol gyffredin, a bu’r “tracshion” yn ei gwt ym Mhenygroeslon heb godi’r un pwff o stêm am rai blynyddoedd, nes ei gwerthu’n sgrap yn y diwedd am drigain punt.

7 Coets Tir Gwenith – Yn y 19eg ganrif roedd pobl a masnach Llŷn yn dibynnu ar goets a cheffyl i’w cario o Bwllheli. Coets Tirgwenith a’r bws yn ddiweddarach a ddeuai i Langwnnadl drwy Nefyn ac Edern ac mae llorp y goets i‘w gweld ym Mhen y graig heddiw.

Coets Tir Gwenith yn Tudweiliog
Coets Tir Gwenith yn Tudweiliog

8 Yr Hen Ysgol – Y GANOLFAN  – Caewyd yr Ysgol yn 1949. Ond ar ei newydd wedd mae hi’n Ganolfan Gymunedol, erbyn hyn, lle cynhelir pob math o weithgareddau o ddawnsio gwerin i chwarae bingo. Yma yn Nhŷ’r Ysgol yr oedd Dr. Jôs (meddyg yn Nhŷ Doctor, Botwnnog) a’i wraig Jini “Jini Ty’r Ysgol” yn byw. Roedd Jini Jones yn athrawes yn yr ysgol yn ogystal â bod yn artist. Hi ddyluniodd y cymeriad Porci yn y cylchgrawn “Hwyl”, i blant ac ysgrifennu “Tomos o Enlli”. Roedd Dr. Jôs a Jini Jos yn sicr yn ddau o gymeriadau lliwgar Llŷn.

Hen Ysgol
Hen Ysgol

Mwy...

9 Maen Hir Llangwnnadl (SH 208325) – Saif y Maen Hir ar ben bryn bychain. Mae’n 3metr o daldra, ac yn fras mae ei groestoriad yn betryal o faint 60x40cm. Mae dyddio’r meini’n parhau’n ddirgelwch ond mae cytundeb iddynt gael eu codi yn gynnar yn Oes yr Efydd (2500-1500 CC). Ni wyddom pam y cafodd y meini urddasol eu codi. Oes arwyddocâd i’w safle mewn perthynas â’r mynyddoedd cyfagos megis Garn Fadryn neu Fynydd Y Rhiw? A oeddynt yn fannau sanctaidd yn yr hen oes? Ai cerrig beddi ydynt i arwyr neu benaethiaid llwythi? A gawsant eu defnyddio mewn seremonïau ‘paganaidd’ a bod o bosib elfen Gristnogol wedi’i ychwanegu’n ddiweddarach? Ai eu codi i’w defnyddio mewn astudiaethau seryddol oedd y bwriad? A oes arwyddocâd i’w safleoedd mewn perthynas â’r tymhorau, codiad yr haul ar Alban Hefin (hirddydd haf) neu gylchdro’r lleuad? Neu ai mynegbyst i gyfeirio teithwyr yn ystod y canrifoedd cynnar oeddent? Pwy a ŵyr.

Ond yn sicr ni chodwyd nhw ar chwarae bach nac yn fympwyol.

Maen Hir Llangwnnadl
Maen Hir Llangwnnadl

10 .Traeth Penllech (SH 205346) – Cyfarwyddiadau: Naill ai dilynwch y ffordd isaf gul ar hyd yr arfordir o Langwnnadl i Dudweiliog trwy hen blwyf Penllech a pharcio yn y maes parcio (ger Pont yr Afon Fawr)  ger Bryn Geinach yna cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus i’r traeth Neu, wrth gwrs, gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Borth Colmon tua’r dwyrain.
Mae’n draeth eang tywodlyd sy’n ymestyn o Benrhyn Melyn yn y pen gogleddol i gyrion Porth Colmon. Mae ynddo gilfachau creigiog yn dwyn enwau fel Porth Sion Dafydd, Pont Bridd a Thŷ Nain. Yng Nghreigiau Duon Berth Aur mae Ogof Huw Sion Fychan, ogof gron rhyw lathen o’r tywod. Pwy oedd Huw Sion Fychan a pham fod twll ebill yn ei llawr? Dirgelion na chawn fyth ateb iddynt, mae’n bur debyg. Ym mhen gogleddol y traeth cyn cyrraedd Fach Penrhyn (Fach Peryn) mae ogof arall o’r enw’r Popdy Du y credir i Hywel Harries fod wedi pregethu ohoni i gynulleidfa ar y traeth pan ar un o’i deithiau cynharaf i Lŷn.

 Ogof Huw Sion Dafydd
Ogof Huw Sion Fychan

I’r de o aber yr Afon Fawr (neu Afon LLeuddad yn wreiddiol, yn ôl rhai) mae Penrhyn Blawd lle chwythir tywod y traeth yn  fân fel blawd hyd ei odrau a’i lethrau ar adegau.  Ychydig i fyny’r afon o dan y rhaeadr mae’r  Pwll Gerwin a’r  Pwll Diwaelod. Er ei fod yn draeth diogel i nofio ynddo boddodd J Bodvan Annwyl (Bodfan), y geiriadurwr yma ar 23 Gorffennaf 1949. Roedd yn byw yn yr ardal ac yn arfer nofio’n ddyddiol. Yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o’r rhain. Fe’i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o’r swydd honno, ymsefydlodd yn Nant, Llangwnnadl lle cododd dŷ newydd a’i alw’n Bryn Bodfan.

.

11 Porthladdoedd bach – Ni all neb fod ymhell o’r môr yn Llŷn a bu’n ddylanwad cryf ar fywydau’r trigolion ar hyd y canrifoedd. Yn wir, roedd hi’n  haws dod â nwyddau yma mewn llong nag mewn trol. Y porthmyn, mae’n debyg, oedd yr unig rai a welai’r angen i wella cyflwr y ffyrdd. Daeth y trên i Bwllheli yn 1867 a daeth y cyfle i dderbyn amrywiaeth eang o nwyddau. Edwinodd y porthladdoedd fel lleoedd masnachu a daeth canrifoedd o draddoriad i ben.  Llinell Amser Morwrol Llŷn

Ym Mhorth Ysgadan, Porth Colmon a Phorth Ferin roedd ierdydd yn y pyrth i gadw glo a deuai’r llongau i mewn ac allan ar lanw.

Mewn dogfen wedi’i dyddio yn 1524 yn enwi’r porthladdoedd yr oedd hi’n bosibl glanio ynddynt. Dyma nhw:

  • The bay of Dynlley betweene karrek y llan and the barre of carn’
  • The bay between Karrek y llam and penrhyn Dynllayn
  • The Crik of abergyerch
  • The Crik of porth yskadan
  • The Crik of porth y Gwylen
  • The Crik of porth ychen
  • The Crik of porth penllegh
  • The Crik of porth Colmon
  • The Crik of porth Veryn
  • The Crik of porth Yeagowe
  • The Crik of porthor and the Ile of Bardsey
  • The Crik of porth Muduy
  • The bay of Aberdaron
  • The bay of Nygull
  • The Roode of the two Ilonder of Stidwall
  • The Crik of Aber Soigh
  • The bay of Castellmarch
  • The baye of stydwalles to the geist
  • The haven of pullele in the myddes of the said baye

Gallwn yn hawdd eu hadnabod a gwelwn fod enwau arfordirol Llŷn yn ganrifoedd oed. Lle bynnag y mae’r arfordir yn creigiog mae nifer helaeth o enwau ond maent yn brin mewn baeau a thraethau tywodlyd. Pysgotwyr a chreincwyr a roddodd iddynt eu henwau a chânt eu defnyddio’n ddyddiol heddiw. Tu ôl i bob enw mae stori boed yn disgrifio craig, yn dweud pwy ddarganfu’r twll cranc neu gallant gyfeirio at drigiolion a digwyddiadau, rhai bellach yn angof.  Mwy…

12 Llongdrylliadau – Mae’n gwbl naturiol fod penrhyn Llŷn wrth ymestyn allan i fôr prysur Iwerddon wedi bod yn dipyn o gur pen i berchnogion a chapteiniaid llongau dros y blynyddoedd. Mae arfordir gogledd Llŷn yn greigiog a pheryglus ac mae hi’n  anodd cyrraedd rhai o’r baeau i gysgodi oherwydd eu gelltydd meddal. Ond mae Porthdinllaen yn eithriad ac yn gysgodol iawn rhag y gwyntoedd i gyd ag eithrio’r gwynt o’r gogledd ddwyrain.  Mwy…

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • Cerddwch o’r maes parcio i gyfeiriad Tudweiliog ac ar ôl croesi’r bont, dilynwch y llwybr gyda glan yr Afon Fawr drwy gaeau bychain i Draeth Penllech.
  • Os yw’r llanw’n caniatau, croeswch ran o’r traeth, drwy’r afon, ac i fyny’r grisiau i’r llwybr sy’n mynd ar hyd ben rallt i Borth Colmon.
  • Ewch ymlaen ar hyd y Llwybr Arfordir am rhyw filltir ar ôl hynny a throi i’r chwith yn ôl i gyfeiriad y tir. Croeswch dir amaethyddol nes cyrraedd lôn darmac.
  • Trowch i’r chwith eto gan ddilyn y ffordd darmac nes canfod y llwybr sy’n mynd â chi drwy amryw o gaeau nes cyrraedd Eglwys Llangwnnadl.
  • Croesi’r ffordd ac ymlaen drwy gaeau bychain eto nes cyrraedd lôn wledig arall. I’r dde a chwblhau’r daith yn y maes parcio

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn